Wednesday, July 31, 2013

dyn haearn

Dw i newydd ddarllen am y ffilm newydd hon, a chael cip ar y trailer. Er gwaetha'r dechnoleg ddiweddaraf, na, oherwydd y dechnoleg ddiweddaraf, mae'r stori am y "super hero" yn llai deniadol yn fy marn i. Mae'n debyg i Star Wars a'r nifer eraill o ffilmiau o'r fath. Mwynheais y gyfres gyntaf efo George Reeves fel Superman a welais yn Japan amser maith yn ôl. Roedd yn hwyl gweld y dyn cyffredin yn mynd i mewn i flwch teleffon ac ymddangos fel Superman er mwyn achub y bobl mewn perygl a threchu'r drygioni. 

Tuesday, July 30, 2013

llanast

Achosodd y llifogydd lanast mawr yn swyddfa'r gŵr. Cafodd ei lyfrau a phapurau pwysig eu gwlychu. Doedd fy ymdrech ddim yn ddigon ddyddiau'n ôl, ac felly gofynnodd o fi i ddod i'w helpu. Roedd rhaid mwydo'r papurau mewn dŵr i wahanu'r tudalennau a aeth yn sownd efo'i gilydd, ac wedyn eu sychu nhw un ar y tro. Mae yna bentwr ohonyn nhw. Roeddwn i wrthi oriau heddiw; bydd yn cymryd dyddiau i gwblhau popeth. Clywodd y gŵr mai ar y draen tu allan y drws cyfagos oedd y bai; roedd o'n llawn o fwd a dail, ond doedd neb yn meddwl ei lanhau.

Monday, July 29, 2013

mae'n hwyl!

Yr offeryn cerddorol o Japan; dw i wedi bod yn ei chwarae wrth ddarllen y llyfrau a ddaeth efo fo, a dysgu ar y we. Roedd braidd yn gymhleth ei diwnio, ond mae'n hawdd ei chwarae unwaith mae popeth yn iawn. Mae yna ddwsinau o ganeuon cyfarwydd yn y llyfrau. Ar ben hynny, dw i'n mwynhau chwarae fy ffefrynnau - O Sole Mio, Summertime er engrhaifft. Dw i ddim yn dda wrth gwrs ond mae'n hwyl cael chwarae offeryn cerddorol heb hyfforddiant arbennig.

Sunday, July 28, 2013

anrhegion diddorol

Wedi teithio yn Hawaii, Corea a Japan am fis, mae'r gŵr newydd ddod adref. Daeth â phethau diddorol oddi wrth dŷ ei rieni - yr ukulele a oedd o'n arfer chwarae flynyddoedd yn ôl a taisho-goto (offeryn cerddorol Japaneaidd) a gafodd o gan ei fam. Mae fy merched wrthi'n tiwnio'r ukulele rŵan. Rhaid i mi ddysgu sut i chwarae taisho-goto. Mae hi'n swnio'n debyg i mandolin a medru creu alawon hyfryd.

Saturday, July 27, 2013

menywod bychan

Cyfres o glipiau eraill dw i'n mwynhau ei gweld ar You Tube yn ddiweddar ydy Piccole Donne sydd yn gyfieithiad Eidaleg o anime Japaneaidd sydd yn seiliedig ar y nofel gan Louisa May Alcott. Fe wnaethon nhw'n dda iawn. Mae pob pennod yn para am hanner awr, ac er bod hi'n anodd weithiau, mae'n gyfle gwych i glywed Eidaleg naturiol. Dim ots os Jo ac Amy yn edrych fel Satsuki a May yn Totoro!

Friday, July 26, 2013

rebecca

Nofel enwog gan Daphune du Maurier. Darllenais i hi a gwylio'r hen ffilm flynyddoedd yn ôl. (Darllenodd fy mam fersiwn Japaneg pan oedd hi'n ifanc!) Dw i newydd ddarganfod bod yna ffilm deledu Eidaleg hefyd, ac mae hi ar gael ar y we. (Roedd yn braf peidio gweld y neges arferol - ddim ar gael yn eich gwlad chi.) Mae dewis yr actorion yn ardderchog heb sôn am eu perfformiadau. Fedra i ddim meddwl am actores fwy addas fel y briodferch ifanc na Cristiana Capotondi. (Roedd Ingrid Bergman Joan Fontaine dipyn yn rhy fawreddog.) Mae Alessio Boni (y sarsiant gwych yn y ffilm, the Tourist) yn actio rhan y dyn nerfus i'r eithaf. Yr unig gwyn sydd gen i ydy bod y stori wedi cael ei newid yma ac acw'n ddiangen. 

Thursday, July 25, 2013

acqua alta yn oklahoma

Yn dilyn y storm fawr ddiweddaraf, aeth llawr isaf y brifysgol dan ddŵr. Mae gan fy ngŵr sydd yn dal i ffwrdd swyddfa yno. Ces i fy ngofyn i ddod gan y brifysgol ddoe. Pan gyrhaeddais, roedd y dŵr wedi mynd ac roedd y staff wrthi'n glanhau'r llanast, ond roedd popeth ar y silffoedd a chypyrddau ffeilio isaf wedi cael eu gwlychu. Mae'r gŵr yn digwydd cadw rhai llyfrau a phapurau pwysig yno. Dyma gychwyn eu symud i ystafell arall er mwyn eu sychu. Doeddwn i ddim yn disgwyl wynebu Acqua Alta yn Oklahoma!

Wednesday, July 24, 2013

storm wedi mynd

Cawson ni storm ofnadwy o gryf neithiwr; clywais daranau arswydus a glaw trwm yng nghanol nos. Roedd popeth yn ddistaw pan godais y bore 'ma fodd bynnag; dim ond canghennau coed wedi'u syrthio sydd ym mhob man; roedd bwced ar y dec yn llawn o ddŵr glaw. Ces i wybod wedyn bod tornado wedi dod yn agos at ein tref ni. Yn ffodus chawson ni ddim difrod a chollon ni ddim trydan chwaith. Rhaid i mi gofio mod i'n byw mewn ardal dornado.

Tuesday, July 23, 2013

3 - 2

Roedd fy mab ifancaf wrthi'n gwylio gêm bêl-droed rhwng Mancherster United a thîm Yokohama, Japan y bore 'ma. Cafodd hi ei chynnal yn Japan oriau'n ôl. Enillodd Yokohama o 3 - 2. Roedd Kagawa, chwaraewr Japaneaidd sydd yn cyfrannu at Man Uni ers tipyn yn aros ar fainc y rhan fwyaf o'r gêm. Yn ystod yr holl gêm roedd camera'n prysur ddangos ei wyneb rhyw hanner cant o weithiau, er mwyn dal ei deimladau, tybiwn i. Aethon nhw dros ben llestri. Roedd y gêm yn iawn heb yr "elfen" arbennig.

Monday, July 22, 2013

"the tourist" eto


Wedi cael gwyliau yn Fenis yn ddiweddar, roedd eisiau arna i wylio'r ffilm hon eto. Yn ogystal â mwynhau adnabod y lleoedd ar y sgrin, ces i hwyl darganfod y golygfeydd "anghywir." Er enghraifft - chwap ar ôl gadael yr angorfa o flaen yr orsaf trên, mae'r cwch yn hwylio ar y pen arall o Gamlas Fawr; pan gamodd Frank (Jonny Depp) ar falconi'r gwesty, mae o'n sefyll ar ochr arall y gamlas; mae o'n ffoi oddi wrth y dihirod ar doeau'r adeiladau ar draws y dref... Mae yna gryn dipyn o olygfeydd garw ar y camlesi. Gobeithio na chafodd Fenis ei hanafu gan griw'r ffilm!

llun: Palazzo Pisani Moretta a ddefnyddiwyd fel Hotel Danieli yn y ffilm

Sunday, July 21, 2013

gŵyl hufen iâ


Mae'n Ŵyl Hufen Iâ Genedlaethol heddiw. Doeddwn i ddim yn gwybod bedair blynedd yn ôl - dynodwyd hi gan y diweddar Arlywydd America Ronald Reagan yn 1984. Roedd o'n cydnabod mai bwyd pleserus a maethlon ydy hufen iâ, ac felly anogodd bobl yr Unol Daleithiau i gadw'r ŵyl gyda seremonïau a gweithgareddau priodol. Er mwyn dangos parch tuag at y dyn mawr hwnnw, bwytes yn hapus ynghyd â'r teulu, hufen iâ fanila efo mefus wrth weddïo dros ein gwlad ni a gobeithio y cawn ni Arlywydd cystal â fo ryw ddiwrnod.

Friday, July 19, 2013

fy mwg

Dyma gwblhau adrodd fy ngwyliau yn Fenis. Dw i'n bob amser mwynhau sgrifennu am fy siwrneiau yn y blog oherwydd mai modd i gofio ac ail-fyw fy mhrofiadau hybryd ydy hyn heb sôn am gyfle i ymarfer fy Nghymraeg. Rŵan fedrai ddim teimlo dipyn yn drist wedi gorffen rhywbeth mor bleserus.

Gyrrais at Walmart lun o Eglwys San Simeon Piccolo a dynnais yn Fenis er mwyn creu mwg coffi arbennig. Mae o newydd gyrraedd. Mae'n edrych yn dda, a fy atgoffa i o'r dyddiau braf.


fenis 43 - ffarwelio


Daeth y bore i mi adael Fenis. Codais yn gynnar i ddal y bws i'r maes awyr, a dynes y llety hefyd er mwyn ffarwelio â fi. Y hi a wnaeth check-in yn ogystal â phrynu tocyn bws drosta i'r noson gynt. Caeais y drws blaen trwm am y tro olaf. Cerddais ychydig a throi'n ôl; cododd hi law ata i ar y balconi. Llusgais fy nghês dros bontydd bach i Piazzale Roma. Wrth i'r bws yrru ar Ponte della Libertà tuag at y tir mawr, roeddwn i'n syllu drwy'r ffenestr ar Fenis sydd yn pellhau.

Gwireddwyd fy mreuddwyd i fynd i Fenis. Gwelais y golygfeydd a'r adeiladau rhyfeddol a ddarllenais amdanyn nhw. Cerddais y llwybrau culion; clywais sŵn bach mae gondola yn ei wneud wrth iddo hwylio'n esmwyth ar gamlesi; ces i flas ar Spritz a Bellini. Y peth mwyaf gwerthfawr i mi, fodd bynnag, oedd y cyfleoedd i gyfarfod a nabod y bobl yno - pobl yr ysgol Eidaleg, dynes y llety a'r ffrind o Brescia. Y nhw a wnaeth fy siwrnai mor hyfryd. 


Thursday, July 18, 2013

fenis 42 - murano


Cyn gynted ag y disgynnais oddi ar y cwch, ces i fy amgylchu gan wydr. Mae o ym mhob man. Cerddais o gwmpas yn cael cip ar ffenestri siopau a ffatri wydr. Prynais glustdlysau bychan i fy merched. I ginio, ces i Sarde in Saor efo Polentabwyd lleol poblogaidd, a fy Spritz olaf yn y tŷ bwyta wrth gamlas a argymhellwyd gan ddynes y llety. Aeth popeth yn bleserus nes i mi ddal cwch i Burano eto er mwyn prynu sgarff i fi fy hun. Roedd y cwch i Burano, y dref, a'r cwch yn ôl i Fenis yn llawn dop! Doeddwn i ddim yn gwybod bod cynifer o dwristiaid yn ymweld â'r ynysoedd hynny yn y prynhawn. Roedd bron i mi lewygu erbyn i mi gyrraedd Fenis, a finnau heb brynu sgarff.

Wednesday, July 17, 2013

fenis 41 - burano


Mae Burano yn debyg i Fenis; mae yna gamlesi, cychod, tai ar hyd y camlesi, ond maen nhw i gyd mewn ardal fach. Pan gyrhaeddais yno, doedd dim llawer o dwristiaid. Roedd yn braf cael cerdded y ffyrdd heb gynnwrf arferol Fenis. Mae'r ynys fach yn enwog am les a thai lliwgar. Roeddwn i'n tybio ydy'r trigolion yn gorfod dewis llenni a golchi dillad sydd yn gweddu i liwiau eu tai! Ces i hoe fach yn ymyl y brif stryd; eisteddais wrth fwrdd tu allan yn cael cappuccino a brioche. Treuliais ryw ddwy awr yn Burano cyn hwylio i Murano.

Tuesday, July 16, 2013

fenis 40 - ar y morlyn


Y diwrnod olaf yn Fenis - roedd gan y dosbarth gynllun i fynd ar wibdaith i Brano a Torcello, ond cafodd hi ei chanslo ar y munud olaf oherwydd salwch cyd-ddysgwr. Ces i fy siomi'n ofnadwy; roeddwn i'n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i fynd i'r ynysoedd hynny efo nhw. Penderfynais fynd ar fy mhen fy hun beth bynnag, ond i Brano a Murano yn lle Torcello. Gadawais ddigon cynnar fel nad oedd llawer o bobl ar y cwch. Cychwynnais dipyn yn drist ond roedd y siwrnai 40 munud i Burano yn fendigedig. Cododd hi fy nghalon. Wrth i'r cwch hwylio ar y morlyn yn yr awyr oeraidd, gwelais yr Alpau ar y gorwel. Er bod Fenis yn pellhau ar yr ochr arall, ces i fy nghysuro gan feddwl y byddwn i'n dychwelyd ati hi ddiwedd y diwrnod.


Monday, July 15, 2013

fenis 39 - cinio braf


Es i ddim i dai bwyta'n aml ond roedd eisiau arna i fwyta tu allan ar ôl y cyngerdd annisgwyl. Pan gyrhaeddais Campo San Barnaba (Summertime, Indy Jones,) clywais berfformiad sielo arall ac roedd pobl yn ciniawa o'i gwmpas. Dyma eistedd wrth fwrdd ac archebu gwydraid o Spritz a spaghetti efo tomatos. Roedd yn ddiwrnod hynod o braf; roedd y sielo'n bleserus (ddim cystal â'r llall ond braf iawn); roedd y bwyd a'r ddiod yn ardderchog (ac yn costio ond €10 am y cyfan.) Roedd popeth mor hyfryd, a hithau'n ddeuddydd cyn i mi orfod gadael Fenis.

Sunday, July 14, 2013

fenis 38 - cyngerdd annisgwyl

Wedi'r profiad rhyfeddol yn yr oriel, cerddais tuag at Salute yn dal i deimlo'r dylanwad yn gryf. Wrth nesáu at y sotoportego (twnnel bach) yn ymyl yr eglwys, clywais alawon ofnadwy o swynol. Roedd rhywun yn chwarae sielo ar y pen arall y sotoportego. Roedd o'n hynod o dda, ac roedd yr acwstig yn ardderchog oherwydd y twnnel. Safais yng nghanol y twnnel wedi fy nghyfareddu unwaith eto. Llenwodd yr alawon y twnnel yn felys, a fedrwn i ddim symud ond gwrando arno fo. Ar ôl hanner awr, es i ato fo i ddiolch iddo. Wrandawais i erioed ar berfformiad felly.

Saturday, July 13, 2013

fenis 37 - oriel accademia

Doeddwn i ddim yn bwriadu mynd i Oriel Accademia er pa mor adnabyddus ydy hi oherwydd bod gen i ond ddiddordeb cwrtais yn y gelf. Wedi gweld bron popeth roeddwn i eisiau ei weld am y tro, fodd bynnag, penderfynais fynd yno cyn gadael Fenis. A dw i'n hynod o falch mod i wedi mynd. Darllenais i dipyn am rai o artistiaid enwog Fenis a'u gwaith o'r blaen, ond doeddwn i ddim yn barod am y sioc a ges i'n gweld y paentiadau enfawr sydd yn llenwi'r ystafelloedd - Bellini, Carpaccio a llawer mwy. Ces i fy nharo yn enwedig gan y paentiad gan Paris Bordon, a sefyll o'i flaen yn amser hir yn syllu arno fo - y lliwiau, y cyferbyniad o olau a chysgod, y manylion, yr awyrgylch. Mae'n amhosib canfod y rhain oni bai gwelir yn bersonol. Treuliais ddwy awr felly, a mynd allan o'r oriel wedi fy nghyfareddu'n llwyr.

Friday, July 12, 2013

fenis 36 - ghetto


Creuwyd y gair hwnnw yn Fenis ganrifoedd yn ôl ar gyfer y lle i gadw'r Iddewon tu mewn. Er gwaetha' popeth, cawson nhw eu trin yn well na'r llefydd eraill ar yr adeg honno oherwydd bod gan y Fenisaidd ddiddordeb mewn busnes yn hytrach na beth ddywedodd y Pab. Roedden nhw'n gorfod byw ar y ddarn o dir hwnnw fodd bynnag. Yn naturiol codwyd yr adeiladau'n llawer uwch na gweddill o'r dref. Mae cymuned fach ond fywiog yn dal i fodoli hyd at heddiw a chewch chi ymweld â'r amgueddfa a'r synagogau. Roedd yn well gen i gerdded drwy Ghetto yn lle Strada Nova sydd yn syth a llydan ond gorlawn drwy'r amser.

Thursday, July 11, 2013

fenis 35 - cwmni


Pan glywodd fy ffrind o Bresia sydd yn dysgu Japaneg fy mod i yn Fenis, daeth i fy ngweld fore Sadwrn. Er bod ni'n helpu'n gilydd ar y we weithiau, roedd dyna'r tro cyntaf i ni gyfarfod. Wedi cyfarch ein gilydd ar orsaf trên Santa Lucia, aethon ni i Da Silvio am ginio lle ces i spaghetti vongole a Bellini. (Blasus iawn!) Yna, cerddon ni o gwmpas y dref yn hamddenol wrth edmygu'r golygfeydd - la Salute, Campo San Barnaba, ardal Cannaregio. Mwynheais i grwydro Fenis ar ben fy hun am bythefnos, ond roedd yn braf cerdded efo cwmni'n trafod y rhyfeddodau sydd yn llenwi'r dref. Wrth gwrs bod ni'n cael ymarfer yr ieithoedd dan ni'n eu dysgu hefyd. Roedd yn ddiwrnod hynod o bleserus.

Llun: pen tŵr Eglwys Madonna dell'Orto yn Cannaregio a gelwyd yn Panettone gan Commissario Brunetti

Wednesday, July 10, 2013

fenis 34 - ffarwelio â'r ysgol


Ces i wersi gwych ac amser bendigedig yn yr ysgol Eidaleg ymysg yr athrawon a'r staff ardderchog ynghyd y cyd-ddysgwyr clên. Gan fod pawb yn siarad Eidaleg drwy'r amser, ces i fy nhrochi ynddi hi am bythefnos. Roedd yn bleser mynd i'r ysgol fach bob bore cyn i mi grwydro'r dref yn y prynhawn. Wedi dod i nabod y bobl yno braidd yn dda, roedd yn ofnadwy o drist ffarwelio â nhw. Ces i anrheg hyfryd gan yr ysgol ddiwrnod olaf - rhywbeth bach del i ddal bag llaw sydd yn cael ei wneud o wydr Murano. Mae'n fy atgoffa i o'r dyddiau hapus...

Tuesday, July 9, 2013

fenis 33 - mynd i'r eglwys

Gwelais nifer o eglwysi hardd yn Fenis, ond roeddwn i eisiau mynd i'r eglwys fore Sul, nid i edrych ar yr adeilad ond i addoli Duw. Gan fy mod i'n methu ffeindio eglwys efengylaidd yno, es i St. George's, eglwys Anglicanaidd sydd yn croesawu pawb i'w gwasanaeth Saesneg. Roedd yn hyfryd clywed yr offeiriad yn darllen y Beibl. Pregethodd ar y bennod am y canwriad Rhufeinig. Roedd yn ymddangos yn bennod briodol gan mai yn yr Eidal roedden ni. Doeddwn i ddim yn gwybod mai milwr Rhufeinig oedd St. George cyn cael ei alw'n sant. Roedd yn hyfryd cyd-addoli Duw efo rhyw 40 o bobl eraill.

Monday, July 8, 2013

fenis 32 - ar ben tŵr san giorgio maggiore


Roeddwn i'n bwriadu manteisio i'r eithaf ar fy nhocyn vaporetto 12 awr a gostiodd €18. Es i lawr ac i fyny Camlas Fawr bedair gwaith. Croesais i i San Giorgio Maggiore hefyd. Cewch chi fynd i fyny'r tŵr gan lifft. Roedd y profiad ar ben y tŵr yn werth €6. Doedd fawr o bobl pan es i, felly roeddwn i'n medru mwynhau'r golygfeydd godidog i bob cyfeiriad heb gynnwrf. Mae'n llawer gwell na thŵr Piazza San Marco sydd yn orlawn drwy'r amser.

Sunday, July 7, 2013

fenis 31 - y 4edd golofn


Darllenais yn Venice is a Fish am y bedwaredd golofn Palazzo Ducale sydd yn wynebu'r cei. Yn adeg Seremissima, os llwyddodd dyn euog fynd o gwmpas y golofn efo'i gefn arni hi heb syrthio i lawr oddi ar y palmant gwyn, cafodd ei bardynu. Mae hyn yn swnio'n hawdd, ond dydy hi ddim oherwydd bod y golofn honno'n agosach at yr ymyl na'r lleill. Pan oeddwn i yno, ceisiais weld beth ydy'r gyfrinach. Roeddwn i'n darganfod bod diamedr y golofn yn fwy na'r lleill! Yna, ceisiais fynd o'i chwmpas a llwyddo! Wir i chi! Pan es yn ôl  i'r sgwâr ddyddiau wedyn, gwelais blant yn mynd o'i chwmpas. Na lwyddon nhw'n anffodus.

Saturday, July 6, 2013

fenis 30 - caffè florian


Des i'n ôl i Piazza San Marco unwaith neu ddau yn ystod y dydd. Roedd hi'n llawn o dwristiaid wrth gwrs ond doedd dim rhaid i mi boeni gan fy mod i wedi cael fy nhro'n barod. Mae yna siop coffi enwog sef Caffè Florian. Mynychwyd gan yr enwogion yn y gorffennol fel Casanova, Lord Byron, Charles Dickens ac yn y blaen. Mae hi'n dal i ddenu pobl sydd eisiau cael profiad arbennig - y lleoliad, yr hanes, yr addurniadau, y fwydlen, y gweinyddion, yr awyrgylch ... Mae'r prisiau'n swnio'n arbennig hefyd; eisteddodd un o fy nghyd-fyfyrwyr at fwrdd tu allan a threulio amser braf yn gwrando ar y cerddorion ac yn yfed un ddiod. Y bil? Dros €30.

Friday, July 5, 2013

fenis 29 - piazza san marco


Wedi taith bleserus ar y cwch, camais ar y cei wrth Piazza San Marco a sefyll ym mynedfa swyddogol Fenis. Rhwng y ddwy golofn gwelir yr olygfa a ddangosodd nerth a gogoniant y Weriniaeth i bob ymwelwyr a'i gyfareddu ganrifoedd yn ôl; mae hi'n dal i swyno'r ymwelydd presennol. Feiddiwn i ddim cerdded rhwng y colofnau wrth gwrs. Troais i'r chwith a mynd o gwmpas yr ardd gyhoeddus er mwyn dod i mewn i'r sgwâr o'r gorllewin; roeddwn i eisiau dilyn llwybr Jane Hudson. Yn anffodus roedd hanner o Basilica o dan orchudd a leihaodd y rhyfeddod, heb sôn am yr hysbyseb mawr parhaol ar wal Amgueddfa Correr. Ac eto mae'r sgwâr yn anhygoel; does ryfedd gelwyd yn drawing room yn Ewrop. Gan fod yna ychydig o bobl, roeddwn i'n medru edrych ar bob dim yn fanwl heb neb yn fy ymyrryd. Tarodd y ddau'r gloch efo eu morthwylion ar ben y tŵr cloc.

Thursday, July 4, 2013

fenis 28 - ar gamlas fawr



Roeddwn i heb weld Piazza San Marco yr wythnos gyntaf; nad oedd eisiau arna i fynd yno ar ôl y dosbarth efo miloedd o dwristiaid eraill. Felly gadawais y fflat am 6:30 fore dydd Sadwrn i gael fy ngolwg cyntaf arni hi. Efo tocyn 12 awr yn fy llaw, dyma fynd ar vaporetto ar Gamlas Fawr tuag at y sgwâr enwog. Roedd yn amlwg mai fi oedd yr unig dwrist ar y cwch gan fod pawb arall yn eistedd yn y caban cynnes yn y bore oeraidd. Sefyll oeddwn i ar y dec er gwaetha'r gwynt yn ymhyfrydu yn yr olwg anhygoel ar ôl y llall ar hyd y gamlas yng ngolau’r bore. 

4 gorffennaf








Gwyn ei byd y genedl y mae'r Arglwydd yn Dduw iddi.

Wednesday, July 3, 2013

fenis 27 - cymro yn fenis



Agorwyd Biennale tra oeddwn i yn Fenis. Rhaid cyfaddef nad oes gen i ddiddordeb enfawr mewn celf fodern, ond doeddwn i ddim yn bwriadu gadael y dref heb weld gwaith Bedwyr Williams sydd yn dod o Rostryfan. Wrth gerdded yn ardal Castello wythnos cyn yr agoriad, galwais heibio i’w arddangosfa i weld oedd o yno. Roedd bron i mi droi yn ôl yn syth wedi gweld pawb wrthi'n galed. Ond daeth Bedwyr ata i'n garedig. Methais siarad Cymraeg ar y dechrau oherwydd fy mod i'n ceisio siarad Eidaleg drwy'r wythnos. Roedd o'n aros amdana i'n amyneddgar serch hynny nes i mi ffeindio fy nhafod Cymraeg. Dyn clên iawn ydy o. Pan agorwyd Biennale yn swyddogol, dychwelais a gweld ei waith rhyfeddol - Starry Messenger. Dymuniadau gorau iddo. Mae Biennale yn para tan fis Tachwedd.

Tuesday, July 2, 2013

fenis 26 - cleaning day

Graffiti ydy problem arall ddifrifol yn Fenis. Roeddwn i'n teimlo'n ofnadwy ei weld ym mhob man yn y dref mor hardd ac arbennig. Pan glywais fyddai criw o Venessia.com (grŵp o'r trigolion sydd yn caru eu tref a gweithredu drosti hi) yn glanhau wal ger Campo San Barnaba fel rhan o weithgaredd cenedlaethol, es i ymuno â nhw. Roedd yna ddigonedd ar gyfer y wal, felly ces i fy ngyrru ynghyd â'r tri eraill at bont fach gerllaw. Roedden ni wrthi am dros awr wrth sgwrsio'n gyfeillgar. Roedd y bont a'r wal gerllaw'n edrych yn dda iawn yn y diwedd. Wrth gwrs mai ond blaen y mynydd iâ oedd hynny. Annog y lleill i weithredu oedd amcan y prosiect. Dyma glip y bore - Cleaning Day 2013 ar waelod y dudalen. Bydd ein rhan ni'n cychwyn tua 3:30 munud o'r dechrau.

Monday, July 1, 2013

fenis 25 - llongau pleser


Ymddangosai'n sydyn yn llenwi'r olygfa, fel adeilad anferth sydd yn symud yn araf - llongau pleser sydd yn hwylio ar Bacino di San Marco. Cewch chi olygfeydd hyfryd o Fenis oddi ar y dec; mae cannoedd o'r teithwyr yn ymgasglu wrth y ganllaw'n tynnu lluniau. Maen nhw'n creu busnes da yn yr adeg argyfwng economaidd. Dim ots os nad ydy'r llongau anferth yn gweddu golygfeydd hynafol Fenis, neu os ydy'r tonnau a grëir gan y llongau'n difrodi sylfeini'r dref, heb sôn am y ffaith bod Fenis yn sefyll ar filoedd o goed wyneb i waered wedi'u curo i mewn i laid y morlyn.