Sunday, August 31, 2008

dwy gacen benblwydd



Mae'r tri o'r plant yn cael eu penblwyddi ar y 6ed, 7ed, 8ed o fis Medi. Felly mae 'na "birthday rush" yr adeg hon bob blywddyn.

Eleni wnaethon ni ddathlu dau benblwydd dros y Sul ma. Cacen wen efo mefus a hufen i'r bedwaredd ferch. Mi gaethon ni pitsa hefyd. 

Yna cacen siocled i'r mab hyna. Mi aethon ni i dyˆ bwyta Tseineaidd yn gynta. Roedd 'na fwy na digon o fwyd o'ch dewis gan gynnwys sushi. Mi wneith y hogyn fynd yn ôl i'r brifysgol nos yfory.


Saturday, August 30, 2008

bedd ar goll


Lle mae bedd John B. Jones? Mi es i'r fynwent p'nawn ma eto ond weles i mono fo. Dim ond gweddillion dau fedd ger bedd Evan. Dw i'n casglu mai un o'r ddau ydy bedd John. Dw i bron yn siwr achos dyna le dylai fod yn ôl y map.


Mi ges i hyd i fedd gwraig John (Jennie.)  Mae o yn gyferbyn â bedd Evan. Mi roies i flodau iddyn nhw i gyd.

Friday, August 29, 2008

y cofiant

Dw i newydd nôl cofiant Evan a John Jones (Champions of the Cherokees) o'r llefrgell leol ac wedi darllen tudalennau cynta bore ma. Mi ges i gymaint o wybodaeth yn barod. Edrycha i ymlaen at ddarllen mwy.

Dw i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl wrth i mi fwrw ymlaen. Mae 'na un peth dw i'n swir amdano. Hynny ydy mae'r pwnc ma'n rhywbeth gwerthfawr ymchwilio ynddo.

Wnes i ddim rhoi'r gorau i chwilio am fedd John eto. Dw i'n bwriadu mynd cyn gynted a phosib a gosod blodau o flaen y ddau fedd.

Thursday, August 28, 2008

bedd y cymro



Mi ges i hyd iddo. Bedd Evan Jones. Er gwaetha effaith yr amser roedd yr ysgythriad pwysig yn ddigon clir.

REV EVAN JONES
Born in Wales
MAY 14, 1788

"No man has been a truer friend than he to the Cherokee people..." meddai y Parch. Daniel Rogers.

Mae trefn y rhifau ar y map yn dda i ddim. Weles i mo bedd ei fab. Doedd gen i ddim amser chwilio amdano fo. Bydd rhaid i mi geisio y tro nesa.



Wednesday, August 27, 2008

gwers cherokeg

Dw i newydd brofi gwers yr iaith Cherokee (Cherokeg baswn i'n galw.)  Roedd hi'n ddiddorol. Mi wnes i glywed Cherokeg am y tro cynta. 

Roedd 'na dwsin a hanner o fyfyrwyr ac roedd y tiwtor ifanc yn siarad llawer o Cherokeg yn y dosbarth. 

Un peth wnaeth fy ngharo i oedd y faith bod gynni hi "ll" (Ysgrifenir "hla"). Mae un wefan yn dweud:  ..others pronounce it as a breathy "l" like the "ll' in the Welsh name "Llywelyn" 

Mae gynni hi ferfau cryno hefyd:
A' i - gega
Ei di - hega
Aˆ nhw - anega

Pan ddwedodd y tiwtor "iawn" i'r dosbarth, rôn i'n meddwl iddo ddweud "nos da." "osda" oedd y gair sy'n golygu "iawn"!

Roedd yn brofiad buddiol ond dw i ddim yn mynd yn ôl achos bod y dosbarth yn canolbwyntio ar Cherokeg llafar. Dw i isio gwybod sut i ddarllen y llythrennau ddyfeisiodd Sequoia. Ella wna i hynny drwy llyfrau.

Roedd yn dda cael mynd i'r dosbarth beth bynnag a gweld hefyd bod rhai o Cherokees yn ceisio adfywio eu hiaith.

Tuesday, August 26, 2008

cyfrinach y bedd


Ddim nofel newydd gan T.Llew Jones ond y bedd John Battrick Jones, mab Evan dw i'n sôn amdano.

Mi ges i hyd i fwy o wybodaeth am y Cymry. Mi wnaethon nhw sefydlu First Baptist Church yn y dre ma. Ar ôl i Evan farw yn 1873, olynwyd y gwaith Cristnogol gan ei fab. Ond buodd o farw o'r diciâu yn 1976 a chael ei gladdu ym mynwent y dre. Yma, yn y dre ma! Fedra i ddim credu hyn. Bydda i'n gyrru heibio'r fynwent bob dydd i gasglu'r plant!

Mi wnes i ofyn i'r eglwys lle yn union mae'r bedd ond does gan yr ysgrifenyddes ddim clem. Dim ots. Roedd rhaid i mi fynd, cyfeiriad neu beidio.

Dyma fi'n cerddedd trwy dros 7,000 o beddau. Wrth gwrs rôn i'n anelu at hen feddau. Ar ôl awr heb lwyddiant, roedd rhaid i mi fynd i gasglu'r plant. Yna, mi ddes i ar draws map y fynwent:

Jones, John Battrick
hefyd
Jones, Rev. Evan

llun: mynwent y dre

Monday, August 25, 2008

evan jones

Dw i'n dal mewn sioc. Dw i'n byw mewn tref sy gan gysylltiad efo Cymro mor bwysig er fod o ddim yn gymharol adnabyddus. A dyma fi'n cwyno bod 'na ddim byd Cymreig yn yr ardal ma ers blynyddoedd.

Evan Jones, Cenhadwr o Gymru wnaeth ddysgu darllen a sgwennu'r iaith Cherokee i'r bobl frodorol a chyfieithi'r Beibl iddi hi. Mi wnaeth o deithio efo'r Indiaid ar "Trail of Tears" enwog a gwarthus i'r dre ma. Roedd o'n gweithio'n galed drostyn nhw.

Dôn i erioed wedi ymddiddori yn yr iaith Cherokee ond dw i'n awyddus i drio bellach. Fel mae'n digwydd bod 'na gyrsiau ar gael yn y brifysgol leol. Maen nhw newydd gychwyn, ac bydda i'n cael profi un ohonyn nhw ddydd Mercher! 

Diolch o galon i szczeb wnaeth ddweud wrtha i amdano fo.

Sunday, August 24, 2008

cinio



Mi ges i a'r teulu ginio heddiw efo rhai o'r myfyrwyr Japaneaidd oedd newydd ddychwelyd o Japan. (Mi gaethon ni un tebyg y llynedd.) Dyma fi'n helpu ffrindiau i ni yn eu fflat bach i fwydo 20 o bobl. Roedd y bwyd yn syml ond blasus a'r cwmni'n ddymunol. Roedd y bobl ifainc yn chwerthin nerth eu ben weithiau. Gobeithio bod yr henoed eraill yn yr adeilad ddim wedi cael braw!

Saturday, August 23, 2008

crwydro yn y dre




Mi es i gerdded yn y dre eto tra oedd fy merch yn y wers Ffrangeg. A hithau'n b'nawn Sadwrn, doedd 'na ddim llawer o fyfyrwyr o gwmpas y brifysgol. I stryd Mawr es i wedyn. Doedd 'na ddim cymaint o siopwyr yno chwaith. Mi wnes i weld nifer o leoedd gwag ar hyd y stryd. Mae pawb yn mynd i Wal-Mart.

Wedi bwrw'n drwm yn y bore, roedd hi'n ofnadwy o boeth a mwll. Roedd yr awyr fel sawna. Ar ôl cerdded am hanner awr, mi ges i ddigon a mynd i gasglu fy merch.

Wrth i mi yrru, mi weles i'r rhai oedd yn cymryd mantais ar y tywydd a chael barbeciw yn y cysgod yn ymyl nant y dre. Roedd plant yn chwarae yn y dwr. Dyna peth call i'w wneud yn y fath tywydd!

lluniau: un o adeiladau'r brifysgol
              siop gowbois
              arwydd Bank of America yn iaith Cherokee

Wednesday, August 20, 2008

amser newid

Mae fy mab a merch hyn yn symud, fo i'r brifysgol yn Arkansas a hi i fflat yn y dre ma. Dw i wedi bod yn ei helpu fo i drefnu dillad ac ati. Mi fydd o'n byw yn llety'r brifysgol. Mae hi'n ddigon agos iddo ddwad adre pan geith o gyfle. Mae fy merch isio rhannu fflat ger y brifysgol leol efo ei ffrind orau. Mi ddoith hi'n ôl bob nos i ofalu am ei moch cwta.

Fydd dim rhaid i mi goginio na golchi dillad cymaint bob dydd mwyach. Mae plant yn tyfu mor gyflym.

Monday, August 18, 2008

edamame


Mi ges i hyd i "edamame" wedi'u rhewi yn Wal-Mart yn ddiweddar. Ffa soia ffres ydy "edamame." (eda: cangen, mame: ffa) Dach chi'n eu berwi a'u bwyta (heb y codenni) efo tipyn o halen. Maen nhw'n fyrbryd poblogaidd ac iach yn yr haf yn Japan. Mae' na lawer o bobl yn hoffi eu bwyta wrth yfed cwrw.

Roedd fy mam yn arfer prynu "edamame" ar goesynnau. A gwaith fy mrawd a fi oedd casglu'r ffa oddi wrthyn nhw. Dydy'r rhai yn Wal-Mart ddim cystal â'r lleill ond yn ddigon blasus.

Saturday, August 16, 2008

y castell yn y dre




Mi fydda i'n mynd i siopa tra fydd fy merch yn y wers Ffrangeg fel arfer. Ond wedi gorffen y gwaith siopa ddoe, mi es i i'r dre i dynnu lluniau.

Mae 'na dyˆ mawr sy'n edrych fel castell, ac yntau ar ben y graig o fath hyd yn oed. Dim ond gyrru heibio wrth ei ochr bob tro dw i. Rôn i wastad isio cael gweld yr holl beth yn fanwl. Ac dyma fy nghyfle o'r diwedd.

Rhaid bod rhywun wedi cynllunio ac adeiladu ei dyˆ yn bersonol fel castell. Mae o'n edrych yn rhyfeddol iawn. Does neb yn ei brynu er bod o wedi ar werth yn eitha hir. Mae'n siwr bod angen trwsio popeth.

Wel, mi wnes i syrffedu arno fo o leia.

Friday, August 15, 2008

effaith dysgu cymraeg, 2

Yn ddiweddar pan siarada i neu sgwenna i Saesneg, Dw i'n teimlo fel tasa rhaid i mi dreiglo rhai geirau, ansoddeiriau yn enwedig.  Felly yn aml iawn dw i'n petruso am eiliad yng nghynol brawddeg nes i mi sylweddoli bod ddim rhaid treiglo. 

Rôn i'n sgwennu Saesneg bore ma, ac mi wnes i sgwennu, ".... is ddifferent...." heb feddwl. Dydy hyn ddim yn digwydd pan wna i ddefnyddio Japaneg achos bod nhw mor wahanol i'w gilydd.




Thursday, August 14, 2008

melon dwr (enfawr)


Mae ffrind i ni a'i deulu'n tyfu llysiau a ffrwythau ar eu tir mawr ucha yn y dre ma. Does 'na ddim coed i fwrw cysgod ar eu cynnyrchion, ac mae buwch neu ddwy yn rhoi maetholyn i'r tir, mae'n siwr. 

Dyma un o'r canlyniadau. Mi naeth o yrru melon dwr aton ni neithiwr. Mae o'n pwyso dros 25 o bwys. Melys a llawn o sydd, mi naethon ni 'i fwynhau'n fawr i ginio heddiw.

Wednesday, August 13, 2008

beti bwt a laramie

Dw i newydd orffen darllen Beti Bwt. Nofel am blentyndod mewn pentre yn y Gogledd yn y 50au ydy hon. Mae hi'n fy atgoffa i am Te yn y Grug er bod arddulliau yr awduresau'n hollol wahanol. Mae'n eitha da beth bynnag.

Mae'n anodd i mi gael hyd i lyfrau diddorol sy ddim yn rhy gymhleth na hawdd ar un pryd. Mae'r nofel ma ydy un o'r gorau wnes i 'i darllen yn ddiweddar baswn i'n dweud.

Yn y nofel roedd Beti a'i theulu wrth eu boddau gwilio Laramie. Wel, rôn i a fy nheulu i gyd yn gwirioni ar y rhaglen ma pan ôn 'in blentyn yn Japan hefyd. Roedden ni'n edrych ymlaen ati hi bob wythnos. (Mi gaeth hi ei dabio i'r Japaneg.) Rôn i'n ffan mawr o Jess (Robert Fuller.)

Tuesday, August 12, 2008

land of my fathers

Mi wnes i ddarllen y llyfr ma gan Gwynfor Evans flynyddoedd yn ôl. A dweud y gwir, mi ddechreues i ddysgu Cymraeg o ddifri ar ôl ei ddarllen.

Er mwyn fy atgoffa i am y manylion, mi benderfynes i ei ail-ddarllen. Mae o braidd yn heriol achos mai llyfr eitha hir efo llythrennau bychan ydy o. Ond mae'n werthfawr. Dw i'n darllen tudalen neu dau bob dydd. Gobeithio wna i orffen ymhell cyn yr haf nesa.

Monday, August 11, 2008

yn ôl i'r ysgol


Mae gwyliau'r haf drosodd. Amser i'r plant mynd yn ôl i'r ysgol. Mi ddechreuodd y ddau fenga heddiw ac mi neith fy merch 14 oed ddechrau yfory. 

Roedd hi'n mynd i'r ysgol fach breifat ond rwan i'r ysgol uwchradd gyhoeddus mae hi'n mynd. Mi es i yno efo hi heno. Mae hi'n enfawr o'i chymharu â'i hysgol ddiwetha. Dw i'n teimlo drosti hi. Mi faswn i'n nerfus hefyd. Yn ffodus mae hi'n nabod rhai o'r disgyblion na. 

Sunday, August 10, 2008

pot lwc eto



Mae'r ysgolion yn cychwyn yfory ac ymhell pythefnos bydd y brifysgolion yn cychwyn. Roedd 'na bot lwc ar gyfer'r myfyrwyr a'r disgyblion yn ein eglwys ni ar ôl yr oeddfa. Mae 'na lawer ohonyn nhw, bron hanner o'r cynulleiddfa.

Brechdanau oedd y prif saig y tro ma yn ogystal â llysiau, ffrwythau a phwdin. Mi nes i frechdanau ham syml, ond maen nhw i gyd wedi mynd. : ) 

Saturday, August 9, 2008

gwaith peintio


Mi naeth y criw roi'r ail baent ar y waliau bore ma. Maen nhw'n drawiadol. Dw i'n fodlon ar y lliw na. 

Yna daeth y glaw. Ddim yn rhy drwm ond gobeithio bod y paent yn ddigon sych cyn iddi fwrw. Mi eith y dynion yn ôl i orffen drysau a siliau'r ffenestri ddydd Llun.

Friday, August 8, 2008

caserol tiwna


Dyma gaserol tiwna i ti, Asuka a'r rhai o Awstralia sy heb ei fwyta. Sgen i ddim rysait swyddogol. Dim ond cymysgu pethau yn ôl fy nychymyg dw i:

macaroni a llysiau cymysg wedi 'u coginio
tun o "Cream of Chicken Soup"
tun neu ddau o diwna
caws
llefrith
margarin
perlysiau

I mewn i'r popty tua hanner awr neu fwy. Pryd o fwyd cyflym.


Thursday, August 7, 2008

torri gwallt


Mae Kurt, ein dyn trwsio medrus a'i griw wrthi'n gweithio ar ein ty ni. Wedi golchi'r waliau, maen nhw'n llenwi craciau. Yna byddan nhw'n barod i beintio, ond mae 'na storm fawr ar ei ffordd yn ôl rhagolygon y tywydd. 

Wrth weld bod fy merch yn torri gwallt ei thad, wnaeth o ofyn iddi am wasanaeth hefyd. A dyma fo. 

Tuesday, August 5, 2008

rysait lingo newydd


Y tro cynta i mi gael y saig hyfryd ma oedd yn hyˆ Corndolly llynedd. Mi naeth hi goginio cyw iâr yn ôl rysait Lingo Newydd. Roedd hi mor flasus dw i wedi ei gwneud hi sawl gwaith fy hun. Mae'r teulu'n gwirioni arni hefyd.

Mae'r cynhwysion yn eitha syml: cyw iâr, ham, caws, perlysiau cymysg. Ond a dweud y gwir, rhaid defnyddio ham a chaws Cymreig. Dydy fy nghyw iâr byth cystal ag un wnaeth Corndolly.

Monday, August 4, 2008

kitty yn mecsico


Mi naeth fy merch brynu nifer o anrhegion yn Mecsico. Rôn i'n synnu gweld un ohonyn nhw, sef tlws crog Hello Kitty! Mae hi'n dweud bod HK yn boblogaidd yn Mecsico hefyd. 

Ychydig o wybodaeth i'r rhai ohonoch chi: Mi gafodd Hello Kitty ei gwneud yn Japan yn wreiddiol amser maith yn ôl.

Sunday, August 3, 2008

afalau



Mae'n boeth. Crasboeth. 100F yn y cysgod. Mae'r bobl yn diodde ond mae'r planhigion yn hapus, fel y coed afalau ma.

Mae'r ffrwyth yn barod. Maen nhw dipyn yn sur ond ffres. Yn anad dim, maen nhw'n rhad ac am ddim. Mi gawn ni fwyta cymaint â mynnon ni.

Saturday, August 2, 2008

hwyl a sbri



Mae'r gwr yn mynd â'r plant i Afon Illinois sy ddim yn bell o'n tyˆ ni bob haf am ganwˆio. Mi aeth nifer o fyfyrwyr Japaneaidd hefyd y tro ma a chael amser gwych yn yr haul. 

Weithiau mae'r teulu'n ymuno â'r criw glanhau'n codi sbwriel wrth fynd i lawr yr afon. Yna mi gewch chi ganwˆio'n rhad ac am ddim, a chael cinio hefyd.

Friday, August 1, 2008

ofn siarad

Mae fy merch arall yn Mecsico ers pythefnos yn dysgu Sbaeneg. Mae'r teulu mae hi'n aros efo nhw'n hyfryd, ac mae'r cwrs Sbaeneg a'r tiwtor'n wych. Mae gynni hi lawer o gyfleoedd i glywed Sbaeneg cael ei siarad. 

Ond, dydy hi ddim yn cael siarad Sbaeneg cymaint ag mae hi isio. Mae gan y ferch sy'n mynd efo hi ormod o ofn siarad Spaeneg efo'r bobl leol. Mae hi'n tueddi i siarad Saesneg felly. Ac dydy fy merch ddim isio mynnu siarad Sbaeneg o'i blaen hi....

'Na drueni ar ôl talu cymaint am y daith, ond mae'n swnio'n gyfarwydd. Mi ddigwyddith hynny mewn unrhyw gwrs ieithyddol tybiwn i. Sut cawn ni drechu'r broblem na?