Friday, February 25, 2011

chwarae teg

Er gwaetha'r hanes, does gen i ddim yn erbyn y teulu brenhinol heddiw fel unigolion. Gwelais i gip ar ymweliad y Tywysog Williams a'i ddyweddi yn Ynys Môn. Rhaid canmol bod nhw wedi paratoi at yr ymweliad gan ddysgu Hen Wlad ymlaen llaw er bod Kate'n edrych dipyn yn ansicr ei geiriau! (O leiaf doedd hi ddim yn edrych ar nodyn.) Chwarae teg iddyn nhw.

Thursday, February 17, 2011

cymro yn arkansas!

Fedra i ddim credu bod yna Gymro yn Arkansas, ym mhrifysgol fy mab i fod yn fanwl. Athro mathemateg ydy o, ac mae fy mab yn ei ddosbarth y tymor 'ma. Dwedodd fy mab mai o Gymru mae ei athro mathemateg yn dod, a dyma ei siarsio i ffeindio mwy amdano fo.

O Borthcawl mae John yn dod ac yn byw yn Arkansas ers 20 mlynedd. Mae o'n dychwelyd i Gymru ddwywaith y flwyddyn. Dwedodd fy mab mai dyn hynaws ydy ei athro.

Efallai bod yna Gymro neu ddau arall (neu Gymraes wrth gwrs) yn cuddio rhywle yn yr ardal 'ma!

Monday, February 14, 2011

ta-ta


Efallai mai oedolion sy'n galaru am yr iglw mwy na'r plant. Es i weld sut mae o bnawn 'ma. A dyma fo'n troi ond yn dalp o eira gwlyb. Roedd y cymydog sy'n gofalu am yr hogyn o'r Almaen yn digwydd bod, a dyma ni'n cysuro'n gilydd gan ddweud pa mor drist bod yr iglw wedi mynd yn barod, a pha hwyl a gafodd y plant yn ei godi.

Mae'r gwanwyn ar drothwy.

Sunday, February 13, 2011

biti ynte, mam


Fel dwedodd Begw, mae'n biti bod popeth yn newid. Yr eira a gawson ni'n ddiweddar dw i'n ei feddwl rŵan. Mae'r tywydd wedi troi'n gynnes wedi'r eira mawr, ac mae o'n prysur doddi. Yr eira a oedd yn anhygoel o wyn wedi troi'n frown a du ar ochrau'r ffyrdd. Mae'r haul yn tywynnu ac mae'r awyr las yn disgleirio, ond rhywsut neu'i gilydd, dw i'n teimlo'n drist yn enwedig wrth weld yr iglw a wnaeth y plant yn mynd yn llai.

"Paid â phendroni, 'd oes yna ddim byd yn bod yn y byd yma ond newid," meddai mam Begw. Ond pendroni ydw i fel Begw.

Wednesday, February 9, 2011

wedi gorffen!



Roedd y plant yn dal i wneud yr iglw a'i orffen ddoe. Daeth eira arall yng nghanol nos a gorchuddio'r iglw'n braf. Rhaid cael picnic ynddo fo felly (mae'r ysgolion wedi cau,) a dyma nhw'n gosod darn o garped ar y llawr a gwledda ar fisgedi a chwarae gemau bwrdd. Paid â phoeni, Antwn; mae'n annisgwyl o gynnes tu mewn.

Sunday, February 6, 2011

iglw

Dim ond diwrnod yr aeth y plant i'r ysgol yr wythnos diwethaf. Heddiw cafodd gwasanaeth ein heglwys ni ei ganslo hyd yn oed (ond doedd hi ddim mor oer na'r disgwyl ac mae'r eira wedi dechrau toddi.) Cafodd fy mhlant hwyl yn yr eira beth bynnag. Penderfynon nhw wneud iglw ar gau agos. Dyma nhw wrthi ers oriau gyda help hogyn o'r Almaen sy'n byw'n agos. Daeth gohebydd y papur newydd lleol i dynnu llun ohonyn nhw. (Mae ganddyn nhw ddiffyg newyddion, mae'n amlwg!)

Saturday, February 5, 2011

dim bwyd yn Wal Mart!

Welais i erioed ffasiwn beth! Roedd llawer o silffoedd bwydydd yn Wal Mart yn wag heddiw. Cawson ni hoe fach yn y tywydd gaeafol heddiw ac es i am fwyd ers dyddiau. Cafodd pawb yn y dref yr un syniad. A'r canlyniad - dim digon o fwyd i bawb wedi i loris Wal Mart methu cyrraedd y siop oherwydd cyflwr gwael y ffyrdd.

Fe wnes i lwyddo i brynu digon drwy feddwl yn ddyfeisgar yn ffodus. Cawl cyw iâr i swper heno, hynny ydy cawl cyw iâr heb gyw iâr!

Tuesday, February 1, 2011

storm eira


Cawson ni'n rhybudd ddoe fyddai storm eira fwyaf yn hanes Oklahoma ar ei ffordd. Penderfynodd yr ysgolion a'r prifysgolion yn gynnar na fydd eu drysau'n agor heddiw. Fe ddaeth o yng nghanol nos. A dweud y gwir, chawson ni ddim cymaint o eira â'r disgwyl. Ond oer a gwyntog mae hi. Bydd y tymheredd yn disgyn yn -7F/-22C heno yn ôl rhagolygon y tywydd, a hithau'n 72F/22C ddydd Sadwrn diwethaf. Ydyn ni'n gynnes yn y tŷ gyda'r llosgwr logiau.