Monday, July 31, 2017

newyddion gwir

Gan fod y prif gyfryngau yn prysur ddarparu'r cyhoedd gyda Newyddion Ffug, dechreuodd tîm Trump Newyddion Gwir ar Face Book i ddweud wrth y cyhoedd yn uniongyrchol beth sydd yn digwydd o gwmpas Tŷ Gwyn. Yn y rhifyn diweddaraf, soniodd Lara Trump am gyflog chwarterol yr Arlywydd a roddwyd i Adran Addysg, yn ogystal â'r cynifer o bethau mae'r Arlywydd wedi eu cyflawni nad fyddai'r prif gyfryngau byth yn adrodd amdanyn nhw.

Saturday, July 29, 2017

ispeakspokespoken

Dw i'n ceisio dysgu pethau drwy gyfrwng yr Eidaleg neu'r Ffrangeg cymaint â phosib e.e. ryseitiau, yr Hebraeg. Gan fy Eidaleg yn well na fy Ffrangeg, bydd gwersi Ffrangeg drwy gyfrwng yr Eidaleg yn ddelfrydol, ond dw i'n methu ffeindio un addas hyd yma. Fideos Adrian ydy amgen da felly. Mae o'n dysgu Saesneg i'r Ffrancwyr drwy gyfrwng y Ffrangeg efo ei acen wych. Dw i'n cael dysgu Ffrangeg, a chael adolygu'r Saesneg ar yr un pryd.

Friday, July 28, 2017

sam and ella

Sam and Ella oedd ar restr fy merch, ac felly aethon ni i'r pizzeria poblogaidd yn y dref neithiwr. Mae pawb yn gwirioni ar bitsa Sam and Ella; maen nhw'n ymddangos mewn cylchgronau o bryd i'w gilydd hyd yn oed. Roedd y lle yn llawn dop pan gyrhaeddon ni. Wedi aros yn hir, daeth y weinyddes â'n pitsa ni - enfawr efo pentwr o toppings. Dim ond tafell neu ddau bydd yn eich llenwi'n braf. Roedd yn flasus ond dw i ddim eisiau mynd yno mwy nag unwaith y flwyddyn. Roedd yna ddigon ar ôl ar gyfer y cinio ddiwrnod wedyn.

Thursday, July 27, 2017

diolchgar o newydd

Mae fy merch eisiau gwybod hanes yr etholiad arlywyddol diwethaf gan ei bod hi wedi colli'r cyfle i brofi'r etholiad hanesyddol hwnnw. (Roedd hi'n gweithio yn Japan.) Dyma ei thad yn ei helpu'n hapus, a dechrau dangos fideos You Tube iddi. Wrth i mi ymuno â nhw a gweld clip ar ôl y llall, gwelais o newydd pa mor galed roedd Donald Trump yn ymgyrchu, a sefyll yn gadarn ar ei egwyddor er gwaethaf dirmyg a gwawd y Rhyddfrydwyr. Mae o wedi cyflawni cymaint yn ystod y chwe mis cyntaf yn barod. Dw i'n ddiolchgar o newydd bod Duw wedi ei ddewis i arwain y wlad hon.

Wednesday, July 26, 2017

cig anghywir

Wel, aethon ni i'r tŷ bwyta neithiwr fel dwedais. Cafod y gŵr bryd o fwyd blasus, a chawson ni amser braf. Cyw iâr a archebais. Daeth y bwyd a dechreuais fwyta wrth feddwl mai braidd yn galed a sych ydy'r cig er ei fod o ddim yn rhy ddrwg. Wedi cyrraedd adref, gwawriodd arna i mai porc oedd, nid cyw iâr! Doeddwn i ddim yn sylweddoli ar y pryd oherwydd nad oedd gen i reswm i amau fel arall. Ces i sioc. Dw i ddim yn bwyta porc yn ddiweddar. O leiaf doedd o ddim yn niweidio fy ysbryd. "Mae popeth a greodd Duw yn dda os byddwn ni'n ei dderbyn yn ddiolchgar."

Tuesday, July 25, 2017

path bach braf

Daeth fy merch adref neithiwr am y tro cyntaf ers gadael am Japan dros ddwy flynedd yn ôl. Ces i a'r teulu gymaint o hwyl clywed ei hanes dros ginio teulu. Mae hi'n bwrw ymlaen yn braf fel athrawes Saesneg yn Tokyo. Dim ond tair wythnos o wyliau sydd ganddi, a bydd hi'n treulio wythnos yn Honduras efo ei ffrind. Mae hi eisiau ymweld â'i chwiorydd mewn dwy dref wahanol. Dw i'n siŵr bydd amser yn hedfan. Am heno, byddwn ni'n mynd i dŷ bwyta Mecsicanaidd i ddathlu ymddeoliad ei thad.

Monday, July 24, 2017

dyletswydd y byd call

Heddiw roeddwn i'n meddwl ysgrifennu am siocled a wnaed yn Oklahoma, nes i mi weld fy mlog diweddaraf isod. Mae wyneb y llofrudd yn gwenu'n braf ar wely ysbyty Israel, wedi cael triniaeth radd uchaf yn fy nghythruddo cymaint fel na fedra i. Dylai'r holl fyd call gondemnio dim ond y dyn hwnnw, ond yr holl arweinwyr sydd yn dysgu eu pobl mai sanctaidd ydy trais a llofruddiaeth anfad, a'u hannog nhw i gyflawni troseddau erchyll. Fe gadwa' i'r llun hwnnw er mwyn cofnodi erchylltra’r trosedd.

Saturday, July 22, 2017

gwallgofrwydd

Roedd neges frys Jane o Jerwsalem yn fy nisgwyl pan agorais yr e-bost y bore 'ma - am y llofruddiaeth erchyll gan Arabaidd ifanc sydd yn ddig wrth y synwyryddion metel. Drywanodd o dri o Iddewon i farwolaeth yn eu cartref tra oedden nhw'n dathlu Saboth. Cafodd o'i saethu gan filwr, a'i gludo i'r ysbyty ISRAELAIDD i gael triniaeth. Bydd o'n cael ei yrru at garchar ar ôl iddo fod yn ddigon gwell. Yna, bydd o'n dechrau ennill cyflog gwych gan Awdurdod Palestinaidd am lofruddio Iddewon!

y llun: y llofrudd wedi cael triniaeth ddyngarol yn yr ysbyty Israelaidd

Friday, July 21, 2017

jane wedi'i bygwth

Yn sgil terfysgoedd dros synwyryddion metel ar gatiau Temple Mount, cafodd fideo Jane o Jerwsalem ei bostio ar wefan Hamas a'i weld gan 370,000 o bobl. Fel canlyniad, cafodd hi filoedd o fygythiadau marwolaeth gan Fwslemiaid candryll. Dim ond dweud y gwir mae hi ers blynyddoedd, ond rŵan mae hi'n gorfod bod yn ofalus iawn. Does ganddi ofn fodd bynnag; mae hi'n dal ati ddweud y gwir a sefyll efo Israel. Mae yna gannoedd o filoedd o gefnogwyr sydd wrthi'n gweddïo drosti hi.

Thursday, July 20, 2017

te dagrau

Dyma sawl deigryn ychwanegol at de Mr. Tylluan:
Siglen dydy neb yn siglo arno fo
oherwydd bod y plant i gyd wedi tyfu a gadael cartref

Wednesday, July 19, 2017

siwrnai boeth

Des i adref neithiwr wedi siwrnai sydyn i Texas. Y gŵr a yrrodd yr holl ffordd (270 milltir) ac yn ôl efo'n mab ni fel llywiwr wrth ei ochr. Ar ôl gweld ein mab hynaf a'i deulu sydd yn byw cyfagos, roedd rhaid i mi fynd i Dallas i nôl fy mhasbort newydd. Roedd y siwrnai hir yn her ei hun, ond ar ben hynny, torrodd A/C ein car ni yng ngwres Texas! Prynon ni boteli dwr i'w rhewi a chist iâ i'w cadw. Roeddwn i'n teimlo pe baswn i'n eistedd mewn popty am bum awr a hanner hyd yn oed efo'r poteli oer. 

y llun: y gist iâ efo baner Texas

Saturday, July 15, 2017

nyth wag

Mae fy mab ifancaf ar restr aros College of the Ozarks ers misoedd. Mae yna gynifer o ymgeision yn gobeithio mynd i'r brifysgol fach wych honno. Cafodd o alwad ffôn ddoe gan y brifysgol; cynigir lle dros y tymor nesaf a fydd yn dechrau mewn mis! Mae o a'r teulu (a finnau wrth gwrs) wrth ein bodd! Na fydd rhaid iddo fynd i'r brifysgol leol; dylai fo adael y gwaith rhan amser a gychwynnodd ond wythnosau'n ôl. Mae ei chwaer yn astudio yno'n barod, sydd yn help mawr. Bydd gen i a'r gŵr nyth wag go iawn. 

Friday, July 14, 2017

erchylltra

Unwaith eto - cafodd plismyn Israelaidd eu llofruddio, wrth Borth Lew'r Temple Mount yn Jerwsalem hyd yn oed. Roedd y tri llofrudd, a gafodd eu saethu gan blismon arall, yn gwenu yn y selffi'r noson gynt yn dweud y byddai eu gwen yn felysach y bore wedyn. Roedden nhw'n bwriadu llofruddio Iddewon a marw'n "ferthyron." Canlyniad polisi Awdurdod Palesteinaidd ydy hyn! Maen nhw'n hybu terfysgaeth drwy dalu'r llofruddion felly a'u teuluoedd. Rhaid stopio neu bydd yr erchylltra yn parhau. Roedd un o'r ddau blismon yn dad i fabi bach tair wythnos oed!

Thursday, July 13, 2017

joshua in the holy land

Wedi mwynhau'n fawr Joshua gan Joseph Girzone, penderfynais ddarllen nofel arall yn y gyfres, sef Joshua in the Holy Land, a dw i newydd ei gorffen. Roedd yn hwyl "teithio" Israel gyda Joshua, ond rhaid cyfaddef fy mod i'n cael fy siomi. Yn gyntaf, roedd yr awdur yn credu mai da yw dyn yn y bôn, sydd yn wrthwyneb i beth mae'r Beibl yn ei dweud. Yn ail, doedd o ddim yn gwybod am y problemau yn Israel yn dda. Sgrifennodd Girzone nofelau eraill, ond dw i ddim yn bwriadu eu darllen.

Wednesday, July 12, 2017

gajoen

Cafodd fy merch gyfle i giniawa efo ffrindiau yn y tŷ bwyta / gwesty yn Tokyo roedd ei nain yn gweithio cyn yr Ail Ryfel Fyd. Gajoen ydy'r enw, ac mae o'n dal i fwrw ymlaen wedi'i adnewyddu'n hyfryd. Mae gan fy mam atgof annwyl amdano, a dw i wedi clywed yr hanes yn aml dros y blynyddoedd. 

Tuesday, July 11, 2017

fy hoff fwyd

Iogwrt efo banana a phethau iachus ydy un o fy hoff fwydydd. Dyma'r cynhwysion:

iogwrt plaen braster llawn (Cas gen i iogwrt heb fraster.)
powdr coco
powdr protein
sinamon
banana
almon
cnau Ffrengig
powdr had llin

Mae hyn yn hynod o flasus a llawn o brotein, calsiwm a fitaminau. Dw i'n edrych ymlaen at ei fwyta bob dydd.

Monday, July 10, 2017

y cwrs cyntaf

Mae'r gŵr ar fin ymddeol o'r brifysgol. Mae o'n gwybod beth fydd o eisiau ei wneud ar ôl ymddeol - trwsio'r tŷ a gwella'r iard. Bydd o hefyd eisiau dal ati ei ddiddordeb, sef defnyddio ac amddiffyn yr Ail Welliant i Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau. Mae o newydd gael y drwydded fel hyfforddwr concealed carry, a chynnal y cwrs cyntaf yn ein heglwys ni. Dyma'r cyfranogwr yn derbyn y dystysgrif. (Roedd yna ond un y tro 'ma!)

Saturday, July 8, 2017

gair o ddiolch

Mae fy mab ifancaf wrthi'n gweithio'n rhan amser i Braum's, y siop hufen ia boblogaidd yn y dref. Wrth iddo lanhau'r byrddau a gwagio'r biniau sbwriel, gwelodd o heddwas wrth y til. Aeth ato i ddweud yr hyn a oedd o bob amser eisiau ei ddweud ond methu. (Eithaf swil ydy o.) "Diolch i chi am eich gwasanaeth." Gwerthfawrogodd yr heddwas yr hyn a wnaeth fy mab. Dw i'n hynod o falch ohono fo.

Friday, July 7, 2017

you tube

Dw i newydd danysgrifio i sianel You Tube fy mab hynaf er mwyn gweld ei fideo ar y cyfrifiadur yn lle ar fy ffôn. Mae o'n ffilmio ei fabi o dro i dro ar gyfer y teulu sydd yn byw o bell. Mae'n braf cael gweld fy ŵyr sydd yn prysur dyfu. Dyma olwg sydd yn fy nisgwyl yn aml ar dudalen You Tube yn ddiweddar.

Thursday, July 6, 2017

diwedd hapus

O'r diwedd cyrhaeddodd Kagemasa tŷ Lior. Roedd rhaid talu'r doll wedi'r cwbl. Mae ganddyn nhw system gymhleth draw fan 'na! Postiodd Lior lun efo sylw clên: dw i newydd dderbyn y paentiad samurai gan juuri. Ti'n anhygoel!!! Diolch. Gobeithio bydd Kagemasa'n rhoi ysbrydoliaeth iddo a'i deulu. 

Wednesday, July 5, 2017

boaz ac iachin

Mae yna 14 o goed yn ein hiard ni. Maen nhw'n goed tal gan gynnwys sawl derwen nobl. Er bod nhw'n ffynhonnell alergedd yn y gwanwyn a chreu gwaith cribinio bob hydref, mae ganddyn nhw olwg urddasol heb os. Mae'r gŵr newydd enwi'r ddwy wrth ochr y tŷ - Boaz a Iachin yn ôl dwy golofn Teml Solomon. Boaz ydy'r goeden ar y chwith ac Iachin ar y dde.

Tuesday, July 4, 2017

y faner

Ysgydwodd y tai a'r ddaear wrth i'r miloedd o'r peli magnel ffrwydro am oriau. Doedd dim byd i'r cyfreithiwr ifanc i'w wneud ar long y gelyn ond sefyll ar y dec a sbïo ar lannau ei wlad. Yr unig ffynhonnell golau drwy'r nos i weld y faner oedd llacharedd coch y rocedi a'r bomiau wrth iddyn nhw ymrwygo'r awyr tywyll. Wrth i niwl y bore glirio, roedd Francis Scott Key yn medru gweld y faner enfawr efo streipiau llydan a sêr llachar arni hi'n chwifio dros dir y rhyddion a chartref y dewrion.

Pen-blwydd Hapus i America!

Monday, July 3, 2017

antur kagemasa

Aeth siwrnai Kagemase heb broblem nes iddo gyrraedd tollau Tel Aviv. Rhaid talu'r doll. Ffoniodd fy merch y swyddfa i ffeindio beth ydy beth. (Roedd yn gyffro i gyd ffonio Israel am y tro cyntaf!) Er mai anrheg ydy Kagemasa, gofynnwyd y doll oherwydd bod fy merch wedi ei yswirio am $700. Cysylltodd hi â Lior. Ffeindiodd o eu bod nhw eisiau llythyr gan fy merch yn dweud mai anrheg ydy Kagemasa. Fe wnaethpwyd. Cludwyd i'r tŷ ond doedd neb yno. Mae o'n ôl at y swyddfa bost nes i Lior fynd i'w nôl. Hanes hir a chymhleth, ond mae fy merch wrth ei bodd gyda antur Kagemasa!

Saturday, July 1, 2017

joshua

Dw i newydd orffen "Joshua" gan Joseph Girzone. Joshua ydy'r prif gymeriad a ddaeth i dref wledig America. Dyn diymhongar a chariadus - mae o'n ymddangos yn nabod Duw'n bersonol, ond dydy neb yn gwybod pwy ydy o. Mae nifer o'r trigolion yn ei garu ond dydy rhai'n teimlo ei fod o'n bygwth eu hawdurdod. Gafodd ei gyrru at y Fatican a chyfarfod y Pab hyd yn oed. Pwy ydy o? Nofel ryfeddol