Friday, November 30, 2018

airbnb


Maen nhw wedi ildio i'r pwysau gan BDS. Cywilydd ar airbnb. Rhaid iddyn nhw wybod na fydd neb yn medru trechu Israel; mae Duw Hollalluog gyda'i bobl. Dyma fy merch newydd ddylunio cartŵn i ddangos beth mae airbnb yn ei wneud.

Thursday, November 29, 2018

nadolig llawen y tŷ gwyn

Roedd yn wych clywed, "Nadolig Llawen!" a ddwedwyd gan Arlywydd America unwaith eto. Rhoddodd yr Arlywydd Trump barch i Dduw mae America wedi sefydlu arno fo, a diolch i ddynion a merched lluoedd arfog America. Adroddodd stori'r Geni hyd yn oed (yn modd Linus yn Charlie Brown bron!) Dw i'n diolch i Dduw bob dydd bod o wedi dewis Donald Trump fel Arlywydd America.

Wednesday, November 28, 2018

siwrnai sydyn

Aeth fy merch yn Japan ar siwrnai sydyn i ardal wledig sydd ddim yn bell o'i chartref, gyda ffrindiau'r wythnos diwethaf. Cerddon nhw o gwmpas pentref bach, cael lifft mewn rikisha (cart a dynnir gan ddyn,) twymo eu hunain mewn bath tu allan wrth weld y lleuad lawn (Lleuad yr Afanc,) ac yn y blaen. Cenfigennus ydw i!

Tuesday, November 27, 2018

hermon

Mae'r gwin kosher a archebais newydd gyrraedd - deg o Ffrainc a dau o Israel. Fy ffefryn ydy'r gwin Ffrengig hwnnw. Ces i Hermon am y tro cyntaf. Mae'n hynod o dda. Mae'n anhygoel bod y bobl yn Uchder Golan yn medru cynhyrchu gwinoedd yno tra bod nhw'n cael eu hymosod gan Hezbollah ac Iran drwy'r amser. Falch o fedru eu cefnogi nhw.

Monday, November 26, 2018

addurno newydd

Bydd Hanukkah yn dechrau'n gynnar eleni, sef Rhagfyr 2. Dyma addurno newydd a greais ar gyfer yr ŵyl gan ddefnyddio rhubanau wedi'i hailgylchu; costiodd y ffyn ond ¢77. Edrycha' i ymlaen at gynnau'r canhwyllau a dathlu'r wythnos o ail-gysegru.

Saturday, November 24, 2018

yn hytrach na dydd gwener du

Yn lle mynd i Ddydd Gwener Du ddoe lle oedd anhrefn ofnadwy mewn nifer o siopau, hyd yn oed ymladd treisgar i ennill bargenion, archebais fodrwy a wnaed â llaw yn Israel; roedd fy merch eisiau'r un fath â fy un i sydd yn dweud "Shema Israel Adonai Eloheinw, Adonai Echad" (Gwrando, Israel: y mae'r Arglwydd ein Duw yw un) arni hi. Dim ond un a oedd ar ôl, ac roedd 20 o bobl wedi ei gosod yn y fasged siopa. Y fi a'i chipiodd! Roeddwn i'n meddwl prynu nwyddau o Israel eto er mwyn curo BDS. Peth perffaith i wneud ar Ddydd Gwener Du!

Friday, November 23, 2018

torth cig eidion

Dw i ddim eisiau "gwneud twrci" mwyach. Roeddwn i'n dibynnu ar gyw iâr wedi'i rostio Reasor's i ginio Gŵyl Ddiolchgarwch. Yn anffodus ches i mohono. Dydyn nhw ddim yn ei werthu ddiwrnod yr ŵyl, medden nhw. Wrth gwrs. Dim ond fi a oedd ei eisiau, mae'n debyg. Roedd dyma newid y fwydlen yn sydyn, a phenderfynu paratoi torth cig eidion. Mae gen i rysáit newydd, a ches i gyfle i'w defnyddio am y tro cyntaf. Roedd yn dda iawn, ac roedd y teulu'n fodlon. Pryna' i gyw iâr i swper heddiw.

Thursday, November 22, 2018

gŵyl ddiolchgarwch

Diolchwch i'r Arglwydd am mai da yw.

Wednesday, November 21, 2018

tyrcïod i'r milwyr

Anfonwyd pryd o fwyd ar gyfer Gŵyl Diolchgarwch at y milwyr sydd yn gwasanaethu tramor ac at y ffin ddeheuol. Roedd staff logisteg Adran Amddiffyn wrthi ers mis Mai er mwyn rhoi gwledd arbennig i'r dynion a'r merched sydd yn gweithio'n ddygn. Mae'r bwyd yn cynnwys:
9,738 o dyrcïod
51,234 pwys o dyrcïod wedi'u rostio
74,036 pwys o gig eidion
21,758 pwys o gig moch
67,860 pwys o ferdys
16,284 pwys o datws melys
81,360 o basteiod
19,284 o gacennau
7,836 galwyn o eggnog

Diolch yn fawr, a Gŵyl Diolchgarwch Hapus i'n milwyr annwyl ni!

Tuesday, November 20, 2018

ci cymraeg

Roeddwn i'n meddwl fy mod i'n gweld ci fy merch am eiliad pan welais hwnnw. Does ryfedd oherwydd mai whippet ydy Frieda, ci Anne Cakebread, yr un fath â chi fy merch. Roeddwn innau hefyd yn arfer siarad Cymraeg â chathod a welais pan es i am dro wrth ddysgu'r iaith. Mae siarad gyda anifeiliaid anwes yn llawer gwell gan eu bod nhw efo chi bob amser. 

Monday, November 19, 2018

blasu gwinoedd

Aeth fy merch hynaf i flasu gwinoedd mewn gwindy yn Norman. Cynigir y blasu bob mis gan y cwmni o Ukraine; blaswyd chwe gwin o Efrog Newydd y tro hwn. Dwedodd hi ei bod hi'n cael amser hyfryd (er roedd yn anodd iddi farnu beth ydy beth!) Hoffwn i ymuno â hi, ond na fedra i glywed blas yn iawn yn ddiweddar yn anffodus. Gobeithio ca' i un diwrnod.

Friday, November 16, 2018

y sioe olaf



Perfformiwyd y sioe, Flames of Freedom gan griw theatr College of Ozarks am y tro olaf neithiwr. Perfformiwyd 17 gwaith yn ystod y ddau fis. Roedd digwyddiadau annisgwyl fel methiant y peiriannau o bryd i'w gilydd, ond roedd y criw ar y llwyfan a thu ôl iddi yn gweithio mor galed er mwyn cyflwyno sioe hyfryd sydd yn rhoi parch i'r milwyr a frwydrodd dros rydded. Roedden nhw'n hapus gorffen y cynhyrchu enfawr o'r diwedd, ond ar yr un pryd, yn drist ffarwelio â fo.

Hanesyn bach fy merch: pan oedd hi'n cael ei bygwth gan y ddau filwr Almaenaidd, roedd hi ar fin chwerthin oherwydd bod hi wedi gweld un o'r ddau'n ceisio cuddio ei wen. Gweithiodd hi'n galed i ladd y chwerthin gan feddwl am bethau trist, a llwyddo. Yn ffodus, doedd neb wedi sylwi'r cyfyng-gyngor (ac eithrio'r hogyn!)

Thursday, November 15, 2018

hanner y swper

Dw i a'r gŵr yn cael fy hoff saig i swper heno, sef y gweddill o'r bwyd a goginiais y diwrnod blaen. Mae hyn yn golygu nad oes angen coginio swper arna' i heddiw. Er fy mod i'n mwynhau coginio pethau iachus i mi a'r gŵr, mae'n braf cael hoe fach o dro i dro. Dyma'r swper, neu hanner y swper - caserol macaroni, tiwna, Brussels sprouts a bara ŷd gyda moron, banana.

Wednesday, November 14, 2018

het eto

Dechreuais ar het newydd. Mae crosio'n rhy hwyl peidio gweithio arno bob dydd. Dewisais edau o liwiau cymysg y tro 'ma, cymysg o fy hoff liwiau, a dweud y gwir. Gobeithio bod yna ddigon i mi greu dwy fel y ca' i yrru un at ysbyty.

Tuesday, November 13, 2018

cadw'n gynnes

Mae'n oer! Ond dan ni'n cadw'n gynnes, diolch i'r llosgwr logiau. Mae gynnon ni bentyrrau o logiau a oedd y gŵr a Keith wedi'u torri. Dyma fo'n cymryd mantais ar ei lafur yn yr hydref - un o'i hoff bethau i wneud yn y gaeaf, sef gorffwys o flaen y tân ar ôl iddo redeg neu fynd i'r gymanfa.

Monday, November 12, 2018

diwrnod yr hen filwyr

Pwy fydd yn amddiffyn y rhydded?
Oherwydd nad ydy ef yn rhad ac am ddim.
Rhoddon nhw bopeth er mwyn inni fod yn rhydd.
Saliwtiwn ni nhw.

Cedwir Diwrnod yr Hen Filwyr heddiw.

Saturday, November 10, 2018

tân cyntaf

Cynnwn ni'r tân yn y llosgwr logiau am y tro cyntaf yn y gaeaf yma wedi'r tymheredd ostwng i 19F/17C gradd neithiwr. Cynhesir y tŷ a'r cyrff yn llwyr. Mae'r gŵr wrth ei fodd yn ymlacio o flaen y tân. Dw i'n cael sychu'r dillad hefyd. 

Friday, November 9, 2018

cinio yn napoli's

Es i Napoli's gyda'r gŵr i ddathlu fy mhenblwydd neithiwr. Dysgais y fwydlen ar lein yn fanwl ymlaen llaw fel medrwn i archebu'n syth. Defnyddir gormod o hufen yno, yn fy nhyb i. Dewisais capellini efo cyw iâr wedi'i grilio a llawer o lysiau. Ces i wydr o win pinc hefyd. Roedd popeth yn dda; dewisais yn gall. Gan fod yna ormod o fwyd, des i â rhan ohono fo adref i'w fwyta'r diwrnod wedyn. 

Thursday, November 8, 2018

anrhegion amrywiol

Fy mhenblwydd ydy hi heddiw. Ces i anrheg hyfryd ddwy flynedd yn ôl, sef buddugoliaeth Donald Trump yn yr etholiad arlywyddol. Eleni, ar y llaw arall, yn ogystal â gweld y Gweriniaethwyr yn gwneud yn dda yn yr etholiadau canol tymor, ces i ddwsin o win kosher o Ffrainc ac Israel gan y gŵr. Anrheg arall ganddo fo ydy e-lyfr Dr. Steve Turley o'r enw "President Trump and Our Post-Secular Future." Ein hoff ddyn YouTube ydy Dr. Turley. Dw i newydd gychwyn ar y llyfr. Mae'n hynod o ddiddorol. Edrych ymlaen at ddarllen mwy.

Wednesday, November 7, 2018

llongyfarchiadau!

Llongyfarchiadau mawr i Lywodraethwr Kevin Stitt a Cyngreswr Markwayne Mullin am eu buddugoliaeth! Fe wnaeth y Gweriniaethwyr yn dda ar y cyfan gan ennill y Senedd a'r seddau pwysig mewn nifer o'r taleithiau. Er bod nhw wedi colli'r Gyngres, llawer llai oedd y golled o gymharu â'r adegau Obama a Clinton. Bydden nhw fod wedi ennill mwy oni bai am y twyll, sef y mewnfudwyr anghyfreithlon a bleidleisiodd yn slei. Mae'r Arlywydd Trump yn llawn hyder ac yn fwy penderfynol fyth i fwrw ymlaen. "Rŵan medrwn ni ddod yn ôl at y gwaith a chyflawni'r tasgau," meddai.

Tuesday, November 6, 2018

diwrnod mawr

Mae'r diwrnod mawr wedi cyrraedd America, sef etholiadau canol tymor. Yn hytrach na chadw eu hetholwyr a denu rhai newydd, mae cynllwynion y Democratiaid (Brett Kavanaugh, y carafan, ayyb) wedi deffro nifer ohonyn nhw i weld celwyddau, twyll a thwpdra'r blaid yn glir. Fel canlyniad, mae nifer mawr o'u gefnogwyr wedi gadael y blaid a throi at y Gweriniaethwyr. Mae'r Arlywydd Trump wedi cyflawni cymaint o bethau anhygoel mewn dwy flynedd; mae America'n gryfach, mwy llewyrchus a mwy diogel nag unrhyw gyfnod yn eu hanes. Rhaid ethol y Gweriniaethwyr ym mhob man er mwyn iddo gael bwrw ymlaen gyda'i gynlluniau llwyddiannus. 

Monday, November 5, 2018

chychwyn cynnar

Aeth y gŵr i Texas i ymweld â'n mab ni a'i deulu dros y penwythnos. Mae'r babis bach yno'n hoff iawn o chwarae gyda'u taid, yn enwedig yr hynaf. Roedden nhw'n treulio amser hir yn arlunio. Dyma fy ngŵr yn ceisio dysgu trigonometreg i'w ŵyr!

Saturday, November 3, 2018

het arall

Gorffennais het arall, wrth ddefnyddio'r gweddill o'r edafedd. Roedd yn hynod o hwyl. Dw i'n mynd i'w gyrru at elusen sydd yn dosbarthu hetiau i ysbytai. Gobeithio y bydd hi'n bendithio rhywun sydd yn brwydro canser. Rhaid cychwyn het arall.

Friday, November 2, 2018

pleidleisio cynnar

Doedd erioed y fath o sylw ar yr etholiad canol tymor. Mae'n hawdd anghofio amdano fo ar ôl cyffro'r etholiad arlywyddol fel arfer. Eleni, fodd bynnag, mae'r Unol Daleithiau yn llawn ohono fo, diolch i'r Arlywydd Trump am ei ymdrech parhaol i annog i gefnogwyr y Gweriniaethwyr bleidleisio. Tra ei fod o'n dal i gynnal rali bob dydd, a dau'r dydd o hyn ymlaen, mae cynifer o bobl yn pleidleisio ymlaen llaw. Aeth y gŵr ddoe (y diwrnod cyntaf pleidleisio cynnar yn Oklahoma) i fwrw ei bleidlais; cafodd ei synnu i weld bod y lle'n llawn o bobl! Arwydd cadarnhaol! Ewch ymlaen!

Thursday, November 1, 2018

gosod arwyddion

Mae'r diwrnod etholiad ar y trothwy. Dw i a'r gŵr eisiau dangos ein cefnogaeth at y Gweriniaethwyr; dyma osod arwyddion dau o'r ymgeiswyr yn ein hiard ni. Markwayn Mullin i'r Cyngres, a Kevin Stitt fel Llywodraethwr Oklahoma. Dynion gydag egwyddorion moesol, ceidwadol ydyn nhw. Yn anffodus, mae'r Democratiaid yn gryf yn y sir hon er bod Oklahoma'n geidwadol ar y cyfan. Dylen ni ddal ati.