Saturday, January 30, 2021

sŵn y glaw

Diwrnod glawog. Bydd hi'n bwrw glaw drwy'r dydd yn ôl rhagolygon y tywydd. Dw i a'r gŵr wedi gorffen siopa wythnosol a gwaith tu allan, ac felly byddwn ni'n aros gartref heddiw. Codais tua phump, fel arfer, treulio amser distaw gyda fy Nhad yn y nef, cael brecwast, a gwirio e-bost ayyb wrth yfed coffi yn clywed sŵn y glaw. Mae'r gŵr yn dal i gysgu er mwyn gwneud iawn am y diffyg cwsg.

Friday, January 29, 2021

cwpan cain

Mae'r cwpan coffi a archebais drwy Etsy newydd gyrraedd. Wnaed gyda llaw gan ddynes yn Michigan, mae'r cwpan yn hynod o gain. Mae o'n fy atgoffa i o wabi sabi, sef cysyniad Japaneaidd sydd yn gwerthfawrogi symlwyd a lliwiau darostwng. Mae'n bleser i mi yfed coffi ynddo bob dydd. Falch o gael cyfle i gefnogi busnes bach America hefyd.

Wednesday, January 27, 2021

er cof am chiune sugihara


Diwrnod Coffa'r Holocost ydy hi heddiw. Un o'r bobl ddewr a achubodd miloedd o'r Iddewon wrth beryglu ei fywyd oedd Chiune Sugihara, Diplomydd o Japan yn Lithuania. Cynhaliwyd rhaglen ar lein dyddiau'n ôl gan Frwydro yn Erbyn Gwrth Semitiaeth er mwyn ei gofio a'i anrhydeddu. Paentiodd fy merch ei bortread ar eu cais. 

Tuesday, January 26, 2021

swyddfa newydd

Mae'r 45fed Arlywydd yr Unol Daleithiau, sef Donald J. Trump, newydd agor Swyddfa’r Cyn-arlywydd yn ffurfiol yn Florida. Bydd y swyddfa’n gyfrifol am reoli gohebiaeth yr Arlywydd Trump, datganiadau cyhoeddus, ymddangosiadau, a gweithgareddau swyddogol er mwyn hyrwyddo buddiannau’r Unol Daleithiau a chynnal agenda Gweinyddiaeth Trump trwy eirioli, trefnu, ac actifiaeth gyhoeddus. “Mae'r Arlywydd Trump yn dal yn eiriolwr i bobl America, a bydd o am byth," dwedodd y datganiad.

Monday, January 25, 2021

murlun ar finyl

Mae murlun arall fy merch yn newydd gael ei osod ar wal Gwesty Omni yn Oklahoma City. Paentiodd hi'r darlun ar finyl gyntaf, a'r gwesty a osododd y finyl lle bynnag roedden nhw ei eisiau. Dyma fideo creodd fy merch amdano.

Saturday, January 23, 2021

atodiad

"Joe Biden ydy Arlywydd Unol Daleithiau America." 

Tri diwrnod wedi seremoni urddo'r arlywydd bondigrybwyll newydd, mae YouTube yn dal i atodi'r neges hon i rai o'u fideos. Ydyn nhw eisiau atgoffa'r byd mai Biden ydy'r arlywydd rŵan, neu na fydd neb yn credu hyn?

Thursday, January 21, 2021

yr arlywydd go iawn

Enillodd yr Arlywydd Trump yn ysgubol yn derbyn bron i 80 miliwn o bleidleisiau. Dygwyd ei fuddugoliaeth, fodd bynnag, gan y Democratiaid drwy dwyll. Bradychwyd gan y bobl a ymddangosodd fel ei ffrindiau hefyd. Fo ydy'r Arlywydd cyfreithlon felly, nid y dyn sydd newydd feddiannu’r Swyddfa Hirgrwn. Drwy wneud hyn i gyd, sathrodd y Democratiaid farn pobl fwyafrif America dan draed, union fel unbeniaid, a mynnu y byddwn ni'n fodlon!

Monday, January 18, 2021

merch wisteria

Mae fy merch hynaf newydd orffen paentiad arall o hogan ifanc. Dawnsiodd hi Fujimusume (Merch Wisteria) ar lwyfan Kabuki yn Tokyo ynghyd â'i brawd a'u tad enwog - Ebizo Ichikawa.

Saturday, January 16, 2021

bwta allan


Es i a'r gŵr i Katfish Kitchen eto neithiwr. Dw i ddim yn bwyta catfish, ond dw i'n hoffi awyrgylch lleol y tŷ bwyta hwnnw. Ces i hamburger hen ffasiwn, a chafodd y gŵr ferdys wedi'u ffrio. Roedden nhw'n flasus iawn. Roedd y lle yn llawn; mae'n amlwg mai un o dai bwyta ffefryn y trigolion ydy o. 

Friday, January 15, 2021

salmau 31

Y Salmau 31 ydy fy ngweddi heddiw, yn enwedig yr adnodau hyn:

Carwch yr Arglwydd, ei holl ffyddloniaid.
Y mae'r Arglwydd yn cadw'r rhai ffyddlon,
ond yn talu'n llawn i'r rhai balch.
Byddwch gryf a gwrol eich calon,
yr holl rai sy'n disgwyl wrth yr Arglwydd.


Wednesday, January 13, 2021

paentiad newydd

Mae fy merch hynaf newydd orffen paentiad arall yn seiliedig ar un o'r dramâu Kabuki sydd yn cael eu perfformio yn Tokyo ar hyn o bryd. Mae hi wrth ei bodd yn y pynciau oherwydd eu bod nhw'n ei hysbrydoli dysgu hanes Japan; mae hi'n teimlo'n heddychlon ac yn agos at ei chartref hefyd.

Tuesday, January 12, 2021

gwrandewch ar yr hyn mae'n ei ddweud

"Gwn am dy orthrymder; paid ag ofni'r pethau yr wyt ar fedr eu dioddef; bydd ffyddlon hyd angau, a rhof iti goron y bywyd," medd Iesu.

Monday, January 11, 2021

diwrnod dod i oed


Dyma erthygl arall gan fy merch yn Tokyo ar Ddiwrnod Dod i Oed (1/11,) diwrnod mawr i'r bobl ifanc yn Japan pan maen nhw'n troi'n 20 oed. Byddan nhw'n gwisgo dillad ffansi, fel kimono lliwgar i'r merched, a mynd i seremonïau a phartïon i ddathlu. Eleni, fodd bynnag, mae'n wahanol fel pob digwyddiad cymdeithasol arall.

Saturday, January 9, 2021

sefyll yn ddewr

Falch o wybod bod yna cynghorydd yng Nghymru sydd yn sefyll yn ddewr yn gofyn cwestiynau a mynegi ei farn yn erbyn y Pŵer Mawr. Y Cynghorydd Gruffydd Williams o Nefyn ydy o. Oherwydd ei fod o wedi dweud pethau anghywir yn wleidyddol ynghyd â Choronafeirws, cafodd ei drin fel dihiryn a chael ei alw'n enwai amrywiol. Dw i'n gobeithio y bydd o'n dal ati. Go da, Mr. Williams!

Friday, January 8, 2021

nos dywyll



Penderfynwyd popeth mor gyflym yn y Capitol yng nghanol nos tra bod y bobl tu allan yn cysgu. Doedd dim digon o wleidyddion dewr sydd yn gwrthsefyll yn erbyn y drygioni. Mae gormod o fradwyr a llwfrgi, rhai sydd yn hollol annisgwyl. Mae hanner o bobl America'n anfodlon, rhai'n gandryll dros ganlyniad twyllodrus yr etholiad. Diolch yn fawr i'r Arlywydd Trump sydd wedi brwydro'n ddewr yn hir iawn er gwaethaf pawb a phopeth. Dw i'n gobeithio y ceith orffwys o'r diwedd cyn iddo gychwyn arwain pobl America mewn ffordd arall. Bendith Duw arno fo.

Thursday, January 7, 2021

paid ag arswydo

Paid ag arswydo na dychryn, oherwydd yr wyf fi, yr Arglwydd dy Dduw, gyda thi ple bynnag yr ei. - Josua 1:9



Wednesday, January 6, 2021

rotenburo


Cafodd fy nhair merch yn Japan wyliau braf yn y cefn gwlad yn ddiweddar. Mae yna heol gydag adiadau a siopau traddodiadol ar y ddwy ochr. Un o'r atyniadau ydy rotenburo, sef bath cyhoeddus tu allan. Roedd y tair yn mwynhau mwydo eu hunain mewn dŵr poeth tra oedd eira yn disgyn o'u cwmpas ac ar eu pen (fel y mwncïod hynny!)

Tuesday, January 5, 2021

dwy erthyl newydd

Dyma ddwy erthygl ddiweddaraf fy merch ar bynciau cysylltiedig â'r diwylliant Japan. Wedi ymchwilio'n fanwl, defnyddiodd ei medr ieithyddol i'r eithaf. Dysgais nifer o bethau newydd eto. Mae'n amlwg i mi addurno’r shimenawa, sef torch blwyddyn newydd, yn rhy hwyr (ar 30 Rhagfyr) yn ôl y traddodiad, ond ces i syniad am greu un (gweler y llun) y diwrnod hwnnw! 

https://wafuuinthewest.blogspot.com/2020/12/oseibo-japans-winter-gift-giving.htmlhttps://wafuuinthewest.blogspot.com/2020/12/have-good-new-year.html

Monday, January 4, 2021

da o bob ongl

Es i gyda'r gŵr a'r mab ifancaf i el Molcajete, tŷ bwyta Mecsicanaidd yn y dref er mwyn boddhau chwant y mab, cefnogi'r economi lleol, ac i mi gael diwrnod i ffwrdd rhag coginio swper. Aeth popeth yn dda a mwy o bob ongl; roedd hyd yn oed digon o fwyd sydd ar ôl i ginio'r mab y diwrnod wedyn.

Saturday, January 2, 2021

gras duw


"Ni all cymdeithas heb grefydd ffynnu. Ni all cenedl heb ffydd barhau - oherwydd ni all cyfiawnder, daioni a heddwch orchfygu heb ras Duw." - yr Arlywydd Trump, 28 Rhagfyr, 2020

Amen. 

Friday, January 1, 2021

2021

Gwyn ei fyd pob un sy'n ofni'r Arglwydd 
ac yn rhodio yn ei ffyrdd.  (y Salmau 128:1)                                Blwyddyn Newydd Dda