Wednesday, April 27, 2011

curo amigos!



Roedd yn ddiwrnod olaf pencampwriaeth ^^ pêl-droed leol neithiwr. Yn hollol annisgwyl, curodd Eyelanders (tîm y gŵr) Amigos (un o'r timau cryfaf) yn y rownd gynderfynol. Daeth nifer o fyfyriwyr Optometreg i'w gefnogi (ar ôl y prawf mawr.) Mae pawb yn edrych yn andros o hapus yn y llun uchod oherwydd bod eu hathro wedi addo tri phwynt ychwanegol ar eu marciau os byddai'r tîm ennill. Yn anffodus, methais weld y gêm fawr achos fy mod i wrth gae arall yn gweld gêm fy mab ar y pryd.

Tîm arall a enillodd y rownd derfynol serch hynny; roedd ganddyn nhw rai o gyn-aelodau tîm pêl-droed y Brifysgol, an-chwarae teg iddyn nhw!

Sunday, April 24, 2011

nid yw ef yma...


..... oherwydd y mae wedi ei gyfodi.

Saturday, April 23, 2011

good catch

Dw i newydd glywed y newyddion ar Huckabee Report. Yna es i i wefan newyddion BBC Cymru a darganfod mai Cymraes o Landudno sy'n byw yn Lloegr a achubodd y babi a syrthiodd oddi ar bedwerydd llawr gwesty yn Florida. Mae'n anhygoel bod hi wedi llwyddo ac mae'r babi'n hollol ddianaf. Gobeithio bod Helen Beard heb gael niwed ei hun.

Y geiriau olaf Mike Huckabee: Helen Beard, Florida says thank you, but please don't go back to England; Tampa Bay Buccaneers need you!

Monday, April 18, 2011

gêm pêl-droed dan do



Es i i weld gêm pêl-droed heno gan fod y gŵr yn chwarae efo ei ffrindiau. Chwaraeon nhw dan do; dim ond tri chwaraewr oedd ar bob tîm a heb gôl-geidwad. Roedd dau hanner o 15 munud yr un. Roeddwn i'n meddwl byddai'n haws ond ces i fy mhrofi'n anghywir! Roedd rhaid i bawb redeg drwy'r amser nes iddyn nhw golli eu gwynt a gorfod gadael y cae i orffwys. Ddim chwaraewyr llawn amser ydyn nhw cofiwch! Enillon ni o 15 i 4. (Druan o'r tîm arall, doedd ganddyn nhw ddim sbâr.)


Friday, April 15, 2011

oerni

Mae'r tywydd wedi troi'n oer yn annisgwyl unwaith yn rhagor. Trodd y gwres canolog ymlaen heddiw. Rhaid i mi beidio â golchi dillad y gaeaf tan fis Mai o hyn ymlaen!

Roedd y tiwlipau i gyd wedi blodeuo heb dramgwydd er bod nhw wedi colli eu pennau erbyn hyn. Mae ganddyn nhw olwg arbennig o drist arnyn nhw gan fod y coesynnau'n dal i sefyll yn syth. Mae geiriau Begw'n seinio yn fy mhen unwaith eto - biti ynte...

Wednesday, April 13, 2011

calendr i mam

Wrth feddwl am anrheg ben-blwydd i fy mam neithiwr, fe wnes i ddarganfod peth hwylus dros ben ar MAC; mae gan iPhoto fodd i greu calendrau gwreiddiol yn rhwydd. Y peth anosaf oedd dewis deuddeg llun o fy albwm. Gyrrais i archeb yn uniongyrchol at Apple; bydden nhw'n danfon y calendr ymhen rhyw wythnos. Dw i'n siŵr bydd fy mam wrth ei bodd efo'r anrheg.

Monday, April 11, 2011

fel dŵr oer i lwnc sychedig

Felly y mae newydd da o wlad bell.

Dw i newydd glywed gan Judy o'r Bala, y ddynes roeddwn i'n aros efo hi yn ystod Eisteddfod y Bala ddwy flynedd yn ôl. Mae hi newydd ddarllen fy e-bost yrrais i ati hi ddechrau fis Rhagfyr gan ddweud nad ydy hi'n mynd ar y we'n aml. Mae'r rhyngrwyd yn rhan annatod o fy mywyd bellach ac mae'n anodd dychmygu peidio mynd ar y we am fisoedd. Roedd yn braf, fodd bynnag, clywed ganddi hi unwaith eto'n cofio'r dyddiau arhosais i yn ei thŷ a chael ei chwmni dymunol.

Sunday, April 10, 2011

pot lwc rhyngwladol


Ia, pot lwc arall, ac roedd y bwyd yn dda unwaith yn rhagor! Roedden ni i fod i baratoi bwyd o wledydd eraill eto; y tro hwn, fe wnes i drio bwyd Almaenaidd - selsig a sauerkaut. Roedd o'n arbennig o syml ond blasus. Bydd rhaid i mi ei wneud o eto i'r teulu. Dyma'r rysáit os oes yna rywun sydd eisiau ei gweld.

Sunday, April 3, 2011

y gwanwyn


Mae'r gwanwyn yma'n swyddogol bellach wedi wythnos o oerni annisgwyl yn ddiweddar. Gyda'r tywydd braf, fodd bynnag, mae'r tymor alergedd wedi dod hefyd. Mae hynny'n golygu mod i'n gorfod osgoi cerdded allan. (A dweud y gwir, dw i'n cerdded mewn canolfan hamdden ers wythnosau.)

Er gwaethaf diflastod y tymor, dw i'n falch bod y gwanwyn yma o'r diwedd oherwydd mod i'n edrych ymlaen at weld y tiwlipau'n blodeuo. Dyma nhw! - a ddau cyntaf o'r deg - yr anrheg gan Leanne o Abertawe. Mae hi'n bwriadu dod yma eto yn yr haf gyda llaw.