Monday, November 30, 2020

calon kintsugi

Sgrifennodd fy merch yn Japan erthygl o'r blaen ar kintsugi, sef celfyddyd atgyweirio. Dyma'r dilyniant - Calon Kintsugi. Cafodd hi ei geni yn America a symud i Japan ond sawl blwyddyn ôl; felly ces i fy nharo'n gweld ei bod hi'n deall calon a ffyrdd Japan mor dda. 

Sunday, November 29, 2020

gyda fy merch hynaf

Daeth fy merch hynaf a'i gŵr i dreulio'r penwythnos gyda ni am y tro cyntaf ers talwm. Roedd yn braf cael sgwrsio â hi'n uniongyrchol. Cawson ni bitsa "chwedlonol" Sam and Ella i swper neithiwr, sef pitsa gyda phicls dil a chyw iâr.

Friday, November 27, 2020

heb ddechrau ymladd eto


Mae'r Democratiaid a phrif gyfryngau America eisiau i'r Arlywydd Trump a'i gefnogwyr roi'r gorau iddi (yn gyflym cyn i'r twyll yn yr etholiad gael ei brofi.) Pe bai'r canlyniad yn onest a chyfreithlon, wrth gwrs y bydden ni'n ei dderbyn ar unwaith. OND - dydy o ddim. Mae mwy a mwy o dwyll yn cael ei ddadorchuddio bob dydd wrth i'r ymchwiliad fwrw ymlaen. Na fyddwn ni byth yn ildio i dwyll a bygythiadau. 

"Dw i heb ddechrau ymladd eto." - John Paul Jones

Thursday, November 26, 2020

diwrnod diolchgarwch

Diolch i Dduw, fy Arglwydd, fy Achubwr a fy Nhad. 
Sanct wyt ti; da wyt ti; cyfiawn wyt ti; trugarog wyt ti; ffyddlon wyt ti. 
Ti sydd yn rheoli'r byd. 

"Y mae llygaid yr Arglwydd ar y cyfiawn,
a'i glustiau'n agored i'w deisyfiad,
ond y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni."
1 Pedr 3:12

"Byddan nhw'n ymosod arnoch chi ond ni fyddan nhw'n eich goresgyn; oherwydd yr wyf gyda chwi i'ch achub," meddai'r Arglwydd.

Jeremeia 1:19

Wednesday, November 25, 2020

ofnwch ef

Peidiwch â dweud ‘Cynllwyn!’
am bob peth a elwir yn gynllwyn gan y bobl hyn;
a pheidiwch ag ofni'r hyn y maent hwy yn ei ofni,
nac arswydo rhagddo.
Ond ystyriwch yn sanctaidd ARGLWYDD y Lluoedd;
ofnwch ef, ac arswydwch rhagddo ef.
Eseia 8:12, 13

Tuesday, November 24, 2020

cyngor gor onest


Cafodd fy merch hynaf brofiad brawychus a doniol ar yr un pryd ar stryd fawr Oklahoma City. Tra oedd hi'n cerdded, gweiddodd dyn dieithr arni, "sut medra i wneud merched sengl fy hoffi?" Atebodd hi heb feddwl, "paid ag ymddwyn yn wallgof." Aeth o'n gynddeiriog wrth glywed hyn; rhedodd hi i ffwrdd am ei bywyd wrth ofni y byddai fo'n ei thrywanu! Cafodd hi loches mewn siop yn ffodus. Gan fod y dyn yn dal i loetran y tu allan am oriau, cerddodd y perchennog gyda hi i'w char a oedd yn parcio'n bell. "Dylwn i ddim fod wedi rhoi cyngor mor onest," meddai.

Monday, November 23, 2020

rheol hurt

Daeth fy mab ifancaf adref am wythnos o wyliau. Mae'n braf ei weld o am y tro cyntaf ers mis Awst. Peth rhyfedd ydy iddo orfod gwisgo mwgwd hyd yn oed ymysg y teulu oni bai medrith gadw pellter cymdeithasol. Hollol hurt, ond rheol y brifysgol ydy hwn, ac felly rhaid ei ddilyn am y tro. Edrych ymlaen at fuddugoliaeth gyfreithlon yr Arlywydd Trump.

Saturday, November 21, 2020

gwyliau yn karuizawa

Mae fy nhair merch yn Japan ar eu gwyliau yn Karuizawa, un o'r cyrchfannau twristiaid poblogaidd yn y mynyddoedd. Dalion nhw fws yn gynnar ddoe yn Tokyo, ac roedden nhw'n adrodd yn fyw eu siwrnai nes cyrraedd y llety, peth anhygoel i mi wedi meddwl! Dyma nhw ar gychwyn gwibdaith sydyn ar rikshaw.

Thursday, November 19, 2020

moddion iacháu-pob-dim

Mae fy merch newydd orffen ei murlun newydd. Mae'r dyluniad yn seiliedig ar Kabuki a elwid yn Uiro-uri, sef gwerthwr moddion iacháu-pob-dim. Cafodd hi ei hysbrydoli gan ei diddordeb angerddol diweddaraf, ac roedd hi'n gweithio'n frwdfrydig. Ariannwyd y murlun gan sefydliadau Dinas Norman a Thalaith Oklahoma. Nod y grantiau hyn ydy adfywio'r busnesau ac unigolion yn yr ardal sydd yn cael eu heffeithio gan Coronafeirws. 

Tuesday, November 17, 2020

thermodynameg a "phopcorn"

Mae'r mab ifancaf yn astudio'r thermodynameg yn y brifysgol y tymor hwn. Wrth esbonio "trosglwyddo gwres," defnyddiodd yr athro beiriant popcorn a dosbarthu llond bag i bawb. Mae'n siŵr bod y myfyrwyr wedi dysgu'r cysyniad yn dda!

Monday, November 16, 2020

yr ochr siriol

Mae'r gors mor ddwfn na ddychmygwyd erioed. Dim ond rhan o dwyll eang ydy'r twyll yn yr etholiad arlywyddol diwethaf. Cafwyd hyd i beiriannau pleidleisio Dominion dan sylw fedru twyllo o bell, er enghraifft. Yn yr holl anhwylder a phopeth, roedd yn braf dod ar draws yr ochr siriol, sef gorymdeithiau cefnogwyr yr Arlywydd Trump a oedd yn mynegi eu barn mewn modd heddychlon a llawen ar hyd a lled America.

Saturday, November 14, 2020

y murlun


Mae'r murlun yn bwrw ymlaen yn wych gyda chymorth tri gwirfoddolwr. "Maen nhw'n paentio'r rhannau diflas (i mi) a fy ngadael i mi ganolbwyntio ar wyneb Sansho Ichikawa, yr actor Kabuki," meddai fy merch.

Friday, November 13, 2020

siom

Ces i fy siomi'n clywed bod Prif Weinidog Japan wedi ffonio Joe Biden i'w longyfarchi am ei "fuddugoliaeth." Rhaid bod Mr. Suga wedi dilyn rhai gwledydd eraill fel y DU, yr Almaen, Awstralia. Beth fydd o'n dweud wrth yr Arlywydd Trump pan geith twyll Democratiaid ei profi, a bydd yr olaf yn dod yn yr enillydd cyfreithlon, tybed? Cynhalir rali a gorymdaith MAGA miliwn yn Washington DC yfory. Gadewch i ni ddal ati!

Wednesday, November 11, 2020

diwrnod veterans

Roedden nhw wedi gosod bywydau, lles a diogelwch eraill uwch eu rhai nhw. Ydyn ni'n mwynhau heddwch, ffyniant a rhyddid o'u herwydd; ydyn ni am byth yn ddyledus iddyn nhw. Diolch yn fawr.

y llun: y gŵr a'n nai ni

Tuesday, November 10, 2020

mae pobl farw'n pleidleisio



Brwydir y gad o hyd. Darganfuwyd 10,000 o bleidleisiau a anfonwyd gan bobl farw yn Nhalaith Michigan. Roedden nhw i gyd dros Biden yn rhyfedd iawn. Dim ond blaen mynydd iâ ydy hyn. Mae mwy a mwy o dystiolaeth yn dangos twyll anghredadwy yn yr etholiad arlywyddol a welwyd erioed yn hanes America.


Monday, November 9, 2020

dathlu'n ddistaw

Es i gyda'r gŵr i Napoli's i ddathlu fy mhen-blwydd yn ddistaw bach neithiwr. Dim parti nag anrhegion na dim byd rhodresgar. Cyw iâr mewn saws tomato ar basta a ges i, gyda gwydraid lawn o win coch. Rhannais Tiramisu gyda'r gŵr i bwdin. Yna, cawson ni sgwrs sydyn gyda'r perchennog sydd yng nghefndir y llun. Mae o'n dod o Albania. 

Saturday, November 7, 2020

y murlun nesaf


Mae fy merch hynaf newydd gychwyn ar ei murlun nesaf yn Oklahoma City. Peth anarferol ydy dylai hi baratoi'r wal cyn iddi gael paentio darlun arno fo. Mae rhyw rwystr hefyd, fel gwifren "fyw" ac arwydd parcio. Mae hi'n awyddus, fodd bynnag, i greu murlun i harddu'r ardal.

Friday, November 6, 2020

heb orffen eto



Dydy'r etholiad ddim wedi gorffen eto wrth i dwyll erchyll y Democratiaid ddod i'r wyneb. Mae'r Arlywydd Trump a'i dîm wrthi'n brwydro yn erbyn yr anghyfiawnder, ac na fyddan nhw'n stopio nes i'r byd wybod y canlyniad go iawn. 

Yn y cyfamser, darllenwch yr erthygl wych yma gan y Wenynen. Mae ganddyn nhw syniad ardderchog!

Wednesday, November 4, 2020

fideo murlun

Fe wnaeth fy merch hynaf fideo am ei murlun diweddaraf yn Denver. Cafodd hi a'i gŵr groeso cynnes gan berchennog y tŷ bwyta sydd yn gefnogwr mawr o'i chelf hi. Mae'r murlun yn fendigedig; dw i'n gobeithio y bydd o'n denu pobl i ddod i'w weld (a bwyta eu bwyd blasus.)

Tuesday, November 3, 2020

diwrnod yr etholiad


"Mae'n ddoniol gwylio pob un ohonoch chi'n mynd dros ben llestri am hyn, ond o ddifrif - ymlaciwch," meddai'r Angel Gabriel yn ôl Babylon Bee.

"Mae Duw wedi gweld codiad a chwymp ymerodraethau dirifedi; beth bynnag fydd canlyniad yr etholiad hwn, bydd yn rhan o gynllun anghyfnewidiol Duw."

Cuddir mewn cellwair a dychan, disglair y gwirionedd.

Monday, November 2, 2020

i'r gad


Dim ond diwrnod i'r etholiad arlywyddol. Dywedir mai hwn ydy'r etholiad pwysicaf yn hanes America. Cytuno'n llwyr. Dyfodol America sydd ar y fantol. Fyddwn ni'n dal yn genedl dan Dduw, yn anwahanadwy, gyda rhyddid a chyfiawnder i bawb? Neu fyddwn ni'n troi'n wlad sosialaidd lle bydd ond sefydliad dethol yn teyrnasu'r bobl gyda thrais a bygythiadau? Brwydrwn ni drwy bleidleisio!