Tuesday, November 29, 2022

math o ailgylchu

Tra fy mod i'n casglu cnau yn y gymdogaeth, dyma'r gŵr yn gwneud peth tebyg. Casglu bwledi gwag wedi cael eu defnyddio ar gae saethu mae o. Yna, bydd o'n eu golchi, eu sychu, a'u llenwi gyda phowdwr gwn. Byddan nhw'n barod i gael eu saethu unwaith eto. Math o ailgylchu ydy hyn. 

Monday, November 28, 2022

meseia


Tra oedd y gŵr oddi cartref, roeddwn i'n gwrando ar awdio amrywiol wrth wneud y gwaith tŷ, ayyb. Un o fy ffefryn oedd Meseia gan Handel. Mae perfformiadau gan nifer o gerddorfeydd enwog ar gael ar y we. Hon ydy'r gorau yn fy nhyb i, sef Côr Coleg y Frenhines yn  Rhydychen. Dw i'n hoff iawn o'r soprano honno sydd yn rowlio ei "r" yn fedrus.

Saturday, November 26, 2022

roedd pawb yn hapus

Wedi teithio am 21 awr, daeth y gŵr a'r mab ifancaf adref yn ddiogel neithiwr. Mae gen i fwy o luniau o'r seremoni briodas bellach. Hyfryd clywed mai achlysur hynod o hapus i bawb oedd. (Roedd y bwyd yn ardderchog hefyd oherwydd mai mewn tŷ bwyta Eidalaidd a gynhaliwyd y seremoni a'r parti.)

Friday, November 25, 2022

ymlacio'n llwyr

Cafodd y gŵr a'n mab ifancaf ni amser anhygoel o dda yn Japan. Ar wahân i fod gyda'r teulu, roedden nhw'n cael mwyhau bwyd a llefydd hardd ac unigryw. Un ohonyn nhw ydy Spadium Japon - adeilad enfawr sydd yn cynnwys nifer o faddonau, gwelyau, clustogau, bwyd blasus, adloniant amrywiol, a llawer mwy. Cewch chi dreulio diwrnod cyfan yno'n ymlacio. 

Thursday, November 24, 2022

diolchgarwch

"Carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. Cynifer ag a'i derbyniodd, rhoes iddynt hwy, y rhai sy'n credu yn ei enw, hawl i ddod yn blant Duw."

Wednesday, November 23, 2022

2 - 1


Curodd Samurai Blue yr Almaen! Welais i mo'r gêm gyfan, ond roedd y teulu yn Texas a Tokyo yn gyrru neges yn gyson ata i yn ystod y gêm. Gweld yr uchafbwynt a wnes i fodd bynnag. Roedd y ddwy gôl Japan yn anhygoel!

Tuesday, November 22, 2022

ymweld â fy mam

Ar ôl y seremoni briodas hyfryd, mae'r teulu'n mwynhau eu gwyliau yn Japan. (Mae'r cwpl newydd briod ar eu mis fêl wrth gwrs.) Aethon nhw i ymweld â fy mam yn y cartref henoed yn gyntaf. Dim ond drwy ddrws gwydr yn anffodus oherwydd yr hen gyfyngiadau. O leiaf, roedd fy mam yn cael gweld nhw, a chyfnewid rhyw eiriau.

Monday, November 21, 2022

clipiau fideo'r briodas

Gyrrodd fy merch ryw glipiau fideo'r briodas i mi. Dw i'n hynod o hapus fy mod i'n cael gweld y moment pwysig a gollais - ei hymddangosiad cyntaf gyda'i thad, a thorri'r gacen. Clywais fod pentwr o luniau wedi cael eu tynnu ddiwrnod hwnnw. Edrych ymlaen at eu gweld nhw'n fuan!

Saturday, November 19, 2022

seremoni briodas


Cynhaliwyd seremoni briodas fy merch yn Tokyo ddydd Sadwrn. Roedd problem dechnegol gyda llif byw, a ches i ond cip sydyn arni. Ac eto, roedd yn hyfryd! Atebodd Duw gweddïau nifer o bobl, a thywallt ei fendith ar bawb a phopeth. Dw i'n bwriadu clywed hanes llawn cyn hir.

Friday, November 18, 2022

newyddion drwg i'r gwiwerod yn y gymdogaeth

Wedi darganfod bod hi'n iawn bwyta cnau hickory yn amrwd, dw i'n prysur gasglu mwy a'u cracio nhw bob dydd. Diolch i ddyfeisied hynod o glyfar y gŵr, dw i'n cael eu cracio nhw yn hawdd iawn. Mae'n dal i gymryd llawer o amser i dynnu'r cig oddi wrth y cregyn, ond dw i'n gwrando ar ryw awdio tra fy mod i'n gweithio. Mae'n hwyl dros ben.

Thursday, November 17, 2022

cwpan arall

Mae gen i ddigon o gwpanau coffi, dw i'n gwybod. Ces i bres yn anrheg penblwydd gan un o fy merched, fodd bynnag. Wedi meddwl yn hir, penderfynais brynu un arall. Mae o'n hardd gyda lluw unigryw. Gwnaed gan ddynes o Colorado ydy o. Dw i'n hollol fodlon. Helpais fusnes bach America hefyd!

Wednesday, November 16, 2022

2024



Y newyddion gwleidyddol gorau a glywais yn ddiweddar! Cyhoeddodd y Cyn Arlywydd Trump ei benderfyniad i fod yn ymgeisydd ar gyfer Arlywydd yr Unol Daleithiau. "Am y trydydd tymor" yn ôl y Wenynen! Gwir ydy hi yn y bôn, a dweud y gwir oherwydd bod ei ail fuddugoliaeth wedi cael ei dwyn yn 2020. Dylai fo brwydro yn erbyn gwrthwynebiadau erchyll, nid dim ond gan y Democratiaid ond y Gweriniaethwyr Ffug, y prif gyfryngau, pobl fawr tu mewn/allan, a mwy. Dim ots! Mae ganddo gefnogaeth filiynau o wladgarwyr America!

Tuesday, November 15, 2022

prynu siwtiau

Mae'r gŵr a'n mab ifancaf ni newydd gyrraedd Japan. Aethon nhw i fynychu seremoni briodas un o'n merched a gynhalir y 19eg. Mae manylion i'w gorffen o hyd. Un ohonyn nhw oedd prynu siwtiau i'r tri dyn ifanc gan gynnwys y priodfab ei hun. Llwydodd y ddau - y priodfab a fy mab ifancaf (er fy mod i'n synnu bod gan y siop siwt sydd yn ffitio hogyn mor dal.) Roedd yn anodd ffeindio un i fy mab-yng-nghyfraith oherwydd ei fod o'n gyhyrog iawn. Dwedodd ei wraig ei fod o wedi gwneud gormod o bench press!

Monday, November 14, 2022

y medd


Dw i wedi clywed am y medd o'r blaen. Roeddwn i'n meddwl mai ond diod y canoloesol oedd. Doeddwn i ddim yn gwybod bod ganddo hanes hir iawn. Cael ei eplesu o fêl, mae o'n gwneud lles i chi hefyd. Dyma brynu potel mewn siop leol. Fedra i ddim clywed blas o hyd, ond mae'n ymddangos yn dda. Penderfynais a'r gŵr, sydd ddim yn hoffi diodydd meddwol fel arfer, gael sipian bob dydd.

Saturday, November 12, 2022

swper rhad ac am ddim


Roedd siop leol yn cynnig pryd o fwyd yn rhad ac am ddim i'r holl venetans yn y dref ddoe. A dyma i'r gŵr gymryd mantais ar y cyfle yn ddiolchgar, a chael swper o gyw iâr wedi'r ffrio, tatws stwns, ffa gwyrdd, a bara menyn. 

Friday, November 11, 2022

diwrnod cyn milwyr

Diolch i'r holl gyn milwyr am eich ymroddiad i'n cenedl ni.

Wednesday, November 9, 2022

anrheg penblwydd

Ces i anrheg penblwydd hyfryd; enillodd Kevin Stitt a'r ymgeiswyr yn Oklahoma dw i a'r gŵr wedi eu cefnogi. Roedd gwrthwynebwr Stitt, gyda chefnogaeth nerthol allanol, wrthi'n ymgyrch drwy ei bardduo. Cawson ni ganlyniad gwych, fodd bynnag, diolch i drugaredd yr Arglwydd. Nid felly mewn rhai taleithiau. Dyled fynnu cael cyfri pleidleisiau onest.

Tuesday, November 8, 2022

etholiad


Mae gan bobl America gyfle i fynegi eu barn yn erbyn y llywodraeth gyfredol heddiw. Cawn ni ddisgwyl tonnau enfawr cochion os na fydd twyll yn yr etholiad. Wedi annog ar ffôn bron i 300 o bobl i bleidleisio dros Kevin Stitt, aeth y gŵr i fwrw ei un o. 

Monday, November 7, 2022

kabuki

Aeth fy merch i Kabukiza yn Tokyo i weld sioe arbennig. Y sioe gyntaf gan Ebizo Ichikawa sydd newydd etifeddu enw ei dad yn y teulu, sef Danjuro. Ei fab 9 blwydd oed sydd newydd etifeddu enw arall, sef Shinnosuke, ydy'r prif berfformiwr arall. Cafodd fy merch sedd yn y rhes gyntaf, drwy ffrind! A dyma hi'n treulio rhyw ddwy awr mewn breuddwyd bron. Dwedodd hi ei bod hi'n medru clywed anadl garw Danjuro a gweld ei chwys ar ei dalcen hyd yn oed.

Saturday, November 5, 2022

ffonio 300 o bobl

Wrth i ddiwrnod yr etholiad nesáu, mae'r gŵr wedi ymuno â'r gwirfoddolwyr eraill, ac yn gwneud galwadau ffôn dros Kevin Stitt, Llywodraethwr cyfredol Oklahoma. Mae o i alw 300 o bleidleiswyr Gweriniaethol cofrestredig, a'u hannog nhw i bleidleisio dros Kevin Stitt. Dim tasg bleserus ydy hi wrth gwrs, ond mae o eisiau ymdrechu er lles Oklahoma ac America. Er mawr syndod i drigolion y dref fach yma, daeth y llywodraethwr ei hun i gyfarfod ei gefnogwyr ddoe. A chafodd y gŵr gyfle i siarad â fo.

Friday, November 4, 2022

dinas narita

Mae fy merch hynaf a'i gŵr newydd gyrraedd Japan, a mwynhau Dinas Narita sydd yn agos iawn at y maes awyr. Wedi hedfan yn hir, mae'n syniad gwych yn lle dal y trên neu fws i geisio cyrraedd y cylchfan yn syth. Mae gan y ddinas a'r deml yno gysylltiad agos at deulu Ebizo Ichikawa. Mae fy merch wrth ei bodd yn naturiol. Byddan nhw'n aros yn Japan tan ganol mis Rhagfyr.

Wednesday, November 2, 2022

arweinydd cryf


Hyfryd gwybod bod Benjamin Netanyahu wedi ennill yr etholiad. Efallai bod pobl Israel wedi cael digon, yr union fel pobl America wedi cael digon gyda'r llywodraeth gyfredol. Ar ôl cyfnod Sabothol, rhaid ei fod o'n barod i daclo'r her bellach. Llongyfarchiadau mawr iddo fo!