Monday, June 30, 2014

yr eidal 27 - ardal newydd (i mi)

Doeddwn i erioed wedi bod yn yr ardal honno o'r blaen oherwydd nad oedd neb yn sôn amdani hi. Ardal San'Elena ydy hon. Mae hi ar gynffon Fenis. Penderfynais fynd yno'r tro 'ma a dal y bws dŵr yn gynnar yn y bore. Fedrwn i ddim credu fy mod i yn Fenis; mae yna barc braf efo cynifer o goed tal ac mae cyn lleied o bobl. Roeddwn i'n crwydro o gwmpas yn mwynhau'r awyrgylch siriol. Es i at gaffe bach am banad o cuppccino. Siaradodd y ferch tu ôl y cownter Eidaleg efo fi'n naturiol (hwrê!) Mae cae pêl-droed y dref hefyd ond fedrwn i ddim cael cip oherwydd y wal soled uchel o'i gwmpas o. Cerddais ar bont i Ardd Castello i barhau fy ngwibdaith.

Sunday, June 29, 2014

yr eidal 26 - almaenwyr

Mae cyfres Commissario Brunetti gan Donna Leon yn hynod o boblogaidd tu allan i'r Eidal yn enwedig yn yr Almaen. Wrth i mi nesâu at yr orsaf heddlu yn San Marco lle mae Brunetti'n gweithio yn y nofelau, fe welais grŵp o dwristiaid Almaenaidd yn ymgasglu o flaen y drws ffrynt yn tynnu lluniau; roedd rhai'n ceisio cael cip oddi ar y drws wedi'i agor. Roeddwn i'n deall yn iawn beth oedden nhw'n ei wneud! Gofynnais yn Eidaleg (dw i ddim yn siarad Almaeneg) a oedden nhw'n hoffi Brunetti. Fy neall wnaethon nhw ac roedden ni'n gwenu at ein gilydd.

Saturday, June 28, 2014

yr eidal 25 - blychau post

Fe ysgrifennais dri cherdyn post at fy mam tra oeddwn i yn yr Eidal, a'u postio nhw mewn blychau post bach del mewn siopau bach a oedd yn gwerthu stampiau hefyd. Ar gyfer cardiau post yn unig oedden nhw. Doedden nhw ddim yn edrych yn hollol swyddogol a doeddwn i ddim yn hollol sicr y byddai fy nghardiau'n cyrraedd fy mam yn ddiogel a dweud y gwir. Cyrhaeddodd y cerdyn cyntaf wythnos ar ôl i mi ddod adref, ond roedd y lleill hir yn cyrraedd fel dechreuais ofni bod nhw wedi mynd ar goll. Pan ffoniais fy mam neithiwr, dwedodd hi fod nhw wedi cyrraedd o'r diwedd!

Friday, June 27, 2014

yr eidal 24 - vaporetto

Prynais docyn vaporetto 7 diwrnod ar lein ymlaen llaw. Roedd yn hynod o hwylus. Cewch chi fynd arnyn nhw faint bynnag dach chi ei eisiau am saith diwrnod am bris o €50 o gymharu â'r tocyn sengl €7. Es i arno fo'n aml i arbed fy nhraed neu ond croesi Canal Grande. Unwaith es i o gwmpas Fenis i weld y golygfeydd oddi ar y cwch. Cewch chi fynd i Murano, Burano, Torcello, Lido a mwy hefyd ond es i ddim y tro hwn. Yn anffodus roedd yna streic am ddiwrnod, ac felly tocyn 6 diwrnod yn hytrach na 7 diwrnod roedd o. 

Llun: y tacsi dŵr a oedd yn brysur ddiwrnod y streic

Thursday, June 26, 2014

yr eidal 23 - rhwystredigaeth

Y rhwystredigaeth fwyaf a wynebais yn yr Eidal - bydd y gweithiwyr mewn siopau, tai bwyta, ayyb yn siarad Saesneg yn ddiofyn pan fyddan nhw'n gweld twristiaid. Fe yrrodd hyn ofn i mi fel dysgwr. Es i ddim, fodd bynnag, i'r Eidal er mwyn siarad Saesneg chwaith. Fe wnaeth y rhan fwyaf o'r gweithiwyr droi i'r Eidaleg pan fynnais ei siarad hi, ond roedd y gweinydd ifanc mewn tŷ bwyta ar yr ochr gogleddol yn wahanol. Mynnu siarad Saesneg a wnaeth drwy'r pryd o fwyd er fy mod i'n ateb yn Eidaleg bob tro. Wnes i ddim ildio serch hynny. Yn y diwedd dechreuodd siarad Eidaleg! Hwrê! Roedd spaghetti con pesto al basilico a'r gwin gwyn yn hynod o flasus.

Wednesday, June 25, 2014

yr eidal 22 - yr ysgol eidaleg

Es i'n ôl at yr un ysgol Eidaleg, am wythnos y tro 'ma. Ces i wers breifat awr a hanner bob prynhawn efo Ida, tiwtor medrus sydd newydd gael gradd yn ieithyddiaeth. Mae hi'n siarad Eidaleg, Saesneg, Ffrangeg a Rwsieg. Roedd hi'n barod i addasu'r gwersi pa fodd bynnag roeddwn i eu heisiau. Ymarfer siarad oedd y peth pwysicaf i mi ac felly a fu. Fe wnes i adrodd fy niwrnod yn ogystal â disgrifio llyfrau, ffilmiau, y teulu, llefydd a llawer mwy nes i fy ngwddw frifo tra oedd hi'n dysgu i mi eiriau angenrheidiol. Roedd yn wersi gwerthfawr, a ches i gymaint o hwyl yn sgwrsio efo hi hefyd gan ei bod hi'n ferch hynod o glên ac annwyl.

Tuesday, June 24, 2014

yr eidal 21 - y plac

Y peth cyntaf a oeddwn i eisiau ei weld bore Llun oedd y plac sydd yn coffau ymweliad y pedwar bachgen o Japan â Fenis yn 1585. Pan siaradais efo staff yn Seminario Patriarcale ces i fy synnu bod nhw'n gwybod pwy oeddwn i (diolch i Alberto Toso Fei!) ac aeth â fi'n syth at y plac. Doeddwn i ddim yn deall llawer o'r iaith hen, ond darllenais yn Japaneg ymlaen llaw - roedd Mancio, yr hogyn hynaf o'r pedwar yn benderfynol o adeiladu athrofa debyg yn Japan ar ôl iddyn nhw ddod adref. Yn anffodus, nid wireddwyd ei freuddwyd oherwydd yr erledigaeth erbyn y Pabyddion a gychwynnodd ar yr adeg honno. Roeddwn i'n sefyll o flaen y plac am sbel yn meddwl am y bechgyn a oedd yn Fenis ganrifoedd yn ôl. 

Postiodd Alberto erthygl hynod o dda amdanyn nhw efo'r lluniau a anfonais ato fo ar Face Book

Monday, June 23, 2014

yr eidal 20 - gran caffe chioggia

Prynhawn dydd Sul cyntaf yn Fenis; wedi cerdded am sbel, penderfynais gael hoe fach a "chwarae Hepburn" yn Piazza San Marco, hynny ydy cael diod at fwrdd tu allan Gran Caffe Chioggia (heb gyfarfod ei Renato wrth gwrs!) Archebais Bellini yn syth pan ddaeth gweinydd smart â bwydlen ata i. Roedd yr awyrgylch yn arbennig o ryfeddol: yr awyr las las, Palazzo Ducale o fy mlaen i, Canal Grande wrth fy ochr i, y bwrdd yn y cysgod, cerddoriaeth fyw, diod fach fach binc ofnadwy o flasus ... Er bod yna gynifer o bobl yn mynd a dod o fy nghwmpas i, roeddwn i'n llwyddo i'w hanwybyddu ac i deimlo'r lle a'r profiad arbennig. 

Sunday, June 22, 2014

yr eidal 19 - gondola

Dw i'n hoffi gweld gondola'n hwylio. Doeddwn i ddim yn ddigon dewr i dalu €80 i gael pleser arno fo am hanner awr, ond yn aml iawn roeddwn i'n sefyll ar bont a gweld un ar ôl y llall yn hwylio'n esmwyth heb gyffwrdd â'i gilydd. Unwaith fe wnes i gyfri 18 mewn fflyd. Mae'r gondolieri'n anhygoel o fedrus. Roedd gweld eu sgiliau'n bleser ei hun. Trueni bod llawer ohonyn nhw'n gorfod cymudo i Fenis o'r tir mawr bellach oherwydd anawsterau'r bywyd yn yr ynys fach honno. Mae hyn yn stori arall fodd bynnag.

Saturday, June 21, 2014

yr eidal 18 - setlo i lawr

Gan fy mod i wedi deffro'n gynnar yn naturiol oherwydd y jet lag, bydda i'n mynd am dro am awr neu ddwy cyn brecwast. Roedd yn braf crwydro Fenis cyn i'r twristiaid lenwi'r llwybrau culion. Yna, bydda i'n dod yn ôl i'r llety am frecwast hyfryd. Doedd dim uwd neu wy wedi'i botsio, ond roedd yna amrywiaeth o fwyd oer a baratowyd mewn steil ffansi yn yr ystafell fwyta ysblennydd. Mae'r feistres glên ynghyd merch weithgar o ddwyrain Ewrop yn gofalu am eu gwesteion a'r llety yn drylwyr.  Mwynheais sgyrsiau sydyn efo nhw hefyd.

Friday, June 20, 2014

yr eidal 17 - llety anhygoel

Ces i fy llety drwy'r ysgol Eidaleg. B&B arbennig ydy hwn; agorodd y feistres ei thŷ ar gyfer "ei ffrindiau a chydnabod." Methais i ddod o hyd iddo ar fap gan nad oes gwybodaeth ar y we. Roeddwn i ond yn gwybod mai tu ôl i fflat Commissario Brunetti (nofelau ditectif Donna Leon) ydy'r llety. Hwn oedd digon i fy nghynhyrfu, ond pan gyrhaeddais o flaen y drws blaen wedi ymholi dau berson, ces i sioc yn gweld mai fflat ei hun ydy o! Doedd dim arwydd yn unman; dim ond cyfenw'r feistres a oedd dan y gloch. Mae Brunetti a'i deulu'n byw ar y llawr uchaf tra bod fy llety ar y llawr cyntaf (yr ail lawr yn America.) 

Thursday, June 19, 2014

yr eidal 16 - cyrraedd fenis

Mae'n llawer mwy rhamantus cyrraedd Fenis ar y trên na chyrraedd Piazzale Roma ar y bws. Roeddwn i'n gyffro i gyd wrth y trên fynd draws y bont; cerddais allan o'r orsaf yn gyflym. Dyma fo. Fe wnaeth San Simeon Piccolo ar ben to gwyrdd yr eglwys fy nghyfarch croeso. "Dw i'n ôl," meddwn i wrtho fo. 

Wednesday, June 18, 2014

yr eidal 15 - brescia

Wedi gorffen y cwrs, es i Brescia er mwyn gweld ffrind Eidalaidd sydd yn dysgu Japaneg. Mae enw'r dref yn gyfarwydd i mi oherwydd Alberto (Italianoautomatico) a'r rhaglen Eidaleg i ddysgwyr a saethwyd yno. Ar ôl cinio braf o tagliatelle efo saws cig oen, ces fy nhywys o gwmpas y dref fach ond hardd gan fy ffrind clên. Mae yna lawer o adeiladau hynafol a phrydferth gan gynnwys olion Rhufeinig, Tŵr Cloc sydd yn edrych fel un yn Fenis a'r castell ar y bryn. Yn anffodus doedd gen i ddim llawer o amser yno fel roedd rhaid i ni frysio'n ôl at yr orsaf trên cyn i mi gael syrffedu ar y golygfeydd oddi ar y castell.

Tuesday, June 17, 2014

yr eidal 14 - crwydro lucca

Un o'r pleserau dw i'n ei gael ar fy ngwyliau tramor ydy cerdded o gwmpas yn gweld golygfeydd adnabyddus ac anhysbys. Ces i ddigon o gyfleoedd yn Lucca, o ddringo Torre Guinigi efo coed ar ben i gerdded bron yr holl gylch ar y waliau. Fy hoff fwyd oedd la zuppa di farro - peth unigryw fel cawl ceirch a fwytes ar Pane e Vino yn Piazza Anfiteatro. Eisteddais at fwrdd tu allan yn mwynhau'r pryd o fwyd a'r awyrgylch yn hamddenol tan yn hwyr.

Monday, June 16, 2014

yr eidal 13 - blasu gwinoedd

Y gweithgaredd gorau oedd blasu gwinoedd. Aethon ni i winllan ar fryn ar fws mini a'n cael ni'n tywys o gwmpas y gwindy. Wedyn fe wnaethon ni flasu olew olewydd ffres a rhai o'r gwinoedd Toscan enwog - un gwyn, un pinc, tri coch. Trefnwyd platiau o fwyd sydyn blasus hefyd i fynd efo'r gwinoedd. Fy ffefryn oedd y pinc, sef Schiller. Roedd yn brynhawn pleserus a phawb mewn hwyliau da iawn!

Sunday, June 15, 2014

yr eidal 12 - yn y prynhawn

Wedi'r gwersi a chinio, ces i gyfle i gerdded o gwmpas y dref efo'r lleill. Athro a arweiniodd wrth esbonio hanes Lucca. Un prynhawn cerddon ni ar waliau'r dref, rhyw chwater cylch, sef tua un cilomedr dilynwyd gan ymweliad yn yr amgueddfa. Roedd hi'n boeth iawn ac felly penderfynon ni orffen y wibdaith ar Gelateria Veneta, cadwyn o gelateria adnabyddus. Roedd yn anodd dewis tri blas!

Saturday, June 14, 2014

yr eidal 11 - yr ysgol

Roedd yna gynifer o bobl a ddechreuodd yr ysgol efo fi. Cawson ni sgwrs sydyn efo un o'r athrawon yn breifat iddi wybod ein safonau. Roeddwn i a dynes arall o Japan yn digwydd bod yn yr un dosbarth efo athrawes ifanc frwdfrydig. Roedd gwersi yn y bore a gweithgareddau dewisol yn y prynhawn. Tynnon ni ymlaen yn braf yn y dosbarth, ond dysgon ni dipyn mwy o'r gramadeg na roeddwn i'n hoffi ei wneud a dweud y gwir. 

Llun: San Michele

Friday, June 13, 2014

yr eidal 10 - fy llety

Ces i fy llety drwy'r ysgol Eidaleg yn Lucca. Dynes yn ei 60au oedd meistres y fflat clyd. Arhosais yn ei hystafell sbâr ar y llofft efo'r bath preifat dan y grisiau am wythnos. Ces i ganiatâd i ddefnyddio'r gegin a'r peiriant golchi. Roedd gen i gyfle i sgwrsio efo hi hefyd oherwydd siaradodd hi ond Eidaleg. Cysgais yn braf am y tro cyntaf ers cyrraedd yr Eidal; methais gysgu'n dda yn Florence oherwydd y ffwdan ar y stryd o dan ffenestr fy ystafell.

Thursday, June 12, 2014

yr eidal 9 - lucca

Cymerodd awr a hanner ar y trên i Lucca wrth fynd trwy'r ardaloedd gwyrdd sydd ddim yn annhebyg i Gymru. Wedi treulio dyddiau yn Florence, roedd yn ollyngdod i ddod i dref fach efo llai o bobl. Tref hynafol, dwt, wedi'i hymgylchynu gan waliau Dadeni ydy Lucca. Mae yna saith porth i fynd trwyddyn nhw. Rhaid cael caniatâd arbennig er mwyn gyrru tu mewn i'r waliau, ac felly cewch chi gymharol lonyddwch.

Wednesday, June 11, 2014

yr eidal 8 - santa maria novella

Dim ond am ddau ddiwrnod arhosais yn Florence. Wedi cerdded o gwmpas cymaint â phosibl, ces i ginio yn Piazza Santa Maria Novella ger yr orsaf trên cyn dal y trên i Lucca. Mae gan yr eglwys ffasâd prydferth. Roeddwn i'n hoffi'r piazza siriol yno a oedd yn llawn o rosod pinc. Dewisais Spaghetti alla Carbonara efo gwydraid o Prosecco. Roedden nhw'n flasus dros ben.

Tuesday, June 10, 2014

yr eidal 7 - chwifio baneri

Wrth i mi gerdded o gwmpas y dref, des ar draws pobl wedi'u gwisgo'n lliwgar yn Piazza della Repubblica. Nhw ydy Bandierai degli Uffici sydd yn cadw'r traddodiad o gario a chwifio baneri Florence. Roedden nhw ynghyd â grŵp o blant mewn gwisgoedd wrthi'n dangos eu sgiliau. Roeddwn i'n sylweddoli yr agorai baner dyn medrus yn llawn yn yr awyr am eiliad. Roedd yn braf cael gweld eu perfformiad yn annisgwyl.

Monday, June 9, 2014

yr eidal 6 - y model mewn parc

Mae Dr. Massimo Ricci, athro pensaernïaeth ym Mhrifysgol Florence, yn gwneud y gwaith ymchwilio ar gromen Brunelleschi ers blynyddoedd. Fo a wnaeth darganfod mai'r patrwm herringbone ydy cyfrinach y gromen enfawr wedi'i gwneud heb centering. Roedd o wrthi'n goruchwylio adeiladu model y gromen ym Mharc Anconella am flynyddoedd. Bellach mae'r model yn sefyll heb do er mwyn dangos y manylion. 

Gweld y model hwnnw oedd yr ail ar fy rhestr, a dyma gychwyn cerdded tuag ato fo. Y broblem oedd nad oeddwn i'n gwybod lle yn union oedd o yn y parc. Wedi gofyn i rai pobl ar ffordd, des o hyd iddo o'r diwedd. Yn anffodus does dim modd i fynd i mewn i weld y strwythur heb ganiatâd. O leiaf chewch chi weld y patrwm enwog yn agos iawn. Mae'r model yn sefyll yno fel tystiolaeth angerdd Dr. Ricci dros Brunelleschi. 

Sunday, June 8, 2014

yr eridal 5 - piazzale michelangelo

Hwn ydy'r lle brafiaf yn Florence yn fy nhab i. Cewch chi edmygu'r olygfa ysblennydd  yn hamddenol oddi ar y bryn wrth gael cinio. Derbyniais i bres yn anrheg gan y plant i mi wario yn yr Eidal. Yn hytrach na phrynu pethau, gwariais o ar brydau o fwyd mewn llefydd efo golygfa braf ond ddim yn ddrud. Ces i frechdan wedi'i thostio a gwydraid o wyn gwyn yno.

Saturday, June 7, 2014

yr eidal 4 - o'r copa

Eisin ar y gacen, dim fy amcan oedd gweld yr olygfa oddi ar gopa'r gromen a dweud y gwir, ac eto godidog oedd hi. Beth oedd Brunelleschi'n meddwl wrth iddo sefyll lle oeddwn i'n sefyll wedi cyflawni'r gamp enfawr? Mae'n wir anhygoel bod yr adeilad hwnnw'n dal i sefyll yn gadarn ers 600 mlynedd. 

Friday, June 6, 2014

yr eidal 3 - patrwm saethben

Clywais gan fy merch a oedd yn Florence fisoedd yn ôl fod rhaid iddi aros mewn ciw am ddwy awr, ac felly es i'r gromen hanner awr cyn iddi agor. Roedd ond pump o fy mlaen i ac es i mewn efo'r grŵp cyntaf i ddringo'r 463 o risiau. Doedd ddim yn rhy galed, yn enwedig cewch chi hoe fach ar y balconi yng nghanol i edrych o gwmpas. Wrth i mi ddringo mwy, des i ar draws y briciau wedi'u gosod yn y patrwm herringbone a oedd yr allwedd i adeiladu'r gromen enfawr heb ddefnyddio centering.

Thursday, June 5, 2014

yr eidal 2 - cyrraedd florence

Wedi setlo i lawr yn fy llety, dyma fynd yn syth i Eglwys Gadeiriol Santa Maria del Fiore, yn hytrach Cromen Brunelleschi i fod yn benodol. Mae'r gromen enfawr yn dominyddu'r dref. Dw i wedi gweld cynifer o luniau ohoni hi, ond profiad hollol wahanol oedd ei gweld hi o fy mlaen i. Y peth cyntaf a ddaeth i fy meddyliau oedd, "sut wnaeth o 600 mlynedd yn ôl? Sut?"

Wednesday, June 4, 2014

yr eidal 1 - paris

Dw i newydd ddod adref wedi treulio dros ddwy wythnos yn yr Eidal yn ymlacio ac yn dysgu Eidaleg. Yn y cyfamser dw i heb sgrifennu'r Gymraeg ac felly dw i'n teimlo dipyn yn lletchwith wrth ailgychwyn fy mlog rŵan. Gobeithio y bydda i'n dod i arfer â hi cyn hir wrth adrodd fy hanes.

Hedfanais o Tulsa i Atlanta ac wedyn i Baris. Dyma oedd fy nhro cyntaf i fynd i Ffrainc. Roeddwn i'n dysgu tipyn o Ffrangeg cyn y siwrnai, ond yr unig bethau a ddwedais ym maes awyr Paris oedd, "bonjour" a "merci."