Monday, October 31, 2016

draenio'r gors

Yr hyn nad ydy'r prif gyfryngau (cenedlaethol a rhyngwladol) yn ei ohebu ydy pa mor boblogaidd ydy Donald Trump ymysg y bobl gyffredin. Mae o'n teithio o gwmpas America ers misoedd yn siarad dwywaith neu dair bob dydd. Mae dros DEG MIL o bobl yn ymgasglu bob tro i wrando arno fo a'i ganmol yn angerddol lle bynnag mae o'n mynd. Pam? Oherwydd bod ganddo bolisiau anhygoel o wych ar gyfer pobol America. Mae'r Democratiaid, elitaidd y Gweriniaethwyr, y prif gyfryngau, a'u ffrindiau wedi hen fynd dros lestri. Mae'n amser i "ddraenio'r gors" i ennill yn ôl yr America dros y bobl.

Saturday, October 29, 2016

peth anghredadwy

Mae'n hollol anghredadwy bod troseddwr yn cael bod yn ymgeisydd mewn etholiad arlywyddol. Pe bai'r ymgeisydd yn weriniaethwr, ceith hi ei chicio allan o'r ras ar unwaith os oes ond arogl trosedd. Mae rhai pobl yn ffyrnig dros beth ddwedodd Donald Trump 11 mlynedd yn ôl tra bod nhw'n anwybyddu troseddau difrifol a chelwyddau erchyll Hilary Clinton. Mae tystiolaeth ei throseddau yn dal i ddod allan beunyddiol, diolch i Wikileaks. Mae yna Gyfiawnder yn y byd. "Beth bynnag y mae dyn yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi."

Friday, October 28, 2016

cefnogaeth ddoeth

Datganodd Jane o Jerwsalem ei chefnogaeth i Donald Trump. Doedd hi ddim eisiau mynegi ei barn ar y pwnc yn gyhoeddus o'r blaen, ond wedi gweld mai Trump ydy ffrind go iawn i Israel, ac nid y ddynes honno, dwedodd yn glir ar y dudalen Facebook. Da iawn Jane! 

Thursday, October 27, 2016

trodd yn ddaioni

"Yr oeddech chwi yn bwriadu drwg yn f'erbyn; ond trodd Duw'r bwriad yn ddaioni, er mwyn gwneud yr hyn a welir heddiw..."

Fe wnaeth penderfyniad UNESCO erchyll amlygu pwy sydd yn ddrwg a phwy sydd yn dda. Cynhaliwyd rali yn Jerwsalem ddoe i ddangos undod yn erbyn y penderfyniad. Ymysg y siaradwyr roedd ddau Americanwr yn rhoi negesau byr ar y sgrin - Donald Trump a Mike Pence. Rhoddon nhw eu holl gefnogaeth i Israel. Roedd Trump yn dda ond gwell byth oedd Pence. Mynegodd yn glir yr hyn sydd yn fy meddyliau.

Wednesday, October 26, 2016

40 y cant

Mae'n anodd credu bod bron i 40% o daleithiau America ddim yn gofyn am unrhyw ffurf adnabod er mwyn pleidleisio. (Gweler y lliw llwyd ar y map.) Mae ganddyn nhw resymau hurt am hynny, ond fel canlyniad mae gymaint o dwyllo mewn etholiadau; datgelodd Wiki Leaks yn ddiweddar dystiolaeth bod y Democratiaid yn twyllo yn yr etholiadau dros 50 mlynedd. Rŵan, fodd bynnag, mae'r bobl yn ymwybodol. 

Monday, October 24, 2016

e-bost ffug

Ches i erioed fy nhwyllo gan e-byst ffug.... nes heddiw. Dwedodd e-bost gan "iTune" fy mod i wedi lawrlwytho bechingalw am gost o £28; os nad fi a wnaeth, rhaid canslo ar yr unwaith. A dyma glicio'r linc (!!) ond i You Tube a ges i fy nghludo. Pan geisiais i gael gwybodaeth ar y we, ffeindiais sawl person a gafodd yr un profiad yn derbyn yr un neges efo'r un geiriau! Yn ffodus na chafodd fy nghyfrifiadur effaith niweidiol. Rhaid i mi fod yn fwy gofalus o hyn ymlaen.

Saturday, October 22, 2016

peth bach annwyl

Cawson ni ymwelwyr prin yn ein hiard ni ddoe, sef ddau chipmunk. Mae gwiwerod llwyd ym mhob man ond prin iawn gweld chipmunk mae hi. Fel arfer bydd o'n diflannu mewn twll cyn i mi gael ei weld o'n dda. Ddoe fodd bynnag, aeth dau i'n hiard ni ac roedd un o'r ddau'n aros am sbel yn cnoi mesen. Roedd o'n ofnadwy o annwyl! Roedd o heb gynffon, druan ohono fo. Gobeithio y bydd o'n goroesi'r gaeaf hwn.

Friday, October 21, 2016

penblwydd hapus

Penblwydd Bibi ydy hi heddiw. Mae o'n gwneud yn dda iawn; mae'n anodd bod yn brif weinidog Israel. Gobeithio bydd o'n dal yn gadarn er gwaethaf y pwysau anhygoel sydd yn pwyso arno fo bob dydd. Mae gan Israel nifer mawr o ffrindiau dros y byd gan gynnwys yr Hollalluog sydd yn ei charu fel cannwyll ei lygad.

Thursday, October 20, 2016

gŵyl yn japan

Mae fy nwy ferch yn Japan wrth eu bodd yn medru gweld ei gilydd bron pob penwythnos. Roedd Gŵyl Kawagoe'n ddiweddar, a dyma nhw'n mynd at yr orymdaith hynod o boblogaidd. Roedd môr o bobl yno i weld y nifer o mikoshi (temlau cludadwy) ofnadwy o uchel yn pasio un ar ôl y llall. Roedd hyd yn oed dawnswyr yn dawnsio (yn araf) ar ben y mikoshi. Parodd yr orymdaith nes yn hwyr efo llusernau'n goleuni'r holl demlau. 

Wednesday, October 19, 2016

newid yr hanes

Penderfyniad UNESCO -  mae o'n gwadu'r cysylltiadau rhwng yr Iddewon â Bryn y Deml a'r Wal Gorllewinol yn Jerwsalem. Hollol hurt. Yr hyn dw i'n dal ddim yn gwybod ydy beth fydd canlyniad y resolution hwnnw. Na allan nhw byth wahardd yr Iddewon rhag dod at y Wal. Rhag eu cywilydd unwaith eto.

Tuesday, October 18, 2016

lev haolam

Dw i newydd dderbyn pecyn arall gan Lev HaOlam! Agorais fo mewn llawn cyffro i weld beth sydd tu mewn. Scrub wyneb, eli corff, olew pomgranad, matiau diod, bag siopa, bariau hadau sesame a gwin coch. Gwych! Gan fod y rhan fwyaf o'r pethau ar fy nghyfer i wrth reswm, (sori, teulu!) bydda i'n cadw'r gwin nes gwledd yr ŵyl Ddiolchgarwch fel gall pawb ei fwynhau.

Monday, October 17, 2016

reilffordd i'r nefoedd

Mae adran theatr Prifysgol Ozarks yn perfformio drama ddwywaith yr wythnos yn yr hydref. Drama sydd seiliedig ar hanes Roy Hopper, myfyrwr y brifysgol yn ystod yr Ail Ryfel Byd ydy honno. Aeth y gŵr a'r mab ifancaf i'w gweld ddydd Sadwrn oherwydd bod gan fy merch ran fach ynddi hi. Dwedon nhw fod y ddrama'n ardderchog. Bydd yna berfformiad arbennig ar gyfer Newt Gingrich sydd yn cefnogi'r brifysgol.

Saturday, October 15, 2016

eidalwyr yng nghymru

Des i ar draws gyfres o fideos a wnaed gan gwpl o'r Eidal sydd yn byw yn Lloegr. Maen nhw'n postio ar bynciau amrywiol gan gynnwys teithio. Un o'r llefydd aethon nhw oedd yr Eryri! Cerddon nhw i fyny i gopa'r Wyddfa a chael golygfa odidog. Mae'n rhyfedd glywed yr Eidaleg tra fy mod i'n gweld yr ardal gyfarwydd yng Nghymru.

Friday, October 14, 2016

y ras olaf

Rhedodd fy mab ifancaf ei ras cross country olaf. Y ras olaf go iawn oedd hi gan fod y tymor wedi drosodd, ac nad oes ganddo fwriad i ymuno clwb rhedeg yn y brifysgol. Dwedodd fod o wedi cael digon o brofiadau gwych (a chaled) yn rhedeg efo'r tîm. Mae o eisiau rhedeg yn hamddenol o hyn ymlaen. Cafodd ei anafu'n aml yn ei yrfa redeg. Mae'n bryd iddo orffwys ei draed a chymalau truan, nes i'r tymor pêl-droed ddechrau!

Thursday, October 13, 2016

bwrdd arbennig

Prynodd fy merch hynaf fwrdd newydd. Mae o'n hardd ac yn werth miloedd o ddoleri. Ac eto talodd hi ond am gost y pren. Gan garcharorion cafodd ei wneud yn y dosbarth crefft yng ngharchar Lexington sydd ddim yn rhy bell o'i chartref. Cynigir dosbarthiadau i ddysgu amrywiaeth o grefftau i'r carcharorion yno fel byddan nhw'n medru gweithio gyda sgiliau defnyddiol ar ôl iddyn nhw adael y carchar. Clywais eu bod nhw'n awyddus i ddysgu. Cynllun ardderchog sydd yn elwa pawb.

Wednesday, October 12, 2016

mae'r tŷ yn llosgi i lawr

Postiodd fy ngŵr ei farn ar Facebook ynglŷn y sgandal diweddar o gwmpas Trump. Penderfynais ei gyfieithu ar gyfer fy mlog.

"Mae geiriau ffôl Mr. Trump a lefarwyd 11 mlynedd yn ôl yn ddibwys o'i gymharu â'r problemau enfawr mae America'n wynebu: erthyliad, dyled wladol, y Goruchaf Lys, y Cyfansoddiad, troseddau cynyddol, trais, casineb mewn dinasoedd America, terfysgaeth, polisi tramor wan. Mae gan Mr. Trump ddyfalbarhad, dewrder a nerth i wrthwynebu Mrs. Clinton ar y pynciau hyn. Ddylen ni ddim glanhau'n hystafelloedd ni pan fod y tŷ yn llosgi i lawr!"

Cytuno'n llwyr.

Tuesday, October 11, 2016

Monday, October 10, 2016

ŵyr

Daeth fy mab hynaf efo'i wraig a'u babi newydd dros y penwythnos. Roedd dyna'r tro cyntaf i mi weld fy ŵyr cyntaf. Peth bach del ydy o! Ac mae o'n fabi da iawn hefyd. Roedd yn rhyfedd ei ddal o - mae o'n edrych yn debyg i fy mab ond dydy o ddim fy mab. Mwynheais eu hymweliad. Y Nadolig bydd y tro nesaf.

Saturday, October 8, 2016

ymweliad

Cafodd Prifysgol Ozarks ymwelydd arbennig - Ben Carson a anerchodd y myfyrwyr, yr athrawon, y trigolion a oedd yn llenwi'r gampfa ddoe. Roedd fy merch sydd yn mynychu'r brifysgol yn hapus dros ben medru gwrando ar y geiriau doeth gan y dyn doeth. "Dydy'r frwydr ddim yn rhwng y Democratiaid a'r Gweriniaethwyr y dyddiau hyn, ond rhwng y llywodraeth ac ewyllys y bobl. Un o'r pethau mwyaf anfoesol ydy'r polisi sydd yn gorfodi'r bobl i ddibynnu ar y llywodraeth," meddai Carson. Cytuno'n llwyr.

Friday, October 7, 2016

hanes mewn munudau

Mae'r fideo hwn yn dangos hanes Israel mewn modd ofnadwy o ddifyr a chreadigol, ac mewn munudau. Roedd rhaid i mi chwarae ac atal y fideo sawl tro i werthfawrogi'r holl fanylion clyfar. (Roeddwn i'n sylwi bod yr un actorion yn chwarae rhannau gwahanol.) Mae'r swyddog milwrol Seisnig yn arbennig o ddoniol.

Thursday, October 6, 2016

dewis

"Dw i'n caru'r Cyfansoddiad mwy na dw i'n casáu ei ffolineb a'i hunanbwysigrwydd. Bydd gynnon ni gyfle efo Trump, ond na fyddwn ni o gwbl efo Clinton. Dydy peidio â phleidleisio ddim yn ddewis, " medd ffrind oedrannus a oedd un o'r mil Cristion a welodd Trump i ofyn nifer o gwestiynnau yn Efrog Newydd ym mis Mehefin. Wedi'r cwbl arweinydd fyddwn ni'n dewis, nid gweinidog, ac mae yna ond dau ymgeisydd; rhaid dewis un gwell ar gyfer dyfodol America. Mae hi'n annog i'r holl Gristnogion i bleidleisio, a dewis Trump. 

Wednesday, October 5, 2016

eog yn japan

Un o fy merched yn Japan newydd ddechrau blog yn Ffrangeg. Galwodd hithau'n eog oherwydd mai dyna'n enw olaf ni ydy o. Ces i fy nharo unwaith eto gan ei dychymig a defnydd geiriau. Mae'n anhygoel hefyd bod hi'n medru "sgrifennu" Ffrangeg (y medr dw i'n cael hi'n anodd dysgu.) Mae hi'n hynod o brysur ddysgu Saesneg i nifer o bobl bob dydd; gobeithio bydd ganddi amser i bostio'n aml.

Tuesday, October 4, 2016

peli quinoa

Dyma saig newydd sef peli quinoa ar spaghetti. Rysáit Elizabetta ydy hwn. Roedd yn flasus iawn er dylwn i fod wedi defnyddio mwy o saws tomato fel gwnaeth hi. Y tro nesaf. Ddim llysieuwraig ydw i, ond dw i erioed wedi bwyta cig llawer, ac mae gen i lai o chwant cig yn ddiweddar. Dw i'n bwyta mwy o quinoa, ffa, pysgod, tofu ac yn y blaen. Dw i wrth fy modd efo quinoa yn enwedig.

Monday, October 3, 2016

cinio rosh hashanah


Coginiais cinio arbennig i ddathlu Rosh Hashanah ddoe. Wnes i ddim cwrs cyfan ond dewis dau rysáit syml - cyw iâr wedi'i fwydo mewn saws mwstard, yna wedi'i bobi yn y popty; salad cêl efo afal, cnau (roedd angen pomgranad ond doedd dim ar gael); myffins ceirch/afal (ddim rysáit ar gyfer yr ŵyl a dweud y gwir, ond roedden nhw'n dda beth bynnag.) Bydd yr ŵyl yn para nes machlud yr haul yfory.

Sunday, October 2, 2016

blwyddyn newydd dda

L'shanah Tovah 5777!

Mae'r flwyddyn newydd (5777) yn dechrau heddiw (wedi machlud yr haul) yn y calendr Iddewig. Pob bendith i'r holl Iddewon yn y byd. 

Saturday, October 1, 2016

golygfa ogoneddus

Dw i byth yn blino ar yr olygfa ogoneddus yn y bore fel hon. Gan fod y dyddiau'n byrhau bob dydd (un munud bron,) roedd rhaid i mi aros nes 6:50 cyn camu allan o'r drws i fynd am dro'r bore 'ma. (Roeddwn i'n gwisgo het a menig cynnes.) Mae'r lleuad roeddwn i'n ei gweld bob bore wedi mynd i lawr y gorwel dwyreiniol bellach. Hwyl am y tro tan fyddi di'n ymddangos yn y gorllewin eto.