Wednesday, December 28, 2011

dim diolch i'r llew

Fel arfer mae pob system weithredu newydd gan Apple yn ardderchog (fe alla i ddweud hyn er mod i ddim yn deall y cyfrifiaduron yn iawn!) Ond mae Llew, eu diweddaraf yn dal i roi problemau i ni. Mae'n ymddangos bod ein hen gyfrifiadur ni ddim yn gweithio'n iawn efo'r llew. Mae o'n gweithio'n berffaith iawn efo Llewpard Eira. Penderfynodd y gwr newid y system yn ôl at y llewpard. Mae o wrthi ond yn wynebu problem ar ôl y llall. Mae o'n siarad efo staff Apple ar hyn o bryd. Gobeithio y bydd o'n llwyddo. Dw i ddim eisiau colli fy ffeil gan gynnwys y nofelau Kindle a brynais i'n ddiweddar!

Tuesday, December 27, 2011

bisgedi eidalaidd

Ar gyfer pwdin y cinio mawr, mi wnes i grasu bisgedi Eidalaidd o'r enw Mostaccioli. Maen nhw'n debyg i marzipan yn hytrach na bisgedi, a defnyddir sbeisys annisgwyl i fisgedi fel cloves. Roedden nhw'n flasus beth bynnag ac yn wahanol i'r pwdin arferol. Rhoes i hanner ohonyn nhw yn y rhewgell i ni eu mwynhau rywdro arall.

Monday, December 26, 2011

efo'r teulu

Wedi gwasanaeth Nadolig boreol, es i adref ar frys efo'r gŵr i groesawi'r plant a oedd yn dod adref. Cafodd y tŷ distaw ei lenwi unwaith eto efo'r plant a chi fy merch hynaf. Cawson ni gymaint o hwyl yn agor anrhegion. Yna aeth rhai am dro tra oeddwn i'n paratoi twrci a chig moch. Doedd y twrci ddim wedi ei doddi mewn pryd (eto!) Penderfynais i ei rostio fel mae o ond hirach. Ces i ollyngdod mawr pan ddaeth o allan o'r popty wedi'i rostio'n braf. Ar ôl y cinio, gwyliais i ddrama Japaneaidd boblogaidd efo un o'r merched tra oedd y gweddill yn gwylio'r ddrama Americanaidd boblogaidd 24. Roedd yn hanner nos pan ges i gawod sydyn cyn mynd i'r gwely. Wedi blino'n lân ond yn fodlon. 



Saturday, December 24, 2011

                     Nadolig Llawen i chi i gyd!
                 

Friday, December 23, 2011

siom

Roeddwn i'n anghofio siarad am il Volo efo perchennog Napoli's sy'n dod o Sicily pan oeddwn i yno'r tro diwethaf. (Dau o'r tri hogyn yn dod o Sicily fel pawb yn gwybod!) Felly es i yno am ginio heddiw er mwyn ffeindio ydy o'n eu nabod nhw, neu well fyth, ydy o'n perthyn iddyn nhw rhywsut (fel pawb yn perthyn i'w gilydd yn y byd Cymraeg!) 


Roedd y spaghetti primavera'n dda ond roeddwn i'n meddwl am siarad â'r perchennog yn hytrach na am y bwyd tra oeddwn i'n ei fwyta. O'r diwedd daeth amser i dalu, a daeth o at y til. Ond dydy o ddim yn eu nabod nhw; dydy o ddim hyd yn oed wedi clywed amdanyn nhw, ac nhwthau mor aruthrol a phoblogaidd yn y byd! Am siom!

Thursday, December 22, 2011

dw i'n licio giulia

Yn gyntaf, ces i fy synnu pan ddes i at y dudalen sgrifennu Blogger y bore 'ma. Mae popeth wedi newid dros nos! O wel, mae popeth yn newid o dan yr haul.


Dw i newydd ddarganfod y wefan hwylus ac wrth fy modd efo hi, sef Text-to-Speech. Fe gewch chi glywed brawddegau byrion o'ch dewis mewn rhyw ddwsin o ieithoedd amrywiol a siaredir gan bobl wahanol. Wrth gwrs bod yna  Google Translate ond mae ansawdd sain Text yn well na'r llall yn fy marn i. Yn anffodus does dim Cymraeg ond dw i'n ei defnyddio i glywed Eidaleg. Giulia ydy fy ffefryn.

Wednesday, December 21, 2011

canu carolau

Daeth cnocio swnllyd ar ddrws blaen pan oeddwn i wrthi'n coginio swper heno. Agorodd y gŵr y drws a dyma ni'n clywed canu carolau. Pobl ifanc yr eglwys gerllaw a arweiniwyd gan y gweinidog oedden nhw. Cawson ni ddewis o garol arall, a dyma ddewis Joy to the World. Fe ddiflannon nhw yn y tywylloch wedi gorffen canu gan daflu "Merry Christmas" aton ni....

Tuesday, December 20, 2011

pecynnau cinio japaneaidd

Mae llawer o famau Japaneaidd yn hoffi paratoi pecynnau cinio ffansi i'w plant bach. (Roedd fy mam yn rhy brysur am hynny a dw i erioed wedi eu gwneud ar gyfer fy mhlant!) Mae'n siŵr bod nhw'n cael pleser yn rhoi pleser i'w plant a mwynhau creu pethau celfyddydol bron yr un pryd. Ond efallai bod yna elfen o gystadleuaeth ymysg y mamau!

Anwybyddwch yr hysbyseb ar ddechrau'r fideo. Gobeithio bod gynnoch chi fand llydan cyflym.

Monday, December 19, 2011

eira ar werth

Mae gan rywun syniad da yn Hokkaido, yr ynys fawr yng ngogledd Japan. Maen nhw'n stwffio eu heira mewn cesys plastig a luniwyd fel dyn eira, a'u gwerthu nhw am 4,000 yen (£33) yr un. Maen nhw'n boblogaidd iawn yn ardaloedd deheuol fel Tokyo ac Okinawa. Rhaid bod eira Hokkaido'n arbennig. Gobeithio na fydd o'n toddi'n fuan!

Sunday, December 18, 2011

ateb!

Postiais i am y nofel Eidaleg gan Kindle ddyddiau'n ôl. Roedd hi'n hynod o ddiddorol (er mai llofruddiaeth oedd y pwnc!) a defnyddiol. Sgrifennais i at yr awdures felly wedi ei gorffen. A ches i ateb ganddi hi'r bore 'ma! Mae hi wedi sgrifennu nofelau eraill i ddysgwyr; mae un ar fy rhestr anrheg Nadolig at y teulu!

Saturday, December 17, 2011

y diwrod pwysig

Y diwrnod pwysig i bob myfyriwr yn ei flwyddyn olaf ydy hi heddiw, sef y diwrnod graddio. Roedd yna ddwy seremoni er mwyn cymhwyso pawb. Es i efo fy mhlant i'r seremoni am wyth o'r gloch gan fod myfyriwr Japaneaidd sy'n agos aton ni'n graddio. Mae'n braf gweld wynebau'r myfyrwyr sydd wedi cyflawni'r gamp fawr.

Daeth rhai rhieni o Japan ar gyfer yr achlysur. Daethon nhw ag anrhegion i ddiolch i fy ngŵr sydd wedi gofalu am eu plant dros flynyddoedd. Mae gynnon ni bentwr o fwyd blasus Japaneaidd!

Friday, December 16, 2011

nofel ar gyfrifiadur

Dw i wedi prynu nofelau "hawdd" i ddysgwyr Eidaleg, ond maen nhw i gyd yn rhy anodd i mi heblaw rhyw benodau cyntaf fel roedd rhaid i mi roi'r gorau iddyn nhw. Yna, gwelais i un sy'n edrych yn dda, ond mae hi yn ffurf Kindle. Dydy Kindle ddim gen i ond mae'n bosib darllen y rhain ar gyfrifiadur. Felly prynais i hi a dechrau ei darllen ar unwaith. (Dim ond $4 costiodd a heb gost cludo wrth gwrs.)

A dw i'n falch mod i. Mae'r nofel yn arbennig o ddiddorol a digon hawdd i mi ei dilyn. Ac eto roedd yna ddigonedd o eiriau newydd i'w dysgu, a defnyddir ffurfiau gramadeg amrywiol. Mae'n braf cael gweld mewn llyfr go iawn yr hyn a ddysgais i.

Mae'r nofel hon yn fy atgoffa i o fy nofel Cymraeg gyntaf i ddysgwyr a ddarllenais i, sef Cysgod yn y Coed gan Lois Arnold. Ces i'r un argraff ar y pryd; roeddwn i hynod o falch mod i'n cael darllen nofel Cymraeg go iawn fel sgwennais i at yr awdures yn diolch iddi.


Thursday, December 15, 2011

y cwpan

Mae yna fwy na digonedd o gwpanaid te a choffi ar gael mewn siopau, ond roeddwn i'n chwilio am steil arbennig sy'n debyg i un a welais i ar You Tube, a methu ffeindio un. Heddiw galwais i heibio i siop elusen rhag ofn. Hwrê! Roedd cwpan gwyn perffaith ar silff! Dim ond doler costiodd hyd yn oed. Dyma ei brynu ar unwaith a dod â fo adref. Roedd coffi'n arbennig o dda yn y cwpan.

Tuesday, December 13, 2011

bisgedi

Mae fy nwy ferch wedi bod wrthi'n crasu bisgedi i'w ffrindiau'n anrhegion. Fe wnaethon nhw ryw 200. Ân nhw â'r anrhegion i'r ysgol yfory, y diwrnod olaf cyn gwyliau'r Nadolig. Roedd rhaid i mi ddechrau paratoi swper yn hwyrach oherwydd bod y merched yn meddianu'r gegin. Rŵan maen nhw'n gwneud cardiau i fynd efo'r bisgedi. Byddan nhw'n mynd i'r gwely'n hwyr heno.


Monday, December 12, 2011

prynu esgidiau

Prynais i esgidiau cerdded mewn siop leol. Dw i ddim yn prynu pethau i fi fy hun yn aml (wel ar wahân i lyfrau ella!) ond roeddwn i angen pâr sy'n edrych yn dda efo sgert. Pan alwais i heibio i Felt's, ffeindiais i bâr perffaith (maint, lliw, steil.) Ac roedd yr unig bâr gan Hush Puppies ar hanner pris + 10% off. Roedd yr esgid chwith dipyn yn dynn ond dwedodd y siopwr fyddai lledr yn *stretsio. Ces i fo at ei air a phenderfynu eu prynu. Talais i ond $35 gan gynnwys y dreth. Dw i'n teimlo'n dda achos mod i wedi cefnogi siop leol heb sôn am ffeindio bargen. (Gobeithio y bydd y lledr yn *stretsio!)

* Beth ydy'r gair Cymraeg?

Sunday, December 11, 2011

tŷ newydd

Ces i a'r gŵr ynghyd â'r staff eraill wahoddiad i dŷ newydd deon yr adran optometreg p'nawn 'ma. Mae o yng nghanol coedwig ger Afon Illinois. Tŷ hyfryd ydy o efo llyfrgell i'r deon a stiwdio paentio i'w wraig. Does ganddyn nhw blant ond dwy gath sydd gan ystafell eu hun. (Mae gan y deon alergedd cathod.) Does dim llanast o gwbl yn unrhyw le (hollol wahanol i'n tŷ ni!) Ces i amser braf yn sgwrsio efo Patrice, ffrind i mi sy'n mynd i'r Iwerddon yr haf nesa, ac yn sipian gwydraid plastig o win coch blasus o California!

Saturday, December 10, 2011

cwrw gwaethaf

Dw i erioed wedi hoffi cwrw, ond cafodd y gŵr bedair potel fach ffansi efo darluniau canoloesol arnyn nhw'n anrheg. Ces i lymaid i'w flasu a barnu'n syth mai hwn ydy'r cwrw gwaethaf a yfais i erioed er nad ydw i'n arbenigwr cwrw. Mae'n gas gen i wastraffu bwyd (a diod) ond dw i ddim yn mynd i yfed y gweddill.

Friday, December 9, 2011

ben bore'r gaeaf

Y gŵr sy'n mynd â'r plant i'r ysgol yn y bore fel arfer, ond heddiw, y fi a wnaeth tra oedd o'n prysur baratoi'r arholiad terfynol. Ces i weld golygfa aeafol braf wrth yrru.

Yr haul gwan sydd wedi codi ond awr gynt yn cynhesu'r tir yn ara' bach. Does dim gwynt. Mae anadl gwyn y tai'n codi o bob simnai. Y niwl ysgafn sy'n hofran yn isel yn hanner cuddio'r caeau a'r tai.

Roedd yna ddynes a sgrifennodd ryddiaith amser maith yn ôl yn Japan. Sgrifennodd hi am bedwar tymor y flwyddyn; ben bore oedd ei ffefryn y gaeaf. A dw i'n cytuno.


Thursday, December 8, 2011

siôn corn sydd yma

Pan es i i'r lloches i helpu'r bore 'ma, ffeindiais i Siôn Corn. Roedd o'n eistedd o flaen coeden Nadolig a chael tynnu ei luniau efo plant bach y mamau sy'n mynd yno. Roedd o'n gofyn i bob plentyn ar ei liniau gwestiwn sydyn a rhoi anrheg fach. Roedd y plant yn hollol hapus ac eithrio un neu ddau fach fach a chafodd eu dychryn a dechrau crio. Gŵr un o'r staff oedd y Siôn Corn ac un da oedd o.

Wednesday, December 7, 2011

hedfan efo kitty

Mae yna drenau wedi'u paentio efo gartŵns poblogaidd Japaneaidd, ond edrychwch ar beth mae gan gwmni awyren o Taiwan i gynnig: awyren Hello Kitty! Mae gan bob dim (wel bron) ei delwedd hi gan gynnwys bwyd, bratiau'r criw a hyd yn oed y tocynnau! Dw i ddim yn ffan ohoni hi ond mae'n ddiddorol gwybod bod yna rywun sydd wedi gwneud rhywbeth i ddifyrru'r cyhoedd felly.

Tuesday, December 6, 2011

mae hi'n hŷn na fi!

Des i ar draws sylw Saesneg ar fideo il Volo ar You Tube gan ddynes 74 oed. Cafodd hi ei chyfareddu cymaint wrth wrando ar eu caneuon anhygoel nes bod hi'n crio. Dwedodd hi fyddai hi'n eu cefnogi cyhyd ag y sy'n bosibl.

Dw i'n deall yn iawn ei theimladau hi. Dw i'n dal i wrando ar y ddwy gân a brynais i, sef O Sole Mio e Un Amore Così Grande, a dal i gael fy swyno bob tro. Dydy cerddoriaeth erioed wedi bod yn rhan bwysig o fy mywyd, ond mae il Volo wedi newid fy safbwynt. Mi wna i ychwanegu mwy o'u caneuon at fy nghasgliad o dipyn i beth. Gobeithio y byddan nhw'n dal i ganu mor swynol amser hir.

Monday, December 5, 2011

cyngerdd y nadolig

Es i a'r teulu i gyngerdd y Nadolig yn yr ysgol uwchradd heno. Roedd un o fy merched yn canu yn y côr. Aethon ni â chwaer un o'r myfyrwragedd Japaneaidd sy'n ymweld â'i chwaer. Dyma'r tro cyntaf iddi ddod i America. Gan nad oes cymaint i'w weld yn y dref fach hon, roedd hi wedi diflasu ar ôl mynd i Las Vegas yn gynt. Canodd y côr yn arbennig o dda. Mae'r awyrgylch yn hollol wahanol i'r ysgolion yn Japan hefyd. Dw i'n siŵr bod yn brofiad diddorol i'n hymwelydd ni.

fy nghar

Ces i fy nghar yn ôl y bore 'ma ar y 5ed diwrnod ers iddo dorri i lawr. Roedd yn ofnadwy o anghyfleus hebddo gan fod y teulu'n gorfod mynd i bobman ar amser gwahanol. Roeddwn i'n teimlo fel gyrrwr tacsi llawn amser. Hefyd dw i ddim yn hoffi gyrru car mawr fy ngŵr (Ford Explorer.) Dw i'n hoff iawn o fy un bach i sef Ford Focus efo tair Draig Goch arno fo. Mae o'n teimlo fel sgidiau cyfforddus.

Saturday, December 3, 2011

y lleisiau anhygoel

Dw i newydd ddarganfod tri o hogiau Eidalaidd sydd gan leisiau anhygoel. Il Volo ydy enw'r grŵp. Aeth ysgwyd i lawr fy nghefn pan glywais i O Sole Mio ganddyn nhw am y tro cyntaf. Fedra i ddim credu bod lleisiau mor swynol a chyfoeth yn dod o'r hogiau ifanc felly. Dw i wrth fy modd efo nhw yn enwedig Gianluca Ginoble sy'n fy atgoffa i o Elvis Presley. (Dw i ddim yn meddwl mod i'n ffan o Elvis.) Dw i'n hoff iawn o Andrea Bocelli ond rhaid cyfaddef bod llais Gianluca'n fwy deniadol na un Bocelli i mi, ac yntau ond 16 oed!

Friday, December 2, 2011

mikan

Blasus yw'r orennau Japaneaidd (mikan.) Nid dim ond melys ac iach maen nhw; mae'n hawdd dros ben eu plicio. Does angen cyllell na dwylo cryf. Byddai Mam yn gosod basged lawn ohonyn nhw ar ben bwrdd is twym (kotatsu) yn ystod y gaeaf. Bydden ni'n bwyta un neu ddau (neu dri!) bob dydd trwy'r tymor oer. Dw i'n siŵr bod hynny'n fodd da i gael digon o fitamin C.

Mae yna fath o oren sy'n debyg i mikan yma yn yr Unol Daleithiau o'r enw Clementine, ond dydy o ddim cystal o ran blas a hwylustod.

Thursday, December 1, 2011

am ryfedd

Dw i wedi 'cyfarfod' y trydydd Eidalwr sydd ddim yn hoffi pêl-droed. Am ryfedd! Wrth gwrs nad ydy'r hogyn o Chile sy'n aros efo cymydog yn hoffi pêl-droed chwaith ond tenis. Wrth gwrs nad ydy pob Cymro'n canu mewn côr; nad ydy pob Americanwr yn hoffi pêl fas a phêl-droed Americanaidd; nad ydy pob Japaneaid yn hoffi sushi. Ac eto ........