Friday, July 31, 2020

blodau cyntaf

Mae gan ein hydrangea ni flodau bach bach! Methon nhw flodeuo am ddwy flynedd er bod y gŵr wedi eu dyfrio bob dydd yn ystod yr haf. O'r diwedd maen nhw'n ymateb i'w ffyddlondeb. Dim ond un llwyn sydd gan flodau fodd bynnag. Gobeithio y bydd y lleill yn dilyn ei esiampl.

Wednesday, July 29, 2020

dal i chwerthin

Erthygl doniol arall gan Wenyn Babilon:

"Daeth Iesu Grist dan feirniadaeth gan Bobl Flaengar am ei gynllun i ymgynnull tyrfa aruthrol o bobl o bob llwyth, iaith a chenedl, yn erbyn gwahardd cynulliadau mawr gan y llywodraeth."

"Dydy o ddim yn bwriadu gorfodi pellhau cymdeithasol na rheol gwisgo mwgwd chwaith."

Tuesday, July 28, 2020

peiriannau slot mewn eglwys

Pan fod eisiau chwerthin arna i, bydda i'n troi at Wenyn Babilon yn aml. Wefan ddychanol ydy hi sydd yn postio "newyddion" dychmygus hynod o ddiddorol. Dyma enghraifft - "Eglwys yn Nevada yn Osgoi Cyfyngiadau Coronafirws Trwy Osod Peiriannau Slot" 

Rhybudd: Nid newyddion go iawn ydyn nhw (ond yn wirach na newyddion ffug y prif gyfryngau ella!)

Monday, July 27, 2020

bwyd cymryd allan

Cawson ni fwyd cymryd allan i swper Nos Wener. Mae yna dŷ bwyta bach lleol poblogaidd o'r enw Boomerang. Ces i byrgyr gyda madarch a nionyn wedi'u ffrio a chaws Swistir. Da iawn oedd. Mwynheais y bwyd wrth i ni wylio ffilm o Japan, sef Always ar y cyfrifiadur.

Saturday, July 25, 2020

merch wisteria

Gorffennwyd y murlun. Paentiodd y ddau o 7 o'r gloch yn y bore tan 7:30 yn y nos ddoe. Dyma hi - Merch Wisteria. Mae gair Japaneg 不抜 (fubatsu) sydd yn golygu ymrwymedig/cyson/diwyro ar y wyneb. Y teitl addas, byddwn i'n dweud. Dw i'n gobeithio y bydd y murlun yn rhoi llawenydd a balchder i'r trigolion.

Friday, July 24, 2020

dal i baentio

Mae fy merch a'i chynorthwyydd, sef ei gŵr wrthi'n paentio'r murlun yn y gwres. Roedden nhw'n gorfod stopio un diwrnod oherwydd glaw drwm, ond hoe fach braf oedd mewn gwirionedd. Mae ganddyn nhw ddiwrnod a hanner i orffen popeth gan eu bod nhw'n gadael ddydd Sul.

Wednesday, July 22, 2020

dal i wrando

Dw i'n dal i wrando ar bregeth Pastor Paul bob bore cyn cychwyn y diwrnod. Dechreuais fis Medi'r llynedd yn dilyn ei bregethau ar lyfrau'r Beibl fesul pennod. Wedi cychwyn ar Efengyl Matthew, dw i bellach yn darllen y Philipiaid. Roeddwn i'n arfer darllen darnau o'r Beibl yn ôl canllaw neu "fy nheimladau," ond bellach dw i'n cytuno'n llwyr â'i ddull (dull Capel Calfaria) o ddarllen fesul pennod mewn pob llyfr yn fanwl a dwys. Dw i wedi derbyn anhygoel o fendith gan Air Duw drwy bregethau Pastor Paul.

Tuesday, July 21, 2020

murlun newydd

Mae fy merch hynaf newydd ddechrau murlun arall, mewn tref fach yn Nhalaith Tennessee. Fujimusume (Merch Wisteria) ydy'r thema. Dawns Kabuki, un o'r perfformiadau enwog gan Ebizo Ichikawa, ffefryn fy merch ydy hi. (Mae actorion Kabuki'n perfformio cymeriadau benywaidd hefyd.) 

Monday, July 20, 2020

traeth

Wrth i ddinas Tokyo newydd gyfyngu teithio'r trigolion eto, roedd rhaid i fy nhair merch newid eu cynllun. Roedden nhw'n bwriadu mynd i draeth pell, ond aethon nhw i Draeth Odaiba sydd ar hyd Bae Tokyo yn ei le. Un bach bach ydy o ymysg adeiladau mawr. Gwaharddir nofio. Er gwaethaf popeth, cawson nhw ddiwrnod braf yn cerdded a gorwedd ar y traeth, mwynhau'r golygfeydd sydd yn cynnwys Pont Enfys a cherflun bach Dynes Rhyddid hyd yn oed, a chael cinio cyfagos. 

Saturday, July 18, 2020

vidalia's

Am swper, es i a'r teulu i Out West Caffe gyntaf dim ond i ddarganfod iddyn nhw gau am 3 o'r gloch bellach. Aethon ni i Sam & Ella; maen nhw wedi stopio cynnig bwyd tu mewn. Crwydron ni ychydig yn y dref i ffeindio beth oedd ar gael. Wrth weld y fwydlen tu allan, dewison ni Vidalia's er bod ni erioed wedi bod ynddo. Mae'n digwydd bod y bwyd yn eithaf da a'r prisiau rhesymol. Roedd cymaint o gyw iâr, phigoglys, cnau Ffrengig a llugaeron sych yn fy salad. Aethon ni adref yn hollol fodlon.

Friday, July 17, 2020

y tŷ yn kobe

Ffeindiodd fy merch hynaf y tŷ yn Kobe, Japan a oedden ni'n arfer byw ynddo. Dyma olwg stryd gan Google. Y tŷ brown yng nghanol y llun sydd, er bod ganddo olwg wahanol pan oedden ni yno. Mae'n rhyfeddol gweld yr un adeiladau o gwmpas sydd wedi gwrthsefyll y daeargryn trychinebus 25 blynedd yn ôl. 

Wednesday, July 15, 2020

hen lun

Wrth drefnu fy hen albwm lluniau, gwelais hwn. Tynnwyd pan fod fy rhieni a'u plant newydd symud i ardal fy mhlentyndod. Blwydd oed oeddwn i. Roedd fy mam (sydd yn 98 bellach) yn hynod o ifanc a del, yr un oed â fy merch hynaf rŵan. Ces i fy nharo bod fy mrawd sydd yn ddwy flwydd hŷn na fi yn edrych yn debyg i fy ŵyr bach.

Tuesday, July 14, 2020

crys beic

Cafodd fy mab crys beicio arall gan ei ewythr a oedd yn arfer bod yn feiciwr angerddol. (Ei grysau oedden nhw.) Mae hwn yn dweud yn Japaneg jitensha sydd yn golygu beic. Mae fy mab yn beicio bron bob dydd am ei iechyd tra ei fod o'n gwneud cyrsiau ar lein gartref. Handi dros ben ydy'r crysau.

Monday, July 13, 2020

swper

I Katfish Kitchen aeth y gŵr a'r mab eto'r pen-wythnos diwethaf. Cawson nhw swper blasus iawn. Dewisodd y mab catfish wedi'i rostio y tro 'ma. Yn anffodus, roedd gen i boen stumog a methu mynd. Ces i swper syml - tiwna, tofu, reis a llysiau.

Saturday, July 11, 2020

eog

Dan ni'n cael eog unwaith yr wythnos (eog o Alaska, os ydy o ar gael.) Dw i'n cadw darn ohono fo bob tro er mwyn paratoi onigiri (peli reis) ar gyfer y cinio'r diwrnod wedyn. Hoff ginio'r gŵr a'r mab ydy hwnnw. Ychwanegir nori (gwymon sych) atyn nhw yn union cyn bwyta.

Wednesday, July 8, 2020

ffair sêr

Roedd yn Tanabata (ffair sêr) oedd hi yn Japan, sef un o'r traddodiadau poblogaidd yn yr haf. Sgrifennodd fy merch yn Japan erthygl amdano fo. Mae'n amlwg iddi wneud ymchwil helaeth. 

Tuesday, July 7, 2020

spritz

Nos Wener es i gyda'r teulu i dŷ bwyta yn y dref doedden ni erioed wedi bod ynddo. I ginio aethon ni oherwydd bod y swper yn ddrud iawn. Roedd y bwyd yn flasus - ges i gyw iâr a llysiau wedi'u rhostio, mewn bara pita cartref. Penderfynais archebu Spritz hefyd er nad oedd ar y ddiodlen. Derfynodd y weinyddes glên fy archeb yn siriol --- roedd y ddiod yn ddigon da, ond yn anffodus doedd ganddo hyd yn oed gwedd Spritz heb sôn am y blas. Mi ddylwn i fynd yn ôl i Fenis eto ella.

Monday, July 6, 2020

21 oed

Dilynir pen blwydd America gan ben blwydd fy mab ifancaf. Roedd y gacen yn edrych braidd yn blaen oherwydd bod ganddo alergedd i lefrith a glwten, ond roedd yn flasus fodd bynnag.

Saturday, July 4, 2020

244 oed

Pen blwydd hapus i America!

Friday, July 3, 2020

baner

Mae gynnon ni sawl baner America, gan gynnwys un a gawson ni oddi wrth y diweddar dad y gŵr. Anfonais i hi at fy merch hynaf ddeuddydd yn ôl ar gais ar gyfer y Bedwaredd o Orffennaf. (Nad oedd ganddi un hyd yma.) Dyma hi'n ei hongian ar wal ei thŷ ar unwaith. 

Thursday, July 2, 2020

dim blodau

Dydy'n hydrangea ni ddim yn blodeuo eleni chwaith. Dim ond y flwyddyn gyntaf roedden nhw'n llawn blodau. Dwedodd ffrind fod y tywydd Oklahoma'n rhy boeth i hydrangea tra bod un arall yn dweud bod angen haearn yn y pridd. Mae'r gŵr un eu dyfrio nhw'n ffyddlon bob dydd fodd bynnag, ac mae'r dail yn edrych yn iach a hapus o leiaf.

Wednesday, July 1, 2020

coffi

Prynais goffi o gwmni arall, un lleol a braidd yn boblogaidd gan fod y ffa olaf o Black Rifle wedi hen fynd. Dylwn i fod wedi aros nes pecyn nesaf wedi cyrraedd drwy'r post. Mae'r gwahaniaeth yn hollol amlwg - llanwyd y gegin gydag arogl coffi hyfryd wrth i mi agor y bag. Well i mi orffen y coffi arall fodd bynnag, a rhoi'r coffi BL i'r teulu.