Wednesday, February 28, 2018

pwrim

Bydd Gŵyl Pwrim yn dechrau heno. Mae hi'n seiliedig ar hanes Esther yn yr Hen Destament. Er nad enw Duw wedi cael ei weld drwy'r llyfr, roedd O yn gweithio drwy Esther yn achub yr holl Iddewon yn yr Ymerodraeth Persiaidd. "Pwy a ŵyr nad ar gyfer y fath amser â hwn y daethost i'r frenhiniaeth?" Mae Duw'n ffyddlon.

Tuesday, February 27, 2018

tŷ newydd

Dechreuwyd adeiladu tŷ yn y cae ar draws y stryd y bore 'ma. Roedd y cae sydd yn perthyn i'r cymydog wedi bod yn wag ers i fi a'r teulu symud yma ugain mlynedd yn ôl. Roedd fy mhlant yn arfer chwarae pêl-droed arno fo, diolch i haelioni'r cymydog. Roedd o eisiau ei werthu am flynyddoedd. Mae'n amlwg fod o wedi llwyddo. Bydd y plant cael sioc pan fyddan nhw'n dod adref beth bynnag.

Monday, February 26, 2018

dagrau mam

Sut yn y byd mae'r babi bach mor annwyl yn medru rhoi cymaint o rwystredigaeth i'w rieni? Wir, mae amser caled ar fy mab a'i wraig wrth i'w babi grio'n ddi-baid yn aml heb iddyn nhw wybod beth i wneud. Weithiau mae fy merch-yng-nghyfraith yn methu atal crio ei hun. (Mae pob mam yn mynd drwy'r profiad.) Efallai bod y babi'n cael ei dannedd; efallai nad ydy hi'n hoffi'r llaeth powdwr. Mae hi'n hapus pan nad ydy hi'n crio! Gobeithio y bydd hyn yn pasio cyn hir.

Saturday, February 24, 2018

dathlwn

Yn ei araith ar gyfer CPAC, dwedodd yr Arlywydd Trump fod y gwrthwynebiadau yn erbyn iddo gydnabod yn gyhoeddus Jerwsalem fel prif ddinas Israel yn anferthol; ond ar yr un pryd, anferthol oedd y gefnogaeth dros y cyhoeddiad. Dewisodd yr hyn sydd yn iawn er gwaethaf pawb a phopeth. Cyflymodd o hyd yn oed y diwrnod agor Llysgenhadaeth America yn Jerwsalem er mwyn cyd-fynd â dathliadau pen-blwydd Israel yn 70 oed. Dathlwn yn llawen!

Friday, February 23, 2018

anrheg benblwydd berffaith

Anrheg benblwydd berffaith gan America i Israel a bydd hyn! Dw i newydd glywed byddai Llysgenhadaeth America'n agor ei ddrws 14 Mai eleni, sef penblwydd Israel fel gwladwriaeth fodern. Dwedodd Rex Tillerson fyddai’n cymryd nifer o flynyddoedd; addawodd Mr. Pence fyddai'n digwydd cyn diwedd 2019. Mae hyn yn llawer gwell! Hwrê i'r Arlywydd Trump, dyn busnes llwyddiannus; mae o'n gwybod sut i cut a deal. 

Thursday, February 22, 2018

430

Mae fy merch hynaf newydd orffen paentiad newydd ar gyfer y Pasg. Mae o mor fawr fel roedd ei chyfrifiadur yn cael hi'n anodd prosesu'r ffeil - 48 x 48 modfedd. 430 ydy'r teitl - cafodd yr Israeliaid eu rhyddhau o 430 mlynedd o gaethwasiaeth yn yr Aifft gan yr Arglwydd.

Wednesday, February 21, 2018

nikki eto

Hwrê i Nikki unwaith eto! "Na fydda i'n cau fy ngheg," meddai yng chynhadledd y Cenhedloedd Unedig. "Yn hytrach, bydda i'n dal i ddweud y gwir yn barchus." Dwedodd hi wrth PA fod ganddyn nhw ddewis, sef ffordd i heddwch neu ffordd i ddioddefaint a hunan-ddinistrio; mae America bob amser yn barod i'w helpu. Dwedodd hi hefyd na fydd y penderfyniad i symud Llysgenhadaeth America newid ni waeth faint nad PA yn ei hoffi. Ewch amdani, Nikki!

Tuesday, February 20, 2018

murlun yn Israel


Mae fy merch newydd orffen y cynllun ar gyfer ei murlun yn Israel. Dyma fo! Cafodd hi ei hysbrydoli gan storiâu Eliseus ac Eseia yn yr Hen Destament - Eliseus a gafodd ei amgylchynu gan fyddin Syria; Eseia a gafodd ei gyffwrdd ar ei genau efo marworyn. Cyffrous dros ben!

Monday, February 19, 2018

diwrnod yr arlywyddion

Diwrnod yr Arlywyddion ydy hi heddiw. Roedd gan America nifer o arlywyddion gwych fel Washington, Lincoln, Reagan ynghyd â rhai gwael. Rŵan mae gynnon ni Donald Trump sydd yn prysur gyflawni breuddwydion y mawrion, sef gwneud America'n gryf, falch, ddiogel a rhyfeddol. Pob bendith iddo fo ac i America.
(y llun gan Breitbart)

Saturday, February 17, 2018

twtio coed

Tra oedd y criw o ddynion torri coed a thocio canghennau'r cymdogion, gofynnodd y gŵr iddyn nhw weithio droston ni hefyd. Dyma nhw'n dechrau ar yr unwaith. Torron nhw'r ddwy goeden a thwtio'r gweddill. Mae'n hiard ni'n edrych yn hynod o dwt bellach. Byddan nhw'n dychwelyd rhyw dro i weithio ar Boaz a Iachin; mae eu canghennau'n bygwth y to. 

Friday, February 16, 2018

logiau rhadd ac am ddim

Torrodd dau deulu cyfagos eu coed yn eu hiard nhw yn gadael pentyrrau o ddarnau o geirios a hackberry - coed gwych ar gyfer llosgi. Dwedon nhw wrthon ni fydden ni'n rhydd eu cael nhw. Ac felly roedd y gŵr yn eu cludon nhw am oriau ddoe. Heddiw mae o wrthi'n eu torri nhw i logiau. Dan ni'n mynd i dorri dwy goeden yn ein hiard ni cyn hir hefyd. Byddwn ni'n barod am y gaeaf nesaf.

Thursday, February 15, 2018

anrheg fach

Dw i'n dal i fwynhau bwydo'r gwiwerod a'r adar. Y bore 'ma, fe welais gnau hicori ar reilen y dec cefn. Efallai bod Yoni wedi ei adael i mi er mwyn diolch i mi am yr hadau! Mae gen i anifeiliaid anwes 'hawdd' nad oes rhaid i mi ofalu amdanyn nhw.

Wednesday, February 14, 2018

cariad diffuant

Dyma waith diweddar gan fy merch a gomisiynwyd gan ddynes o dras Iddewig yn Llundain. (A dweud y gwir, mae gan y ddynes dai dros y byd.) Ffrind fy merch a wneud y ffrâm â llaw; gŵr fy merch a osododd y golau o gwmpas y llun. Mae'r cleient wrth ei bodd, nid dim ond gyda'r llun ond gan y llythyr a sgrifennodd fy merch yn mynegi ei chariad diffuant tuag at Israel.

Tuesday, February 13, 2018

cwis 5

Gorffennais gwis 5 ar gyfer y cwrs daearyddiaeth Feiblaidd y bore 'ma. Ces i 92.5%, y sgôr uchaf hyd yma! Roedd y wers ynglŷn â 12 llwyth Israel. Roeddwn i'n rhyw feddwl y gofynnir pa lwyth a gafodd pa dir, ac felly roeddwn i'n dysgu'r map yn ddwys. Roeddwn i'n iawn! Dw i'n falch i weld fy mod i'n dechrau deall cefndir hanes yr Israeliaid yn llawer gwell.

Monday, February 12, 2018

llwy garu

Darllenais y newyddion am gwmni Cadwyn a chafodd cannoedd o archebion dros nos wedi i raglen CBS cael ei ddarlledu ddoe. Mae gen i lwy garu hefyd! Dim gan gariad cefais honno fodd bynnag ond gan siop elusen yng Nghaernarfon flynyddoedd yn ôl. Roeddwn i'n gwirfoddoli yno am wythnos yn trefnu'r pethau a roddwyd gan bobl. Ffeindiais i hi yn y bin sbwriel! Dyma ofyn i'r rheolwr a allwn i ei chadw hi. Cefais hi efo ei bendith. Does dim enw ar y cefn; un syml a thwt. Dw i'n ei hoffi hi.

Saturday, February 10, 2018

tawelu babi

Aeth y gŵr i Texas i ymweld â'n mab hynaf ni a'i deulu. Dyma'r tro cyntaf iddo weld ein hwyres ni sydd yn dri mis oed bellach. Roedd hi braidd yn ffyslyd a chrio ar un adeg. Dyma ei thaid yn defnyddio ei brofiad a sgil a ddysgodd tra oedden ni'n magu chewech o blant. Roedd y babi'n hapus wedi iddi gael ei dal y modd hwnnw. Bydd y mab a'i deulu'n dod y mis nesaf. Edrycha' i ymlaen.

Friday, February 9, 2018

yoni

Mae gwiwer yn dychwelyd bob dydd i fwyta hadau ar y dec cefn. Penderfynais roi enw iddo fo (er nad ydw i'n sicr mai gwryw ydy hwnnw.) Yoni dw i'n ei alw fo. Bydda i'n galw ei enw, a chanu cân pryd bynnag gosoda' i hadau. Gobeithio y bydd Yoni'n dysgu'r cliw a dod wedyn. (Mae Dinah, gwiwer fy merch yn bwyta o'i llaw erbyn hyn!) Yn sydyn welais un arall! Dw i ddim yn gwybod pa un ydy Yoni!

Thursday, February 8, 2018

jwda

Dyma erthygl arall gwych gan One for Israel. Roeddwn innau hefyd yn meddwl yn aml pam ddewisodd Duw Jwda fel llinell Meseia yn hytrach na Josef. Wedi'r cwbl mai dyn ffyddlon dros ben oedd Josef, a gweithredodd Jwda'n gywilyddus yn ei henaint. Wrth gwrs nad ydy gras Duw'n dibynnu ar weithgareddau da ond ei ras ei hun. Cwestiwn a oedd gen i beth bynnag. Awgrymodd yr erthygl ateb. Mae o'n gwneud cymaint o synnwyr.

Wednesday, February 7, 2018

1917

Mae gan One for Israel gynifer o erthyglau gwych. Dw i'n darllen un bob bore. Heddiw darllenais un am y digwyddiad hanesyddol yn Jerwsalem yn 1917, am sut "rhyddhaodd" General Allenby Jerwsalem rhag y Twrciaid heb arf. Hanes anhygoel, cyffroes ydy o. Wrth gwrs bod hanes Israel yn orlawn o ddigwyddiadau anhygoel, gwyrthiol. Gwyrth ydy bodolaeth Israel hyd at heddiw beth bynnag.

Tuesday, February 6, 2018

hadau blodau haul

Wedi clywed hanes Dinah, gwiwer mae fy merch hynaf yn ei bwydo ers wythnosau, ces i fy ysbrydoli i brynu hadau blodau haul i fwydo'r gwiwerod yn fy iard. Gosodais lond llaw ar reilen y dec cefn; roeddwn i'n rhoi cip arnyn nhw o dro i dro. Yna, gwelais wiwer (llwyd ydyn nhw yn yr ardal yma) yn eu bwyta'n hapus! Am hwyl! Daeth rhyw adar i weld nes ymlaen oedd bwyd ar ôl ymysg y plisg. Truan ohonyn nhw! Rhaid i mi brynu bwyd adar hefyd.

Monday, February 5, 2018

ewch amdani, nikki!

Rhaid bod Nikki Haley, ein llysgennad i'r Cenhedloedd Unedig yn gwneud ei gwaith yn arbennig o dda. Pam? Oherwydd bod Saeb Erekat, swyddog PA wedi dweud wrthi am gau ei cheg. Mae hi wedi bod yn beirniadu'n hallt y Cenhedloedd Unedig am fod yn rhagrithiol a gwrth-Israel tra iddyn nhw anwybyddu'r gwledydd erchyll. Derbyniodd Saeb Erekat drawsblaniad yr ysgyfaint yn yr Unol Daleithiau'r llynedd. 

Saturday, February 3, 2018

diwrnod draenog

Chwe wythnos o aeaf a fydd arnon ni yn ôl Phil a welodd ei gysgod. Cafodd y draenog druan ei ddeffro i gyhoeddi'r rhagolygon i'r bobl a gasglodd yn Punxsutawney, Pennsilvania ddoe. Roedden ni'n cael tywydd braidd yn gynnes yn y dyddiau diwethaf, ond mae'r oerfel wedi dod yn ôl, a dyma fi'n cynnau'r tân yn y llosgwr logiau eto. Efallai bod Phil yn iawn!

Friday, February 2, 2018

jyngl magnolia 2

A dyma ongl wahanol o furluniau fy merch. Maen nhw'n wynebu'r cyntedd a chreu awyrgylch arbennig fel pe baech chi mewn jyngl. Dywedodd hi fod y teulu'n hapus dros ben efo ei gwaith. Gobeithio y bydd y bobl a bydd yn ymweld â'r teulu eisiau un iddyn nhw hefyd!

Thursday, February 1, 2018

jyngl magnolia

Dyma furlun newydd gan fy merch hynaf. Mae hi newydd ei orffen ar gyfer cartref newydd yn Oklahoma City. Jyngl Magnolia ydy'r teitl, ac mae un arall cymaint ag hwn ar draws y cyntedd. Syniad gwych a newydd yn fy nhyb i. Gobeithio byddan nhw'n plesio'r cwsmer.