Friday, February 29, 2008

prynu tocyn awyren

Mi ges i sioc enfawr. Mi brynes i heddiw docyn awyren i fynd i Iowa. $600 oedd o! Dim ond $300 oedd o mis yn ôl! Ac oedd bron i mi fethu cael sedd o gwbl! Mae rhywun yn enill cymaint o bres ar draul pobl gyffredin.

Thursday, February 28, 2008

dringo i'r eitha

Mi nes i fwynhau'r rhaglen hon er gwaetha anhawster yr iaith, diolch i Linda am y wybodaeth. O leia, mae'r dafodiaith yn swnio'n gyfarwydd ac rôn i'n dallt rhan ohoni hi. Pam dydy'r hogyn na ddim yn gwisgo crys, tybed? Mi fydd o'i amddiffyn rhag cael ei grafu.

Pob llwyddiant i Ioan. Gobeithio na neith o syrthio'n wael.

Wednesday, February 27, 2008

helynt hurt tywysogion cymru

Mae'n wych cael gweld rhaglenni S4C ar y we, ond fedra i ddim peidio teimlo'n isel gan mod i ddim yn dallt be mae'r bobl yn dweud. Ar ôl cael cip ar PC Leslie Wynne soniodd Dogfael, a phenderynu bod gen i ddim gobaith, mi nes i wylio Helynt Hurt. Dw i'n teimlo tipyn yn well achos mod i wedi ddallt y rhan fwya ohoni hi. Ella mai dyna beth ddylwn i wneud, hynny ydy gweld rhaglenni plant.

Mae'n ddifyr iawn bod y plant sy'n chwarae milwyr yn gwisgo crysau pel-droed Lloegr a Chymru!

Monday, February 25, 2008

dirgelwch yr ogof

Mi ges i weld rhan 1 a 2 o'r ffilm ar S4C. Mae'r cyfrifiadur yn gwrthod lawrlwytho mwy. Roedd yn anodd dallt be oedden nhw'n dweud fel arfer. (Dw i isio is-deitl Cymraeg!) Un ymadrodd ôn i'n dallt yn dda oedd, "Pob un ohonoch chi?" Roedd hi braidd yn rhyfedd gweld boneddigion yn nillad crand efo gwallt gosod yn siarad Cymraeg.

Mae 'na rai actorion dw i wedi gweld nhw o'r blaen. Dw i'n meddwl mod i wedi gweld Ray Gravell hefyd. Ydw i'n iawn neu beidio?

Sunday, February 24, 2008

pot lwc

Roedd 'na "pot lwc" yn yr eglwys eto ar ôl y gwasanaeth. Roedd o ar gyfer dau hogyn bydd yn mynd i Honduras yn yr haf. Mi fyddan nhw'n helpi'r gwaith adeiladu mewn athrofa yno am wythnos. Mi gaethon ni fwyd fel tacos, tsili, tameli o bob math. Moch yn y blancedi wnes i eto achos bod nhw mor syml. Ar ôl glanhau'r gegin efo gwragedd eraill, mi ddes i adra am 3:30. Dw i wedi blino!

Saturday, February 23, 2008

anrheg briodas

Mi brynes i anrheg i hogan Japaneaidd bydd yn priodi tair wythnos i heddiw. Mae gynni hi restr hir yn Wal-Mart ac mi gewch chi ddewis pa un bynnag dach chi isio rhoi iddi. Mi nes i ddewis DVD, sef Chronicles of Narnia. Mae o'n fach ac yn ysgafn. Mi fedra i ei lapio'n hawdd. Mi roia i fo iddi mewn "cawod" cyn y briodas.

Friday, February 22, 2008

uned 7, cwrs pellach

Mi nes i yrru Uned 7 (mi fydda i, mi dala i, ayyb) at y tiwtor p'nawn ma. Dw i'n cael dysgu'n ddwys drwy'r cwrs ma. Mi fyddwch chi'n gweithio'n galetach os bydd eich tiwtor yn marcio'ch gwaith!

Gyda llaw, maen nhw wedi penderfynu pwy bydd yn dysgu cwrs Cymraeg Madog yn Iowa. Mi nân nhw gyhoeddi'r rhestr a phroffiliau y tiwtoriaid ymhen mis. Mi edrycha i ymlaen at wybod pwy fydd fy nghiwtor i. (A dach chi'n gwybod pwy dw i iso.)

Thursday, February 21, 2008

s4c eto

Mi nes i lwyddo! Mi fedrwn i weld Milltir Sgwar heddiw. Roedd yn dda gael gweld Porthmadog eto. Dim ond noson mi arhoses i yno llynedd ond roedd y golygfeydd yn gyfarwydd iawn. Roedd yn anodd dallt y bobl ifanc. (Dw i ddim yn dweud mod i'n dallt pobl hyn yn dda!) Ymarfer gwych beth bynnag. Mi sylwes i bod y ddwy hogan wedi dweud, "Croeso i Porthmadog!" heb dreiglad.

Wednesday, February 20, 2008

s4c

Dw i newydd ddarganfod mod i'n medru gweld rhai o raglenni S4C ar y we. Roedd hi'n cymryd ofnadwy o hir (cyhyd â'r rhaglen) lawrlwytho, ond mi fedrwn i weld tri chwarter o Rownd a Rownd p'nawn ma. Mi stopiodd hi wedyn. Rhaid i mi gyfadde mod i ddim wedi dallt y rhan fwya o'r sgyrsiau. Mae arna i isio is-deitlau Cymraeg! Dydy o ddim ar gael i'r bobl tu allan i Gymru gwaetha'r modd. (Rhywbeth i wneud â hawlfraint.) Gobeithio ca i weld rhaglenni eraill hefyd. Mi geisia i yfory.

Tuesday, February 19, 2008

hen lyfr cymraeg

Mi ges i hen hen lyfr Cymraeg oddi wrth gyd-ddysgwr yn America, sef Hyfforddwr a Chyffes Ffydd gan Thomas Charles. Argraffwyd y llyfr yn Wrecsam yn 1874. Amryw o bobl oedd biau hwn ar ôl y llofnodion gan gynnwys Mr. William Ebenezer yng Nghaernarfon. Darn o hanes ydy hwn. Fedra i ddim credu bod fy ffrind wedi cael hyd iddo mewn siop lyfrau ail-law yn America.

Monday, February 18, 2008

presidents day

Presidents Day ydy hi heddiw ac mae'r plant adre. Dydy hyn ddim yn digwydd bob blwyddyn. Mae'n dibynnu ar y tywydd. Cheith plant ddim diwrnod i ffwrdd ar y wyl ma os bydd yr ysgolion yn cau yn yml oherwydd yr eira. Chaethon ni ddim cymaint o eira'r gaeaf ma.

Dw i'n siwr bydd hyn yn swnio'n gyfndrefn ryfedd i rai pobl. Mae plant i fod i fynd i'r ysgol 180 diwrnod y flwyddyn. Os bydd ysgolion yn cau oherwydd yr eira, bydd rhaid oedi dechrau gwyliau'r haf. Ac dydy neb yn hoffi hynny, wel bron neb. Beth bynnag, mae'r plant yn mwynhau'r diwrnod i ymlacio.

Sunday, February 17, 2008

p'nawn sul

Mi es i a'r teulu i ffreutur y brifysgol am ginio. Doedd 'na ddim llawer o ddewis y tro ma. Mi ges i ddau ddarn o bitsa, hanner beigl a salad.

Roedd fy merch arall yn torri gwallt fy merch hyna a'i ffianse ar ôl ddwad adre. Mi aeth fy mab hyna i chwarae pêl-droed. Mi aeth fy ngwr i gyfarfod.

Mae'n anodd dysgu Cymraeg tra fydd y teulu wrthi'n gwneud wahanol pethau. Gobeithio ca i amser i wneud Uned 7, Cwrs Pellach heddiw.

Saturday, February 16, 2008

ffrogiau priodas

Mi aeth fy merch hyna adre efo'i ffianse dros y Sul. Mae hi wedi prynu ffrog briodas ar sêl yn barod. Ond roedd hi isio trio mwy rhag ofn iddi ddod o hyd i un gwella. Mi es i a'r tair merch i siop ffrogiau ffansi yn y dre. Roedd hi mor hapus trio sawl ffrogiau prydferth. Mi naeth hi benderfynu byddai hi'n gwisgo ei un hi wedi'r cwbl. Mi gaethon ni i gyd hwyl beth bynnyg.

Friday, February 15, 2008

bwletin newyddion 2

Mae'n gweithio! Wir i chi! Rôn i'n deall bwletin Post Cyntaf heddiw mwy nag arfer wedi dysgu'r bwletin ysgrifenedig cyn gwrando arno fo. Dw i'n bwriadu gwneud hyn bob tro.

Roedd cyflwynyddion Post Cynta heddiw'n wych hefyd. Dyfan Tudur (fy hoff gyflwynydd) ddarllenodd y bwletin a dau arall siradodd am y Byd. Mae gynnyn nhw i gyd acen ogleddol hyfryd.

Thursday, February 14, 2008

gefeilliaid

Mi es i i'r dre i warchod plant bach bore ma. Doedd 'na ddim Cheetos y tro ma ond reis wedi'i ffrio oedd cynddrwg a Cheetos. Mi naeth y rhan fwya ohono fo syrthio i lawr ar y carped a chael ei sathru dan draed.

Roedd 'na ddwsin o blant gan gynnwys gefeilliaid del tua pedwar mis oed. Roedden nhw mor debyg i'w gilydd. Pan ddechreuodd un grio, dilynodd y llall. Mi ges i ddal un ohonyn nhw a'i bwydo. Mi roies i hi mewn siglen babi wedyn. Yna aeth hi i gysgu'n dawel.

Wednesday, February 13, 2008

rhwng y wlad a'r wladfa

"O Drelew i Dre-fach" gan Marged Lloyd Jones - Dw i newydd orffen y llyfr hwn efo teimladau cryf, cymysgeidd o syfrdandodd, dristwch, edmygedd, llawenydd a mwy. Hanes Nel fach y Bwcs (Ellen Davies Jones) ydy hwn. Mi gaeth hi ei geni yng Nghymru a'i dwyn i fyny yn Patagonia. Yna mi aeth hi yn ôl i Gymru'n oedolyn.

Dôn i ddim yn gwybod bron dim am y Gymry allfudodd i Batagonia. Mi ges i gipolwg o'u bywydau caled drwy'r llyfr hwn. Mae gan yr awdures (merch yng-cyfraith Ellen) ddawn arbennig o ddisgrifio popeth mor fyw. Rôn i'n teimlo fel taswn i'n gweld brofiadau Ellen o blaen fy llagaid. Heb os un o'r llyfrau gorau ddallenes i erioed ydy o.

Mi fydd S4C yn rhyddhau ffilm ar ôl y llyfr eleni. Dw i'n siwr bydd hi'n gwaith da oherwydd mai wyres Ellen (Eiry Palfrey) wnaeth y ffilm, ac mai merch Eiry (Lisa Palfrey) chwaraeodd rhan Ellen. (O, mi faswn i'n licio'i gwylio taswn i'n cael!)

Tuesday, February 12, 2008

bwletin newyddion

Rôn i'n darganfod rhywbeth defnyddiol iawn ar y we bore ma, sef bwletin newyddion ar dulalen Cymru'r Byd (dolen uchod.) Mi fydda i'n gwrando ar fwletin newyddion ar Radio Cymru bob dydd. Mi fydd bwletin ysgrifenedig yn help mawr. Dydy o ddim yr un peth â rhaglen y radio'n union, ond bydda i'n cael gwybod y pynciau a'r geirfa ymlaen llaw. Rôn i'n deall y bwletin ar radio mwy nag arfer heddiw.

Monday, February 11, 2008

gwers japaneg

Mi gaethon ni wers Japanese arall p'nawn ma. Anodd iawn ydy Japaneg fel ail iaith. Dw i'n ei siarad heb feddwl, wrth gwrs, ond mae'n galed esbonio be' ydy be' i'r bobl eraill er mod i'n gwneud fy ngorau glas.

Beth bynnag, roedd 'na beth difyr ar ddechrau'r wers. Rôn i ar ateb Ron yn Gymraeg! Mi orffenes i siarad â Linda ar Skype chwarter awr cyn y wers. Roedd rhaid bod fy ymennydd dal i fodd Cymraeg. Yna mi naeth o droi'n ôl i fodd Saesneg yn fuan iawn (Dan ni'n siarad Saesneg y rhan fwya o'r amser.)

Saturday, February 9, 2008

sgidia newydd

Mi nes i brynu sgidia newydd yn Wal-Mart heddiw er mwyn cerdded yn y ty. Mi ddechreuodd dymor alergedd y gwanwyn yn barod. Dw i'n gorfod osgoi cerdded tu allan cymaint â phosib. Mae'r tymor yn para am dri mis yn y gwanwyn. Mae 'na un arall yn yr hydref hefyd. Felly dim ond yn yr haf ac yn y gaeaf medra i gerdded tu allan pan fydd hi'n boeth ac yn oer!

Beth bynnag, mae gan y sgidia badin effeithiol sy'n amddiffyn eich traed. Mi edrycha i ymlaen at eu gwisgo ond bydd rhaid i mi gerdded yn syth ymlaen ac yn ôl (back and forth) fel Capten Hornblower ar ddec ei long.

Friday, February 8, 2008

uned 6, cwrs pellach

Mi ges i Uned 6 ddoe. Dw i wedi bod yn gwrando ar y CD bob dydd ac dw i mwy na pharod. Mae 'na rai cwestiynau fedra i ddim ateb heb wybod cyfraith Brydain. Felly rhoedd rhaid i mi ofyn i Corndolly pan siaradon ni ar Skype, e.e. Pryd gewch chi ddechrau gyrru, pleidleisio.

Dw i'n gwirioni ar y cwrs ma. Mae o'n wych. Mi ga i gyfle i ymarfer a chaledu'r hyn dw i wedi dysgu. Ac dw i'n cael gwneud efo ffurfiau hollol ogleddol. Mae'n hyfryd bod gen i diwtor sy'n marcio fy ngwaith, ateb cwestiynau ac rhoi geiriau calonogol. Mae'r ymarfer llafar yn eitha heriol a dweud y gwir. Un peth ydy sgwennu ond y peth gwahanol ydy dweud brawddeg Gymraeg chwap ar ôl sbardun.

Thursday, February 7, 2008

cylchwyl o fath

Blwyddyn yn union yn ôl ym mis Chwefror dechreues i ddysgu ffurfiau gogleddol. Rôn i wedi dysgu'r rhai deheuol cyn hynny. Rôn i'n teilmo fel tasai rhaid i mi ddechrau o ddechrau. Mi gymerodd misoedd cyn i mi fedru dweud heb swildod, "Mae gen i amser rwan" yn hytrach na, "Mae amser da fi nawr."

Dw i ddim yn cofio pryd ddechreuodd fy hoffter tuag at Gymraeg y Gogledd. Efallai pan brynes i CDau Te yn y Grug a gwrando ar Gymraeg swynol Bethan Dwyfor, a chlywed Winni Finni Hadog yn swnio fel tasai hi'n canu tra oedd hi'n flin ac yn gas.

Mae 'na acen benodol yn y Gogledd dw i'n gwirioni arni hi, acen Bethan Dwyfor a Karen Owen. Dw i'n ei chlywed o dro i dro mewn cyfweliadau ar Radio Cymru ac dw i wrth fy modd.

Wednesday, February 6, 2008

cwrs y rhosyn gwyllt

Dw i newydd gofrestru ar gyfer cwrs Cymraeg gan Gymdeithas Madog ym mis Gorffenaf yn Iowa. Rôn i'n bwriadu aros nes i mi wybod pwy fydd yn dysgu'r cwrs ma ond dyma'r unig cwrs fedra i fynychu'r haf ma wedi'r cwbl. Fedrai ddim mynd i Gymru oherwydd y priodas ac bydda i'n siomedig os na cha i fynd i unrhyw cwrs Cymraeg eleni. Mae llawer o bobl wedi ei ganmol ac bydd hi'n hwyl cael nabod dysgwyr eraill yn America.

Tuesday, February 5, 2008

ffair wyddoniaeth

Roedd 'na ffair wyddoniaeth yn yr ysgol neithiwr. Roedd holl plant yr ysgol wedi bod wrthi'n gwneud arbrofion a phosteri. A dweud y gwir, mae'n amhosib i plant iau i wenud popeth ar ben eu hun. Maen nhw angen cymorth y rhieni bob tro. Felly roedd fy ngwr wedi bod yn brysur iawn penwythnosau'n ddiweddar. Mi naeth ein plant ni weithio ar foch cwta, ffa a "pedometer."

Mi gaethon ni swper "pot luck" hefyd. Mi nes i Foch yn y Blancedi. Cael noson o hwyl naethon ni beth bynnag. Ond y peth gorau oedd bod ffair wyddoniaeth ar ben (am eleni!)

Monday, February 4, 2008

ron yn ol

Mae Ron ôn i'n dysgu Japaneg iddo fo'n ôl o Japan. Buodd o yno am bythefnos yn ymweld â ffrindiau. Mi gaeth o amser bendigedig.

Mi ddaeth o p'nawn ma am wers Japaneg ond mi naethon ni siarad (naeth o siarad, a dweud y gwir) am ei daith y tro ma. Mae o wedi enill pum pwys wrth fwyta cymaint o fwyd da oedd y bobl wedi paratoi iddo.

Mae o isio symud i fyw yn Japan fel cenhadwr lleyg. Mae 'na bosibilrwydd, meddai fo. Gobeithio eith popeth yn iawn a cheith o fyw yno.

Sunday, February 3, 2008

blwyddyn briodas


Blwyddyn briodas ydy hi eleni. Bydd dau bobl ifanc yn ein eglwys ni'n priodi hefyd, ac bydd fy merch hyn yn trin gwallt y briodferch. Mae hi'n ymarfer yn ei styfell ar y hyn o bryd. Mi fedra i glywed chwerthin siriol.

Dyma'r canlyniad (dim terfynol.)

Friday, February 1, 2008

mae o'n dadlaith

Mi aeth y plant i'r ysgol heddiw wedi'r cwbl. Mi beidiodd yr eira neithiwr ac mae hi'n heulog ar hyn o bryd. Mae'r eira'n dadlaith yn gyflym. Roedd y plant yn edrych ymlaen at chwarae ynddo fo ar ôl dwad adre, ond mi gân nhw eu siomi.

Dydy hi ddim yn bwrw eira yma cymaint ag Indiana lle Zoe ( http://aderyncan.blogspot.com/ ) yn byw. Roedd yr ysgol yn cau'n aml iawn oherwydd yr eira yno. Doedd gynnon ni ddim garej pryd hynny, ac dw i'n cofio palu'n car ni allan o eira mawr cyn gyrru.