Saturday, December 30, 2017

go oer

Mae'r aer oer arnon ni ers wythnos, a bydd yn para am sbel yn ôl rhagolygon y tywydd. Does dim eira na rhew, ond mae'n oer dros ben! Dw i'n wir ddiolchgar am ein llosgwr logiau ni sydd yn cynhesu'r tŷ'n braf. Mae'r gŵr newydd adael i fynychu priodas yn Ne Oklahoma a nôl y ddau blentyn ifancaf sydd yn aros efo'n merch hynaf ni yn Norman ar ei ffordd. Gan fyddan nhw'n dychwelyd ddydd Llun, cludodd ddigon o logiau oddi wrth y garej fel na rhaid i mi i wneud y gwaith. Bydd y tymheredd yn gostwng i 4F/-16C nos fory. Lle mae Cynhesu Byd-eang pan fod angen arno fo?

Friday, December 29, 2017

yr anrheg orau

Ymwelodd fy nwy ferch yn Japan â'u nain yr wythnos 'ma, a rhoi anrheg Nadolig iddi, sef calendr efo lluniau'r teulu arno fo. Fel gweler, roedd hi'n hapus dros ben! Dw i'n sicr bod hi'n edrych ar bob tudalen llawer gwaith bob dydd, a'i ddangos i'r holl staff a'i chymdogion yn y cartref henoed. Yr anrheg orau iddi hi ydy hwnnw.

Thursday, December 28, 2017

gwin o Israel

Dw i newydd brynu dwsin o win coch a gynhyrchwyd yn Israel drwy Kosherwine ar lein. Roedd y cludiant yn rhad ac am ddim! Mae yna amrywiaeth o win oddi ar winllannoedd gwahanol. Dechreuais ar Ben Ami Cabernet Saurignon. Mae o tipyn bach yn sych i mi, ond mae ganddo arogl hyfryd. Mae gen i ddigon o win i bara am hanner blwyddyn. Modd gwych i fwynhau gwin hyfryd a chefnogi economi Israel ar yr un pryd!

Wednesday, December 27, 2017

daearyddiaeth feiblaidd

Dw i newydd gofrestri ar gwrs i ddysgu daearyddiaeth Feiblaidd ar lein. Cynigir gan Goleg Beibl Israel, mae'r cwrs yma'n dysgu'r ddaearyddiaeth sydd yn gysylltiedig â'r Beibl rhwng Abraham ac Iesu. Maen o'n edrych yn hynod o ddiddorol. Dw i'n sicr y bydda i'n medru deall y Beibl yn well drwy'r 14 o wersi yn y cwrs hwn.

Tuesday, December 26, 2017

penwythnos

Roeddwn i'n treulio'r penwythnos diwethaf yn nhŷ fy merch hynaf yn Norman efo rhan o'r teulu. Aethon ni i wasanaeth Saboth, i siopa, i dŷ bwyta, o gystal â dathlu penblwydd fy merch a chyfnewid anrhegion. O'r diwedd ces i gyfle i roi'r tlws crog a archebais ar gyfer fy merch ifancaf. Roedd hi wrth ei bodd! Mae'r ddau blentyn ifancaf yn aros efo'u chwaer i fwynhau'r gweddill o'u gwyliau tra des i a'r gŵr adref.

Monday, December 25, 2017

nadolig llawen

Canys bachgen a aned i ni,
mab a roed i ni,
a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd.
Fe'i gelwir, "Cynghorwr rhyfeddol,
Cawr o ryfelwr,
Tad bythol,
Tywysog heddychlon.

Thursday, December 21, 2017

anrheg nadolig

Mae'r bil gostyngiad trethi newydd gael ei gymeradwyo am y tro olaf cyn i'r Arlywydd ei arwyddo er gwaethaf pawb a phopeth - 3.2 triliwn o ddoleri. Bydd o'n chwali drwg-enwog mandad Obamacare i unigolion hefyd. Eisoes cyhoeddodd nifer o fusnesau mawr fydden nhw'n buddsoddi biliwn o ddoleri oherwydd y gostyngiad. Diolch i'r Arlywydd Trump am yr anrheg fawr i bobl America ar gyfer y Nadolig.

Wednesday, December 20, 2017

wythfed noson

Roeddwn i'n bwriadu postio llun o fy nghanhwyllbren efo llawn canhwyllau ar gyfer y noson olaf, ond yn ei le, dyma lun o Nikki Haley (diolch i AP,) yr unig lewes ffyrnig ymysg y llu o lwfrgi yn y Cenhedloedd Unedig, yn rhoi feto ar y penderfyniad arfaethedig yn erbyn Israel. Mae hi'n deilwng o gau dathliad Hanukkah eleni.

Tuesday, December 19, 2017

seithfed noson

"Diolch i chi, Llysgennad Haley. Siaradasoch chi fel Macabi. Cyneuasoch chi gannwyll o wirionedd, a chwalu tywyllwch. Un a drechodd y llu. Gwirionedd a drechodd celwyddau. Diolch i chi Arlywydd Trump." - Prif Weinidog Israel, wedi i'r Unol Daleithiau feto penderfyniad arfaethedig CU yn erbyn Israel 

Monday, December 18, 2017

chweched noson

Prynodd fy merch hynaf hanukiah hefyd a dechrau cynnau'r canhwyllau'r wythnos diwethaf. Mae'n wych cyfnewid lluniau bob noson. Cafodd Reuben, ei chi ei gyfareddu gan y golau.

Sunday, December 17, 2017

pumed noson

Cynnodd y ddau blentyn y canhwyllau neithiwr. Dw i newydd glywed bod Jane o Jerwsalem wedi cyrraedd adref yn Denmarc yn ddiogel. Gadawodd yr awyren dair awr cyn y streic fawr ym Maes Awyr Ben Gurion y bore 'ma. Mae hi'n aros efo'i theulu am dair wythnos. Gobeithio y bydd hi'n cael digon o orffwys mae hi ei angen.

Saturday, December 16, 2017

pedwaredd noson

Roedd yn hollol dywyll pan gynnais y canhwyllau neithiwr. Maen nhw i fod i gael eu cynnau chwap ar ôl machlud yr haul, ond roeddwn i eisiau aros am y teulu. Daeth y gŵr a'n ddau blentyn ni adref yn ddiogel, a dyma ni'n cael swper (cawl tatws a Challah) efo'n gilydd wrth i'r canhwyllau ddisgleirio. 

Friday, December 15, 2017

trydedd noson

Dw i'n sôn am neithiwr gan fy mod i'n sgrifennu hyn y diwrnod wedyn.
Cynnais dair cannwyll ar ben fy hun yn absenoldeb y gŵr. Pan ddaeth o adref, dwedodd ei fod o'n medru gweld y golau o bell. Aeth i nôl y ddau blentyn yn y brifysgol yn Missouri heddiw. Byddan nhw ar wyliau am dair wythnos ar ôl gweithio mor galed.

Thursday, December 14, 2017

yr ail noson

Wedi cynnau'r ail gannwyll, paratois ginio Hanukkah (yn rhannol a dweud y gwir.) Latkes a thoesen oedd y brif saig. Roeddwn i'r arfer coginio crempogau taten, ond roedd latkes yn llawer mwy blasus. Yn anffodus, doedd toesen jeli ddim ar gael yn Walmart.

Wednesday, December 13, 2017

y gannwyll gyntaf

Cynnais y gannwyll gyntaf ar fachlud yr haul ddoe efo'r gŵr wedi clywed y fendith ar lein. Roedd y golau'n llachar iawn yn annisgwyl a phara am hanner hawr. Dyma fideo sydyn sydd yn dangos beth ydy Hanukkah, a sut mae'n cysylltu ag Iesu.

Tuesday, December 12, 2017

cynnau tân a chanhwyllau

O'r diwedd mae hi'n ddigon oer bob dydd i ni gynnau tân yn y llosgwr logiau. Mae gwres y tân yn hynod o braf. Eleni fodd bynnag, does gan y gŵr help efo'r gwaith o gwmpas y llosgwr; rhaid iddo gludo logiau a dŵr, lanhau'r lludw ayyb ar ben ei hun. Bydd Hanukkah dechrau heno. Edrych ymlaen at gynnau'r canhwyllau ar ei gyfer am y tro cyntaf.

Monday, December 11, 2017

arddangosfa celf fodern

Mae fy merch hynaf yn Miami ers dyddiau er mwyn ymweld â SCOPE Miani Beach, arddangosfa celf fodern. Mae'r 17eg arddangosfa yn denu artistiaid oddi wrth 25 o wledydd gan gynnwys Avner Sher o Israel. Cafodd fy merch sgwrs sydyn efo fo. Dyma un o'i waith, map o Jerwsalem a wnaed o gorc.

Saturday, December 9, 2017

swrpreis!

Mae fy merch yn Japan newydd ddechrau mynd i wers gymnasteg. Roedd hi'n arfer wneud o pan oedd hi yn ei harddegau. Er bod hi heb ei ymarfer ers blynyddoedd, mae hi bob amser eisiau ail-ddechrau, meddai hi. Mae hi wrth ei bodd ac mae ei chorff yn dal i gofio'r sgil. Dydy hi ddim eisiau dweud wrth neb ac eithrio ei theulu eto, ond pan aeth hi i'r wers ddoe, gwelodd hi un o'i disgyblion a'i rieni yno! Roedd yna foment o embaras, ond dwedodd y tad ei fod o'n meddwl mynd i'r wers hefyd! 

Friday, December 8, 2017

dewis

Mae gan bawb ddewis; dydy neb yn eich gorfod chi i weithredu'n dreisgar. Doeddwn ni ddim yn gweithredu'n erchyll pan gafodd Obama ei etholi dwywaith, nac Israel pan benderfynodd UNESCO nad oes cysylltiad rhwng Iddewon a Jerwsalem. Bydd eich dewis chi'n dangos pa fath o berson ydach chi.


Thursday, December 7, 2017

sefyll yn gadarn

Mae Palestiniaid yn terfysgu ar y strydoedd yn Israel yn barod dros gyhoeddiad yr Arlywydd Trump. Mae'r byd yn prysur ei feio am wneud y peth iawn yn lle condemnio’r rhai sydd yn achosi terfysgaeth. "Os byddwn ni'n gwneud polisi wrth ofyn fyddai fo'n cynhyrfu eithafwyr Mwslimaidd neu beidio, byddwn i'n cael ein parlysu'n gyfan gwbl," meddai Rabi Shmuley. Cytuno'n llwyr. Roedd yr Arlywydd Trump yn ddigon dewr a chryf i gyflawni'r hyn mor gyfiawn er gwaethaf pawb a phopeth. Dylai'r gwledydd eraill yn dilyn America a symud eu llysgenadaethau i Jerwsalem.

Wednesday, December 6, 2017

hanes

Fe wnaeth. Mae'r Arlywydd Trump newydd gyhoeddi'n swyddogol mai Jerwsalem ydy prif ddinas Israel. Er bod hyn yn amlwg yn hanesyddol ac ymarferol, doedd gan neb fel pennaeth gwladwriaeth ddewrder i ddweud hyn yn gyhoeddus hyd yma. "Peth iawn i'w wneud ac mae rhaid cael ei wneud," meddai. Dw i'n hanod o falch bod o'n ddigon dewr a phenderfynol ei gyflawni. Pob bendith ar ein Harlywydd.

Tuesday, December 5, 2017

dod i rym

Methais i gysgu'n dda neithiwr gan feddwl am y dyddiad cau. Codais am bump i weld newyddion Breitbart. Hwrê! Wnaeth o ddim! Na arwyddodd yr Arlywydd Trump Waiver! Mae Deddf ynglŷn â Llysgenhadaeth America yn Jerwsalem o 1995 yn dod i rym ers 12 o'r gloch y bore 'ma. Rhaid i Adran Wladwriaeth siapio hi a sefydlu llysgenhadaeth yn Jerwsalem cyn gynted a bo modd. Mae rhai pobl yn gandryll a bygwth terfysgaeth tra'r lleill yn ofidus a gofyn i Arlywydd am beidio cyflawni ei addewid. Dw i ynghyd â chynifer o bobl yn hapus dros ben! Jerwsalem ydy prif ddinas Israel ers tri mil o flynyddoedd. Mae pob llysgenhadaeth i fod i fod yn y brif ddinas.

Saturday, December 2, 2017

rhydded

Pasiodd Senedd y ddeddfwriaeth arfaethedig ddoe a fyddai'n diddymu mandad Obamacare. Bydd gan bobl America ddewis prynu neu beidio ei brynu, neu beidio prynu yswiriant iechyd o gwbl. Hyd yma dylech chi dalu dirwy os nad oes gynnoch chi yswiriant. (Mae'n rhyfedd iawn mewn gwlad lle mae gynnoch chi hawl i ladd eich babis, nad oes gynnoch chi hawl i beidio prynu yswiriant iechyd.) Mater egwyddor ydy hyn. Does gan wladwriaeth hawl i orfodi'r bobl i brynu pethau. Rhydded o'r diwedd.