Wednesday, August 31, 2016

diwylliant arall

Cafodd fy merch ei thaflu i mewn i'r bywyd yn Japan ar yr unwaith. Bwytaodd hi anpan a melon pan yn lle croissant i frecwast.Wedi cerdded yn y parc cyfagos, aeth hi a'i chwaer i siopa, ac wedyn i'r llety dros dro cyn iddi ffeindio lle mwy parhaol. Gŵr a gwraig clên sydd yn cynnig eu hystafell sbâr iddi hi. Dwedodd hi ei bod hi wedi mwydo yn y bath neithiwr er gwaetha'r gwres. Mae nifer o bobl Japan yn mwydo yn y bath cynnes drwy'r flwyddyn hyd yn oed yn ystod yr haf poeth.

Tuesday, August 30, 2016

yn japan

Cyrhaeddodd fy merch yn Japan yn ddiogel oriau'n ôl. Mae hi'n aros efo'i chwaer am y noson, a symud i lety ger ei gweithle yfory. Clywais ei bod hi wedi blino'n lân ond yn teimlo'n llawer gwell ar ôl bwyta powlen o gawl past ffa soia. Bydd hi'n gweithio fel tiwtor Saesneg am 11 mis.

Monday, August 29, 2016

nicolas bach a'i ffrindiau

Ces i lyfr yn Ffrangeg yn anrheg gan fy merch. Cyfres boblogaidd i blant (ac i ddysgwyr) ydy o. Mae'n hynod o ddoniol! Er bod yna nifer o ymadroddion llafar anghyfarwydd, mae'r storiâu mor ddoniol fel dw i'n mwynhau ei ddarllen, a dysgu Ffrangeg ar yr un pryd wrth gwrs. Le petit Nicolas et les copains ydy teitl y llyfr hwn. Ffeindiais awdio ar gyfer y llyfr a ddarllenwyd gan hogyn wyth oed. Mae o'n anhygoel o dda! 

Saturday, August 27, 2016

parti bach

Mis penblwydd i fy nheulu ydy mis Medi oherwydd bod gan dri o fy mhlant benblwyddi yn y mis hwnnw (heb sôn am benblwyddi fy ngŵr a'i fam.) Roeddwn i'n arfer brysur iawn paratoi cacennau iddyn nhw. Wrth i'r plant dyfu a gadael cartref, mae'n mynd yn anodd ymgasglu, ac eleni am y tro cyntaf, byddwn ni ddim yn dathlu'r tri phenblwydd efo'n gilydd. Fe wnes i grasu cacen i fy merch ddoe fodd bynnag, fel caen ni ddathlu ei phenblwydd yn gynnar cyn iddi adael am Japan. "Parti" bach bach oedd o, ond roedd y gacen siocled heb glwtyn yn hynod o flasus yn annisgwyl. Quinoa wedi'i goginio oedd y prif gynhwysyn.

Friday, August 26, 2016

hanes gwin

Anrheg hyfryd yng nghês fy merch oedd gwin gwyn lleol. Anrheg gan y teulu roedd hi'n aros efo nhw ydy o a dweud y gwir. Mae'n flasus dros ben. Dydy fy merch ddim yn yfed llawer fel arfer ond roedd hi'n mwynhau ychydig o win i fynd efo swper bron bob nos yn Ffrainc. Dwedodd fod y teulu'n gorffen potel ar bob pryd o fwyd; mae hi'n credu taflir y gweddill os oes unrhyw win ar ôl (fel taflir te oer yn y DU!)

Thursday, August 25, 2016

dadbacio

Mae fy merch adref, ond am ddeuddydd. Wrth iddi dynnu allan pentwr o anrhegion o'i chês, adroddodd hi ran (fach) o hanes ei hantur yn Ffrainc a'r Eidal. Gobeithio y bydd ganddi ddigon o amser i orffen ei hadroddiad cyn gadael am Japan fore dydd Sadwrn. Yr anrhegion diddorol (a rhad ac am ddim) ydy'r pethau bach amrywiol a gasglodd hi wrth iddi weld la Tour de France. Taflwyd oddi ar geir y noddwyr at y bobl wrth ochr y ffyrdd hetiau, bagiau, fferins, papurau newydd, hyd yn oed cysgodlen ceir plygadwy a mwy.

Wednesday, August 24, 2016

adref heno

Mae fy merch yn dod adref heddiw. Mae hi yn yr awyren sydd yn nesáu at Chicago i fod yn fanwl. Treuliodd hi ddau fis yn Ffrainc wrth deithio yn yr Eidal efo'i chwaer. Clywais si ei bod hi wedi troi'n hollol Ffrengig. Dim ond deuddydd mae ganddi hi gartref fodd bynnag cyn cychwyn eto, i Japan. Bydd hi yno am ddeg mis. Galwodd fy merch hynaf ei chwaer yn deithiwr byd eang. Mae ei hystafell yn barod.

Tuesday, August 23, 2016

mawr yw'r arglwydd

Fy ffefryn arall ydy'r gân hon - Mawr yw'r Arglwydd gan Sarah Liberman. Mae ganddi lais hysgi, dwfn a nerthol; mae hi'n canmol yr Arglwydd yn y gân efo'i holl galon ac egni. Mae'r alaw'n hynod o bleserus hefyd. Dw i wrthi'n dysgu'r geiriau ar hyn o bryd. Braf bod yr Hebraeg ynghyd â'r trawslythreniad a'r cyfieithiad ar gael ar y sgrin!

Monday, August 22, 2016

diwedd y gemau

Mae'n dda gen i fod y gemau Olympaidd wedi gorffen yn ddiogel heb derfysgaeth. Gobeithio nad oedd neb wedi cael ei heintio gan y firysau ofnadwy yn yr ardal ac yn y garthffosiaeth. Daeth y tîm gymnasteg rythmig o Israel agos at ennill medal efydd, ond gorffen ar y 6ed. Da iawn iddyn nhw, fodd bynnag. Tokyo bydd nesaf. Bydd hi'n hollol wahanol yno, o lendid i ddiogelwch a safon popeth.

Saturday, August 20, 2016

lloches yw ein harglwydd

Dw i wrth fy modd efo'r gân honAdonai Machaseinu (Lloches yw ein Harglwydd) gan Gynghrair Iddewig Meseianaidd o Israel. Mae ganddi alaw hollol unigryw a gwahanol iawn i rai dw i'n eu cyfarwydd yn America. Mae'r geiriau'n syml ac eto nerthol. Dw i wrthi'n eu dysgu ers dyddiau, ac yn hapus medru canu efo pawb yn y fideo bellach. Dw i'n ceisio sgrifennu'r geiriau Hebraeg hefyd.

Friday, August 19, 2016

cyfweliad jane

Cafodd Jane o Jerwsalem ei chyfweld gan gwmni teledu Iseldiraidd ddau fis yn ôl. (Dangosir y cyfweliad ym mis Hydref.) Mae'n wych clywed hi'n siarad yn anhygoel o glir a dewr heb ofn er bod hi'n wynebu peryglon beunyddiol o ganlyniad iddi gefnogi Israel yn gyhoeddus. Mae hi'n dal yn Sweden i orffwys cyn iddi ddychwelyd i'w gwlad fabwysiedig.

Thursday, August 18, 2016

lliwiau

Gogoneddus oedd y gair a ddaeth ata i wrth i mi gerdded y bore 'ma. Pinc, llwyd tywyll a glas ysgafn oedd lliwiau'r awyr yn y dwyrain. Ar ôl dod allan o'r goedwig, edrychais i fyny. Roedd gan yr awyr liwiau gwahanol. Newidiodd popeth mewn amser byr. Torrodd y wawr yn aur llachar, melyn, gwyn, glas. Yr arlunydd gorau ydy Duw.

Tuesday, August 16, 2016

niwl

Camais allan o'r tŷ'r bore 'ma i fynd am dro, a sylwi niwl yn hongian ben y coed. Wrth gerdded tuag at y goedwig, dyfnhaodd y niwl, a phan droais i gerdded yn ôl, ces i fy rhyfeddu - roedd y gymdogaeth yn boddi yn y niwl trwchus; methais weld diwedd y stryd. Roedd yr haul yn araf godi, a cherddais wrth anadlu'r niwl oeraidd yn ddwfn. Roedd yr ardal gyffredin yn edrych yn ddieithr a hudol - rhagflas y Ddaear Newydd.

Monday, August 15, 2016

yr ail fedal

Yr ail fedal i Israel! Ori Sasson, jiwdoka sydd ennill yr efydd. Cafodd ei drin yn ofnadwy o anghwrtais gan ei wrthwynebydd o'r Aifft yn y rownd arall - pan estynnodd Sasson ei law at y llall ar ôl y gêm, gwrthododd y dyn o'r Aifft ysgwyd llaw a cherdded i ffwrdd. Ymddygiad annerbyniol mewn chwaraeon yn enwedig yn Jiwdo lle mae cwrtais yn hynod o bwysig.

Saturday, August 13, 2016

bore

Mae'r wawr yn oedi un funud bob dydd. Pan es i allan i gychwyn cerdded, roedd hi'n hanner tywyll. Gwelais y foment pan ddiffoddodd golau'r stryd. Doedd neb yn y gymdogaeth. Cyrhaeddais y goedwig. Roeddwn i'n bwriadu mynd yn bell, ond wedi gweld ewig yn y cysgod, troais yn ôl i beidio ei dychryn hi. Erbyn i mi ddod yn ôl ger fy nhŷ, roedd yn fore llawn. 

Friday, August 12, 2016

mango

Hyd yn oed ar ei gwyliau, mae Jane wrthi'n postio i gefnogi Israel. Roedd hi'n hapus dros ben gweld mango a fewnforiwyd o Israel yn yr archfarchnad, ac yn diolch Sweden am hynny yn y fideo. Gobeithio bod hi'n cael amser braf.

Thursday, August 11, 2016

bywyd hamddenol

Mae fy nwy ferch yn mwynhau wythnos hamddenol mewn tref fach yn ne Ffrainc. Maen nhw'n aros yn nhŷ'r teulu homestay tra'r olaf ar eu gwyliau. Aethon nhw i'r archfarchnad, y farchnad agored, y Bible study, yn byw bywyd cyffredin fel y bobl leol. Dwedodd fy ail ferch fod ei chwaer yn medru cyfathrebu yn Ffrangeg yn rhwydd!

Wednesday, August 10, 2016

medal efydd

Llongyfarchiadau mawr i Yarden Gerbi o Israel! Enillodd hi fedal efydd yn y gystadleuaeth Judo (dan 63 kg) yn y gemau olympaidd. Y fedal gyntaf i Israel ers 2008. Curodd hi ferch o'r wlad a greodd y grefft ymladd hwn, sef Japan. Cafodd alwad ffôn gan yr Arlywydd, a neges Twiter gan y Prif Weinidog a alwodd hi'n arwr.

Tuesday, August 9, 2016

hwyl am y tro

Mae Jane o Jerwsalem newydd adael Israel i gael hoe fach am dair wythnos efo ffrindiau yn Sweden. Mae hi'n gweithio'n ddygn heb gyflog ers chwe blynedd er mwyn dangos i'r byd beth sydd mynd ymlaen yno. Er bod yn gas ganddi adael y wlad mae hi'n ei charu cymaint, roedd baich drwm beunyddiol heb seibiant yn ormod iddi. Roedd rhaid iddi adael am sbel i leddfu ei nerfau. Gobeithio y bydd hi'n cael ymlacio'n llwyr a dod yn ôl yn holl iach.

Monday, August 8, 2016

llety moethus

Wedi treulio wythnos brysur a hapus yn yr Eidal, mae fy merched ar eu ffordd i Ffrainc am fwy o wyliau. Gan fod eu fflat yn agos iawn at gromen Brunelleschi, "roedd yn hawdd dod adref bob dydd - dim ond anelu at y gromen a oedd angen," medden nhw. Byddwn i'n dweud mai dyna un o'r lletyau mwyaf moethus yn Firenze. (y llun: golwg drwy ffenestr eu fflat)

Saturday, August 6, 2016

armadilo

Gwelais armadilo byw yn gymharol agos am y tro cyntaf erioed. (Dw i'n eu gweld nhw'n farw wrth ochr y ffyrdd yn aml.) Roedd o wrthi'n chwilio am fwyd ar y cae pan oeddwn i'n cerdded yn y bore. Doedd o ddim yn fy sylwi. (Mae ganddyn nhw olwg wael.) Creadur rhyfedd ydyn nhw. Wedi clywed yn ddiweddar eu bod nhw'n cario gwahanglwyf, roeddwn i'n cadw draw oddi wrtho fo!

Friday, August 5, 2016

i'r ben

Aethon nhw i'r ben! Hynny ydy bod fy nwy ferch a'u ffrind wedi dringo i ben cromen Brunelleschi yn Firenze. Roedden nhw ar y pumed yng nghiw cyntaf y diwrnod. Roedd yn syniad da iddyn nhw gychwyn yn gynnar gan fod yna dagfeydd ofnadwy erbyn iddyn nhw ddod i lawr. Dwedodd un o fy merched nad oedd y dringo'n rhy flinedig. (Ifanc a ffit mae hi!) Mae'n rhyfeddol eu gweld nhw lle roeddwn i wedi bod dwy flynedd yn ôl. (Roedd rhaid i mi ymarfer dringo grisiau cyn mynd!)

Thursday, August 4, 2016

bara wedi'i losgi

Methais yn llwyr! Ceisiais wneud bara ŷd yn y cwcer reis. Clywais arogl mwg a dyma agor y caead. Roedd y dorth yn sownd i'r bowlen. Torrais i hi (y rhan bwytadwy) a mwydo'r gweddill mewn dŵr. Roedd yn amhosibl cael gwared ar y darnau du a'r arogl mwg. Rhaid taflu'r cwcer i fwrdd. Dw i ddim yn barod i brynu un newydd eto fodd bynnag. Bydda i'n paratoi reis mewn sosban am y tro.

Wednesday, August 3, 2016

siena

Mae fy ddwy ferch wrthi'n mynd o gwmpas yn yr Eidal efo'i gilydd. Aethon nhw i Siena ddoe. Gan fod fy merch hŷn wedi bod yno o'r blaen, y hi oedd y tywysydd teithio. Roedden nhw'n cael cymaint o hwyl fel collon nhw fws i fynd i San Gimignano, ac roedd rhaid aros yn Siena nes iddyn nhw ddod yn ôl i'w fflat yn Firenze. Mae fy merch iau ynghyd â'i ffrind o Loegr yn ymweld â Pisa heddiw tra bod ei chwaer hŷn yn treulio'r diwrnod yn Lucca lle dw i wedi aros am wythnos yn mynychu cwrs Eidaleg ddwy flynedd yn ôl.

Tuesday, August 2, 2016

cip ar y nyth wag

Mae fy mab ifancaf yn mynychu gwersyll cross country ers dydd Sul. Dim ond y gŵr a fi sydd gartref nes iddo ddod yn ôl ddydd Iau. Mae'r tŷ'n wag iawn. Dw i bron â chlywed atsain! Penderfynais goginio swper bob yn ail ddiwrnod, a bwyta'r un bwyd am ddeuddydd yn hytrach na choginio llai o faint bob dydd. Gwych! Mae'r gŵr yn fodlon hefyd yn dweud bod y bwyd yn blasu'n well y diwrnod wedyn. Bydd y mab yn gadael cartref am brifysgol flwyddyn nesaf beth bynnag. Ymarfer byw mewn nyth wag ydy hyn.

Monday, August 1, 2016

cynllun

Mae un o fy merched yn Ffrainc ers wythnosau, ac mae un arall yn yr Eidal ers wythnos. Heddiw maen nhw'n teithio tuag at ei gilydd, un ar yr awyren, y llall ar y trên. Firenze ydy eu cyrchfan. Byddan nhw'n treulio wythnos yno ynghyd â ffrind o Loegr. Rhenton nhw fflat mewn tafliad carreg i'r eglwys gadeiriol. Gobeithio y clywa' i hanes diddorol ganddyn nhw (efo lluniau gobeithio.)