Tuesday, December 31, 2019

tymor teuluol 6

Wedi treulio penwythnos efo'r plant yn nhŷ fy merch hynaf, des i a'r gŵr adref neithiwr. Cyn i ni adael, roedd fy drydedd ferch eisiau paratoi dysgl felys mae hi'n arfer gwneud yn y siop te yn Tokyo. Galwir zenzai; ffa azuki melys a gymysgir te wedi'i rostio yn y rysáit hon. Gyda pheli blawd reis, roedd yn hynod o flasus. Aeth y plant ymlaen i Texas i ymweld â'u brawd a'i deulu nad oedd yn medru ymuno â ni yn Norman.

Monday, December 30, 2019

tymor teuluol 5

Mae Hammi, y tegan mochdew'n dal i ddifyrru pawb sydd yn "ei gyfarfod." Roedd fy merch hynaf yn ofnadwy o chwilfrydig wrth glywed yr hanes rhyfedd amdano. O'r diwedd cafodd gyfle i roi cynnig arno fo. Dyma hi wedi clywed Hammi'n siarad am y tro cyntaf! A dal i chwerthin a methu stopio roedd hi.

Sunday, December 29, 2019

tymor teuluol 4

Dyma fi a'r teulu'n ymgasglu yn nhŷ fy merch hynaf yn Norman dros y penwythnos. Dan ni'n cael llawer o hwyl wrth siarad, bwyta, agor anrhegion, ac yn anad dim, treulio amser gyda'n gilydd. Ces i a'r ddwy ferch anrhegion annisgwyl gan fy merch hynaf, sef Shaloum-chan wedi'i wneud â llaw ganddi! (Dydy hi ddim yn hoffi gwnïo, a hithau mor brysur bob dydd gyda'i gwaith celf.) Mae hi (Shaloum-chan) yn hynod o ddel, a dw i'n hapus dros ben!

Friday, December 27, 2019

mochdew clyfar

Cawson ni anrheg arall gan frawd y gŵr, sef tegan mochdew wedi'i stwffio. Nid tegan cofleidiol cyffredin ydy o, ond un hynod o glyfar. Amlieithog ydy o! Mae o'n ailadrodd popeth dach chi'n dweud wrtho fo yn ei lais doniol. Rhoddais gynnig arni yn Gymraeg, Japaneg ac Eidaleg; mae o'n hollol rugl! Dw i a'r plant yn cael llawer o hwyl gyda fo.

Thursday, December 26, 2019

anrheg annisgwyl

Daeth fy merch ifancaf adref o Las Vegas wedi treulio amser gwych (a hollol wahanol nag arfer) gyda'i ewythr a'i modryb. Daeth ag anrhegion i ni ganddyn nhw hefyd. Ces i fy sioc bleserus i dderbyn anrheg annisgwyl gan fy chwaer yng-nghyfraith, sef gwydr gwin a brynodd yn Nhwr Trump! Gwydr o safon uwch gyda TRUMP mewn lliw aur wedi'i argraffi'n falch. Bydda i'n ei drysori am oes.

Wednesday, December 25, 2019

nadolig llawen

Canys bachgen a aned i ni,
mab a roed i ni,
a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd.
Fe'i gelwir, “Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn,
Tad bythol, Tywysog heddychlon."
Eseia 9:6

Tuesday, December 24, 2019

tymor teuluol 3

Mae fy ail ferch newydd ddod adref o Japan. Roedd yr awyren yn bum awr yn hwyr oherwydd niwl yn Dallas, ond cyrhaeddodd hi'n ddiogel. Dwedodd hi fod y peth cyntaf sylwodd wrth gamu mewn i'r derfynfa oedd bod yna lawer o le ym mhob man! Mae hi eisiau bwyd Mecsicanaidd, ac felly aethon ni i Chilango's am ginio.

Monday, December 23, 2019

hanukkah hapus

Mae'r Nadolig a Hanukkah yn gorgyffwrdd ei gilydd yr eleni. Newydd gychwyn mae Hanukkah. Cynnais y gannwyll gyntaf neithiwr. 

"Ynddo ef yr oedd bywyd, a'r bywyd, goleuni dynion ydoedd. Y mae'r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw'r tywyllwch wedi ei drechu ef. " Ioan 1:4,5

Saturday, December 21, 2019

tymor teuluol 2

Daeth fy merch a mab ifancaf adref yr wythnos 'ma, ond ymweld â'i hewythr yn Las Vegas mae hi rŵan. Maen nhw'n mwynhau eu cwmni ei gilydd wrth chwarae twristiaid o dro i dro; mae fy mab yn medru ymlacio o'r diwedd wedi gorffen tymor caled arall yn y brifysgol yn llwyddiannus.

Friday, December 20, 2019

sufganyiot

Mae Hanukkah ar y trothwy. Dw i'n barod i gynnau'r canhwyllau. Yn anffodus fedra i ddim bwyta sufganyiot (toesen gyda jam tu mewn) oherwydd fy alergedd. Mae'n amlwg nad yr un alergedd gan Shalom-chan (masgot Llysgenhadaeth Israel yn Japan.) 

Thursday, December 19, 2019

cacen wych arall

Roedd fy merch hynaf eisiau darparu cacen ar gyfer parti cwmni ei gŵr neithiwr. Byddai cangen Nadolig gan la Baguette, ei hoff siop goffi yn Norman, yn costio $25 tra byddai cacen blaen yn costio $6. Dyma hi'n prynu'r un rhatach, a'i addurno gyda ffrwythau. Mae hi'n edrych yn wych, yr union fel cacen Japaneaidd.

Wednesday, December 18, 2019

kadomatsu

Dyma addurn Japaneaidd a wnaeth fy merch hynaf wrth gael mantais ar y llwyn o fambŵ yn ei hiard cefn. Gelwir kadomatsu sydd yn golygu pinwydd ar gongl yn llythrennol. Roedd ganddo ystyr crefyddol, ond erbyn hyn mae'r bobl yn ei osod fel rhan o draddodiad i groesawu blwyddyn newydd. Mae ci fy merch yn eistedd rhwng campwaith ei feistres. Trueni nad Blwyddyn Ci mae'r flwyddyn nesaf ond Llygoden.

Tuesday, December 17, 2019

tymor teuluol

Mae tymor teuluol y flwyddyn newydd ddechrau wrth i fy merch ifancaf ddod adref ddoe. Bydd fy mab ifancaf yn dod ddydd Gwener ar ôl gorffen y prawf olaf. Yna, yr ail ferch ddydd Llun; y drydedd ferch ddydd Iau; bydd y ddwy'n hedfan o Japan. Byddwn ni i gyd yn mynd at dŷ fy merch hynaf dros y penwythnos wedyn.

Monday, December 16, 2019

cacen unigryw

Dathlodd fy merch hynaf ei phen-blwydd gyda thri ffrind sydd gan eu pen-blwyddi ym mis Rhagfyr. Heddweision ydyn nhw i gyd, ac maen nhw'n glên iawn. Fy merch a wnaeth cacen i'r pedwar - cacen enfawr ac unigryw; gosododd hi bentwr o doesenni ar blât, a'u haddurno gyda hufen wedi'i chwipio. Creadigol (a hawdd) dros ben! 

Saturday, December 14, 2019

clustdlysau

Mae fy merch hynaf newydd greu'r clustdlysau prydferth hyn. Dyluniwyd ganddi yn ei dull nodweddiadol, a crafftiwyd â llaw gan ffrind, maen nhw'n hynod o ysgafn er bod nhw'n ymddangos i'r gwrthwyneb. Dim ond deg pâr ar gael, ac maen nhw'n gwerthu'n gyflym.

Friday, December 13, 2019

ewyllys y bobl

Llongyfarchiadau mawr i bobl y DU! Bydd ewyllys y bobl yn cael ei werthfawrogi o'r diwedd. Gobeithio y bydd perthynas mwy cadarnhaol erioed rhyngddyn nhw ac UDA. 

Thursday, December 12, 2019

ffreutur y brifysgol

Ces i swper gyda'r gŵr yn ffreutur y brifysgol neithiwr. Roeddwn i a'r plant yn arfer mynd yno'n aml o'r blaen, ond anghofio roeddwn i nes dyddiau'n ôl. Roeddwn i'n medru dewis bwyd yn ôl cyfyngiad fy alergedd. Wrth iddo ar fin talu, dyma fyfyriwr clên yn rhoi iddo ei docynnau pryd o fwyd diangen! (Diwedd y tymor ydy hi.) Ar ôl y swper, cerddon ni i Neuadd Seminari i weld y goleuadau Nadolig. Roedd lleuad lawn yn ein dilyn ni wrth i ni yrru adref.

Wednesday, December 11, 2019

inswleiddio'r tŷ

Mae'r criw newydd lenwi'n atig ni gyda ffibr arbennig er mwyn inswleiddio'r tŷ. (Roedd yr hen un yn hen iawn!) Mae o i fod yn effeithiol dros ben fel byddwn ni'n cael arbed cost gwresogi ac oeri'r tŷ. Gobeitho ei fod o!

Tuesday, December 10, 2019

cefnogi israel

Un o'r modd ymarferol i gefnogi Israel ydy prynu nwyddau a wnaed yno. A dw i newydd wneud hyn drwy archebu gwin a gynhyrchwyd yn Uwchdir Golan. Mae'n anhygoel bod y ffermwyr yn medru gweithio mewn lle mor beryglus. Dyma nhw, fodd bynnag, wrthi'n cynhyrchi gwinoedd gwych. Ces i gludiant yn rhad ac am ddim oherwydd fy mod i wedi archebu dwsin drwy'r cwmni hwn.

Monday, December 9, 2019

gŵyl japan

Cynhaliwyd Gŵyl Japan flynyddol ym Mhrifysgol Oklahoma yn Norman dros y penwythnos. Cymerodd fy merch hynaf ran gan wneud peli reis, a helpu'r ymwelwyr gyda chaligraffeg Japaneaidd. Roedd yna ddigwyddiadau amrywiol eraill a ddenwyd nifer o bobl.

Saturday, December 7, 2019

cerdyn llun

Ces i gerdyn Nadolig gan fy mab hynaf a'i deulu yn Texas. Cerdyn llun ydy o, a'r pedwerydd ers iddo briodi. Dyma ei osod ar yr oergell ynghyd y tri eraill. 

Friday, December 6, 2019

tocynnau kabuki

Mae fy merch hynaf yn mynd i Japan gyda'i gŵr y mis nesaf. Mae hi'n dwlu ar Ebizo, actor Kabuki, a newydd brynu tocynnau i weld un o'i sioeau yn Tokyo. Roedd yn gamp fawr oherwydd ei fod o'n hynod o boblogaidd. Bwciodd hyd yn oed seddau wrth y llwybr blodau (lle mae'r actorion yn cerdded arno fo yng nghanol y gynulleidfa.) Mae hi'n gyffro i gyd!

Thursday, December 5, 2019

goffi reiffl du

Dw i newydd danysgrifio i Goffi Reiffl Du. Cyn milwyr sydd yn berchen ar y cwmni, ac mae o'n cyflogi cyn milwyr hefyd sydd yn rhedeg popeth. Bydd rhai o'i elw'n mynd at les cyn milwyr eraill. Mae'r ffa coffi'n hynod o ffres - cân nhw eu rhostio chwap ar ôl iddo dderbyn archebion, a'u danfon at y cwsmeriaid. Dewisais ddwy fag o BB (Beyond Black.) Maen nhw'n gryf a blasus. Bydda i'n eu derbyn bob mis.

Wednesday, December 4, 2019

llythyr teulu

Mae amser gyrru llythyr teulu at ffrindiau wedi cyrraedd. Dw i a'r gŵr wrthi drwy'r dydd ddoe. Mae'n anodd cyfieithu o'r Saesneg i'r Japaneg; rhaid newid cyfan gwbl yn aml. Weithiau does dim geiriau Japaneg addas i fynegi syniadau Seisnig (ac i'r gwrthwyneb.) Rhaid i mi ymdrechu fodd bynnag heddiw, a cheisio gorffen popeth cyn gynted â phosib, neu na fyddan nhw'n cyrraedd Japan mewn pryd.

Tuesday, December 3, 2019

teithio a phaentio

Mae'n dangos bod mwyfwy o ardaloedd dros y byd yn cynnal gŵyl murlun. Mae rhai yn talu llawer i artistiaid i deithio a phaentio murluniau. Cyfuniad delfrydol i fy merch hynaf ydy hyn. Mae hi wedi rhoi cynnig i nifer ohonyn nhw gan gynnwys rhai yn Lloegr, Iwerddon, Awstralia, Canada. Gawn ni weld! Yn y cyfamser, mae hi wrthi'n paentio Ebizo (actor Kabuki adnabyddus.)

Monday, December 2, 2019

wedi corwynt

Gadawodd pawb ddoe wedi treulio amser teuluol braf. Mae'r gŵr wedi dal annwyd ein hwyres ni, fodd bynnag, a gorffwys yn ei wely'r bore 'ma. Dw i'n dal i daclo'r pentwr o ddillad golchi. O leiaf mae yna ddigon o fwyd ar ôl fel na fydd rhaid i mi goginio heddiw.