Saturday, April 27, 2024

gŵyl redyn coch

Mae Gŵyl Redyn Coch yn cael ei chynnal yn y dref yma ddoe a heddiw. Digwyddiad poblogaidd ymysg y bobl tu allan yn hytrach na'r trigolion ydy o, y dweud y gwir. Mae mwy na 40,000 o bobl yn cael eu disgwyl eleni! (16,000 ydy'r boblogaeth.) Achosodd glaw trwm oedi ddoe, ond mae'n heulog ysbeidiol heddiw. Gobeithio y bydd y bobl yn cael hwyl.

Friday, April 26, 2024

felly sut dylen ni fyw?

Deng mlynedd a thrigain yw blynyddoedd ein heinioes, neu efallai bedwar ugain trwy gryfder, ond y mae eu hyd yn faich ac yn flinder; ânt heibio yn fuan, ac ehedwn ymaith. - y Salmau 90:10

Felly, gwyliwch eich ymddygiad yn ofalus, gan fyw, nid fel rhai annoeth ond fel rhai doeth. - Effesiaid 5:15

Gwnewch yn siŵr beth sy'n gymeradwy gan yr  Arglwydd. Gwrthodwch ymgysylltu â gweithredoedd diffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach dadlennwch eu drygioni. - Effesiaid 10:11

Wednesday, April 24, 2024

102 oed

Bydd fy mam yn troi'n 102 oed 25 Ebrill. Collodd rywfaint o'i chof ond mae'n rhyfeddol o iach am ei hoed. Gyda gofal clên staff y cartref henoed, mae'n dal i fwynhau'r bywyd bob dydd. Y peth hyfrytaf ydy ei bod hi'n credu yn Iesu Grist, ac ynddo fo mae ganddi obaith tragwyddol.



Monday, April 22, 2024

pesach hapus

"Yna bydd pob aelod o gynulleidfa Israel yn eu lladd fin nos, byddant yn cymryd peth o'r gwaed a'i daenu ar ddau bost a chapan drws y tai lle y bwyteir hwy.... Pan welaf y gwaed byddaf yn mynd heibio i chwi, ac ni fydd y pla yn eich difetha pan drawaf wlad yr Aifft." 
Exodus 12)

Yn union fel roedd gwaed oen perffaith yn amddiffyn yr Israeliaid rhag y pla, bydd gwaed Iesu yn amddiffyn pawb sy'n credu ynddo rhag digofaint Duw.

Pesach Hapus - hapus go iawn i bawb sydd yn credu.

Saturday, April 20, 2024

peidiwch â chydymffurfio

Peidiwch â chydymffurfio â'r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy'n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef. (Rhufeiniaid 12:2)

Wednesday, April 17, 2024

yr iris cyntaf

Ces i fy nghyfarch gan yr iris cyntaf yn yr iard y bore 'ma. Ceith ei ddilyn gan nifer o eraill. Maen nhw'n dda; dydyn nhw ddim angen gofal o gwbl bron. Dyma flodau i mi!

Tuesday, April 16, 2024

adfyd neu ffyniant

"Bydd hwn yn pasio hefyd."
- arwyddair craff a chryno ar gyfer adfyd neu ffyniant a roddwyd gan Solomon i'r Swltan, yn ôl y traddodiad. Mae'n taro deuddeg yn bendant. 

Dwedwyd hwn yn dda mewn ffordd arall, gan Nanw Siôn yn "Te yn y Grug":
"D' ydi amsar diodda nag amsar petha braf ddim yn para'n hir."

Hwn sydd yn para'n hir, neu am byth -
Gair Duw

Monday, April 15, 2024

melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio


Lansiodd Iran dros 300 o daflegrau balistig gan gynnwys dronau o Iran, Irac, ac Yemen tuag at ddinasoedd Israel. Cafodd y rhan fwyaf ohonyn nhw eu dinistrio gan Awyrlu Israel yn yr awyr cyn iddyn nhw gyrraedd eu cyrchfan, gyda chymorth rhai gwledydd eraill. Rhaid Iran a phwy bynnag sydd eisiau niweidio Israel cofio geiriau Duw:

"Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio..."


Sunday, April 14, 2024

paid ag ofni

Pan gododd gwas gŵr Duw yn y bore bach, a mynd allan, dyna lle'r oedd byddin a meirch a cherbydau o amgylch y dref, ac meddai, “O feistr, beth a wnawn ni?” Dywedodd yntau, “Paid ag ofni; y mae mwy gyda ni nag sydd gyda hwy.

2 Brenhinoedd 6: 15,16

Saturday, April 13, 2024

y rheswm


“Mae America yn wych oherwydd ei bod hi’n dda. Os bydd America yn peidio â bod yn dda, bydd America yn peidio â bod yn wych.” Alexis de Tocqueville

Mae'n llygad ei le.

Tuesday, April 9, 2024

i Dduw y bo'r gogoniant

Yna dywedodd Duw, “Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd i wahanu'r dydd oddi wrth y nos, ac i fod yn arwyddion i'r tymhorau, a hefyd i'r dyddiau a'r blynyddoedd." - Genesis 1:14, 15

Teilwng wyt ti, ein Harglwydd a'n Duw,
i dderbyn y gogoniant a'r anrhydedd a'r gallu,
oherwydd tydi a greodd bob peth.
Datguddiad 4:11

Amen!

Monday, April 8, 2024

diffyg yr haul o oklahoma

Roedd yr awyrgylch yn od dros ben wrth i'r haul tywyllu yng nghanol dydd. Aeth goleuadau cyntedd y cymdogion ymlaen yn awtomatig. Roedd y gŵr yn barod i weld diffyg yr haul mewn modd diogel, heb niweidio'r llygaid. (Optometrydd wedi ymddeol mae o.) Roedd y ddelwedd yn glir ar bapur. Yna, aeth popeth drosodd, ac mae'r haul wedi "dychwelyd."

Saturday, April 6, 2024

bandit

Mae fy merch hynaf yn gofalu am gi arall am sbel, i helpu'r lloches cŵn lleol. Bandit ydy ei enw. Er ei fod o'n edrych yn ffyrnig, swil ac ofnus ydy o. Mae'n debyg ei fod o wedi cael ei gam drin o'r blaen. Mae o'n caru fy merch yn fawr bellach. Gobeithio y bydd o'n ffeindio cartref parhaus yn fuan, ond bydd yn drist ffarwelio gyda fo hefyd.

Friday, April 5, 2024

pobl dda

Yn eistedd wrth oleuadau traffig y tu ôl i gar Heddlu Dinas Oklahoma, methodd y gyrrwr weld beth oedd y swyddog yn ei wneud. Er bod y golau'n troi'n wyrdd, stopiodd y swyddog y traffig gyda golau coch ymlaen ar ben y car. Yna, gwelodd y gyrrwr hwyaden a'i babis yn croesi'r stryd.

"Mae pobl dda yn gofalu am eu hanifeiliaid,
ond mae hyd yn oed ‘tosturi’ pobl ddrwg yn greulon."
Diarhebion 12:10 (Beibl.net)

Wednesday, April 3, 2024

ffeithiau neu beidio

Mae rhai pobl yn hoffi cyhuddo Israel am ei pholisi apartheid, heb wybod dim byd am y ffeithiau. Neu efallai eu bod nhw'n ymwybodol ohonyn nhw, ond does dim ots gyda nhw.

Tuesday, April 2, 2024

penawdau o amser y beibl


Dan ni angen chwerthin, yn ddyddiau hyn yn enwedig. Pwy sydd yn well na'r Wenynen sydd yn darparu ffynhonnell yn ddi-baid?

Dau o fy ffefrynnau yn yr erthygl hon:

"Israeliaid yn griddfan wrth i Dafydd ychwanegu cytgan diangen at Ganiad Moses"
"Timotheus, wrth chwysu, yn gofyn i Paul gân nhw ddweud wrth bobl ei fod wedi'i enwaedu."

Monday, April 1, 2024

ffŵl ebrill

Does dim rhaid i rai pobl ddweud celwydd wrth ddathlu'r diwrnod hwn. Mae'r llywodraeth (America yn yr achos hwn) yn hen gyfarwydd â thwyllo ei bobl yn ddiweddar fel bydd yn syniad ffres iddo ddweud y gwir heddiw am newid.