Friday, May 31, 2019

sgwrs saesneg sydyn

Mae gan fy nhrydedd ferch olwg hollol Japaneaidd, ac mae ei henw hi ar y wisg yn Japaneg hefyd, ac felly dydy neb, sydd yn dod i'r siop goffi lle mae hi'n gweithio ynddi, yn sylweddoli bod hi'n hanner Americanaidd. Dechreuodd cwsmer siarad â hi, fodd bynnag, a darganfod ei hanes. Roedd o'n arfer byw yn America am gyfnod, a dyma fo'n mwynhau sgwrs gyda hi, cyfle braf i ddefnyddio ei Saesneg mae'n debyg. Dymunodd y cwsmer orau iddi cyn gadael.

Thursday, May 30, 2019

yn samaria

Mae fy merch a'i grŵp wedi symud i Samaria (a elwir yn West Bank) yn ymweld â Phrifysgol Ariel, ffatri, a chyfarfod mwy o bobl leol. Gwelon nhw rai merched Iddewig ac Arabaidd yn chwarae pêl-fasged gyda'i gilydd yn gyfeillgar. (Maen nhw'n fedrus iawn, meddai fy merch.) Mae'r merched Arabaidd yn cael eu beirniadu'n llym am y cyfeillgarwch gan eu pobl yn anffodus. 

Wednesday, May 29, 2019

yr hen broblem

Falch o weld bod Cardinals yn mynychu'r bwydwr adar newydd. Mae'n hwyl eu gweld nhw'n bwydo'n fodlon. Yna, dechreuodd yr hen broblem eto, sef gwiwerod. Maen nhw'n medru neidio o'r rheilen at y bwydwr, neu ddringo'r polyn haearn i'w gyrraedd. Roedd rhaid i mi ddyfeisio rhwystr (heb wario pres.) Daeth Yoni. Pan welodd o'r bwydwr, roedd o mewn penbleth. Wedi meddwl braidd yn hir, aeth i ffwrdd heb roi cynnig arno.

Tuesday, May 28, 2019

yn jerwsalem

Mae fy merch yn Jerwsalem! Mae'n anhygoel! Mae hi ynghyd â'r grŵp yn prysur fynychu darlithiau a chyfarfod y bobl leol bob dydd. Mae'r bwyd yn hynod o flasus hefyd fel disgwyliwyd. Byddan nhw'n cyfarfod rhai gwleidyddion yn ochrau'r chwith a'r dde heddiw (nid y Prif Weinidog Netanyahu, yn anffodus!)

Monday, May 27, 2019

tatws a menyn i'r arlywydd

Falch o weld bod yr Arlywydd Trump a Mrs. Trump wedi cael amser gwych yn Japan. Cyfarfod yr ymerawdwr a'r ymerodres newydd oedd y prif amcan, ond roedd o wedi gwneud llawer mwy fel y gwelir yn y newyddion. Un o'r prydau a gafodd yn y tŷ bwyta oedd giagabata (tatws a menyn) yn ôl erthygl, ond mae'n edrych fel tatws wedi'u ffrio. Byddai fy niweddar ewythr, a oedd yn rhedeg tŷ bwyta, fod wedi coginio'r giagabata gorau yn Japan i'r Arlywydd.

Saturday, May 25, 2019

siwrnai i israel

Mae fy merch hynaf yn gadael am Israel heddiw ynghyd â grŵp Prosiect Philos. Byddan nhw'n mynychu cynadleddau, darlithiau, a mynd ar wibdeithiau yn Israel ac yn Iorddonen wrth gymdeithasu gyda'r bobl leol. Edrycha' i ymlaen yn fawr at glywed newyddion ganddi hi o Dir Sanctaidd.

Thursday, May 23, 2019

rhaid eu hamddiffin

Bydd yr Arlywydd Trump a Mrs. Trump yn ymweld â Japan ddydd Sadwrn ymlaen am bedwar diwrnod i roi parch i'r ymerawdwr newydd. Mae llywodraeth Japan wrthi'n gwneud siŵr y byddan nhw'n hollol ddiogel. Un o'r digwyddiadau ar yr amserlen ydy gweld y twrnamaint sumo. Gan fod y cwpl ynglŷn â'r Prif Weinidog Abe a'i wraig eisiau eistedd ger y cylch yn hytrach na ar y seddau arbennig i VIP, bydd angen mwy o ofal; rhaid eu hamddiffin rhag clustogau hedfanog! Mae'r gynulleidfa sumo yn tueddi i daflu clustogau at y cylch pan fydd yokozuna (y pencampwr) yn colli!

Wednesday, May 22, 2019

newid

Cafodd fy merch newydd raddio swydd yn sydyn. Bydd hi'n symud y penwythnos 'ma. Roeddwn i'n rhyw feddwl y byddai hi'n aros adref dros yr haf. Dyma ni'n ddau, fi a'r gŵr yn ôl at y nyth wag unwaith eto. Daw'r mab ifancaf adref o'i waith haf ym mis Awst cyn iddo ail gychwyn y brifysgol. Bydd fy merch hynaf yn mynd i Israel ddydd Sadwrn, ac yn aros yno am bythefnos.

Tuesday, May 21, 2019

tebot

Ces i 20 doler yn anrheg gan un o fy mhlant. Mae'n bob tro anodd i mi ddewis beth i'w brynu. Efallai mwg coffi arall? Na, mae gen i fwy na digon yn y cwpwrdd. Yn y diwedd, penderfynais brynu tebot Japaneaidd gan fy mod i'n yfed te wedi'i rostio bob dydd yn ddiweddar. (Dw i'n defnyddio cwpan mesur rŵan.) Edrych ymlaen!

Monday, May 20, 2019

hael


Dyma fo, y murlun diweddaraf fy merch. Bountiful ydy'r teitl. Mae hi eisiau iddo ysbrydoli pawb i fwyta'n iach, (ar wal tŷ bwyta mae'r murlun) wrth gofio bod bwyd iach yn gwella nifer o afiechydon.

Saturday, May 18, 2019

pam wir

Pam na ydych chi'n cefnogi Israel? Mae yna gynifer o resymau, fel esbonnir gan Stephen Harper, cyn prif weinidog Canada. Maen nhw i gyd yn gwneud synnwyr.

Friday, May 17, 2019

anrheg wych

Wedi cael dec cefn newydd, doeddwn i ddim eisiau ail-osod bwydwr aderyn rhag i'r adar wneud llanast arno fo. Roeddwn i'n teimlo tipyn yn drist wrth eu clywed nhw'n ofyn am fwyd (dw i'n meddwl!) Dyma'r gŵr brynu bwydwr newydd sydd yn hongian o'r rheilen yn anrheg Sul y Mamau i mi! Daeth Cardinal bum munud yn ddiweddarach. Mae o a'i wraig yn mynychu'r bwydwr drwy'r ddydd bellach. Fedra'r gwiwerod ddim dwyn yr hadau oddi wrth y bwydwr hwnnw chwaith. 

Thursday, May 16, 2019

ar ei phengliniau

Mae fy merch hynaf wrthi'n creu murlun yn Virginia tra bod y glaw'n bygwth difetha'r paent o bryd i'w gilydd. Rhaid iddi weithio ar ei phengliniau'n hir hefyd. Mae angen clustog arni hi, un tebyg a ddefnyddiwyd gan Mrs. Elton wrth iddi gasglu mefus yng ngardd Mr. Knightley.

Tuesday, May 14, 2019

graddio

Graddiodd fy merch arall o College of the Ozarks ddydd Sul. Es i a'r rhan o'r teulu i ddathlu'r achlysur arbennig. Yn annhebyg i rai prifysgolion eraill, dylai'r myfyrwyr yno ymdrechu yn ofnadwy o galed yn astudio tra bod nhw'n gweithio ar y campws. Wedi goroesi'r bywyd caled, cyflawnodd fy merch ynghyd â rhyw 300 eraill gamp enfawr. Mae hi eisiau gweithio yn y diwydiant ffilm Gristnogol yn y dyfodol. (y llun: fy merch a'i nai)

Saturday, May 11, 2019

gŵyl murlun arall

Cynhalir gŵyl murlun yn Virginia Beach o heddiw ymlaen am ddeg diwrnod. Bydd deg artist yn creu murluniau ar lefydd gwahanol drwy'r ddinas. Bydd fy merch yn paentio wal Esoteric, tŷ bwyta lleol.

Thursday, May 9, 2019

gwyrthiau


Dim ond gwyrthiau Duw a ddaeth â'i bobl 71 mlynedd yn ôl at y tir a roddodd i'u hen dadau. Ffyddlon ydy o. Bydd o'n cyflawni'r hyn a addawodd, heb fethu, heb oedi, ar ei amser perffaith. Mae Israel wedi dychwelyd yn gorfforol bellach; byddan nhw'n dychwelyd at eu Duw hefyd fel addawyd ganddo. Pen-blwydd hapus i Wladwriaeth Israel.

Wednesday, May 8, 2019

tomoe gozen


Mae fy merch newydd orffen murlun arall, mewn tŷ bwyta yn Oklahoma City. Cafodd ei hysbrydoli gan Tomoe Gozen, yr unig ryfelwr menywaidd o fri yn hanes Japan (mae rhai'n dweud mai chwedl oedd hi.) Mae'r murlun yn anhygoel o wych. Dwedodd perchennog y tŷ bwyta nad ydy o'n medru atal ei edmygu. Does ryfedd.

Tuesday, May 7, 2019

ffrwyth

Es i at yr unig goeden geirios yn y gymdogaeth hon tra oeddwn i'n mynd am dro. Swrpreis! Mae hi'n dwyn ffrwyth! Doeddwn i ddim yn sylweddoli hyd at heddiw. Dydy o ddim yn edrych fel ceirios a dweud y gwir, ac mae o'n prysur bydru, ond ffrwyth mae o. Druan o'r goeden; dydy neb yn rhoi cip arni tra bydd hi'n llawn o flodau hyd yn oed, dw i'n siŵr. Y fi sydd yma, coed druan.

Monday, May 6, 2019

penbleth

Dw i mewn penbleth. Dw i eisiau defnyddio ffa du i swper, ond mae yna gynifer o ryseitiau fegan gwych dw i eisiau eu profi fel na fedra i ddewis un - burrito, byrger, salad, saws pasta, a mwy! Ac wrth gwrs, mae yna gynifer o lysiau i fynd efo'r ffa hefyd. Dydy'r gŵr ddim yn rhy hoff o brydau fegan, ac felly fedra i ddim coginio ffa bob dydd. Mae'n ofnadwy o anodd! 

Friday, May 3, 2019

yn y siop de

Aeth ffrindiau fy merch yn Tokyo i'r siop de lle mae hi'n gweithio, a chael y llun ohoni hi wrthi'n gweini. Dw i'n ddiolchgar iddyn nhw oherwydd mai am y tro cyntaf i mi a'r teulu ei gweld hi yn y gweithle! Mae hi yn y gegin y rhan fwyaf o'r amser yn ddiweddar, ond weithiau mae hi'n gweini wrth y bwrdd hefyd.

Thursday, May 2, 2019

drws rhyfedd

Drws i Narnia! Dyna beth a ddwedais a'r teulu wrth weld y llun a bostiwyd gan fy mab hynaf. Mae yna ddrws rhyfedd ar y wal o gwmpas ei dŷ yn Texas. Mae o'n arwain at goedwig tu hwnt. Mae ei fabis wrth eu bodd i fynd drwyddo a mwynhau'r natur, Narnia neu beidio.

Wednesday, May 1, 2019

reiwa

1af Mai - mae oes newydd newydd gychwyn yn Japan. Wrth i'r ymerawdwr newydd esgyn i'r orsedd, dechreuodd oes Reiwa (harmoni hardd) yn swyddogol. Dymuniadau gorau iddo ac i'r ymerodres.  

y llun: Llysgenhadaeth Japan yn Unol Daleithiau America