Tuesday, March 31, 2020

paentiad newydd

Dydy canllaw'r llywodraeth i bawb aros cartref cymaint â phosib ddim yn effeithio ar waith creadigol fy merch hynaf. Mae hi'n paentio Sukeroku (cymeriad Kabuki) ar hyn o bryd. Ebizo ydy'r model unwaith eto.

Saturday, March 28, 2020

goleuni

Mae Missy, ffrind da i fy merch yn Japan newydd gyhoeddi cân hardd a gyfansoddodd yn seiliedig ar Twinkle Twinkle Little Star. Fy merch a sgrifennodd y geiriau. Mwynhewch!

Friday, March 27, 2020

glanhau'r awyr

Dw i newydd ddechrau defnyddio diffuswr unwaith bob dydd i lanhau'r awyr, yn ôl cyngor fy merch hynaf. Mae'n syniad da yn enwedig yr adeg hon. Mae'r tŷ'n arogli'n lân. Dw i'n bwriadu parhau'r arfer, Coronafeirws neu beidio.

Tuesday, March 24, 2020

bathodynnau

Yn y dyddiau hyn mae amser caled ar y bobl sydd gan dwymyn gwair neu asthma. Pryd bynnag byddan nhw'n pesychu neu disian, rhaid iddyn nhw ofni beth mae'r bobl o'u cwmpas yn meddwl amdanyn nhw. Mae siop yn Japan yn gwerthu bathodynnau sydd yn dweud "twymyn gwair" "asthma" er mwyn gadael i bobl o'ch cwmpas chi wybod nad oes gynnoch chi Coronafeirws. 

Monday, March 23, 2020

tusw o flodau

Mae'r pethau wedi dechrau setlo yn Japan bellach, ond yma yn America mae rhai pobl yn dal i gynhyrfu, diolch i'r prif gyfryngau, yn enwedig yn y dinasoedd mawr. Es i siopa ddoe i archfarchnad arall. Roedd popeth yn edrych yn normal ar wahân i rai silffoedd gwag, ac ambell i siopwr gyda llawn o droli. Roeddwn i'n medru prynu popeth ar fy rhestr siopa ac eithrio cig ffres. Dim ots. Prynais eog, cyw iâr wedi'i rostio a thuniau o ffa. Prynais dusw o flodau melyn hefyd er mwyn bywiogi'r awyrgylch, a herio'r cronnwyr.

Saturday, March 21, 2020

mewn amser

Mae fy merch ifancaf wrthi'n setlo i lawr yn ei bywyd newydd yn Japan. Prynodd feic ac mae hi'n prysur fynd o gwmpas gyda'i chwaer cyn iddi ddechrau gweithio fel athro cynorthwyol y mis nesaf. Gadawodd America mewn amser; gallai hi fod wedi colli ei swydd yma yn y sector adloniant pe bai hi'n aros yn hirach. Postiodd y llun godidog yma o Fynydd Fuji a dynnodd oddi wrth ei drws blaen.

Friday, March 20, 2020

mae'n gwella

Es i Walmart ddoe yn hanner disgwyl gweld siopwyr yn rhedeg yn wallgof. Ces i fy synnu, fodd bynnag, i ffeindio bod popeth mor drefnus. Roedd llai o bobl nag arfer hyd yn oed, ac roedd pawb yn siopa heb gynhyrfu. Roedd rhai silffoedd yn dal i wag, ond roedd y llysiau a ffrwythau'n edrych yn ffres. Dwedodd gweithwr fod tryciau newydd gyrraedd. Mae Walmart wedi cyfyngu eu horiau er mwyn llenwi'r silffoedd a glanhau'r siopa yn ystod y nos. Mae gyrwyr tryciau'n gweithio'n galetach er mwyn dosbarthu bwyd a phethau angenrheidiol. Diolch i bawb sydd wrthi, yn yr adeg ofnadwy o anodd hon.

Wednesday, March 18, 2020

neges braf o tsieina

Clywodd y gŵr gan ffrind yn Tsieina fod y bywyd wedi dechrau bod yn normal eto. Calonogol iawn ydy'r neges oherwydd nid gan y llywodraeth ond gan unigolyn ydy honno. Mae fy merched yn Japan hefyd yn dweud nad oes neb yn gorbrynu papurau toiled mewn panig bellach. Cadwch eich pwyll a golchwch eich dwylo felly; bydd popeth yn iawn cyn hir.

Tuesday, March 17, 2020

canllaw newydd gan y llywodraeth

Mae'n hyfryd bod yr Arlywydd Trump a'i griw wrthi'n brwydro yn erbyn Coronafeirws bob dydd. Er nad oes gen i na fy nheulu ofn y feirws, dan ni'n fwy na pharod i gydymffurfio â'r canllaw newydd sbon gan y llywodraeth er mwyn lles pawb. Penderfynodd ein heglwys ni beidio â chyfarfod ddydd Sul am bythefnos. Mae'n debyg y byddwn ni'n mynd ar lein. Dw i'n diolch i fy Nuw bob dydd am osod Donald Trump fel Arlywydd America'r adeg hon.

Monday, March 16, 2020

cyrraedd yn ddiogel

Mae fy merch ifancaf newydd gyrraedd Japan yn ddiogel. Aeth popeth yn iawn heb drafferth. Cyfarfododd ei chwiorydd hi yng nghanol Tokyo, a mynd â hi i'w fflat. Dw i'n edrych ymlaen at glywed yr hanes ei siwrnai. Dyma'r ddwy ohonyn nhw'n gwenu tu ôl y masgiau enfawr.

Saturday, March 14, 2020

bendith

Daeth fy mab ifancaf adref neithiwr am ei wyliau gwanwyn. Bydd o'n cael aros yn hirach nag arfer; penderfynodd ei goleg ymestyn y gwyliau oherwydd Coronafeirws. Dydy o ddim wedi gwella'n llwyr rhag y niwmonia a ddaliodd wythnosau'n ôl, ac felly mae'r dyddiau ychwanegol yn fendith fawr iddo. Collodd gymaint o bwysau; rhaid i mi ei fwydo bwyd maethlon! Mae o'n cael peth amser gyda'i chwaer cyn iddi adael am Japan yfory.

Friday, March 13, 2020

cadwch eich pwyll

Does dim papurau toiled ar gael yn Walmart. Roedd y ddynes at y til yn edrych yn flinedig wrth ddweud bod popeth mor wallgof. Gwelais rhai cwsmeriaid yn gwthio troliau llawn o fwydydd tun. Dydy cronni pethau ddim yn helpu dim byd, ond mae'n drist bod pobol yn tueddu i gynhyrfu a dilyn pawb arall. Mae yna un peth braf fodd bynnag - mae'n lanach ym mhob man.

Thursday, March 12, 2020

arwydd cadarnhaol

Mae'r holl ysgolion yn Japan ar gau ers dechrau mis Mawrth oherwydd Coronafeirws, ond cyhoeddodd Maer Osaka heddiw y byddai'r rhai yn y ddinas yn agor y mis nesaf. Dwedodd fod y mesur cenedlaethol wedi drwyn rhywfaint o lwyddiant yn erbyn y feirws hyd yma, ond os byddwn ni'n dal i atal bywyd cymdeithasol fel hyn, na fydd y gymdeithas yn parhau.

Arwydd cadarnhaol cyntaf a glywais yn gysylltiedig â Chorona feirws!

Wednesday, March 11, 2020

telesgop hwylus

Prynodd y gŵr delesgop er mwyn gweld ei darged saethu yn y cae. (Prynodd un a wnaed yn America, yn hytrach na un a wnaed yn Tsieina er mwyn cefnogi'n heconomi ni.) Mae'r telesgop ar y bwrdd wrth y ffenestr gefn pan nad ydy o'n ei ddefnyddio yn y cae. Medrwn ni weld yr adar sydd yn dod at y bwydwr felly. Mae'n anhygoel gweld eu manylion mor agos.

Tuesday, March 10, 2020

cam nesaf fy merch ifancaf

Mae fy merch ifancaf newydd dderbyn pasbort Japan! Roedd rhaid iddi fynd yn berson i Gonswliaeth Gyffredinol Japan yn Houston, Texas i wneud hynny. Mae hi'n barod i hedfan i Tokyo Ddydd Sul. Bydd hi'n rhannu'r fflat gyda'i dwy chwaer, ac yn gweithio'n rhan amser yn yr un ysgol feithrin lle mae un o'r ddwy yn gweithio ynddi. 

Monday, March 9, 2020

gwaeth na'r feirws

Trydarodd yr Arlywydd Trump heddiw:

"Felly'r llynedd bu farw 37,000 o Americanwyr o'r ffliw cyffredin. Mae'n cyfartalu rhwng 27,000 a 70,000 y flwyddyn. Na chafodd dim byd ei gau i lawr, roedd y bywyd a'r economi yn mynd ymlaen. Ar hyn o bryd mae 546 o achosion o Goronafeirws wedi'u cadarnhau , gyda 22 o farwolaethau. Meddyliwch am hynny!"

Cytuno’n llwyr. Mae'r panig yn llawer gwaeth na'r feirws ei hun. Hefyd, mae yna gynifer o bobl sydd wedi gwella o'r haint. Lle mae eu tystiolaethau? 

Saturday, March 7, 2020

blas o ddwy wlad

Dyma dŷ bwyta hynod o ddiddorol yn Efrog Newydd. Mae'n cael ei redeg gan ddynes o Japan a gŵr Iddewig lleol. Cynigir blas o'r ddwy wlad sydd yn asio’n braf - ramen gyda gyoza a pheli matzo er enghraifft. All dim arall fod mor nodweddiadol na hynny yn fy nhyb i!

Friday, March 6, 2020

model y murlun newydd

Cafodd fy merch hynaf gyfle i gyfarfod cwpl arbennig yng Nghynhadledd AIPAC, sef dau a achubwyd gan Chiune Sugihara yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Tra oedd Sugihara'n gweithio fel diplomydd o Japan yn Lithwania, darparodd basbortau ffug er mwyn achub bywydau'r Iddewon. Roedd fy merch a'r cwpl yn teimlo'n ddwfn dros ben wrth iddyn nhw siarad gyda'i gilydd. Penderfynodd hi mai Sugihara byddai hi'n paentio ar y murlun yn Las Vegas yn yr haf.

Thursday, March 5, 2020

cleddyf golau

Tra bod fy merch ifancaf adref wrth iddi chwilio am y cam nesaf, dysgodd ei hun sgil anhygoel (drwy fideo YouTube.) Gwnïodd y wisg honno hefyd. Y fi a ffilmiodd y fideo byr a thynnu'r lluniau! 

Wednesday, March 4, 2020

streipiau

Gorffennodd fy merch beintio ei gwaith diweddaraf. "Streipiau" ydy'r teitl. Mae'r paentiad yn hongian yn swyddfa AIPAC bellach. Daeth adref wedi cael amser bendigedig. Ei chynllun nesaf - murlun yn Las Veagas!

Tuesday, March 3, 2020

gwobr gelf

Enillodd fy merch hynaf Gwobr Gelf Emma Lazarus yn ddiweddar. Bydd hi'n galluogi fy merch i baentio murlun er mwyn brwydro yn erbyn gwrth Semitiaeth. Yn ystod Cynhadledd AIPAC, derbynodd y wobr gan David Friedman, Llysgennad yr Unol Daleithiau i Israel. Bydd hi'n paentio murlun yn yr haf yma, nid yn Israel ond yn Las Vegas. 

Monday, March 2, 2020

AIPAC

Mae fy merch hynaf wrthi'n paentio yng nghynhadledd AIPAC ar hyn o bryd. Fel y model, dewisodd filwr IDF a ddaeth yn ffrindiau yn Israel ddwy flynedd yn ôl. Mae nifer o'r mynychwyr cyfeillgar yn dod i weld hi'n paentio. Mae hi'n mwynhau'r cyfle anhygoel o arbennig. Mae hi newydd glywed y Prif Weinidog Netanyahu (trwy loeren) a'r Is-lywydd Pence yn rhoi araith. Derbynodd y wobr ddoe gan.... 

Mae'r post hwn yn mynd yn rhy hir. Ysgrifenna' i am yr hanes yfory.