Friday, September 30, 2016

damwain

Dwedodd Jane mai damwain oedd. Dw i'n falch, nid ei bod hi wedi cael damwain, ond nid chafodd hi ei tharo'n fwriadol. Mae hi'n cael nifer o byst bygythiol drwy'r amser oherwydd ei bod hi'n cyhoeddi beth sydd yn digwydd o wirioneddol yn Israel. Mae hi'n brifo beth bynnag; gobeithio y bydd hi'n gwella'n fuan.

Thursday, September 29, 2016

anaf

Cafodd Jane o Jerwsalem ei tharo gan feic a oedd yn mynd yn gyflym. Dwedodd hi ei bod hi'n hedfan i fyny cyn disgyn ar y palmant yn galed. Na thorrodd hi asgwrn ond mae hi mewn ofnadwy o boen. Rhaid iddi orffwys am ddeg diwrnod. Rŵan na fydd hi'n medru mynd fel gohebydd preifat i angladd y diweddar Shimon Peres yfory. Dw i ddim yn gwybod eto ydy hyn yn ddamwain neu drosedd erchyll.

Wednesday, September 28, 2016

dysgu dwy iaith

Atebodd Johan yn ei fideo gwestiwn gan ddysgwyr Ffrangeg. "Ydy hi'n bosib dysgu dwy iaith ar yr un pryd?" Ydy, os oes gynnoch chi ddigon o amser, ac os ydy'r ddwy iaith yn wahanol efo'i gilydd, oedd ei ateb yn y bôn. Fel arall, mae'n well i chi ganolbwyntio ar un. Cytuno'n llwyr. Dw i'n dysgu Ffrangeg a Hebraeg rŵan; nid oherwydd fy mod i wedi penderfynu dysgu dwy iaith ar yr un pryd; dw i'n dysgu Ffrangeg am sbel a dechreuais ddysgu Hebraeg yn ddiweddar. (Dw i'n adolygu'r Gymraeg a'r Eidaleg hefyd.) Mae'r ddwy iaith hyn mor wahanol i'w gilydd fel does dim siawns i'w cymysgu nhw. Ac mae gen i amser, wedi i'r plant i gyd ac eithrio'r mab ifancaf adael cartref.

Tuesday, September 27, 2016

tric oklahoma

"Tric Oklahoma" galwodd fy merch hyn o'r blaen. Disgynnodd y tymheredd yn sydyn. Dylwn i fod wedi gwisgo het a menig cynnes pan es i am dro'r bore 'ma. Roedd y ferch sydd yn aros am y bws ysgol yn y gongl yn crynu mewn crys haf. Braf oedd y cerdded yn y goedwig ddistaw. Roedd y lleuad cilgant yn disgleirio yn y dwyrain.

Monday, September 26, 2016

croen banana

Wedi darllen sawl erthygl, dw i'n bwyta croen banana bellach. Ddim y croen melyn caled ond y rhan wen meddal tu mewn. (Efallai bod y croen melyn yn faethlon, ond dw i ddim eisiau ymdrechi cymaint â hynny i fod yn iach.) Mae'n hawdd; dim ond llwy sydd angen i grafu'r croen i gasglu'r rhan wen. Yna, bydda i'n ei stwnshio ynghyd â'r ffrwyth ac iogwrt efo ychydig o sinamon. Blasus.

Saturday, September 24, 2016

11 pibydd

Fel arfer bydda i'n cael trafferth llenwi rhestr ddymuniadau Eleven Pipers am anrhegion Nadolig. Eleni, fodd bynnag, mae gen i syniad gwych. Ar wahân i win gwyn a biscotti, bydda i'n gofyn am fwyd neu bethau eraill a wnaed yn Israel. Mae yna amrywiaeth o gynhyrchion ar gael ar y we. Bydda i'n medru mwynhau cynhyrchion o ansawdd uchel, cefnogi Israel a rhwystro BDS ar yr un pryd. 

Friday, September 23, 2016

celf sbwriel


Maen nhw wedi troi sbwriel yn gelf. Casglodd 77 o Ganadiad 400 llond bag o sbwriel ar lan Môr Galilea ddoe, a chreu hyn. Mae gan The Beautiful Land Initiative gynllun i godi sbwriel yn Israel er mwyn harddu'r Tir Sanctaidd. Maen nhw'n gwahodd pwy bynnag sydd gan ddiddordeb i ymuno â nhw. Os dach chi'n bwriadu mynd i Israel, cysylltwch â nhw i drefnu amser.

Thursday, September 22, 2016

ymarfer darllen

Dw i newydd brynu potel thermos i fy mab sydd yn rhedeg efo'i dîm cross country bob dydd yn y tywydd poeth. Fel arfer mae cyfarwyddiadau'n cael eu hysgrifennu yn Saesneg a Sbaeneg. Mae hyn, fodd bynnag, yn dod yn Ffrangeg yn ychwanegol. Dechreuais eu darllen. Mae'n braf oherwydd bod yna Saesneg wrth ochr os oes geiriau Ffrangeg newydd.

Wednesday, September 21, 2016

penblwydd yn 61oed

Penblwydd fy ngŵr ydy hi heddiw. Gyrrodd un o'n plant ni sydd yn Japan neges ato fo drwy Facebook. "Mwyaf dw i'n mynd ati yn y byd, mwyaf dw i'n sylweddoli pa mor hyfryd ydy fy nhad. Mae o'n amyneddgar, araf i gynhyrfu, ystyriol bob amser, ond yn gadarn a di-ildio yn gwneud y peth iawn." Dw i'n cytuno â hi'n llwyr.

Tuesday, September 20, 2016

arogl cryf

Dw i a'r teulu'n dod ar draws brown recluse yn aml yn ddiweddar, yn y tŷ dw i'n meddwl. Dan ni'n glên wrth jumping spiders gan eu bod nhw'n dal pryfed drwg, ond rhaid lladd brown recluse ar unwaith. Wedi i'r mab golli un yn yr ystafell sbâr, roedd angen trin yno, ond doeddwn i ddim eisiau defnyddio cemegol cryf. Dyma fynd ar y we a ffeindio amrywiaeth o ddulliau naturiol i gael gwared arnyn nhw. Dewisais glof, pupur, olew ewcalyptws a the mintys. Gobeithio y byddan nhw'n gweithio. Mae'r ystafell yn arogli'n gryf iawn!

Monday, September 19, 2016

y foment (arall)

Mae medru dal y foment yn rhoi tipyn bach o hapusrwydd i mi am ryw reswm - y foment a ddeith coffi allan o'r twll yn fy Moka. Mae'n cymryd tipyn o amser, ac mae'n dod yn sydyn heb rybudd fel dw i wedi colli'r foment yn aml. Heddiw mesurais i ba mor hir y cymerith i'w weld hi - wyth munud a hanner. Bydda i'n gosod amserydd o nes ymlaen i sicrhau llwyddiant.

Saturday, September 17, 2016

trump yn dod

Mae Mr. Trump yn dod i Norman, Oklahoma (y dref mae fy merch hynaf yn byw ynddi) prynhawn 'ma i fynychu achlysur i godi pres, am 4:30 i fod yn fanwl. Bydd o i fod yn Houston, Texas am 1:00, ac yn Colorado Spring am 7:30 heno. Bydd o mewn cartref preifat ger y brifysgol. Bydd yna gêm pêl-droed Americanaidd yn y dref hefyd. Mae'r heddlu druan yn gweithio'n oramser ers ddoe i sicrhau'r diogelwch.

Friday, September 16, 2016

rhag eich cywilydd

Hwrê! Curodd Beersheba (tîm Israel) Inter Milan o 2-0! Cyn y gêm, rwystrodd cefnogwyr y Palestiniaid ffans Beersheba rhag mynd i mewn i'r stadiwm. Ildiodd yr Eidal i ewyllys y cynhyrfwyr. Cywilydd arnyn nhw. Stopiodd yr heddlu'r ffans Bersheba rhag mynd i mewn fel na fydd cefnogwyr y Palestiniaid achosi terfysg yn hytrach na arestio'r olaf.

Thursday, September 15, 2016

ffarwelio

Roedd cinio bach mewn tŷ bwyta i ddweud ffarwel wrth ddynes oedrannus annwyl. Mae hi'n symud i Minnesota er mwyn byw efo un o'i phlant. Dw i'n ei nabod hi ers i mi symud yma dros 18 mlynedd yn ôl. Er mai hyn ydy'r peth gorau iddi, bydd yn drist peidio ei gweld hi eto (yn y byd presennol.) 

Wednesday, September 14, 2016

archeb arall

Fe wnaeth y fideo yma fy ysgogi i archebu pecyn arall gan Lev HaOlam! Gwych gweld bod y cynhyrchwyr yn Israel yn dal i wrthi'n cynhyrchu cynnyrch o safon uchel er gwaethaf BDS a phob dim. Edrych ymlaen at weld beth fydd yn y pecyn nesaf. (Gobeithio y ca' i botel o fêl o'r wlad yn llifeirio o laeth a mêl!)

Tuesday, September 13, 2016

stryd newydd

Dw i'n bwy mewn cymdogaeth amgaeedig sydd gan un stryd i fynd allan a dod i mewn. Mae'n braf oherwydd nad oes llawer o draffig yma a chewch chi gerdded yn ddiogel (er nad oes amrywiaeth o olygfeydd ar gael.) Mae'r sefyllfa'n newid fodd bynnag. Mae gan berchennog yr ardal gynllun i ehangu'r gymdogaeth a dechrau gwneud stryd arall. Mae tarw dur a pheiriant arall wrthi'n torri coed tu hwnt i ben y stryd yn ddiweddar. 

Monday, September 12, 2016

ras arall

Roedd ras cross country arall (5K) ddydd Sadwrn yn Tulsa. Fe enillodd tîm ein hysgol ni ar y cyfan. Ein hogyn gorau oedd y cyntaf. Rhedodd fy mab yn dda hefyd a thorri ei record ei hun. Na chafodd ei anafu chwaith. (Gollyngdod mawr i mi!) Ras arall ddydd Iau!

Saturday, September 10, 2016

her newydd i johan

Mae Johan o Français Authentique newydd ddechrau dysgu Eidaleg! Mae o'n siarad Saesneg ac Almaeneg yn barod. Rŵan dechreuodd her newydd. Dechreuwr llwyr ydy o ac mae o'n defnyddio'r modd mae o'n dysgu i'r bobl eraill, hynny ydy dysgu am hanner awr bob dydd y pethau sylfaenol drwy lyfrau ac awdio am fis neu ddau. Yna, bydd o'n dechrau mwydo ei hun yn yr Eidaleg drwy ddefnyddio'r amser segur. Edrych ymlaen at weld sut bydd o'n mynd ymlaen.

Friday, September 9, 2016

blas o israel

Aeth fy merch hynaf i ginio bach mewn tŷ bwyta Groeg yn Oklahoma City ddoe a gweld poster. Mae o'n hysbysebu cinio arbennig a gynigir ddiwedd y mis yma. Gelwir yn "flas o Israel" ac mae'n cynnwys prydau o fwyd egsotig fel shakshouka, cholent a sufganiyot. Byddai'n dda gen i ymuno â nhw!

Thursday, September 8, 2016

yr 20fed penblwydd

Penblwydd fy merch ifancaf ydy hi heddiw. Mae hi'n dysgu mewn prifysgol ym Missouri ers mis Ionawr eleni. Dechreuodd hi theatr (ei hoff wers) y tymor yma ynghyd â dawnsio (bale, tap.) Roedd hi'n gweithio yn y gegin yn ystod y tymor cyntaf er mwyn talu am y ffi, ond cafodd hi "ddyrchafiad," ac mae hi'n  cael gweithio yn y theatr bellach. Gobeithio y ceith ddiwrnod bendithiol heddiw.

Wednesday, September 7, 2016

y 27ain penblwydd

Penblwydd fy mab hynaf ydy hi heddiw. Dyn ifanc hynod o glên a doniol ydy o. Wedi gweithio fel peiriannydd i gwmni o Texas am sawl blwyddyn, mae o'n priodi'n hapus ac yn dad i fabi bach dau fis oed (sydd yn edrych yn union fel ei dad) bellach. Falch iawn o ddarllen neges hardd gan ei wraig a oedd yn ddiolchgar dros ben wrtho fo. Dwedodd o fydden nhw'n cael parti bach heno, a newid cewyn neu ddau, siŵr iawn!

Tuesday, September 6, 2016

y 23ain penblwydd

Penblwydd fy nhrydedd ferch ydy hi heddiw a hithau oddi cartref. Roedd nifer o ddymuniadau gorau iddi ar Facebook gan gynnwys neges Gymraeg gan ei chyn athrawes o Brifysgol Abertawe. Mae fy merch newydd ddechrau gweithio fel tiwtor Saesneg yn Japan. Dwedodd hi fod y gwersi wedi mynd yn llawer gwell na'r disgwyl. Bydd hi'n dysgu rhwng un a chwe dosbarth o wahanol oedran a safon bob dydd. 

Monday, September 5, 2016

popcicle

Roedd gen i fananas rhy aeddfed. Gwelais i rysáit gwych ar You Tube, a dyma baratoi popsicle ar yr unwaith. Dim ond bananas, siocled, olew coco a ffyn popsicle sydd angen. (Wnes i ddim defnyddio toppings.) Maen nhw'n flasus iawn ac yn faethlon wrth gwrs. 

Saturday, September 3, 2016

mae jane yn ôl

Mae Jane newydd ddod yn ôl i Jerwsalem! Wedi cael tair wythnos i orffwys yn Sweden, mae hi'n ôl i'w thref fabwysiedig. Cafodd hi groeso cynnes annisgwyl gan Iddewes ifanc sydd yn ddiolchgar i Jane am ei chefnogaeth i Israel. Gobeithio bod hi wedi cael digon o orffwys i ail-ddechrau ei hymdrech i sefyll efo'r wlad mae hi'n ei charu cymaint.

Friday, September 2, 2016

ras cross country

Cynhaliwyd ras cross country ddoe. Ras gyntaf y tymor oedd hi, ac yr unig ras gartref. Rhedodd cannoedd o ddisgyblion gan gynnwys fy mab ifancaf o ysgolion uwchradd yn yr ardaloedd . Mae gan fy mab broblem ar ei grimog yn ddiweddar ond rhedodd o'n galed a da fel torrodd ei record ei hun. (Roedd rhaid trin y grimog efo rhew wedi'r ras.) Bydd ras bob wythnos nes mis Tachwedd.

Thursday, September 1, 2016

cerdded yn y glaw

Roedd hi'n bygwth glaw pan adawais y tŷ mewn hanner tywyllwch i gerdded y bore 'ma. Dim ots. Roeddwn i eisiau gwneud fy ymarfer corff boreol. Aeth heb ymbarél. Daeth y glaw pan gyrhaeddais y goedwig. Roedd yn bwrw braidd yn drwm am sbel efo mellt neu ddau i atalnodi'r awyr. Dim ots. Roeddwn i'n dal i gerdded yn teimlo'n hynod o braf yn y glaw ffres. Roedd y glaswellt brown yn edrych yn ddiolchgar. Rhaid bod yr anifeiliaid gwyllt yn ddiolchgar hefyd.