Sunday, March 31, 2013

nid yw ef yma, oherwydd



y mae wedi ei gyfodi, fel y dywedodd y byddai. Ni bydd dim yn amhosibl gyda Duw.

                              Pasg Hapus          


    

Saturday, March 30, 2013

yn ôl o wlad goed ceirios - 7

Does angen prynu Kleenex os dach chi'n byw yn ninasoedd Japan; maen nhw'n cael eu dosbarthu'n rhydd ar bob cornel gan gwmniau sydd eisiau gwerthu eu nwyddau neu eu gwasanaethau. Does neb eisiau derbyn hysbyseb ar y strydoedd ond maen nhw'n fwy tebygol o gael eu derbyn os maen nhw'n dod efo pacedi o Kleenex. Tebygol, a dim pob tro cofiwch; mae rhai pobl yn gwrthod derbyn Kleenex achos bod ganddyn nhw lawn gwpwrdd ohonyn nhw'n barod. Mae pobl ifanc yn cael eu cyflogi ar gyfer y gwaith yma.

Friday, March 29, 2013

yn ôl o wlad goed ceirios - 6

Tra oedd Mam yn gweld ei meddyg, cerddais a'r ferch o gwmpas yr ardal roeddwn i'n byw ynddi efo'r gŵr a'n merch hynaf bron 30 mlynedd yn ôl. Mae yna gymaint o adeiladau newydd fel roedd bron i mi fethu ffeindio'r tŷ roedden ni'n ei rentu. Yn y diwedd des o hyd iddo a chyfarch yr hen gymdoges dw i'n cadw mewn cysylltiad efo hi. Gan fod o'n ddiwrnod poeth arall, roeddwn i'n ddiolchgar am barasol Mam wrth grwydro Tamagawagakuen sydd yn enwog am ei llethrau serth.

Thursday, March 28, 2013

yn ôl o wlad goed ceirios - 5

Cynigodd ffrind fynd â fy merch o gwmpas Tokyo. Aethon nhw i Harajuku - ardal boblogaidd i bobl ifanc, ac i Asakusa - un o'r llefydd enwog yn Japan. Wedi'u gyrru nhw ar eu ffordd, es ynghyd ag un o fy mrodyr a'i deulu, i'r ysbyty i ymweld â'n brawd hŷn. Aethon ni mewn car yn meddwl na fyddai llawer o draffig oherwydd gŵyl. Roedden ni'n anghywir; cawson ni'n dal mewn tagfeydd Tokyo; roedd ein car yn sefyll mwy na rhedeg am ddwy awr a hanner. Cododd ein hymweliad galon fy mrawd sâl ac felly dw i'n falch iawn fy mod i wedi mynd, tagfeydd neu beidio. 

Wednesday, March 27, 2013

yn ôl o wlad goed ceirios - 4

Mae yna sawl siop fwyd braf ger fflat fy mam. Bob tro bydda i'n aros efo hi, bydda i'n mwynhau cerdded ar hyd y ffrwd yn tynnu trol fach i fynd i siopa.  A phob tro, bydda i'n prynu mwy na gofynnwyd oherwydd bod ganddyn nhw lysiau a ffrwythau ffres iawn iawn a bwydydd Japaneaidd hyfryd.

Peth arall dw i'n ei golli 

Tuesday, March 26, 2013

yn ôl o wlad goed ceirios - 3

Es i a fy merch am dro ar hyd ffrwd sydd yn rhedeg ger fflat fy mam am awr neu ddwy. Roedd y coed ceirios ar y ddwy ochr yn arbennig o brydferth, ond roedd yn ddiwrnod poeth yn annisgwyl. Roedd y ferch sydd heb het wedi blino'n lân erbyn i ni gyrraedd yr hanner pwynt (teml Shinto.) Roedd hi'n ddiolchgar o'r dŵr parod yno i oeri ei dwylo.

Monday, March 25, 2013

yn ôl o wlad goed ceirios - 2

Un o amcan fy siwrnai oedd ymweld â fy mam a gwneud beth bynnag sydd angen drosti hi. Roeddwn i'n medru gwneud llawer mwy na'r disgwyl, ac ar yr un pryd, roedd hi'n hapus coginio drosta i a'i hwyres. Mwynheais bob dysgl.

Sunday, March 24, 2013

yn ôl o wlad goed ceirios

Diolch i bobl sydd wedi gyrru dymuniadau gorau ar gyfer y daith. Des i'n ôl yn ddiogel y bore 'ma, hanner dydd hwyrach na'r disgwyl oherwydd storm eira annisgwyl yn Tulsa. Dyma adrodd hanes fy siwrnai yn Japan.

Wedi gaeaf ofnadwy o oer, trodd dywydd ardal Tokyo'n fwyn pan es i gyda fy merch. Dechreuodd y coed ceirios flodeuo'n gynt nag arfer, ac erbyn i ni adael, cyrhaeddon nhw eu hanterth. Digwyddiad cenedlaethol ydy blodeuo'r coed ceirios; adroddir sut mae o gan bob gorsaf teledu bob dydd.

Thursday, March 14, 2013

hwyl am y tro

Dw i'n mynd i Japan yfory efo fy merch 16 oed. Byddwn ni yno am wythnos yn ystod gwyliau gwanwyn yr ysgol. Er bod fy mam yn o lew wedi cael ei chodwm, bydd hi'n 91 y mis nesaf; rhaid gweld hi bob blwyddyn. Dyna fydd y tro cyntaf i fy merch ymweld â Japan. Dw i eisiau iddi weld gwlad ei mam. Gan fy mod i'n bwriadu treulio llawer o amser efo fy mam yn ei helpu yn ei fflat, na fydd gwibdaith i hot spring y tro hwn! Sgrifennaf am y siwrnai os ddof yn ôl yn ddiogel.

Wednesday, March 13, 2013

spirit week

Mae ysgol fy mab yn cynnal Spirit Week bob blwyddyn. Cewch chi ennill pwyntiau drwy wisgo yn ôl y themâu amrywiol bob dydd, adrodd adnodau'r Beibl, a pheidio defnyddio adloniant electronig. Dyma'r themâu:
dydd Llun - 60au
dydd Mawrth - pyjamas (Basa fy mam yn cael ffit!)
dydd Mercher - rhai sydd yn eich ysbrydoli
dydd Iau - chwaraeon
dydd Gwener - dim ysgol

Rhag ofn iddo weld sgriniau'n ddamweiniol, gosododd fy mab rybuddion draws y tŷ.

Tuesday, March 12, 2013

mac newydd

Pan ddes i mewn i'r swyddfa'r bore 'ma, gwelais MAC newydd sbon ar fy nesg! Prynodd y brifysgol gyfrifiaduron newydd i'r athrawon. Mae o'n anhygoel o denau. Wnes i ddim ei ddefnyddio heddiw achos bod gen i waith arall. Edrycha' i ymlaen at y cyfle cyntaf. 

Monday, March 11, 2013

dwy flynedd yn ôl

Digwyddodd y trychineb yn Japan ddwy flynedd yn ôl. Mae pawb gan gynnwys gwirfoddwyr o dramor wedi bod yn gweithio'n galed i glirio ac ailadeiladu'r ardaloedd a gafodd eu dinistrio.  Cyflawnwyd rhyfeddol o lawer yn gymharol, ond mae rhai'n dal i fyw mewn adeiladau dros dro. Dywedir bod y bobl wedi anghofio'r trychineb arall a ddigwyddodd yn yr un ardaloedd 80 mlynedd yn ôl ac felly methu dianc yn syth pan ddaeth y rhybudd. Maen nhw'n wrthi'n pwysleisio ar drosglwyddo'r gwers i'r genhedlaeth nesaf.

Sunday, March 10, 2013

sgoriodd!

Sgoriodd fy mab ifancaf! Cyrhaeddodd y teulu (ar wahân i'w dad) y cae bum munud wedi cychwyn y gêm a methu gweld y gôl yn anffodus. Collon ni o ddwy gôl i un ond dw i'n siŵr bod y gôl wedi codi calon y tîm. Byddwn i eisiau gweld "re-play"!!

Saturday, March 9, 2013

tŷ gwag

Roedd y mab hynaf a'i ffrind yn aros efo ni am ddyddiau. Gadawon nhw'r bore 'ma efo'r gweddill o'r teulu i weld gêm oddi cartref ei frawd. Byddan nhw i gyd yn treulio'r p'nawn yn Tulsa cyn i'r ddau fynd yn ôl i Texas. Roedd y tŷ'n llawn yr wythnos 'ma wrth i rai'n cysgu yma ac acw. Dw i newydd ddod yn ôl o'r dref, ac mae'r tŷ'n ddistaw iawn. Mi ddechreua' i dwtio'r tŷ nes ymlaen, (mae'r peiriant golchi wrthi'n barod) ond rhaid cael coffi gyntaf.

Friday, March 8, 2013

tŷ bwyta newydd

Es i ynghyd â'r teulu i weld darluniau gan blant yr ysgol neithiwr. Roedd pot lwc i gyd-fynd efo achlysur felly bob tro; paratoais disgl syml a mynd â hi. Pan gyrhaeddon ni'r neuadd, gwelais i mai ond bisgedi a diod ar y bwrdd. Doedd dim pot lwc; doedd y brif athrawes ddim ei eisiau fo oherwydd bod yn ormod o waith i dacluso ar ôl y bwyta. (Mae'n amlwg mai fi oedd yr unig riant na ddarllenodd y nodyn gan yr athrawes!) Roedden ni'n bwriadu cael bwyd yno. Wedi gweld y darluniau, dyma ni'n mynd yn chwilio am swper a dewis tŷ bwyta Mecsicanaidd nad oedden ni erioed wedi mynd ato fo. Roedd yr adeilad yn newydd a golau; roedd y bwyd yn dda, gwell na Chilangos. Ces i bysgodyn efo llysiau wedi'u grilio. Roedd llawer mwy na digon. Dw i'n mynd i fwyta'r gweddill i ginio heddiw.

Thursday, March 7, 2013

lle newydd

Pan oeddwn i'n gyrru ar stryd dw i ddim yn mynd arno fo'n aml, gwelais i faner Israel mewn adeilad drwy ffenestr fawr. Doedd gen i ddim amser i fynd yn ôl nes ddoe i weld sut le ydy o - cymdeithas Iddewon? Dosbarth Krav Maga ydy o! Doeddwn i ddim yn gwybod bod yna un yn y dref fach hon. Roedd fy merch hynaf yn mynychu Krav Maga yn Norman am sbel, ond fe wnaeth roi'r gorau iddo gan fod o'n rhy ddwys. 

Wednesday, March 6, 2013

menyn cnau daear

Mae'r gŵr yn hoffi hwn efo darnau bach o gnau ynddo; hebddyn nhw mae'r mab ifancaf yn hoffi. Roeddwn i'n arfer cadw dwy jar, ond er mwyn gwneud pethau'n syml dw i'n prynu ond un, sef "creamy" bellach. Ar gyfer brechdan fy ngŵr, ychwanega' i ddarnau o gnau ynddo fy hun wedi ei daenu ar dafell o fara. Mae hyn yn gweithio'n dda.

Tuesday, March 5, 2013

cerdded

Mae swyddfa'r gŵr yn bell o bopeth arall yn Ysgol Optometreg, felly rhaid cerdded braidd yn hir i wneud neges. Yn aml iawn bydda i'n gwneud mwy na hanner dwsin o "siwrneiau" fach mewn dwy awr. Dw i ddim yn meindio o gwbl; dw i'n cael ymarfer corf tra bydda i'n gweithio. Mae'n ofnadwy o wyntog heddiw.

Monday, March 4, 2013

y gêm gyntaf

Roedd gêm gyntaf y tymor ddydd Sadwrn. Mae rhywun arall yn gwirfoddoli fel rheolwr y tro hwn yn ffodus; mae fy ngŵr yn helpu'r tîm fodd bynnag. Dim ond 11 hogyn ac un ferch sydd gynnon ni. Ymddangosodd 11 a chafodd dau eu hanafu yn ystod y gêm. Collon ni 4 - 0 yn y diwedd. Roedd yr unig ferch yn chwarae'n dda, llawer gwell na'r rhan fwyaf o'r hogia a dweud y gwir. 

Sunday, March 3, 2013

gŵyl ferched

Roedd bron i mi anghofio eleni eto! Fe osodais y dolis neithiwr. (Dylwn i fod wedi gwneud hynny wythnos yn ôl.) Mae gwisgoedd y dolis yn edrych yn hynafol braidd (fel y perchennog!) Pob hwyl i'r holl ferched bach.

Saturday, March 2, 2013

postmon pat

Dw i'n gwirioni ar y rhaglen hon gan BBC, sef Postmon Pat, hynny ydy mae yna fersiwn Eidaleg efo sgript ar You Tube - il Postino Pat. Mae pawb yn siarad yn naturiol, ac wrth gwrs bod nhw'n defnyddio geiriau syml gan mai i blant ydy'r rhaglen. Y peth pwysig ar ben hynny ydy'r sgript. Mae'n anodd hebddi hi. 

Friday, March 1, 2013

cyfarchion o oklahoma

Dydd Gŵyl Dewi Sant Hapus!


Dw i'n bwriadu coginio cawl cennin a bara brith i swper fel arfer. Mae gan ysgol fy mab wisgo ysgol ond un diwrnod bob mis mae'r plant yn cael gwisgo beth bynnag maen nhw eisiau. Heddiw ydy'r diwrnod digwydd bod. Dewisodd y mab grys tîm Dinas Caerdydd. Prynais hwn yng Nghaerdydd pan es i Gymru am y tro cyntaf yn 2007. Cafodd orchymyn gan ei fam i sôn am Ddydd Gŵyl Dewi wrth y dosbarth!