Sunday, March 31, 2024

buddugoliaeth

"Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy'n fyw? Nid yw ef yma; y mae wedi ei gyfodi."
Luc 24:5

(y llun gan Charles Gardner)

Saturday, March 30, 2024

cawsom ni iachâd drwy ei gleisiau ef


Eto, ein dolur ni a gymerodd,
a'n gwaeledd ni a ddygodd—
a ninnau'n ei gyfrif wedi ei glwyfo
a'i daro gan Dduw, a'i ddarostwng.
Ond archollwyd ef am ein troseddau ni,
a'i ddryllio am ein camweddau ni;
roedd pris ein heddwch ni arno ef,
a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd.

Eseia 53:4,5

Wednesday, March 27, 2024

brwdfrydedd nehemeia

Wedi trefnu popeth yn Jerwsalem ar ôl y wal wedi cael ei adfer, dychwelodd Nehemeia i Bersia. Yna, aeth i Jerwsalem unwaith eto i weld sut mae pethau. Yn ystod ei absenoldeb o ddeg mlynedd, roedd y bobl yn esgeuluso eu cyfrifoldeb yn annioddefol - y Deml, y degwm, Saboth a phriodas. Roedd dyma Nehemeia gychwyn wrthi'n annog y bobl i siapio hi!

Rhybuddiais hwy a dweud, “Pam yr ydych yn gwersyllu yn ymyl y mur? Os gwnewch hyn eto fe'ch cosbaf chwi.” (Nehemeia 13:21) 
Ceryddais hwy a'u melltithio, a tharo rhai ohonynt a thynnu eu gwallt. (Nehemaia 13:25)

Tuesday, March 26, 2024

llyfr nehemeia

Roedd Nehemeia'n ymddiried ar Dduw, a gweddïo drwy'r amser. Roedd yn gwneud yn siŵr i arfogi'r gweithwyr tra eu bod nhw'n gweithio. Gorffennwyd y wal o gwmpas Jerwsalem mewn 52 diwrnod dan ei arweinyddiaeth ddewr er gwaethaf cynllwynion y gelynion. Un o'r gwersi y gallwch eu dysgu o Lyfr Nehemeia - byddwch yn weddigar ac yn ymarferol.

Monday, March 25, 2024

fwyn na digon

Mae'n ymddangos nad oedd neb yn talu sylw ar fy Hamantaschen yn ystod y cinio ddoe. Clywais, fodd bynnag, ei fod o wedi bendithio rhai ffrindiau Iddewig fy merch hynaf. Gyrrodd hi'r llun atyn nhw, ac roedden nhw i gyd yn hapus. Dwedodd un ohonyn nhw ei fod o'n teimlo'n ddwfn yn ei galon fy ngweithred o gariad. Mae hyn yn fwyn na digon i mi.

Sunday, March 24, 2024

purim hapus

Roedd gan Haman gynllwyn i ddinistrio'r holl Iddewon yn yr ymerodraeth Bersia, ond cafodd ei grogi yn y diwedd. Dylai'r Hamas ddarllen Llyfr Esther yn y Beibl, a dysgu gwers.

Dyma fy fersiwn o Hamantaschen ar gyfer potlwc yn yr eglwys heddiw.

Saturday, March 23, 2024

dyledswydd eglwys


Dim mater dibwys i'r Eglwys ydy Israel. Wedi'r cwbl, llyfr am Israel ydy'r Beibl. Sut gallwch chi ddweud eich bod chi'n caru Iesu, sydd yn Iddew o Israel, heb garu a chefnogi Israel? Prin fy mod i'n clywed, fodd bynnag, y pwnc yn fy eglwys er gwaethaf y peth annisgrifiadwy a ddigwyddodd fwy na phum mis yn ôl. Fel gweision Crist, mae gan yr Eglwys ddyledswydd dros Israel.

Wednesday, March 20, 2024

golwg y stryd


Gwelais gar Google Street View yn gyrru o gwmpas y gymdogaeth ddoe pan oeddwn i'n mynd am dro. Wrth i mi gerdded adref, dyma fo'n mynd i fyny a lawr fy stryd i. Efallai y bydda i yn y Street View newydd cyn hir!

Tuesday, March 19, 2024

tystiolaeth onest a dewr


Wrth dyfu i fyny yn Bahrain, dysgwyd Fatema Al Harbi fod Iddewon yn ei chasáu oherwydd mai Mwslim mae hi, ac yn ei dro, dylai eu casáu oherwydd mai Iddewon maen nhw. Beth newidiodd ei meddwl? Clywch dystiolaeth onest a dewr dynes Fwslimaidd.

Saturday, March 16, 2024

eisiau sherlock holms


Syrthiodd ddarn o fanana pan oeddwn i'n paratoi brecwast y bore 'ma. Teimlais iddo ddisgyn ar fy nhroed. Dechreuais chwilio amdano. Methais. Roeddwn i'n chwilio dan y stof coginio a dan yr oergell. Tynnodd y gŵr drôr y stof allan hyd yn oed, a chwilio amdano wrth ei ben ar y llawr. Roddwn i'n chwilio ym mhobman yn y gegin. Dw i heb lwyddo i'w ffeindio fo. Mae angen Sherlock Holms arna i.

Friday, March 15, 2024

cenllysg


Dechreuodd fwrw cenllysg yn sydyn prinhawn ddoe. Gyda sŵn uchel, syrthiodd pelau bach gwyn o'r nef. Stopiodd yn fuan, ond dechrau taranu a bwrw glaw'n drwm. "Neidiais i allan o fy nghroen" pan glywais un ofnadwy o nerthol! Dwedodd y gŵr wrthyf i fod yn barod i fynd i lawr y grisiau lle ydyn ni'n defnyddio fel lloches, gan fod rhybuddion rhag corwynt. Casglais y pethau hanfodol. Wedi rhyw awr, fodd bynnag, aeth popeth yn ddistaw. 

Wednesday, March 13, 2024

dim arian ar gyfer terfysgaeth mwyach

Daeth aelodau Sefydliad Cynghreiriaid Israel o fwy nag ugain gwlad at ei gilydd yn Kfar Aza yn ddiweddar i weld y dinistr a achoswyd gan ymosodiad Hamas Hydref 7fed.

Dw i'n falch o weld y Ddraig Goch ar y bwrdd.


Tuesday, March 12, 2024

gwerthfawrogi bywydau

Mae'r IDF yn defnyddio cŵn roboteg wedi'u cyfarparu ag arfau a chamerâu, yn nhwneli Hamas. (Mae hyn yn llawer gwell na defnyddio cŵn byw er bod anfon cŵn at y twneli'n llawer gwell na anfon dynion, wrth gwrs.) Mae'r robotau’n costio 165,000 doleri'r un, ond mae Israel yn gwerthfawrogi bywydau, hyd yn oed bywydau anifeiliaid.

Monday, March 11, 2024

arwydd gwanwyn

Gwelais arwydd gwanwyn y bore 'ma, sef tŷ adar y gymdoges. Mae hi'n ei dynnu i lawr yn ystod y gaeaf bob blwyddyn. Mae nifer o adar eisoes yn prysur adeiladu nyth tu mewn.

Saturday, March 9, 2024

blodau truan

Wedi dyddiau cynnes, gostwngodd y tymheredd fel mae'n digwydd yn aml yn Oklahoma. Cafodd y blodau a oedd yn mwyhau'r cynhesrwydd eu sioc. Roedden nhw'n crynu mewn oerfel y bore 'ma (gan gynnwys y goeden geirios yn y gymdogaeth.)

Friday, March 8, 2024

diwedd tymor cnau


Roeddwn i'n mwynhau plicio cnau a gasglais yn y dref dros y gaeaf, wrth wrando ar rywbeth ar y we. Penderfynais, fodd bynnag, roi i'r gorau i blicio cnau hickory. Mae'n rhy galed. (Roedd pecan yn ddigon meddal.) Fel canlyniad, roedd fy nwylo a'r ysgwyddau'n brifo. Does dim angen ychwanegu poen arna i'n bendant. Ac felly, gosodais y gweddill, rhyw dri dwsin yn yr iard i'r gwiwerod neithiwr. Pan sbïais i tu allan y bore 'ma, roeddwn i'n medru gweld dwy wiwer yn cludo popeth i ffwrdd!

Wednesday, March 6, 2024

dewis

Enillodd y Cyn-arlywydd Donald Trump Super Tuesday yn ddirlithriadol, fel disgwyliwyd. Bydd o'n wynebu Mr. Biden yn y ras arlywyddol. Mae pawb yn gwybod bod yr olaf yn dioddef o ddementia, ac yn methu siarad yn gydlynol, heb sôn am arwain gwlad. Gawn ni weld sut bydd o'n ymdopi dadleuon arlywyddol. 

Tuesday, March 5, 2024

dydd mawrth swper

Super Tuesday ydy hi heddiw. Eleni, bydd 15 talaith yn pleidleisio i ddewis ymgeisydd arlywyddol dros bob un o'r ddwy blaid. Mae'r canlyniad yn amlwg yn barod, ond rhaid bwrw ymlaen fodd bynnag. Dw i ddim yn cael pleidleisio yn anffodus oherwydd mai preswylydd CYFREITHLON ydw i.

Saturday, March 2, 2024

arf cryf


Mae gan aelodau'r IDF arf hynod o gryf, ar wahân i'r rhai uwch-dechnoleg, sef Gair Duw. Dyma ringyll sydd yn gohebu o Gaza bob dydd yn dangos cryfder yr arf.

"Nid yw ceidwad Israel yn cysgu nac yn huno." Salmau 121:4

Friday, March 1, 2024

gŵyl dewi

Bydded i’r hen iaith barhau.
Dydd gŵyl dewi hapus.