Wednesday, October 31, 2018

dwyn neu dim dwyn?

Mae fy merch hynaf yn gwirioni ar y rhaglen hon - Mr. Kim's Convenience. Mae'r comedi'n datblygu yn siop Mr. Kim ac o gwmpas ei deulu doniol. Un diwrnod mae o'n rhoi gwers sydyn i'w ferch ynglŷn â phwy fyddai'n debygol o ddwyn o'i siop. Mae o'n methu ateb cwestion gymhleth a ofynnwyd ganddi fodd bynnag. Dyma fy merch yn mynd i siop orsaf petrol i greu llun ar gyfer Instagram wrth obeithio y bydd Mr. Kim (sydd yn ei dilyn) yn ei hateb. Dwyn neu dim dwyn? 

Tuesday, October 30, 2018

barod am y gaeaf

Mae'n dal yn gynnes, ond wrth gwrs mai tywydd Oklahoma ydy o. Does wybod pryd bydd yn newid. Mae'n hollol bosib y bydda i'n codi i fore rhewllyd unrhyw ddiwrnod. Does gen i ddim ofn fodd bynnag. Roedd y gŵr a Keith yn gweithio'n galed yr wythnos diwethaf; torron nhw'r darnau coed yn yr iard cefn i logiau, a llenwi'r garej gyda nhw. Ceith ein simnai ni ei lanhau yfory. Dan ni'n barod am y gaeaf.

Monday, October 29, 2018

mwy o awdio

"Rhaid i ti ei ddarllen," meddai fy merch. Sherlock Holmes, mae hi'n ei feddwl. Un o ffefrynnau fy mhlant oedd y gyfres pan oedden nhw'n ifancach. Aeth tri ohonyn nhw i Baker Street yn Llundain hyd yn oed flynyddoedd yn ôl. Mae fy merch yn cyfarwyddo sin byr arall oddi wrth un o storiâu Holmes. Dyma ddechrau gwrando arnyn nhw (yn lle darllen.) Gorffennais ddwy, a dw i wrthi ar y drydedd tra fy mod i'n crosio. Maen nhw'n hynod o hwyl! Does rhyfedd bod y plant wedi gwirioni arnyn nhw. Mae yna ddigon i bara i mi greu hanner dwsin o hetiau.

Saturday, October 27, 2018

rhif dieithr

Dw i byth yn ateb rhifau dieithr er mwyn osgoi galwadau sothach. Ddoe, fodd bynnag, penderfynais ateb un wrth feddwl siarad Cymraeg. Ac felly dechreuais, "s'mae, sut dach chi?" I fy syndod mawr, cwmni lanhau simneiau oedd ar yr ochr arall a oedd eisiau fy atgoffa i am yr apwyntiad yr wythnos nesaf! Roedd y ferch druan mewn penbleth. Troais i'r Saesneg i orffen y sgwrs. 

Friday, October 26, 2018

os yw Duw trosom

Des i ar draws gân wych arall. Un o fy ffefrynnau ydy hi'n barod - "im Elohim itanu"  (os yw Duw trosom,) cân addoli yn Hebraeg gan Jamie Hilsden. Dw i'n hoff iawn o'i ganeuon (a'r caneuon o'r 60au!) Mae'r geiriau'n dod o adnodau'r Rhufeiniaid a'r Cyntaf Ioan:

Os yw Duw trosom, pwy sydd yn ein herbyn? (Rhufeiniaid 8:31)
Y mae'r hwn sydd ynoch chwi yn gryfach na'r hwn sydd yn y byd. (1 Ioan 4:4)

Thursday, October 25, 2018

lliw

Dwedais dro ar ôl tro - yr artist gorau ydy o. Fedra neb arall greu'r fath lliw llachar ond yr Arglwydd ein Duw. 

Wednesday, October 24, 2018

ydyn ni'n ifanc

Ydyn ni'n ifanc - teitl peintiad diweddaraf fy merch

Creodd hi hwn yn barch tuag at y llanciau a'r llancesi sydd yn ymddangos yn hŷn oherwydd yr hyn maen nhw wedi eu gweld. Dydy hi byth eisiau anghofio'r rhain heb wynebau ac enwau, sydd yn cael eu casáu'n aml wrth gludo'r baich trwm. Maen nhw'n ifancach na hi, ac yn ifancach na ni.

Tuesday, October 23, 2018

I'r gad!

Cynhaliwyd rali Trump arall yn Houston ddoe. Tra bod pob rali'n tynnu llu o bobl, roedd y rali neithiwr yn arbennig o boblogaidd - ceisiodd 100,000 pobl am 18,000 sedd yn yr stadiwm. Roedd y gweddill yn ymgasglu tu allan i weld y sgrin fawr. Mae rali Trump yn hynod o hwyl bob tro fel parti enfawr gyda cynifer o bobl yn cefnogi'r Arlywydd Trump yn frwd er gwaethaf ymdrechion caled y prif gyfryngau i wadu hynny. 6 Tachwedd bydd yr etholiad canol tymor. Rhaid i'r Gweriniaethwyr ennill er mwyn cadw America'n rhydd, diogel a llewyrchus. I'r gad!

Monday, October 22, 2018

peth hyfryd annisgwyl

Mae fy nwy ferch yn Japan yn setlo i lawr yn y fflat newydd (yn ara bach gan eu bod nhw mor brysur.) Peth hyfryd annisgwyl ydy gellir gweld Mynydd Fuji ar y gorwel oddi wrth y drws blaen! Rhaid bod yr awyr yn glir wrth gwrs, ond os felly, maen nhw'n cael cip arno fo pan adawan nhw a dônt adref bob bydd. 

Saturday, October 20, 2018

yr het gyntaf

Dyma hi - yr het gyntaf a wnes i. Mae'n gynnes a chyfforddus. Roedd yn hynod o hwyl ei chrosio. Dw i eisiau gwneud mwy. Efallai y bydda i'n gwneud hetiau ar gyfer y bobl sydd yn gorfod mynd drwy'r cemotherapi. Mae yna gynifer o grwpiau sydd yn trefnu rhoddion o hetiau. 

Friday, October 19, 2018

adeilad newydd

Mae fy mab yn gweithio fel un o'r criw adeiladu yn y brifysgol eleni. (Mae pob myfyriwr yno'n gweithio 15 awr yr wythnos ar y campws.) Mae o'n dysgu sgiliau defnyddiol wrth iddo weithio hefyd. Ar hyn o bryd mae'r criw'n codi adeilad newydd i'r adran peirianneg. Astudio peirianneg mae o, ac felly bydd o'n cael astudio yn yr adeilad mae o'n helpu ei adeiladu.

Thursday, October 18, 2018

cinio

Tost caws wedi'i grilio oedd fy hoff fwyd i ginio am hydion, ond yn ddiweddar mae fy agwedd tuag at fwyd wedi newid. Dw i'n hoffi bwyd fegan, er nad ydw i'n ceisio osgoi cig. Hwn a ges i ddoe - bara pwmpen cartref, banana, cnau, hadau llin wedi'u malu, menyn cnau daear naturiol, mêl amrwd. Dydy o ddim yn edrych yn flasus, ond oedd wir!

Wednesday, October 17, 2018

fflamau o ryddid

Aeth y gŵr i College of the Ozarks i weld Flames of Freedomsioe ein merch ni yn cymryd rhan ynddi. Perfformir y sioe gan griw theatr y brifysgol bob blwyddyn ers blynyddoedd, ac roedd ein merch ni ynddi'r llynedd hefyd. Mae hi'n perfformio'r un rhan, sef Ffrances sydd yn helpu milwyr lluoedd y Cynghreiriad, a chael ei saethu i farwolaeth. "Mae'n anodd aros yn llonydd, a pheidio â chrafu neu disian ar ôl i mi farw," meddai hi.

Tuesday, October 16, 2018

fflat yn tokyo

Roedd fy nwy ferch yn Japan yn byw mewn fflatiau gwahanol, ond maen nhw newydd symud i un hynod o braf i fyw efo'i gilydd. Mae yna dair ystafell wely (anodd ffeindio yn Tokyo) ar y llawr uchaf mewn adeilad tal. Mae'r termau'n anhygoel o dda hefyd, diolch i'r perchennog clên sydd yn nabod un o'r ddwy ers blynyddoedd. Mae o'n caniatáu i'r teulu aros yn y fflat, ac felly mae gynnon ni lety braf yn rhad ac am ddim pan fyddwn ni'n ymweld â Japan. Gwell fyth.

Monday, October 15, 2018

cnau hickory

Dydy gwiwerod ddim yn dod at y bwydydd adar ar y dec cefn yn ddiweddar; maen nhw'n prysur gasglu cnau hickory sydd ar gael yr adeg yma. Dw i'n hoffi codi llond llaw yn y gymdogaeth pan fydda i'n mynd am dro, a'u gosod nhw ar y dec. Mae'n ymddangos bod gwiwerod wedi sylwi'r gwasanaeth cyfleus oherwydd bod y cnau'n diflannu'n syth. Mae'n anhygoel bod nhw'n medru cnoi'r masglau ofnydwy o galed.

Saturday, October 13, 2018

tŷ cyfforddus

Mae Dinah, gwiwer ddof fy merch, newydd ffeindio tŷ cyfforddus. Clywodd fy merch sŵn o'r nenfwd, mynd allan, a galwodd, "Dinah!" drwy'r agorfa fach i'r atig. Yna "atebodd Dinah y drws," meddai hi! Yn anffodus, na cheith hi aros yno wrth reswm. Bydd rhaid troi Dinah allan. Gobeithio y bydd hi'n ffeindio lle mor addas.

Friday, October 12, 2018

modd croisio arloesol

Des i ar draws diddordeb newydd, sef crosio. Mae'n hwyl! Dw i'n deall pam fod cynifer o bobl yn mwynhau ei wneud o. Bydda i'n gwrando ar YouTube wrth grosio wrth gwrs. Y broblem ydy bod o'n brifo fy llaw chwith os bydda i'n crosio'n hir. Dyma ddyfeisio modd arloesol - crosio ar y pen-glin! Fedra i ddim crosio'n gyflym, ond dim ots. Does dim brys.

Thursday, October 11, 2018

datrys problem

Bydd fy nwy ferch sydd yn gweithio yn Japan yn dod adref fis Rhagfyr yn ystod eu gwyliau. Dw i a'r gweddill o'r teulu'n llawn gyffro eu gweld nhw am y tro cyntaf ers hydion. Y cwestion mawr ydy lle cawn ni ymgasglu. Teulu enfawr ydyn ni bellach; mae fy mab hynaf angen dwy ystafell wely fel na fydd ei ddau fabi'n deffro ei gilydd yn y nos. Rhentu airbnb ydy'r ateb! Ffeindiodd a bwcio fy merch hynaf dŷ mawr, hyfryd yn Norman. Drwy rannu'r gost, bydd yn hollol resymol. Na fydda i'n gorfod golchi pentwr o dywelion a dillad gwely heb sôn am lanhau fy nhŷ wedi i'r teulu adael. Mae yna gynifer o dai bwyta yn Norman hefyd. Hwre!

Wednesday, October 10, 2018

hwyl fawr i nikki

Hynod o drist clywed bydd Nikki Haley yn ymddiswyddo fel Llysgennad i'r Cenhedloedd Unedig. Wrth sefyll yn gadarn ar yr egwyddor, roedd hi'n brwydro'n ddewr yn erbyn yr anghyfiawnder yn y sefydliad gwarthus, ac wedi llwyddo i ddylanwadu eu penderfyniadau. Bydd yn anodd i neb lenwi ei hesgidiau sodlau uchel.

Tuesday, October 9, 2018

hwyl fawr i miss page

Bydd Miss Page yn symud i Minnesota. Ces i a'r gŵr ginio bach efo hi ynghyd â rhai ffrindiau mewn tŷ bwyta. Roedd Miss Page yn byw yn y dref yma am flynyddoedd ers iddi ymddeol fel cenhades yn Ffrainc. Daeth yma i ofalu am ei rhieni oedrannus yn y cartref henoed, ond wedi iddyn nhw farw, penderfynodd hi symud yn ôl i'w thref enedigol yn y gogledd. A hi a ddysgodd Ffrangeg i fy merch. Bydd yn rhyfedd yn yr eglwys hebddi hi. Gyda llaw, ces i ostyngiad i'r henoed am y tro cyntaf!

Monday, October 8, 2018

cyfiawnder

Mae gynnon ni Brett Kavanaugh yn y Llys Goruchaf. Roedd o a'i deulu druan yn gorfod dioddef erledigaeth erchyll anghredadwy ers iddo gael ei enwi gan yr Arlywydd Trump wythnosau'n ôl. Hynod o falch nad ydy o wedi tynnu'n ôl, ond sefyll yn gadarn a dewr. Tywalltwyd cawod o weddïau arno fo a'i deulu drwy gydol y frwydr. Cyfiawnder a enillodd. Pob bendith iddyn nhw.

Saturday, October 6, 2018

athen a sparta

Dechreuais grosio het beanie. Dw i ddim yn cofio faint o weithiau dw i wedi ei dadwneud. Mae'n drist, ond dw i'n dysgu rhywbeth bob tro (gobeithio.) Nid gwastraff amser ydy hyn beth bynnag oherwydd fy mod i'n gwrando ar awdio wrth grosio. Dw i newydd ddarganfod gwersi rhydd ar lein ar amrywiol o bynciau a gynnigir gan Goleg Hillsdale. Dewisais y wers ar Athen a Sparta. Gobeithio y bydda i'ngwisgo'r het hon erbyn diwedd y wers.

Friday, October 5, 2018

lliwiau

Yr artist gorau ydy Duw. Mae o'n gwybod sut i gymysgu lliwiau’n berffaith. Does ryfedd wrth gwrs gan mai fo a greodd nhw wedi'r cwbl. Ac eto, bydda i'n cael fy nghyfareddu tro ar ôl y llall pan welaf natur ogoneddus. Gobeithio bod pobl eraill wedi gweld y lliwiau anhygoel y bore 'ma. (Yn anffodus, mae fy ffôn yn rhy hen i gipio'r harddwch.)

Thursday, October 4, 2018

cadw'n heini

Mae'r gŵr yn mynd i gym y brifysgol teirgwaith bob wythnos am chwech o'r gloch bob bore. Gwelodd o ddwy fyfyrwraig optometreg y bore 'ma wrthi'n beicio, tra bod nhw'n astudio! Mae myfyrwyr optometreg yn gorfod astudio'n anhygoel o galed o'r bore cynnar tan yn hwyr yn y nos. Mae'n amlwg bod y merched hynny'n benderfynol o gadw'n heini er gwaethaf popeth!

Wednesday, October 3, 2018

fox news

Yn ymysg dadlau llosg amrywiol yn America, daeth Fox News i College of the Orzarks (lle mae fy nau blentyn yn dysgu) y bore 'ma er mwyn darlledu'n fyw. Mae'n hynod o adfywiol clywed pobl ifanc yn siarad gyda chymaint o synnwyr. Fel dywedwyd yn y fideo, hwn ydy America go iawn!

Tuesday, October 2, 2018

cyfweliad teledu

Cafodd fy mam ei chyfweld gan BS Asahi (gorsaf teledu.) Roedden nhw eisiau iddi adrodd ei hanes pan oedd hi'n gweithio i Gajoen, gwesty adnabyddus yn Japan bron i 80 mlynedd yn ôl. Cododd hi'n gynnar y diwrnod i dacluso ei fflat; golchodd hi wal y gegin hyd yn oed, a hithau ar gadair olwyn y rhan fwyaf o'r amser! Gwisgwyd mewn dillad ffasiynol, croesawodd hi'r criw ac adrodd ei hanes heb fymryn o ofn na swildod! Dw i'n llawn edmygedd.

Monday, October 1, 2018

yn y dechreuad

Wrth i Ŵyl Sukkot ddirwyn i ben, dechreuir darllen drwy'r Tora bob blwyddyn. Mae'r Beibl yn cael ei rannu'n benodau bellach, ond yn y dechrau rhannwyd y Tora, sef pum llyfr cyntaf y Beibl mewn cyfrannau (parasha/parashot yn Hebraeg.) Mae Coleg Beibl One for Israel wedi gwneud fideos er mwyn eich helpu i ddeall y Tora o safbwynt Israeli Meseianaidd. Dw i'n bwriadu darllen gyda nhw. Dyma'r parasha cyntaf ar gyfer yr wythnos hon.