Wednesday, January 31, 2018

noson lawen

Gwrandawais efo'r gŵr ar araith yr Arlywydd Trump neithiwr yn eiddgar. Roedd yn barti enfawr hapus! Cyflawnwyd cynifer o bethau pwysig dan ei arweinyddiaeth ar gyfer bobl America mewn blwyddyn. Mae bywydau'r bobl wedi gwella, ac mae ysbryd cadarnhaol a gobeithiol yn eu mysg. Ac felly roedd yn anghredadwy gweld y rhan fwyaf o'r Democratiaid yn edrych yn ddig yn ystod y noson lawen. Edrycha' i ymlaen at weld beth fydd yr Arlywydd yn ei gyflawni eleni.

Tuesday, January 30, 2018

chef john

Dw i ddim yn gweld fideo coginio yn Saesneg yn aml oherwydd fy mod i eisiau dysgu ieithoedd eraill ac ennill gwybodaeth ar yr un pryd. Des i ar draws fideos Chef John, fodd bynnag a dw i wrth fy modd efo fo! I gychwyn, mae ganddo lais anhygoel o braf; mae o'n ddoniol heb fod yn gas; mae o'n esbonio popeth mewn modd hynod o glir heb wastraffi amser yn adrodd hanes personol diflas fel rhai eraill. Da iawn ydy ei ryseitiau beth bynnag. 

Monday, January 29, 2018

sganiwr

Mae'r gŵr newydd brynu sganiwr sydd yn medru sganio sleidiau, lluniau a negatifau. Mae o'n gweithio’n hynod o dda a throi'n ein hen luniau gwerthfawr ni sydd yn prysur ddirywio i ffurf electronig. Dyma un o'r lluniau, sef llun ohonof i yn gwisgo kimono ffansi efo'r teulu ar achlysur Shichigosan, yr ŵyl Japaneaid ar gyfer y plant sydd yn saith, pump a thair blwydd oed.

Saturday, January 27, 2018

cofio

Diwrnod Cofio'r Holocost
Dywedir "byth eto," ond mae'n ymddangos nad ydy'r byd wedi dysgu gwersi; mae gwrth-semitiaeth ar y cynnydd eto, mewn ffurf uniongyrchol neu gael ei guddio fel gwrth-Israel. Rhaid cofio beth ddwedodd Duw, "Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau'r ddaear."

Friday, January 26, 2018

salmau 121

Roedd yn edrych yn anobeithiol pan ddechreuais ddysgu Salmau 121 (mewn ffurf cân) yn Hebraeg ar gof wythnosau'n ôl. Mae'r geiriau'n hynod o debyg i'w gilydd fel roeddwn i'n cael fy nrysu'n ofnadwy. Ces i fy nhemtio i feddwl byddai'n amhosib ei ddysgu. Daliais ati, fodd bynnag wrth anwybyddu'r llais bach negyddol. Dw i wedi llwyddo o'r diwedd. Hwrê! 

Thursday, January 25, 2018

yr ail gwis

Dw i newydd orffen yr ail gwis ar gwrs daearyddiaeth Feiblaidd. Ces i 75%. Doeddwn i ddim yn nerfus y tro 'ma, ac yn medru ateb cwestiynau (a dyfalu rhai atebion) yn llonyddwch. Hynod o anodd ydy'r cwrs, ond mae o'n fy ngwthio i weithio'n galed. Yn y cyfamser, dw i'n meddwl fy mod i'n dysgu nifer o bethau.

Wednesday, January 24, 2018

coffi da

Prynais goffi Black Rifle - Just Black i fi, Inert (heb gaffein) i'r gŵr a Freedom Blend i ffrind yn anrheg. Dw i newydd wneud y paned cyntaf - blasus iawn, ysgafn heb fod yn sur. Mae'r cwmni'n cael ei redeg gan gyn milwyr, ac eith rhan o'r elw i helpu rhai eraill sydd yn cael hi'n anodd yn ariannol. 

Tuesday, January 23, 2018

ym mhrif ddinas israel

Wedi ymweliad llwyddiannus, gadawodd yr Is Lywydd Pence Israel. Wrth glywed ei gariad mawr a chefnogaeth ddidwyll tuag at Israel a'i bobl yn ei annerch yn Knesset, roeddwn i'n teimlo'n hapus dros ben. Da iawn fo yn ail adrodd y cyhoeddiad hanesyddol, sef "Jerwsalem ydy prif ddinas Israel" - ffaith amlwg ond doedd neb yn ddigon dewr ei adnabod yn gyhoeddus heblaw'r Arlywydd Trump. 

Monday, January 22, 2018

dim ond yn japan

Dydy hi ddim yn bwrw eira'n aml yn ardal Tokyo fel arfer er bod hi'n bwrw llawer yn y gogledd ac ar ochr Môr Japan. Cafodd y drafnidiaeth ei effeithio'n arw  felly pan welodd Tokyo 20 centimedr o eira ddoe. Ceisiodd y bobl fynd adref yn gynnar, a chreodd dagfeydd ofnadwy mewn nifer o orsafoedd trên. Roedd fy merch yn y dyrfa, ond dwedodd fod pawb yn aros heb gwyno na chynhyrfu. Dim ond yn Japan!

Saturday, January 20, 2018

un flwyddyn

Yr union flwyddyn yn ôl, newidiodd yr Unol Daleithiau eu cyfeiriad. Yn ystod y flwyddyn mae'r Arlywydd Trump wedi cyflawni cymaint o bethau dros ei wlad a'i bobl er gwaethaf pawb a phopeth. Mae America'n gryfach yn economaidd ac yn filwrol; mae llai o fewnfudwyr anghyfreithlon, llai o ddiweithdra; mae mwyfwy o bobl yn dangos parch tuag at eu gwlad ac egwyddor Americanaidd. Caeodd y Democratiaid y llywodraeth ar y diwrnod pen-blwydd oherwydd nad oedden nhw'n cael beth maen nhw ei heisiau. Mae'r Arlywydd Trump yn bwrw ymlaen o hyd ac o hyd ar gyfer pobl America er gwaethaf pawb a phopeth.

Friday, January 19, 2018

murlun yn y tir sanctaidd

Mae fy merch hynaf yn dal i gynhyrchu celf gan gynnwys murluniau. Rŵan mae hi wrthi'n paentio un mewn cartref preifat yn Oklahoma City. Cafodd newyddion gwych yn ddiweddar; cafodd hi ei gofyn i ymuno ag Artists4Israel i baentio murlun yn Israel ym mis Mai! Mae hi newydd dderbyn e-docyn awyren ac mae hi gyffro i gyd (a minnau hefyd wrth gwrs!) 

Thursday, January 18, 2018

cystadleuaeth

Roedd yn gystadleuaeth fywiog. 11 a enillodd yn y diwedd fodd bynnag. Newy York Times a ddaeth i'r brig, ond CNN a enillodd bedair sedd. Mae pob un ohonyn nhw'n haeddu Gwobrau Newyddion Ffug 2017! Er gwaethaf pawb a phopeth, mae'r Arlywydd Trump yn dal i fwrw ymlaen yn rymus.

Wednesday, January 17, 2018

cwis cyntaf

Roedd llyfrau cwrs daearyddiaeth Beibl yn hwyr cyrraedd. Dw i newydd orffen y cwis ar lein cyntaf. Yn anffodus doedd y map ddim yn gweithio, a methais ateb pum cwestiwn allan o chwech. Ces i 50% ar y cyfan fodd bynnag sydd yn syndod mawr i mi. Mae'r llyfrau mor academaidd fel fy mod di'n cael hi'n anodd eu deall. Doeddwn i ddim yn disgwyl mwy na 10%. Gobeithio y bydda i'n gwella.

Tuesday, January 16, 2018

dydy neb yn medru ei stopio

Roedd hi'n 7F / -14C y bore 'ma. Es i am dro fel arfer fodd bynnag. Dw i'n credu'n siŵr mai'r bore oerach oedd o yn y gaeaf 'ma. Aeth y gŵr i gae saethu er gwaethaf yr oerfel. Bydd o'n aros am oriau wrth gynhesu ei hun yn y car o bryd i'w gilydd. Mae o'n hoffi'r oerfel fel na fydd neb arall yn ddigon gwallgof i fynd yno, ac felly cael yr holl le iddo i hun. Mae o'n mwynhau ei ymddeoliad.

Monday, January 15, 2018

brigau

Mae'r oerfel wedi dod yn ôl yn ffyrnig fel bod y llosgwr logiau wrthi'n galed. Dan ni wedi llosgi pentwr o logiau yn y mis diwethaf. Weithiau maen nhw'n cael eu llosgi i lawr bron dros nos, ac felly rhaid casglu digon o frigau er mwyn achub marwor yn y bore. Gwaith y plant oedd hynny o'r blaen, ond rŵan y gŵr sydd yn ei wneud. Dyma frigau a gasglodd yn dwt. (Mae ganddo waed A.)

Saturday, January 13, 2018

tŷ wag o newydd

Mae fy merch ifancaf newydd adael am y brifysgol yn Missouri wedi treulio mis o wyliau. Cafodd amser braf yn ymlacio, darlunio, gwnïo, gwau, ayyb. Rŵan mae tymor newydd a phrysur yn ei disgwyl. Tra oedd hi adref, daeth i wirioni ar Krav Maga a ddysgir gan Oren Mellul. Mae hi'n awyddus i ddal ati, a'i ddysgu i'w ffrind orau fel y byddan nhw'n medru ymarfer efo'i gilydd. Mae'r tŷ yn wag unwaith eto.

Friday, January 12, 2018

oer eto

Wedi hoe fach, mae'r tywydd oer wedi dod yn ôl. Gollyngodd y tymheredd o 59F(15C) i 15F(-9.5C) dros nos. Roeddwn i'n cadw'r tân bach yn y llosgwr logiau yn ystod yr hoe ar gyfer y tywydd oer disgwyliedig. Pan godais y bore 'ma, fodd bynnag, roedd y tân bron â marw, a dw i heb kindlings! Dyma ddechrau annog y marwor gwan i ail gychwyn. Cymerodd hanner awr, ond llwyddais. Mae'r tân yn llosgi'n braf bellach. Bydd y tywydd hwn yn para am wythnos arall o leiaf. 

Tuesday, January 9, 2018

dod adref yn jerwsalem

Mae Jane o Jerwsalem newydd ddychwelyd "adref" ym mhrif ddinas Israel wedi cael tair wythnos o wyliau yn Nenmarc efo'i theulu. Mae'n amlwg bod yr hoe fach wedi gwneud cymaint o les iddi. Mae hi'n benderfynol byth i fod yn llais ar gyfer Israel a'i fendithio. Bydd hi'n cael clywed Mr. Pence'n annerch Kunesset y mis yma wedi'r cwbl. 

Monday, January 8, 2018

coffi twrcaidd

Mae gen i chwant coffi Twrcaidd arna i heddiw a dyma chwilio am y modd gorau i'w wneud. Mae yna nifer o fideos ar You Tube, ac mae rhai'n mynd yn erbyn i'r lleill. Dewisais un gan ddynes Arabaidd. (Rhaid bod ei modd yn well.) Does gen i ddim sosban benodol, ac felly roedd rhaid i mi wneud y gorau a fedrwn i. Dyma fo! Blasus iawn!

Saturday, January 6, 2018

y mae amser i bob peth

Dechreuodd fy ŵyr fwydo ei hun efo llwyau, a dyma fo'n actio fel Bwystfil yn ffilm Disney. Roedd o'n cael cymaint o hwyl fel gwagiodd y bowlen ar ei ben yn y diwedd! Mae ei mam yn teimlo'n drist weithiau wrth weld ei babi'n tyfu'n rhy gyflym. 

Friday, January 5, 2018

diwedd y gwyliau

Mae fy mab ifancaf yn mynd yn ôl at y brifysgol heddiw wedi tair wythnos o wyliau. (Bydd ei chwaer yn dechrau'n hwyrach.) Roedd o'n medru ymlacio a chysgu'n ddigon ar ôl astudio a gweithio'n galed. Er mwyn "dathlu" dechrau tymor newydd, ymunodd ei dad â nhw'n chwarae gêm bwrdd Star Wars Clue y bore 'ma. Roeddwn i'n ceisio o'r blaen ond methu'n dallt y rheolau'n llwyr! Llwyddodd a hyd yn oed ennill! 

Thursday, January 4, 2018

ateb gan oren

Ces i ateb gan Oren Mellul, hyfforddwr Krav Maga yn Israel! Dw i a'r gŵr yn gwylio ei fideo bob dydd ers misoedd, ac mae'r ddau blentyn adref am wyliau'n ymuno â ni rŵan. Wrth weld iddyn nhw ymarfer y symudiadau, tynnais lun ohonyn nhw, a'i yrru at Oren. Roedd o'n hapus bod ei fideo'n helpu ni.

Tuesday, January 2, 2018

mezuzah

Ces i mezuzah yn anrheg Nadolig gan fy merch. Doeddwn i ddim yn gwybod amdano fo, a dyma googlo i ffeindio beth ydy beth. Mae yna bentwr o reolau o'i gwmpas, ond gan nad ydw i'n Iddewig, gosodais i fo ar  ffrâm drws blaen fel atgof bendith Duw, heb ddilyn yr holl reolau. 

Monday, January 1, 2018

blwyddyn newydd

Mae'n anodd cofio mai Dydd Calan ydy hi heddiw oherwydd bod popeth yn ddistaw (ac eithrio'r firecrackers yng nghanol nos) a dw i ar fy mhen fy hun gartref rŵan. Treuliodd fy nwy ferch ganjitsu (Dydd Calan) efo'u nain yn y cartref henoed. Prynon nhw fwyd traddodiadol i ddathlu. Roedd hi wrth ei bodd a llawn egni, meddau nhw. Bydd hi'n 96 oed eleni ynghyd â'r 140,000 o bobl eraill yn Japan.