Wednesday, December 31, 2008

diwrnod olaf y flwyddyn 2008



Mae'n anodd credu bod blwyddyn arall drosodd bron â bod. Ceisiais i feddwl am ddigwyddiadau pwysig y flwyddyn fel gwnaeth Linda yn ei blog heddiw:

1. priodas fy merch hyna a newidiau sefyllfaoedd yn y teulu
2. gwneud ffrind newydd
3. mynd i gwrs Cymraeg Madog yn Iowa
4. Gorffen Cwrs Pellach a dechrau un arall

Dw i'n ddiolchgar am y flwyddyn hon ac yn obeithiol am y flwyddyn newydd er gwaetha popeth.

Dymuniadau gorau i bawb.

llun 1: Mae'r stof yn gweithio'n ddibaid i'n cadw ni'n gynnes.
        2: Rhaid ymdrechu i ddarparu coed tân!




Sunday, December 28, 2008

torri gwallt 'ngwr


Gan fod fy merch ddim ar gael heddiw, gofynodd 'ngwr i mi dorri ei wallt cyn cyfarfodd rhywun heno. Bydda i'n torri gwallt fy mab fenga (ac dw i'n meddwl mod i'n gwneud job da braidd) ond mae torri gwallt dynion yn hollol wahanol. Mi wnes i fy ngorau glas pur. Wel, dydy ei wallt ddim yn edrych yn rhy druenus. Ella wna i wella os treia i ddigon aml. 

Saturday, December 27, 2008

teclyn celfydd (i mi)



Dim 'iPhone' ond teclyn coginio ges i yn anrheg Nadolig ydy hwn. Gas gen i dorri nionyn. Basai fy llygaid yn brifo'n ofnadwy. Gwisga i ogls pan eu torria i nhw felly. Ond does dim rhaid bellach. Ces i dipyn o drafferth y tro cynta ond dw i'n dallt beth oedd y broblem, ac yn siwr gwna i'n iawn y tro nesa. 

Friday, December 26, 2008

gêm cyfieithu

Gan fy mod i a rhai o fy mhlant yn dysgu ieithoedd, mi wnaethon ni chwarae gêm cyfieithu pan oedd pawb adre. Basai'r ferch 15 oed yn dweud brawddeg yn Saesneg, yna basen ni'n ei chyfieithu i'r Sbaeneg, Ffrangeg, Cymraeg a Japaneg. Hi sy'n gyfrifol am feddwl am frawddegau achos dydy hi ddim yn medru gramadeg Ffrangeg cymhleth eto. Wrth gwrs bod 'na ddim modd gwybod ydan ni'n iawn neu beidio heblaw am Japaneg, ond mae'r gêm yn peri i ni feddwl a chyfieithu'n gyflym. Ac mae o'n hwyl!

Thursday, December 25, 2008

diwrnod mawr


Byddwn ni'n chwarae gêm bach cyn agor ein hanrhegion bore Nadolig. Dan ni i ddyfalu faint o anrhegion sy gynnon ni a cheith unrhywun sy'n agosa ennill tocyn ffilm o'i ddewis. Yr enillydd eleni oedd fy mab fenga - 115 o anrhegion i naw ohonon ni, a dyfalodd o yn union hyd yn oed.

Yna caethon ni ginio Nadolig - cig moch wedi'i rostio, tatws stwns, llysiau, rholiau, pwnsh ac 'egg nog'. Cacen benblwydd oedd y pwdin achos mai Noswyl Nadolig ydy penblwydd fy merch hyna. Caethon ni gymaint o fisgedi gan ffrindiau, fwyton ni mo pwdin Nadolig. 

Dim eira yma. Roedd hi'n eitha cynnes.








Wednesday, December 24, 2008

noswyl nadolig

"Tra roedden nhw yno daeth yn amser i'r babi gael ei eni, a dyna lle cafodd ei phlentyn cyntaf ei eni - bachgen bach. Dyma hi'n lapio cadachau geni yn ofalus amdano, a'i osod i orwedd mewn preseb. Doedd dim llety iddyn nhw aros ynddo."

"Pethau na welodd llygad, ac na chlywodd clust, ac na ddaeth i feddwl dyn, y cwbl a ddarparoedd Duw ar gyfer y rhai sy'n ei garu."

Nadolig llawen i chi i gyd.

Tuesday, December 23, 2008

deuddydd cyn y Nadolig




Mae pwdin Nadolig yn barod. Mi wnes i ddefnyddio rysait gyhoeddwyd yn y Ford Gron ym 1930 eto efo tipyn o newid yn y cynhwysion (margarin yn lle siwet a chael gwared ar gandid 'peel' yn llwyr.) Defnyddies i bapur wedi'i gwyro ar waelod y ddysgl y tro ma wedi i'r pwdin fynd yn sownd y llynedd.

Es i a'r plant i Wal-Mart am y tro ola (gobeithio) cyn y Nadolig i gwblhau anrhegion. Aethon ni'n ôl yn hwyr ond roedd y swper hanner ffordd ar y stof erbyn i ni gyrraedd. Cawl tatws a chaws oedd o. Wnes i gynhesu rholiau arno fo hyd yn oed.

Mae'r plant wedi bod wrthi'n lapio anrhegion i'w igilydd, ac mae pentwr yr anrhegion yn tyfu ynghyd efo'u cynnwrf.

Monday, December 22, 2008

salad tatws enwog



Mae 'na gaffi bach poblogaidd ger y brifysgol. Cewch chi fwyta salad tatws gorau yn ôl 'ngwr. Felly es i yno efo fo ac un o'r myfyrwragedd Japaneaidd am ginio. 'Iguana Cafe' ydy'r enw. Roedd 'na gryn dipyn o gwsmeriaid er bod wyliau'r Nadolig wedi cychwyn. Clyd  iawn oedd y tu mewn wrth i 'wood burning stove' ei gynhesu. Mi ges i frechdan Igwana (does 'na ddim cig igwana ynddi hi i chi!) efo'r salad tatws enwog. Roedd popeth yn wir flasus. Ac mi wnes i fwyta pob tamaid!

Friday, December 19, 2008

diwrnod olaf yr ysgol



Dim ond hanner diwrnod caeth y plant yn yr ysgol heddiw. Caethon nhw barti'r Nadolig ac wedin mynd i sglefrio rolio.  Mae gynnyn nhw ddwy wythnos o wyliau o'u blaen nhw.

llun 1: Mae dosbarth fy merch yn barod am eu hanrhegion
llun 2: Gwaith sydyn cyn y parti yn nosbarth fy mab

Thursday, December 18, 2008

tipyn o gysur

Dw i newydd ddod ar draws peth bach difyr, i mi o leia - darn o'r recordiad wnes i i ymarfer siarad ddwy flynedd yn ôl. Dw i'n swnio'n ofnadwy rwan ond dôn i ddim yn sylweddoli mod i'n swnio'n waeth fyth pryd hynny! Mae hyn yn golygu mod i wedi gwella faint mor fach bynnag ydy'r cynnydd. Dyma dipyn o gysur. (Ac rôn i'n dweud 'fe' yn hytrach na 'fo' ar y pryd. ^^)

Dw i'n dal i recordio fy ymarferion siarad. (Dw i'n hen gyfarwydd â'r gwaith poenus o wrando ar fy hun bellach!) Mi wna i gadw darn er mwyn cael gwrando arno fo flwyddyn nesa. Gobeithio swnia i'n ofnadwy pryd hynny.


Tuesday, December 16, 2008

cynefin i fuchod coch cota


Mae'n wir oer. Mae'r llu o'r buchod coch cota nythodd ar wal yn ein hystafell fyw wedi mynd bellach. Ond mae 'na ambell i rai sy'n dal. Ces i hyd i ddau oedd yn edrych yn drist braidd heddiw a gwneud cynefin sydyn iddyn nhw. Rhododd y plant ddiferyn o ddwr siwgr a dal hyd yn oed gwybed i'w bwydo. Mae'r buchod bach bach yn hapus.

llun: Dach chi'n medru gweld un ar y ddeilen ar y chwith? 

Monday, December 15, 2008

diwrnod i'r brenin




Roedd hi'n 70F/21C ddoe. 19F/-7C ydy hi y bore ma. Mae Oklahoma mor bell o'r moroedd. Dyna pam. Mae'r ffyrdd wedi rhewi dros nos ac mae'r ysgolion wedi cau. Dw i mor falch bod y tywydd ddim cynddrwg ag o'r blaen pan drodd popeth yn rhew.

Mae'r plant wrth eu bodd wrth reswm. A chynigiodd fy merch 15 oed olchi'r dillad a gwneud swper. (Mae hi'n hoff iawn o chwarae mam!) Diwrnod i'r brenin i bawb felly heblaw am 'ngwr oedd rhaid iddo fo fynd i'r gwaith er gwaetha'r rhew. 

Friday, December 12, 2008

pos i ddysgwyr

Gwrandewch ar fwletin y Post Cynta ar Radio Cymru heddiw (ddydd Gwener.) Ar ddiwedd y bwletin, mae Dyfan Tudur (fy hoff gyflwynydd gyda llaw) yn sôn am ddigwyddiad diddorol. Atebwch y cwestiynau canlynol:

1. Pa declyn arbennig gaeth ei werthu mewn arwerthiant yn Hollywood yn ddiweddar?
2. Am faint gaeth o'i werthu?
3. I beth gaeth o'i ddefnyddio yn y gorffennol? (dau beth)
4. Pam fethodd Dylan Ebeneser ateb cwestiwn Dyfan Tudur?

Fydd 'na ddim gwobr i'r enillydd ond bydd yn hwyl! (Antwn a Marjorie, mi gewch chi yrru eich atebion ata i drwy e-bost!)

Thursday, December 11, 2008

bwyta'n iach



Bydda i'n bwyta'n gymharol iach dw i'n meddwl. Ond yn ddiweddar, rôn i'n sylweddoli bod rhaid i mi fod yn fwy ofalus fyth wrth i mi...m... tynnu ymlaen.

Dyma rysait ddes i hyd iddi ar wefan gyfeiriwyd gan Asuka. Paratoes i'r frechdan i ginio ddoe. Roedd yn hynnod o dda heb sôn am fod yn iachus. Dan ni'n bwyta tofu'n ddigon aml ond dyma flas newydd.

Un peth arall dw i wedi bod yn bwyta bob dydd yn ddiweddar ydy gwymon, dim un sych lepir am 'sushi' ond un fel llysiau y môr gelwir 'wakame.' Bwyd digon cyffredin ydy gwymon yn Japan ond prin dw i'n ei fwyta ers i mi symud i America. Cewch chi ddarllen pa mor iachus ydy gwymon ar y we. Fe'i bwytir yn amrwd mewn salad yn aml. mae o'n dda efo seleri, afocado, tofu a sesame wedi'i rostio.

Dw i heb gael Bara Lawr eto. Ydy o'n dda?

Wednesday, December 10, 2008

cyngerdd

Mae fy merch bymtheg oed yn canu yng nghôr yr ysgol uwchradd. Es i a'r teulu i'w gyngerdd neithiwr. Dôn i ddim yn disgwyl cymaint cyn mynd a dweud y gwir. Côr yr ysgol ydy o wedi'r gwbl. Ond o! Roedd o'n rhagorol! Dylen nhw gystadlu yn Last Choir Standing!

Roedd 'na ryw 80 o ddisgyblion yn canu emynau a chaneuon y Nadolig, ac roedd rhai eraill yn dawnsio mewn arddull jas gan ganu'n swynol. Eithriadol oedd y tair hogan wnaeth ganu unawed. Aeth amser heibio heb i mi sylweddoli. 

Yn anffodus roedd batri fy nghymera yn fflat. Dim lluniau felly.

Tuesday, December 9, 2008

meddwl ar fy mlog

Dw i wedi bod yn mwynhau fy mlog yn arw dros flwyddyn. Dw i'n gwerthfawrogi'r cyfle ardderchog i sgrifennu Cymraeg a chael sylwadau. Gan fod o'n cael ei ddarllen gan bobl eraill, dw i'n ceisio sgrifennu cyn gywired â bo modd, ond mae'n amhosibl osgoi gwallau. (Diolch i ti szczeb am dy help!) Ac dim ond digwyddiadau beunyddiol mewn teulu mewn tre fach wledyg yn Oklahoma dw i'n sgrifennu amdanyn nhw. Felly yn aml iawn dw i'n cael fy nghyfareddu at weld darn fy mhost union uwch neu o dan un Vaughan Roderick neu Dogfael ar wefan blogiadur. Mae hyn yn rhyfeddod  a braint ac rhaid cyfadde bod'n bleser hefyd. Mae'n anodd cael hyd i bynciau weithiau ond ddal i sgrifennu wna i siwr.

Monday, December 8, 2008

gwiwer mewn poen

Mae 'na nifer mawr o eiriau Cymraeg sy'n debyg i'w gilydd, yn enwedig y rhai sy'n dechrau efo 'c' a 'g'. Rhoan nhw benbleth i ddysgwyr yn aml.

Rôn i'n darllen adolygiad nofel newydd y bore ma ac des i ar draws brawddeg hon:
"Mae yma wewyr, rhwygiadau, tyndra a siomiant serch..."
Allu hi ddim yn sôn am y creadur bach anwylyd direidus sy'n achosi colled trydan yn ein ardal ni.
'throes' ydy'r ystyr.  (Dw i heb glywed y gair Saesneg hyd yma hyd yn oed.)

Ac mae 'na eiriau eraill: crefydd, clefyd, cleddyf, celfydd heb sôn am wyrion gwirion!


Saturday, December 6, 2008

nadolig!


Byddwn ni'n paratoi am Nadolig toc ar ôl Gwyl Diolchgarwch fel arfer. Ond dan ni'n hwyr eleni achos bod y merched hyn bydd yn arwain y criw oddi cartre. O'r diwedd mae'r goeden gynno ni. Roedd y plant iau wrthi'n ei haddurno p'nawn ma.

Thursday, December 4, 2008

dysgwr o japan

Ella bod rhai ohonoch chi wedi darllen yr erthygl ar newyddion BBC am hogyn o Japan sy'n astudio ieithyddiaeth ym Mangor ers blwyddyn. Roedd rhaid i mi wybod mwy amdano fo, ac dyma sgwennu i BBC yn ofyn am ei gyfeiriad. Diolch iddyn nhw am eu gwasanaeth effeithiol, ces i gysylltu â fo'n go glou. Sgwennon ni Gymraeg fel dysgwyr da, wrth gwrs.

Chwarae teg i'w athro yn yr ysgol uwchradd wnaeth ddweud wrth y dosbarth bod 'na bedair gwlad ym Mhrydain, mae Ryuichiro wedi bod yn ymddiddori yn y Gymraeg ers pryd. (Dôn i ddim yn gwybod y ffaith nes dechrau dysgu bum mlynedd yn ôl.)




Sunday, November 30, 2008

tawel nos

Mae'r gwyliau drosodd a gadawodd y plant hyn p'nawn ma. Roedd yn wych cael eu gweld nhw i gyd am y tro cynta ers misoedd. Ond dw i wedi ymlâdd! Penderfynes i fy mod i'n haeddu bath heno yn hytrach na chawod. Mae gen i bowdr bath o Japan sy'n arogleuo fel cypreswydd. Doedd o ddim cystal ag 'Arima Onsen' (ffynnon boeth yn Japan) ond  dw i'n teimlo'n llawer gwell bellach. Mae'r gweddill o'r teulu wedi mynd i'r gwely a distaw iawn mae hi rwan. Rhagfyr yfory.

Saturday, November 29, 2008

cinio diolchgarwch 2



Aethon ni drwyddi ac yn fodlon. Roedd 'na ddwsin ohonon ni gan gynnwys tri gwestai yn mwynhau'r cinio a'r noson. Caethon ni dwrci da eleni oedd yn pwyso 18 pwys. Ces i fo'n ddigon cynnar wedi cael cymaint o drafferth dadrewi un drwg y llynedd. Gwyliodd pawb 'Kung Fu Panda' ar ôl y cinio. Mae 'na ddigon o fwyd ar ôl i swper heno.

y llun uwch: 'ngwr sy'n torri'r twrci (ei waith ydy hyn bob blwyddyn.)

Thursday, November 27, 2008

cinio diolchgarwch 1



Dw i newydd ddwad yn ôl o'r cinio cynta. Mae 'na un o'r tai bwyta yn y dre yn cynnig cinio Diolchgarwch yn rhad ac am ddim i bawb bob blwyddyn. Gan fod bron pob teulu'n cael cinio yn ei ty ei hun, dim ond myfyrwyr a phobl heb neb i ddathlu efo nhw sy'n cymryd mantais ar eu gweithred hael. Eleni penderfynodd 'ngwr ymuno â'r myfyrwyr Japaneaidd, felly es i a'r plant hefyd. Dan ni'n mynd i gael ein cinio yrory beth bynnag achos doith fy merch hyna a'i gwr heno ar ôl cael cinio efo ei deulu heddiw.

Roedd y ty bwyta'n llawn dop. Caethon ni bob math o fwyd traddodiadol a'r rhai newydd. Ac roedd pobl y ty bwyta'n gweini arnon ni'n gymwynasgar dros ben. 

Rwan ta, fy nhro i i baratoi cinio mawr. Dw i'n mynd i grasu ddwy bastai bwmpen, un gacen afalau a bisgedi heddiw. Wna i dwrci a phopeth arall yfory. 

llun: arwydd sy'n dweud, "Free Thanksgiving lunch"

Wednesday, November 26, 2008

wythnos wyl diolchgarwch


Cyn i blant ein hysgol fach fynd ar wyliau wythnos ma, cynhaliwyd Noson Ganu neithiwr. Roedden nhw wedi bod wrthi'n paratoi ati hi am wythnosau gan ddysgu nifer o ganeuon ar gof.  Canon nhw nerth eu pennau a chanon'n dda iawn.

Dan ni'n mynd i gael dau ginio diolchgarwch eleni, un efo rhai o'r myfyrwyr Japaneaidd yn y dre ddydd Iau a'r llall yn ein tyˆ ni ddydd Gwener. Sgwenna i amdanyn nhw wedyn.

Monday, November 24, 2008

wrth smwddio

Newydd orffen smwddio dw i. Wedi bod wrthi am awr a hanner tra ôn i'n gwneud popeth arall. Dw i wrth fy modd yn smwddio a dweud y gwir. Dw i ddim yn hoffi'r gwaith ei hun ond mae'n gyfle ardderchog i mi wrando ar raglenni hir Radio Cymru wrth wneud y gwaith. 

Dei Tomos oedd fy newis bore ma. Dôn i ddim yn dallt popeth wrth gwrs ond mae'n hyfryd trochi fy hun yn y Gymraeg yn ddigon hir. Cyfweliadau mewn studio, dim ar ffôn sy'n ddelfrydol. Roedd y pynciau'n eitha diddorol (llyfrau am Kate Roberts, allfudiad i Awstralia ac ati) a Chymraeg y gwesteion yn ddymunol braidd.

Saturday, November 22, 2008

stori ddyn fara sinsir



Amser maith yn ôl safai Dyn Bara Sinsir wrth ymyl y Tyˆ Bara Sinsir. Yna daeth cawr a'i fwyta! Truan ohono!

Doedd gen i ddim cyfle i dynnu llun ohono fo cyn iddo gael ei fwyta gwaetha'r modd. Cewch chi weld ei olion traed ar yr eira.

Friday, November 21, 2008

tân cynta



Byddwn ni'n dechrau defnyddio'n stof tân ddechrau mis Tachwedd bob blwyddyn, ond mae hi wedi bod yn gynhesach eleni nag arfer. Mae cacwn a buchod coch cwta wedi mwynhau'r hydref mwyn.

Neithiwr,
wnaethon ni gynnau tân o'r diwedd wedi i'r tymheredd ostwng yn sylweddol yn y p'nawn. Braf ydy cael tân yn y tyˆ. Mae o'n eich cynhesu chi drwodd. Wna i goginio cawl tatws i swper ar y stof heno.

Thursday, November 20, 2008

morton eto


Sonies i am Morton o'r blaen, hogyn peniog sy'n dysgu Japaneg ac ieithoedd eraill. Clywes i fod o'n paratoi am arholiad Japaneg i ennill ysgoloriaeth gynigir gan Lywodraeth Japan.

Mewn cyfweliad anffurfiol yn llyfrgell y brifysgol, clywes i ei hanes heddiw ar gyfer fy mlog. Cynigir 1,500 o ysgoloriaethau bob blwyddyn i bobl dramor sy eisiau astudio mewn prifysgolion Japan (yn Japaneg.) Mae o'n dysgu'n galed ar hyn o bryd i sefyll yr arholiad yn Llysgenhadaeth Japan yn Texas yn y gwanwyn. Os enillith o'r ysgoloriaeth, bydd o'n astudio ac ymchwilio i ieithyddiaeth am chwe blynedd. 

Pob llwyddiant!

Wednesday, November 19, 2008

denmarc v cymru

Dw i ddim yn dilyn chwaraeon fel arfer, ond edryches i ar y newyddion am y gêm bel-droed ddwywaith heddiw: Denmarc v Cymru. Wnaeth y ddolen fy atgoffa i o fy nyddiau gynt pan ôn i'n teipio llythyrau Daneg ar deipiadur cyn adeg y cyfrifiaduron. 

Rôn i'n gweithio yn swyddfa fach Store Nordiske Telegraf Selskab (Great Northern Telegraph Company) yn Tokyo amser maith maith yn ôl. Dôn i ddim yn medru Daneg, felly teipio wnes i heb wybod beth ôn i'n teipio yn ôl llawysgrifen fy mos.

Dechreues i ddysgu Daneg ond rhoi'r gorau iddi'n ddigon cynnar gwaetha'r modd. Dylwn i fod wedi dal ati. Yr unig ymadrodd dw i'n ei gofio ydy, "mange tak" - diolch yn fawr.

Tuesday, November 18, 2008

diweddaru trwydded yrru


Caeth 'ngwr drafferth fawr wedi i'w drwydded yrru ddod i ben heb sylweddoli. Rôn i'n fwy na awyddus i ddiweddaru fy un i yn ddigon cynnar felly. I ffwrdd â fi i swyddfa'r drwydded. Aeth popeth yn hawdd dros ben. Doedd dim rhaid i mi ddangos fy mhasport neu gerdyn adnabod hyd yn oed. Dim ond talu'r ffî a chael tynnu fy llun wnes i. Bydd fy nhrwydded yn dda am bedair blynedd arall.

llun: platiau trwydded o daleithiau eraill

Monday, November 17, 2008

cymro yn harvard

Dyma un o'r Cymry sy ym mhob man yn y byd. Un yn Harvard y tro hwn. Gobeithio bod chi i gyd wedi darllen yr erthygl ma a chlywed y cyfweliad ar Lisa Gwilym (dim C2: Lisa Gwilym) erbyn hyn. Os na felly, dowch yn llu. (Dechreuith y cyfweliad tua 50 munud o'r dechrau.)

Mae'r cwrs Cymraeg yno'n edrych yn wych. Dim ond casglu fy llyfrau Gareth King ar y silff sy angen arna i i ymuno â nhw (a thocyn awyren!)

Cewch gip ar safle'r Cymrodorion hefyd.

Saturday, November 15, 2008

lleuad wen


Doedd dim rhaid i mi godi'n gynnar. Bore Sadwrn. Ond deffres i'n gynt nag arfer a methu mynd yn ôl i gysgu. Codes i a chael cip ar y tywydd drwy'r ffenestr. Cyfarchodd y lleuad wen yn yr awyr lwydaidd. Es i allan i dynnu llun ohoni hi oedd yn crynu yn y gwynt main (a finna!)

Friday, November 14, 2008

cymro yn japan

Am Gymro o Landdewi Brefi sy'n byw yn Osaka, Japan ydy'r gwaith gwrando cynta yn y cwrs Cymraeg trwy'r post  arall ddechreues i'n ddiweddar. Mae Iwan Morgan sy'n gweithio fel athro Ffrangeg a Saesneg yn siarad mewn cyfweliad am ei brofiad  yn Osaka. Cyfweliad go iawn ydy o, dw i'n meddwl ond mae'r cwrs yn saith mlwydd oed. Dw i ddim yn siwr os ydy o'n dal yno felly. Hanes diddorol ond ella fod o ddim yn ddarn hollol briodol i fy nhiwtor weld pa mor dda dw i'n ei ddallt o achos dw i'n medru ateb rhai cwestiynau heb wrando ar y tâp!

Monday, November 10, 2008

ben ar radio cymru

Siaradodd Ben Thomas â John Roberts ar raglen, Dal i Gredu ddoe. Gweinidog ifanc newydd mewn eglwys fach yng Nghricieth ydy o. Mae o'n dwad o Sir y Fflint ac roedd o a'i wraig yn gweithio fel efengylwyr yn Llundain ers blynyddoed tan mis Gorffenaf eleni. Dw i wedi cael pleser o gysylltu â fo o bryd i'w gilydd. Rhoddodd o dystiolaeth ei gred yn glir mewn deg munud. (Chwarae teg i John Roberts am beidio ymyrryd ynddo fo yn annhebyg i rai cyflwynyddion.) 

Sunday, November 9, 2008

gwiwer eto! (dim gwiwer wedi'i ffrio, corndolly)


Dim glaw, dim gwynt, dim storm. Mae'n braf heddiw. Dim ond ar hon oedd y bai felly am golled y trydan y bore ma. Gwiwer! Mi glywes i fang mawr y tu allan chwarter awr cyn inni adael am yr oedfa. Doedd 'na ddim byd i'w wneud ond i 'ngwr godi drws y garej ac i ni fynd. Yn ffodus roedd popeth yn iawn erbyn i ni ddwad adre.

Mae gwiwerod yn cnoi pethau trydanol weithiau ac achosi problemau. Doedd 'na ddim modd i'w hatal rhag sut ddamwain yn ôl yr awdurdodau.

Saturday, November 8, 2008

katfish kitchen




Es i a'r teulu i Katfish Kitchen, un o'r tai bwyta poblogaidd yn y dre am swper heno. Mae ei brisau'n eitha rhesymol a chewch chi gymaint o fwyd da. Mae o'n enwog am ei saig 'Catfish' ond  mae 'na ddewis eang ar y fwydlen. Ces i 'Tilapia', reis, ffa a thaten wedi'i phobi. Doedd 'na ddim lle am bwdin yn anffodus.

Tuesday, November 4, 2008

gwledd gwyl diolchgarwch


Cynhelir gwledd Gwyl Diolchgarwch yn yr Adran Optometreg yn y brifysgol bob blwyddyn. Ymunais i â nhw eleni am y tro cynta (er mwyn cael sgrifennu amdani yn fy mlog!) Roedd yna tua 150 o bobl gan gynnwys y myfyrwyr, athrawon, staff a'u teuluoedd. Caethon ni gymaint o fwyd da; twrci, cig moch, tatws stwns, 'dressing', saws llugaeron, llysiau a mwy. Ac am bwdin roedd yna bwmpenni wedi'u gwneud yn gacennau, pasteiod a bisgedi. Dw i ddim isio swper heno!

llun: ddim gwrando ar ddarlith ond mwynhau eu cinio arbennig maen nhw!

Sunday, November 2, 2008

pot lwc arbennig




Mae'n cenhadon ni yng Ngwlad Belg yn ymweld â'r eglwys ar hyd o bryd a chaethwn ni bot lwc arbennig efo nhw. Rôn ni i fynd â bwydydd o Ewrop. Caethon ni ddewis unrhyw wlad. Dyma fy nghyfle!

Mi wnes i Fara Brith a Chawl Cennin efo tatws, bacwn ac hufen. Paratoes i nodau dwyieithog a dwy faner fach Cymru hefyd. Dw i mor falch mod i'n dod â phot gwag yn ôl adre. Ar wahân i spageti a pitsa cyffredin, roedd 'na peli cig Norwyaidd, cawl Minestron, selsig efo 'sour kraut' heb sôn am gacen siocled Almaenaidd i ti, Corndolly!

Gyda llaw, mae'r ddau blentyn ifanc y cenhadon yn mynd i'r ysgol leol ac yn hollol rugl yn y Fflemeg wedi byw yng Ngwlad Belg efo'u rhieni am bedair blynedd. Rhaid i'r rhieni ofyn i'w plant am gymorth ieithyddol!

Friday, October 31, 2008

casglu fferins



Dw i a'r teulu ddim yn dathlu Calan Gaeaf ond mi wnes i ymuno â'r grwp o'r mamau a'u plant bach a staff y ganolfan i'r gwragedd a mynd ar daith 'trick or treat' y bore ma. Mi es i â hogan fach oedd yn gwiso'n dylwythen deg. Mae rhai swyddfeydd cyhoeddus a businesau'n barod am blant heddiw. Aethoni ni i Neuadd y Dre, yr Heddlu, y llyfrgell a banciau. Caeth y plant i gyd fagiau llawn o fferins.

Thursday, October 30, 2008

parti

Weles i erioed y ffasiwn beth. Mae 'na nifer mawr o gacwn wedi ymgasglu ar waliau'n ty ni a chael parti! Mae hi wedi bod yn gynnes yr wythnos ma. Ai dyna pam tybed. Rhaid i ni fod yn ofalus wrth agor y drws. Maen nhw isio mynd i mewn!

Tuesday, October 28, 2008

llyfrau

Dyma'r llyfrau dw i'n eu darllen ac wedi darllen yn ddiweddar:

Straeon ac Arwyr Gwerin yr Alban gan Myrddin ap Dafydd
Y Cwilt, Dwy Storm, Plant a storiau byrion eraill gan Kate Roberts
Charlie a'r Ffatri Siocled cafieithiwyd gan Elin Meek
Straeon ac Arwyr Gwerin yr Alpau gan Myrddin ap Dafydd
Feet in Chains gan Kate Roberts
Llechi Cerfiedig Dyffryn Ogwen gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Traed Mewn Cyffion ydy un o'r llyfrau dwi'n bwriadu archebu gan Gwales.com pan ga i gynnig Nadolig gynnyn nhw. (Mi ga i gludiant am ddim!)

Sunday, October 26, 2008

cael torri 'ngwallt



Roedd fy merch yn arfer torri fy ngwallt adre ond prin mae hi'n dwad adre y dyddiau hyn wedi symud i fflat gerllaw. Felly es i'w gwaith yn Wal-Mart ddoe am ei gwasanaeth. Dyma'r tro cynta i mi fod yn gwsmer yn y siop yno. (Ond doedd dim rhaid i mi dalu.) Mi wnes i'r gwaith siopa wedyn. Hwylus iawn.

Saturday, October 25, 2008

methu codi

Bore Sadwrn. Bydda i'n codi am saith bob bore boed dydd Sadwrn neu beidio. Ond heddiw dw i'n methu codi. Mae hi mor gynnes a chlyd yn y gwely tra bydd awyr yr ystafell yn oeraidd. Mae hi'n olau'r tu allan y llenni. Mae'r gwr oddi cartre o hyd. Mae un o'r plant yn rhedeg at yr ystafell ymolchi. Mae'n braf yn y gwely.

Chwarter i naw. Ddoith mudwyr dodrefn ddim na gwr efo hambwrdd brecwast at y gwely. Ond waeth i mi godi ddim.

Friday, October 24, 2008

mynd am dro



Braf ydy cael cerdded y tu allan. Caethon ni farrug cynta bore ddoe. Mae hyn yn golygu bod tymor alergedd yr hadref wedi darfod. Rôn i'n cerdded am dri chwarter awr wrth edmygu dail lliwgar a'r awyr las p'nawn ma. Mae'n brafiach o lawer na cherdded ar felin draed.

Wednesday, October 22, 2008

heulwen yn california


Dim fi sy'n mwynhau'r heulwen ond 'ngwr. Mae o'n mynychu cynhadledd optometreg yn Anaheim ar hyn o bryd. Yn ymyl Disney Land mae ei westy, ond sgyno fo ddim amser cyfarfod efo Mickey na Minnie. Roedd o mewn pwyllgor a darlithoedd am  saith awr heddiw. Aeth i redeg yn y dre ddiwedd y diwrnod hir, a chael mwynhau'r heulwen o leia. (Roedd hi'n bwrw'n drwm yma!) Mi wnaeth o dynnu'r llun ma efo ei 'iPhone' newydd.

Monday, October 20, 2008

gwneud 'chapatis'



Yn ôl cymeradwyaeth blewyn, mi wnes i a fy merch 'chapatis' i fynd efo cyri (Japaneaidd) heno. Doedd gen i ddim blawd roti ond un plaen y tro ma. Felly doedd y canlyniad ddim cystal ag un weles i ar 'You tube.' Roedden nhw'n ddigon blasus serch hynny. Mi wna i'n well y tro nesa.

Saturday, October 18, 2008

fish fry





Diwrnod 'Fish Fry' oedd hi heddiw. Es i a'r teulu i dyˆ ffrind am fryd o fwyd arbennig. Mae John y deintydd sy'n fysgotwr medrus yn cadw pysgod wnaeth o ddal yn yr haf yn y rhewgell a chael 'Fish Fry' yn yr hydref bob blwyddyn. (Ia, fo sy'n coginio!) Eleni caethon ni bysgod ddalodd fy hogyn fenga hefyd. Roedd 'na tua hanner cant o bobl efo bwyd yn ymgasglu yn ei sgubor. Mae John a'i deulu yn byw ar y tir ucha yn y dre, ac mae gynnyn nhw olygfa fendigedig i bob cyfeiriad.