Tuesday, November 30, 2010

toy story 3 eto

Darllenais i'r adolygiad hwn gan Lowri Haf Cooke, fy hoff adolygwraig y bore 'ma. Fedra i ddim cytuno â hi ynglŷn â'i beirniadaeth am 'Up' gan fy mod i heb weld y ffilm. Ond roedd yn bleser i mi ddarllen ei hadolygiad medrus.

Falch o wybod nid dim ond fi a oedd yn mopio dagrau ar lawes hir crys!

Monday, November 29, 2010

toy story 3

Doeddwn i ddim yn bwriadu gwylio'r DVD hwn pan ddechreuodd y plant ei wylio a dweud y gwir. Ond wrth i mi roi cip neu ddau ar y sgrin o bryd i'w gilydd, ces i fy nenu i'r stori ddiddorol a'r graffig cyfrifiadur anhygoel; roedd rhaid i mi ei wylio'r cyfan yn y diwedd.

Byddwn i'n dweud mai hon ydy un o'r ffilmiau gorau a welais i erioed. Mae'r stori'n dda; mae hi'n cynnwys elfennau o ffyddlondeb, dewrder, trugaredd, hunan aberth - rhinweddau gwerthfawr ac eto prin yn y byd cyfoes. Mae'r graffig cyfrifiadur diweddaraf yn benigamp hefyd. Roedden ni i gyd yn chwerthin a chrio. Gadawodd y ffilm rywbeth cynnes yn fy nghalon. Fe ro' i bum seren.

Totoro ydy un o'r teganau!

Saturday, November 27, 2010

y cinio mawr


Cafodd pawb (wel bron) yn UDA eu cinio mawr ddydd Iau ond ni. Ddydd Gwener ydyn ni'n ei gael oherwydd bod fy merch hynaf a'i gŵr yn dod aton ni ar ôl cael cinio gyda 'u teulu draw ddydd Iau.

Fe wnaethon ni wahodd tri o fyfyrwyr o Fietnam eleni. Daethon nhw i'r brifysgol leol bum mis yn ôl a dyma'r tro cyntaf iddyn nhw brofi cinio Gŵyl Ddiolchgarwch Americanaidd. Cymerodd yn hirach i goginio'r twrci na'r disgwyl, ond aeth popeth yn iawn fodd bynnag. Roedd yn ddiddorol siarad â'n gwesteion a chlywed am eu gwlad. Doeddwn i ddim yn gwybod bod yna draeth hardd sydd ddim yn annhebyg i Hawaii. Mae cartŵn Japaneaidd yn boblogaidd acw, medden nhw. Gan ei bod hi'n gynnes yno trwy'r flwyddyn, maen nhw'n dioddef o'r oerni yma, a hithau wedi bod yn hydref mwyn dros ben. Roedd un o'r myfyrwragedd wrth ei bodd yn trio kimono am y tro cyntaf.

Tuesday, November 23, 2010

gwaed y gwanwyn

Dyma'r tro cyntaf i mi ddarllen llyfr gan Gareth F. Williams. Dewisais i hwn (ar gyfer oedran uwchradd) yn hytrach na "y Ddwy Lisa" a gafodd ei adolygu ar wefan BBC.

Ces i fy nhynnu i mewn i'r stori o'r dechrau; anodd oedd ei roi i lawr gan fy mod i am wybod beth ddigwyddai nesa. Er bod disgrifiad y trosedd erchyll dipyn yn rhy liwgar i mi, ces i fy rhyfeddu at grefft yr awdur yn adrodd y stori. Mae ganddo ffordd ffraeth o ddisgrifio pethau cyffredin hefyd. Dyma fy hoff adroddiad am ferch dew: mae yna 'chydig bach mwy ohoni hi na dyla fod.

Rŵan dw i'n aros am y chwech o lyfrau eraill a archebais i'n ddiweddar.




Thursday, November 18, 2010

o san francisco



Mae'r gŵr yn mynychu cynhadledd optometreg arall ar hyn o bryd, yn San Franciso y tro hwn. Fel arfer does ganddo amser i wneud llawer ond bod yn neuadd fawr y gwesty trwy'r dydd. Gyrrodd ychydig o luniau fodd bynnag a dynnodd o gwmpas y ddinas wrth gerdded - y bont enwog a'i hoff siop.

Wednesday, November 17, 2010

y gwalch, yr inc a'r bocsys

Dw i wedi darllen llyfrau i blant gan Myrddin ap Dafydd a rhai eraill gan Wasg Carreg Gwalch, ond heb sylweddoli mai ef a sefydlodd y wasg ym 1980. (Prynais y llyfr hwn gan gwmni arall.) Yn y llyfr, mae Myrddin yn adrodd sut dechreuodd y busnes yn Llanrwst a sut mae e wedi ei ddatblygu wrth gydweithio gyda'i deulu, ffrindiau a'r bobl leol hyd yma. Er bod technoleg argraffu wedi newid llawer yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, dydy ei frwdfrydedd ac ymroddiad tuag at lyfrau Cymraeg ddim.

Es i i'w wefan yn syth wedi gorffen y llyfr ac archebu pedwar gan gynnwys bargen wych!

Saturday, November 13, 2010

ras 5 cilomedr



Cafodd Ras 5 Cilomedr flynyddol a drefnwyd gan fyfyrwyr Ysgol Optometreg ei chynnal am 9 o'r gloch y bore 'ma. Roedd 400 o bobl leol, o bob oed yn cymryd rhan eleni. Yr enillydd oedd dyn ifanc (wrth reswm!) a groesodd y llinell tua 17:30 o'r dechrau. Roedd rhai'n cerdded yr holl ffordd gyda'u blant yn mwynhau diwrnod braf. Y rhedwr hynaf oedd 77 oed!

Thursday, November 11, 2010

gorymdaith




Mae hi'n Veterans Day heddiw yn yr Unol Daleithiau. Fel nifer mawr o lefydd eraill dros y wlad, mae'r dref hon yn cynnal gorymdaith bob blwyddyn. Ymunais i'r trigolion eraill i anrhydeddu'r veterans lleol. Roedd gryn dipyn o dyrfaoedd ar ddwy ochr y stryd fawr gan gynnwys plant yr ysgolion. Cyfrannodd bandiau pres, injans tân a cheffylau i fywiogi'r achlysur.

Wednesday, November 10, 2010

pot lwc ysgol optometreg


Mae'n ymddangos nad ydw i'n ysgrifennu ond am fwyd a phêl-droed yn ddiweddar. Am fwyd mae'r post hwn eto beth bynnag.

Dw i newydd ddod yn ôl o bot lwc yn Ysgol Optometreg. (A dw i'n llawn dop!) Maen nhw'n cynnal un cyn yr Ŵyl Ddiolchgarwch bob blwyddyn. Roedd yna bentwr o gig twrci, cig moch, llysiau, salad, bara a phob math o bwdin. Anodd oedd dewis.

Eisteddais i a'r gŵr wrth y doctor arall a oedd ar y tîm pêl-droed. Trodd ein sgwrs ni i gyfeiriad naturiol, sef y gêm gynderfynnol. Yn anffodus, doedd e ddim yn medru chwarae'r gêm olaf oherwydd ei fod e'n darlithio ar y pryd. Penderfynon ni fyddai rhaid i ni wneud yn well y flwyddyn nesa!

Monday, November 8, 2010

sam & ella's (eto!)



Mae'r tŷ bwyta poblogaidd hwn yn cael ei ystyried yn un o'r goreuon yn y dalaith yn ôl y cylchgrawn Oklahoma. Blasus dros ben ydy eu pitsas heb os.

Es i a'r teulu i Sam & Ella's eto neithiwr i ddathlu pen-blwydd un o'r teulu. Roedd y ddau bitsa trwchus gyda haenau o leisiau, cig a chaws yn anhygoel o dda. Cawson ni weld y cogydd yn paratoi crystiau gan eu taflu nhw i fyny'n fedrus sawl tro.

Sunday, November 7, 2010

barod am dywydd mawr


Mae'n braf bod gynnon ni nifer o goed o gwmpas ein tŷ ni oni bai am y ffaith y gallan nhw fod yn fygythiad i'r tŷ mewn tywydd mawr. Yn ystod y storm rew ddiwethaf, syrthiodd canghennau wedi'u rhewi'n gorn ar doeau ac achoson nhw gymaint o ddifrod yn y dref hon. Cafodd ein prif linell drydan ei thorri hefyd, a chostiodd gannoedd o ddoleri i'w thrwsio.

Wrth weld pa mor gyflym mae ein coed yn tyfu, penderfynodd y gŵr dorri rhai canghennau oedd yn cyffwrdd y to. Rhaid cael torri rhai mawr gan Kurt, ein handy-man cyn gynted a bo modd.

Saturday, November 6, 2010

seremoni got wen



Seremoni bwysig i fyfyrwyr optometreg ail flwyddyn yw Seremoni Got Wen. Byddan nhw'n dechrau gweld cleifion y tymor nesa o dan oruchwyliaeth eu hathrawon. Pwysleisiodd un o'r athrawon yn ei haraith mai symbol cyfrifoldeb, nid rhagorfraint yw'r got wen. Achlysur i ddathlu, fodd bynnag, am lwyddiant y myfyrwyr oedd y seremoni ddoe.

Cymerais i ran o'r dathliad i weld y ddau a oedd hefyd yn chwarae pêl-droed yn y tîm; Nat, ein chwaraewr gorau ac Aaron, ein golwr medrus.

Friday, November 5, 2010

diwedd hapus



Chwaraeodd y tîm optometreg y gêm olaf ddoe (y rownd gynderfynnol!) Yn erbyn y tîm cryfaf (Samrai Blŵ, sef y tîm Japaneaidd) wnaethon nhw chwarae. Collon ni o 3 - 2 ond roedd ein hogia'n gwneud yn well o lawer na'r disgwyl. Doedd neb yn disgwyl gweld gêm agos a dweud y gwir gan ystyried pa mor gryf ydy Samrai Blŵ. (Cafodd un ohonyn nhw ei sgowtio gan J.League!) Daeth griw o fyfyrwraig optometreg i gefnogi'n tîm, a chawson ni i gyd prynhawn cyffrous a chofiadwy.

Thursday, November 4, 2010

y wers fwyaf

"The biggest lesson that the Democrats can take from this electilon, and the Republicans had better learn it as well, is that no party can govern against the will of the people." - Mike Huckabee


Wednesday, November 3, 2010

neges i obama

Gyrrodd pobl UDA neges glir i Arlywydd Obama bod nhw'n anhapus gydag ef a'r llywodraeth ffederal. Gobeithio byddan nhw'n gwrando arni. Roedd y bobl a etholodd e ddwy flynedd yn ôl eisiau newid, ond newid da.