Wednesday, September 28, 2022

wedi corwynt

Aeth dau gorwynt heibio i Japan yn ddiweddar. Anhygoel o nerthol oedd un o'r ddau wrth iddo achosi ofnadwy o ddifrod. Mae tywydd yn troi'n braf iawn, fodd bynnag, yn dilyn corwynt bob tro. Dyma'r olygfa a oedd yn disgwyl fy merch pan agorodd drws ei fflat i fynd i'r gwaith un bore.

Monday, September 26, 2022

tymor i bob peth

Daeth amser i ddileu'r hen furluniau, a phaentio rhai newydd yn Ardal Plaza, Oklahoma City. Cafodd murlun fy merch hynaf, ynghyd â'r lleill a baentiwyd y llynedd eu dileu heddiw er mwyn artistiaid eraill yn cael cychwyn eu gwaith ar eu pen nhw. Ofnadwy o drist, ond dyna fo. 

"Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef."

Saturday, September 24, 2022

galaru

Ergyd erchyll i fy merch hynaf oedd colli ei chi annwyl. Roedd hi'n crio bob amser am ddyddiau. Mae hi'n tynnu drwodd yn araf, diolch i gysur Duw a gweddïau ei chyfeillion. Cafodd o ei amlosgi, a dychwelyd adref yn llwch. Gosododd hi'r wrn ar gongl yr ystafell i'w gadw am sbel cyn ei gladdu.

Friday, September 23, 2022

hollol ddibynadwy

Prynodd y gŵr logiau ar gyfer y llosgwr. Roedd y pris wedi cynyddu’n 50 y cant, diolch i Bidenflation. Gall cynhesu’r tŷ gan y llosgwr fod mor ddrud â'r trydan y gaeaf yma, ond hollol ddibynadwy ydy'r cyntaf o leiaf. Dan ni'n bwriadu ei ddefnyddio i ferwi dŵr ar gyfer golchi eleni.

Thursday, September 22, 2022

67 oed

Penblwydd y gŵr yn 67 oed oedd ddoe. Coginiais ei hoff fwyd, sef gyoza, a phastai pwmpen yn lle cacen. Doedd neb arall adref eleni, ac felly helpodd ein ddau ffrind i ddathlu.

Tuesday, September 20, 2022

anrheg anghywir

Roeddwn i'n anghofio nôl y post ddoe. Cyn cychwyn cerdded y bore 'ma, dyma agor y blwch post. Ces i fy synnu'n darganfod pecyn bach gyda stampiau post yn dangos proffil ifanc y diweddar Frenhines. Anrheg annisgwyl! Ces i fy siom, fodd bynnag, ar yr unwaith - i rywun arall oedd, sydd yn byw ar stryd wahanol gyda'r un rhif tŷ. 

Monday, September 19, 2022

anrheg

Ces i anrheg arbennig gan ferch yn ei arddegau yn yr eglwys. (Mae ganddi broblem iechyd meddwl.) Mae hi'n dod â dol gyda hi o enw Max bob wythnos. Ei "babi" ydy o. Ar ôl y gwasanaeth boreol ddoe, daeth ata i gan ddweud, "Fe wnaeth Max hwn drosoch chi," a rhoi i mi'r anrheg dwymgalon hon.

Saturday, September 17, 2022

paentiad newydd

Mae gynnon ni baentiad newydd yn y tŷ, a baentiodd fy merch hynaf er mwyn anrhydeddu Chiune Sugihara, diplomydd Japaneaidd a achubodd filoedd o fywydau Iddewon yn Lithwania yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gofynnwyd i fy merch gan sefydliad brwydro yn erbyn gwrth-semitiaeth flynyddoedd yn ôl yn wreiddiol. Cawson ni fraint i berchen arno fo. 

Friday, September 16, 2022

sanct sanct sanct


Dw i ddim yn hoffi caneuon addoli wedi'u moderneiddio o hen ffefrynnau, ond eithriad ydy hon. Cyfieithwyd y geiriau yn 1903, ac felly mae'r iaith Japaneg yn hen ac anodd weithiau. Yn rhyfeddol, mae'n asio'n wych gyda'r perfformiad gan y bobl ifanc. Un o fy ffefryn ydy hi'n bendant.

Wednesday, September 14, 2022

reuben ( - medi 14, 2022)

Aeth Reuben, ci fy merch hynaf at Iesu'r bore 'ma. Gwaethygodd ei iechyd yn dorcalonnus yn ddiweddar fel roedd rhaid i fy merch a'i gŵr wneud y penderfyniad anodd. Wedi bwyta darn o bitsa yn swyddfa'r milfeddyg, caeodd ei lygaid yn dawel am y tro olaf. Roedd o gyda nhw bron i 14 mlynedd, ac fel eu hunig blentyn. Dydy'r Beibl ddim yn dweud beth fydd yn digwydd i anifeiliaid anwes ar ôl iddyn nhw farw, ond dw i'n credu'n gryf bod gan Dduw trugarog drefniadau tosturiol ar eu cyfer nhw.

Tuesday, September 13, 2022

lleuad wen

Wrth gerdded yn y gymdogaeth y bore 'ma, gwelais Nagorizuki, sef lleuad wen. Dw i bob amser yn teimlo dipyn yn drist yn gweld lleuad wen, wrth feddwl y cyffro a ffwdan mae lleuad lawn yn drwyn yn Japan, yn enwedig dros y lleuad lawn honno - y Lleuad ar y 15fed Noson neu Leuad Gynhaeaf. Mae hi fel hen actores a oedd yn arfer bod yn hardd a phoblogaidd, ond dydy neb yn rhoi sylw iddi bellach.

Monday, September 12, 2022

enfys gyda 7 lliw


Doeddwn i ddim yn gwybod bod gan y Frenhines Elizabeth II ffydd ddiffuant, bersonol yn Iesu Grist. Roedd hi wedi gwasanaethu ei gwlad yn ymroddedig drwy gydol ei hoes, ond dyma'r peth pwysicaf. Aeth y frenhines at Frenin y brenhinoedd, ac mae hi'n ei addoli ynghyd â'r ffyddloniaid di-rif.

Saturday, September 10, 2022

juugoya

Camais allan ar y dec cefn tua phump o'r gloch y bore 'ma, er mwyn gweld Juugoya, sef y Lleuad ar y 15fed Noson. Hardd oedd. Roedd hi'n goleuo'r tywyllwch fel llusern fawr. 

Friday, September 9, 2022

newydd bob bore

Dw i newydd brofi tosturiaethau a ffyddlondeb fy Nuw unwaith yn rhagor.

Nid oes terfyn ar gariad yr Arglwydd,
ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau.
Y maent yn newydd bob bore,
a mawr yw dy ffyddlondeb.
Galarnad 3:22, 23

Tuesday, September 6, 2022

pry copyn

Ces i fy synnu'n gweld pry copyn mawr iawn ar ei we, wrth agor y drws blaen y bore 'ma. Fe wnaeth we hynod o hardd. Penderfynais beidio â chael gwared arno fo. Efallai y bydd o'n dal mosgitos. 

Monday, September 5, 2022

mygiau

Daeth y mab ifancaf adref dros y penwythnos hirach. Daeth ag anrheg i fi a'i dad. Prynodd y mygiau hyn mewn garage sale. Anodd credu bod y perchennog eisiau cael gwared arnyn nhw. Dw i a'r gŵr yn fwy na hapus eu cael nhw. 

Saturday, September 3, 2022

cwcer araf


Dw i newydd sylweddoli pa mor gyfleus ydy Crockpot. Ces i un yn anrheg gan y plant flynyddoedd yn ôl, ond torrais o ar ddamwain. Am ryw reswm neu'i gilydd, na phrynais un arall. Gan fod y mab ifancaf yn dod adref heddiw, penderfynais fenthyg un yn gegin yr eglwys. Taflais yr holl gynhwysion yn y pot heb dorri neu ffrio dim byd ymlaen llaw. (Gelwir yn rysáit Dump & Go.) Bydd cyw iâr mewn saws salsa yn barod erbyn i'r mab gyrraedd.

Friday, September 2, 2022

braint

Cawson ni barcio yn y lle penodol ar gyfer cyn milwyr ym maes parcio Walmart ddoe. Roedd car wedi'i barcio yno bob tro erbyn hyn. Roedden ni'n hapus cael defnyddio'r fraint, nes inni sylweddoli mai pell iawn oedd y ddalfa troli siopa agosaf.....