Wednesday, October 27, 2010

buddugoliaeth arall


Gan dîm optometreg y tro hwn. Roedd gêm arall heddiw, ac enillon nhw o 7 gôl i 3. Chwaraeon nhw yn erbyn myfyrwyr o Sawdi Arabia. Sgoriodd ein ffrind o'r Eidal ddwy gôl er fod o wedi anafu ei ffêr yn ddiweddar.

Roedd yna lawenydd mawr ymysg y myfyrwyr optometreg yn nosbarth fy ngŵr nid dim ond oherwydd bod nhw wedi ennill, ond oherwydd bod o wedi addo ychwanegu un pwynt y pob buddugoliaeth ar ganlyniad prawf diweddaraf pawb yn ei ddosbarth!

Tuesday, October 26, 2010

5 - 2

Enillodd tîm pêl-droed y brifysgol leol heno o 5 gôl i 2. Es i a'r teulu i weld y gêm gartref wedi swper sydyn. (Mae gynnon ni oleuadau gwych ar y cae ers wythnos.) Braf oedd gweld yr hogia'n chwarae'n arbennig o dda. Dyma eu seithfed fuddugoliaeth y tymor; collon nhw wyth gêm a dweud y gwir. Mae'n rhaid bod y gêm heno wedi codi eu hysbryd.

Saturday, October 23, 2010

swper gyda ffrindiau


Roeddwn i'n meddwl am wahodd y teulu o Loegr i swper am sbel, ac o'r diwedd ces i gyfle heno. Y gŵr sy'n dod o Loegr, a dweud y gwir; Americanes ydy'r wraig. Roedden nhw'n byw yn Lloegr am 12 mlynedd cyn symud i'r dref hon eleni. Fe wnes i baked bean casserole. Cawson ni sgyrsiau pleserus tra oedd eu plant a fy rhai i'n chwarae'n hapus gyda theganau Star Wars.

Gyda llaw, dw i newydd sylwi bod gan Blogger dempledi newydd. Ffeindiais i un deniadol; dyma fo.

Wednesday, October 20, 2010

maen nhw wedi mynd


Mae'n anodd dychmygu bod adar bach sydd angen bwyta bob pum munud arnyn nhw'n hedfan mor bell i fudo bob tymor. Mae hummingbirds oedd wrthi'n mynychu'n feeder wedi gadael am le cynnes bellach.

Roedd yn bleser eu gweld nhw'n sugno'r neithdar tra oedden nhw'n hedfan yn ddi-baid fel gwenyn. Maen nhw, fodd bynnag, yn eithaf tiriogaethol yn annisgwyl er bod nhw'n ymddangos yn adar annwyl diniwed. Roedd yna wryw oedd yn uchel ei farn ei hun; clwydai ar ben y feeder yn aml ac ymosod ar yr eraill ddaeth i fwydo.

Dw i newydd ddarllen bod hummingbirds yn dychwelyd i Oklahoma tua mis Ebrill. Bydd rhaid i ni fod yn barod yn ddigon cynnar flwyddyn nesa i'w croesawi'n ôl.

Monday, October 18, 2010

pot lwc tsieineaidd


Oedd, roedd pot lwc eto yn ein heglwys. Daeth ein cenhades yn Macao i adrodd ei hanes ddoe. Mae hi'n gweithio yno ers 18 mlynedd ac wedi dod yn ffrindiau â chynifer o'r bobl leol. Mae hi'n hollol rugl yn y Tsieineeg hefyd.

Paraton ni saig Tsieineaidd i'w chael ar ôl yr oedfa. Roedd y bwrdd hir yn orlawn o fwydydd blasus (gan gynnwys ambell i fwyd Mecisicanaidd.) Cafodd pawb amser da.

Wednesday, October 13, 2010

gemau pêl-droed hamddenol




Bob blwyddyn mae'r brifysgol leol yn cynnal gemau chwaraeon hamddenol. Mae gan Ysgol Optometreg dîm pêl-droed, ac mae'r gŵr yn chwarae ynghyd ei fyfyrwyr. Roedd y gêm gyntaf prynhawn 'ma; es i a'r mab ifancaf i'w cefnogi. Gan fod y tîm wedi benthyca chwaraewyr da o Japan a'r Eidal (ein ffrindiau ni, ond maen nhw'n gyfreithlon achos bod nhw'n mynd i'r brifysgol hefyd) roeddwn i'n gobeithio enillith y tîm yn hawdd. Ond chwaraeon tîm ydy pêl-droed wedi'r cwbl. Er bod gweddill y tîm yn chwarae'n garw, chwaraeodd y tîm arall yn arwach. Collon ni o 2 - 3 yn anffodus (ond y ffrind o Japan sgoriodd y ddwy gôl, hwrê!)

Saturday, October 9, 2010

seliau cyst car



Diwrnod Seliau Cyst Car ydy hi yn y gymdogaeth hon; dw i ddim yn cofio darllen nodyn amdano fo, ond does dim digon o drugareddau diangen yn y tŷ ar hyn o bryd beth bynnag. Es i ynghyd â'r teulu i weld beth oedd ar werth. Roedd y gymdogaeth gaeedig fach yn llawn o geir a cherddwyr. Gan ein bod ni'n mynd yn rhy hwyr, doedd fawr o ddim i ni; tegan i'r mab ifancaf a chwpan Nadoligaidd i un o'r gennod. O leia' ces i sgyrsiau sydyn gyda chymdogion a thynnu lluniau ar gyfer y blog. Diwrnod braf.

Monday, October 4, 2010

tymor pêl-droed




Roedd yn ddiwrnod arbennig o braf ddoe, diwrnod perffaith i gêm pêl-droed. (Hoffwn i fod wedi ei yrru i Gasnewydd.) Brysiais i ynghyd â'r gŵr a'r mab ifancaf i'r cae gyda'n pecynnau cinio ar ôl yr oedfa i weld gêm gartref y brifysgol leol. Collon ni weld ein gôl sgoriwyd mewn pum munud o'r dechrau gwaetha'r modd. Ond roedd pawb yn chwarae'n dda, yn enwedig ein gôl-geidwad arbedodd ddau ergyd garw. Fe oedd M.V.P. y gêm byddwn i'n dweud. Enillon ni o 1 - 0.