Thursday, May 31, 2012

i napoli's o'r diwedd



Gan fy mod i'n teimlo'n well, es i a'r gŵr i Napoli's i ddathlu'n benblwydd priodas neithiwr. Ces i gyw iâr a thomatos ar basta, Tiramisu a gwin coch melys. Roedden nhw'n flasus iawn! Wrth glywed O Sole Mio yn y cefndir, mwynheais i'r pryd o fwyd. Ar ôl swper aethon ni heibio i Charlie's Chicken i brynu swper i'r plant.

Wednesday, May 30, 2012

llawer gwell

Mae fy llaw'n llawer gwell wythnos wedi colli coffi poeth arni hi. Dydy hi ddim yn brifo bellach ond mae'n edrych yn ofnadwy - coch a rhychiog i gyd. Clywais fydd yn cymryd hyd at 18 mis iddi edrych yn normal (os eith popeth yn iawn.) O leiaf dw i'n cael ei defnyddio heb rwystr, a dwi'n ddiolchgar.

Tuesday, May 29, 2012

twristiaid japaneaidd

Mae twristiaid Japaneaidd ym mhob man yn y byd, hyd yn oed mewn nofel dditectif boblogaidd! Dw i wrthi'n darllen y drydedd gan Donna Leon, sef Dressed for Death. Wrth y ditectif redeg ar ôl troseddwr, roedd rhaid gwthio drwy lu o dwristiaid Japaneaidd ar stryd gul yn Venezia. Erbyn iddo gyrraedd Pont Rialto, gadawodd y troseddwr ar gwch! 

Monday, May 28, 2012

pysgod i swper

Daeth pysgod ffres o'r llyn at y drws blaen i mi eu coginio gynnau bach! Aeth fy nau fab i bysgota efo ffrind y bore 'ma a dod â'r pysgod wedi'u blingo (a wnaed gan y ffrind.) Ffeindiais i rysait syml ar y we. Mi goginia' nhw mewn saws olew olewydd, past basil, garlleg a mwstard yn y popty. (Yn anffodus does gen i ddim lemon.) Gawn ni weld.

Sunday, May 27, 2012

ar goll yn seoul

Aeth fy ail ferch ar goll yn Seoul ddoe. Aeth hi ar fws i gyfarfod ffrind ond wnaeth hi ddim disgyn ar safle cywir. (Does gynni hi ddim ffôn symudol eto.) Doedd y gyrrwr ddim yn siarad Saesneg. Mae hi'n dysgu Coreeg ers misoedd ar ei ben ei hun ond mae'n amlwg bod hi ddim yn ddigon da. Llwyddodd hi i gyfarfod y ffrind awr yn hwyrach rhywsut yn ffodus. Rŵan mae hi'n benderfynol i'w dysgu'n dda.

Saturday, May 26, 2012

seremoni raddio arall

Yn yr ysgol uwchradd y tro 'ma. Graddiodd fy nhrydedd ferch gyda thros 200 eraill neithiwr. Roedd stadiwm y brifysgol leol yn llawn o'u deuluoedd a'u ffrindiau'n eu cefnogi nhw. Gwahoddodd y gŵr hanner dwsin o fyfyrwyr newydd o Japan i weld y seremoni eto. Rhaid bod nhw'n cael eu taro gan y gynulleidfa swnllyd. Daeth fy merch adref am chwech y bore 'ma wedi parti ysgol drwy'r nos (goruchwyliwyd gan y rhieni.)

Friday, May 25, 2012

thermae romae eto

Bydd y ffilm yn cael ei ddangos yn yr Eidal eleni ar hanner cant o sgrin ( beth ydy'r gair am reverse import yn Gymraeg?) wedi ennill gwobr a chymeradwyaeth selog yno. Mae'r ffilm yn ogystal â'r manga gwreiddiol yn ofnadwy o boblogaidd yn Japan yn barod. Dw i'n edrych ymlaen yn arw at ei gweld hi.

Thursday, May 24, 2012

bara a tiwlipau

Mi wnes i rentu'r ffilm hon fisoedd yn ôl a mwynhau'n fawr. Ond doedd gen i fawr o wybodaeth am Venezia ar y pryd. Gan fy mod i'n darllen nofelau ditectif sy'n lleoli yno'n ddiweddar, mae awydd gen i wylio'r ffilm eto. Archebais i DVD ac mae o newydd gyrraedd. Mae'n ofnadwy o ddiddorol a dw i'n adnabod yr adeiladau nodedig y tro 'ma. Dw i'n gobeithio, fodd bynnag, bod dŵr y camlesi'n lanach bellach!

Wednesday, May 23, 2012

damwain

Collais i ddŵr poeth ar fy llaw chwith tra oeddwn i'n paratoi coffi heddiw. Roedd rhaid mynd at feddyg wedi oeri fy llaw mewn dŵr tap achos bod gen i gymaint o boen. Roeddwn i'n ddiolchgar bod y meddyg fy ngweld i'n syth. Ces i eli a thabledi i ladd poen. Dw i'n teimlo'n llawer gwell rŵan. Roeddwn i a'r gŵr yn bwriadu bwyta allan i ddathlu'n penblwydd priodas ni heno, ond rhaid gohirio'n anffodus. 

Tuesday, May 22, 2012

y sylw cyntaf

Dw i'n sgrifennu blog Eidaleg ers blwyddyn er mwyn ymarfer fy Eidaleg. Dw i ddim yn disgwyl cael sylw wrth reswm, ond heddiw ces i fy synnu'n gweld un am y tro cyntaf erioed. Mae'n wych wedi'r cwbl. 

Monday, May 21, 2012

un o wlad pwyl

Shôgi ydy gêm fwrdd o Japan sy'n debyg i wyddbwyll. Mae gen i ryw gof i mi drio ei chwarae amser maith yn ôl ond dw i erioed wedi ymddiddori ynddi. Mae yna gystadlaethau o bob math yn Japan. Am y tro cyntaf erioed curodd un o dramor chwaraewraig broffesiynol mewn gêm gychwynnol. Myfyrwraig o Wlad Pwyl ydy hi sy'n chwarae ond ers pedair blynedd. Mae hi wedi ymddiddori yn Shôgi wedi  darllen manga amdani hi. Mae hi'n hoffi'r cymhlethdod ac eisiau chwarae'n broffesiynol yn y dyfodol.

Sunday, May 20, 2012

gêm ar sgrin fawr

Aeth y gŵr â'n merch i'r maes awyr ynghyd â'n dau fab ben bore ddoe. Roedden nhw eisiau mynd i Siop Apple ar eu ffordd hefyd. Wedi cael cymorth yn y siop, aethon nhw i chwilio am dŷ bwyta i weld gêm derfynol Champions League wrth gael cinio. Mae fy mab ifancaf yn gwirioni ar Premier League a dilyn pob gêm yn ffyddlon. Felly roedd yn drît mawr iddo gael gweld y gêm derfynol ar sgrin fawr efo hanner cant o gefnogwyr eraill. Roedd o wrth ei fodd yn gweld ei hoff dîm yn ennill. 

Saturday, May 19, 2012

i korea

Mae'n saith yn y bore. Codais am 4:30 i ffarwelio â fy ail ferch sy'n chychwyn am Korea, a methu mynd yn ôl i gysgu. Waeth i mi heb na chodi. Bydd hi'n dysgu Saesneg i blant yn yr ysgol yno am flwyddyn. Roedd hi eisiau gadael ddechrau eleni wedi dod nôl o Japan mis Hydref y llynedd, ond cymerodd lawer mwy nag y disgwyl i gwblhau'r gwaith papur. Mae'r diwrnod mawr wedi cyrraedd fodd bynnag ac mae hi'n cychwyn ei bywyd newydd. Diolch i'r dechnoleg fodern; byddwn ni mewn cysylltiad.

Friday, May 18, 2012

wedi gorffen

Dw i newydd orffen cyfres gyntaf y nofelau gan Donna Leon - Death at La Fenice. Sgrifennodd hi ond i weld pan oedd hi'n 50 oed fyddai'n medru sgrifennu stori ditective. Medru? Mae'n edrych fel mae hi'n sgrifennu nofelau'n broffesiynol am oes - cymeriadau bywiol, stori afaelgar, disgrifiadau unigryw, lleoliad diddorol, diwedd hollol annisgwyl... Dw i'n barod i ddarllen hanes nesa Ditectif Guido Brunetti.



Thursday, May 17, 2012

storfa dros dro

Mae fy mab hynaf wedi dod â'i eiddo "am y tro" cyn iddo symud i Texas. Rŵan mae fy ail ferch wedi dod â'i heiddo achos ei bod hi'n gadael am Korea i ddysgu Saesneg am flwyddyn. Mae hi eisiau i ni ei gadw tra mae hi i ffwrdd. Mae'r tŷ wedi troi'n storfa o ganlyniad. 

Wednesday, May 16, 2012

rhwystredigaeth

Mae cysylltiad y rhyngrwyd yn mynd o ddrwg i waeth fyth. Ffoniodd y gŵr ATT eto i gwyno, ond yn ôl y staff a atebodd, dan ni'n cael gwasanaeth "teg" am y ffi dan ni'n ei thalu! Mae'r rhai sy'n byw yng nghanol y dref yn cael gwasanaeth cyflym (sy'n gyffredin y dyddiau hyn) efo'r un gost. Fe wnaeth y staff brofi'r cyflymder beth bynnag - sgorion ni 5 allan o 100!!! Addawodd wneud rhywbeth am y sefyllfa. Gobeithio gwnân nhw.

Tuesday, May 15, 2012

peth handi

Ces i rywbeth defnyddiol iawn yn anrheg Ddiwrnod Mamau gan un o fy merched - bwrdd gwyn bach efo magnetau ar y cefn i mi gyhoeddi beth sydd i swper bob dydd! Gan fod yna dri o blant, roeddwn i'n gorfod rhoi'r un ateb tair gwaith (neu fwy achos bod nhw'n gofyn mwy nag unwaith yn aml!) Bellach does dim rhaid i mi ddweud beth dw i'n mynd i'w goginio i swper ond sgwennu ar y bwrdd hwn. Dw i'n sgwennu'n Japaneg yn rhannol yn fwriadol hefyd.

Monday, May 14, 2012

fy ffefryn diweddaraf

Des i ar ei thraws hi tra oeddwn i'n chwilio am y ffeithiau ynglŷn â Marco Polo. (Mae hi'n byw yn Venezia lle cafodd Polo ei eni ynddo.) Americanes ydy hi ac mae hi'n byw yno ers 25 mlynedd a sgrifennu nofelau ditectif. Mae pob stori yn lleoli yn Venezia. Sgrifennodd hi'r 21ain gyfres eleni. Dechreuodd hi ei gyrfa fel awdures wrth ennill gwobr mewn cystadleuaeth yn Japan y dweud y gwir. Falch o ffeindio ei holl nofelau yn y llyfrgell leol. Dyma gael benthyg y gyfres gyntaf a dechrau arni. Er bod y stori am lofruddiaeth, mae'n hynod o ddiddorol i mi achos bod yr awdures yn disgrifio'r ddinas a'r diwylliant yn fanwl. Donna Leon ydy'i henw hi. Commissario Guido Brunetti ydy'r ditectif ei nofelau.

Sunday, May 13, 2012

anrheg i famau

Mae onsen (hotspring) yn Kochi, Japan yn darparu bath arbennig ar gyfer Diwrnod Mamau, sef bath rhosod! Maen nhw'n defnyddio miloedd o rosod mewn twb mawr i famau gael ymlacio a mwynhau'r arogl hyfryd. Wrth gwrs mae dŵr rhosod yn gwneud eich croen yn llyfn. Mi faswn i wrth fy modd yn cael tocyn i'r bath felly yn anrheg.

Saturday, May 12, 2012

diwrnod graddio

Graddiodd fy mab hynaf ym Mhrifysgol Arkansas heddiw. Es i a'r teulu i'r seremoni. Roedd cinio i'r teuluoedd gyntaf. Yna aethon ni am dro o gwmpas cyn y seremoni. Mae'r brifysgol honna'n enfawr. Roedd sawl seremoni; dechreuodd ein un ni (Adran Beirianneg) am 3:30 a chymerodd ddwy awr i orffen. Mae'n anodd credu bod pedair blynedd wedi mynd yn barod ers i fy mab chychwyn yno. Bydd o'n aros adref nes iddo symud i Texas am swydd ddiwedd mis nesa.

Friday, May 11, 2012

y cyngerdd olaf

Roedd yna gyngerdd côr yr ysgol uwchradd neithiwr a oedd yn gyfle olaf i fy merch i ganu yn y côr fel mae hi'n graddio mewn pythefnos. Roedd y canu a'r dawnsio'n ardderchog fel arfer. Fy ffefryn oedd Danny Boy. Yr hyn a wnaeth fy niflasu oedd gorfod gweld nifer mawr o luniau aelodau'r côr yn fabis bach ar sgrin fawr! Hefyd roedd yr athrawon yn siarad yn rhy hir. Heblaw am hynny, roedd yn gyngerdd hyfryd.

Thursday, May 10, 2012

marco polo

Dim ond enw i'w gofio ar gyfer prawf yn yr ysgol oedd o - Marco Polo. Ond wedi darllen llyfr amdano fo'n ddiweddar, dw i wedi darganfod pa mor anhygoel a diddorol oedd ei fywyd. Roedd o'n teithio mor bell ac mor hir ar diroedd hollol anhysbys. Roedd o'n chwilfrydig ac yn barod i addasu ei hun i'r diwylliannau newydd. Roedd o'n gwasanaethu brenin y Mongolia'n ffyddlon cyhyd. Mae popeth amdano fo'n fy nharo'n rhyfeddol.

Wednesday, May 9, 2012

ysbrydoliaeth

Hwrê i Mr. Clarke o Wrecsam! Mae o'n mynhau dawnsio Zumba ac yntau'n 96 oed. Braf clywed am bobl mewn oed sy'n dal ati. Ces i fy atgoffa i nad ydw i'n rhy hen eto i drio gwneud pethau newydd.

Tuesday, May 8, 2012

hanes y nyth

Roeddwn i a'r teulu'n gobeithio am ddiwedd hapus i'r nyth ger drws blaen ein tŷ, ond am ryw reswm mae'r aderyn a oedd wrthi'n eistedd ynddo wedi mynd. Does dim sôn am y creadur bach ers dyddiau. Naill ai mae o wedi penderfynu rhoi'r gorau i'r nyth neu rhaid rhywbeth wedi digwydd iddo fo. Does arna i eisiau gweld tu mewn i'r nyth. Dan ni'n cael defnyddio'r drws bellach ond....

Monday, May 7, 2012

tornado yn japan

Fedra i ddim credu gallu tornados ddigwydd yn Japan ac achosi cymaint o ddifrod. Mae'r lle'n edrych fel yr ardal a gafodd ei dinistrio gan y tsumani flwyddyn yn ôl. Yn Oklahoma maen nhw'n digwydd! Ond roedd yna ddaergrynfeydd anarferol yma'n ddiweddar hefyd.

Sunday, May 6, 2012

y murlun

Mae yna ddau furlun yng nghanol y dref a grewyd gan athro celf y brifysgol yma, a'i fyfyrwyr. Mae'r murluniau lliwgar wedi bod yn goleuo'r dref lwyd ond bydd un o'r ddau'n gorfod cael ei ddileu oherwydd gwaith atgyweirio. Druan ohono. Dylai'r brifysgol fod wedi cynllunio'n gallach a dewis adeilad addas. Dyma'r murlun.

Saturday, May 5, 2012

the stripes

Mae gan y band Japaneaidd hwn saith o aelodau o 45 i 61 oed. Roedden nhw i fod i berfformio am 45 munud yn Casbah Club yn Lerpwl neithiwr (a gobeithio bod nhw.) Maen nhw'n gwirioni ar y Beatles a chwarae eu darnau efo'i gilydd ers deg mlynedd. Pan aeth un ohonyn nhw i Loegr y llynedd ar wyliau, aeth o i Casbah a siarad efo'r staff yno. Wedi gyrru eu fideo at y clwb fel gofynnwyd, derbyniodd y band wahoddiad i berfformio! Mi wna' i bostio eto os ca' i afael yn eu hanes diweddaraf.

Friday, May 4, 2012

coffi arbennig

Faint dach chi'n fodlon talu am baned o goffi arbennig? I ddathlu'r 60 mlwyddiant, siop goffi yn Karuizawa, Japan yn cynnig 60 paned arbennig gyda ffa coffi o Jamaica (Blue Mountain) mewn cwpanau wedi'i wneud yn benodol. Fe gewch chi gadw cwpan (un glân) wedyn. Maen nhw'n gwerthu pump ers Ebrill 1. Y pris? - ¥10,000 (£77) y paned.

Thursday, May 3, 2012

mae'n ddrud!

Tâl post rhyngwladol amazon.japan dw i'n ei feddwl. Mae yna gynifer o lyfrau hoffwn i'w harchebu ganddyn nhw, ond rhaid talu ¥2,700 + 300 yr eitem yn gludiant (tua £23.) Yn aml byddwn i'n cyfeirio llyfrau at dŷ fy mam, a gofyn i'r gŵr eu cludo'n ôl. Ond dim ond unwaith y flwyddyn mae o'n mynd i Japan. Mae yna ddau lyfr (o leiaf) y byddwn i'n eu heisiau'n arw ar hyn o bryd - Thermae Romae (1) a hunan cofiant Mari Yamazaki, yr awdures. Rhaid i mi feddwl am sbel.

Wednesday, May 2, 2012

parakeet call

Dihangodd adar bach o'i gartref ddyddiau'n ôl a glaniodd ar ysgwydd rhywun yn ddinas Sagamihara, Japan. Fe aeth â'r aderyn at yr Heddlu. Yna, datganu'r gyfeiriad cartref wnaeth yr aderyn wrth y plismyn, hyd yn oed yr holl rifau'n gywir! Cafodd o fynd adref at ei berchennog yn ddiogel wedyn. Roedd y perchennog wedi dysgu'r cyfeiriad iddo ymlaen llaw rhag ofn. Diwedd hapus!

Tuesday, May 1, 2012

ffilm newydd (a doniol)

Mae o newydd gael ei ryddhau yn Japan. Thermae Romae ydy'r teitl ac mae'n seiliedig ar manga gan  Mari Yamazaki. Stori faddon ydy hi, rhwng Japan a Rhufain hynafol (tri o fy hoff bynciau!)  Cafodd o ei ffilmio yn Japan ac yn yr Eidal gan ddefnyddio 1,000 o extras Eidalaidd. Chwaraewyd y prif rannau Rhufeinig gan actorion o Japan sy'n enwog am eu golwg Ewropeaidd (fel maen nhw i gyd yn medru siarad Japaneg yn y ffilm!) Derbyniodd y ffilm wobr yn yr Eidal yn ddiweddar. Edrycha' i ymlaen yn fawr at gael gweld y ffilm mewn ffurf DVD cyn hir. Mae Mari, awdures y manga gwreiddiol, yn briod ag Eidalwr wedi astudio yn yr Eidal.