Tuesday, July 30, 2019

bloomington

Cafodd fy merch hynaf hoe fach, a mynd i Bloomington sydd yn ddim yn rhy bell o'r lle mae hi'n aros i baentio murlun. Roedden ni'n treulio pum mlynedd yn Bloomington cyn symud i Oklahoma 20 mlynedd yn ôl. Y dref annwyl i mi a'r teulu ydy hi. Ymwelodd y ferch â Phrifysgol Indiana lle oedd ei thad yn ceisio ennill gradd raddedig arall. Yna aeth at y tŷ roedden ni'n byw ynddo. Syndod mawr i mi weld ei fod o a'r gymdogaeth heb newid llawer.

Monday, July 29, 2019

reidio i farbeciw

Mae fy ail ferch yn dal i fwynhau ei gwyliau yn yr Almaen. Mae hi wrth ei bodd yn helpu gofalu am y ceffylau hefyd. Un diwrnod, dwedodd mam y llety y bydden nhw (gan gynnwys fy merch) yn reidio at dŷ ffrind am farbeciw. Roedd fy merch yn meddwl y bydden nhw'n reidio beic. Reidio ceffyl roedd y fam yn ei golygu! Ac felly y bu.

Saturday, July 27, 2019

waliau wabash

Dechreuodd fy merch gyda chymorth ei gŵr baentio murlun arall yn Indiana. Mae cymuned Lafayette eisiau gwella gwedd y dref drwy furluniau. Casglodd nifer o artistiaid dawnus er mwyn trawsnewid yr hen waliau. 

Friday, July 26, 2019

gwyliau yn yr almaen

Mae fy ail ferch yn mwynhau ei gwyliau yn yr Almaen ar hyn o bryd wedi gorffen tymor fel athrawes i blant yn Tokyo. Aeth hi i'r un le'r llynedd fel gwirfoddolwr; eleni, mae hi yno fel gwestai. Hedfanodd gydag Awyr Japan am y tro cyntaf - y person cyntaf yn y teulu, a dweud a gwir! Dwedodd fod y gwasanaeth yn wych gan gynnwys y bwyd; cyflwynwyd y cogydd hyd yn oed fel gweler yn y llun.

Thursday, July 25, 2019

côr yn canu

Dw i heb glywed cymaint o cicada o'r blaen ers i mi symud o Japan. Pan oeddwn i'n blentyn, roeddwn i'n byw yn eu mysg bron yn yr haf oherwydd bod yna nifer o berllannau gellyg ym mhob man yn yr ardal. Roedd yr awyr poeth yn cael ei lenwi gan eu sŵn. Eleni, dw i'n meddwl bod yna fwy ohonyn nhw lle dw i'n byw yn Oklahoma. Mae "côr" yn canu'n braf yn y coed yn yr iard.

Wednesday, July 24, 2019

fideo newyddion, sderot

Dyma fersiwn fideo newyddion CBN am y murluniau yn Sderot. Cafod fy merch (Juuri) gyfle i sôn am ei gwaith hefyd. Mae hi'n colli Israel yn ofnadwy, ac eisiau creu murlun arall, ar gyfer IDF y tro nesaf, os ceith cyfle.

Tuesday, July 23, 2019

cwch ciwcymbr

Roedd gen i hanner ciwcymbr, tomato ceirios, hwmws, gwacamole ar ôl. Dyma greu "salad" bach i ginio drosta i. Galwa' fo'n gwch ciwcymbr. Sauerkraut sydd ar y ben. (Mae'r hwmws yn "cuddio" dan y gwacamole.)

Monday, July 22, 2019

artistiaid dewr

Wedi creu murluniau hyfryd yn Sderot, mae'r artistiaid cartref bellach. (Roedd mwy na phedwar yn y diwedd.) Llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd. Cafodd fy merch amser gwych yn dod i'w nabod nhw. Dyma newyddion gan sianel Israel.

Saturday, July 20, 2019

cinio sydyn

Dw i byth yn prynu gwacamole parod yn ddiweddar ond prynu gwnes i ddoe, wedi gwneud yn siŵr bod y cynhwysion yn dderbyniol, oherwydd bod yr afocado ffres yn rhy ddrud. Dyma baratoi cinio sydyn felly - hwmws, wy wedi'i ffrio, gwacamole ar grempog sawrus heb glwtyn. Blasus!

Friday, July 19, 2019

pethau melys

Wrth i'r tymheredd ddringo, mae chwant ar fwyd oer yn cynyddu ym mhob man. Yn Morinoen yn Tokyo lle mae fy merch arall yn gweithio ynddo, mae shaved ice yn boblogaidd dros ben yn yr haf. Llawn o syryp te a phethau melys hyfryd, mae o'n edrych yn wir flasus. Her newydd i fy merch ydy paratoi'r shaved ice hwnnw fodd bynnag; rhaid dilyn y dull hynod o benodedig, hyd yn oed maint o rew. Gobeithio y bydd hi'n meistroli'r sgil yn fuan.

Thursday, July 18, 2019

rhy boeth

Mae fy merch yn eistedd ar lawr carreg ei gwesty ar hyn o bryd oherwydd bod hi'n ofnadwy o boeth yn Israel. Bydd hi a'r artistiaid eraill yn mynd i Jaffa'n fuan am ginio. Byddan nhw'n hedfan adref bore cynnar yfory. Dyma erthygl gan CBN am y murluniau yn Sderot.

Wednesday, July 17, 2019

y murlun olaf

Dyma'r murlun olaf a baentiodd fy merch yn Israel y tro hwn, ar wal yr ysgol uwchradd yn Sderot. Bydded ei murluniau fendithio ac ysbrydoli pawb fydd yn eu gweld nhw. Mae ganddi ddau ddiwrnod i ymlacio cyn cychwyn adref. Efallai y bydd hi'n treulio rhyw amser ar draeth yn ystod y gwres llethol sydd ar Israel ar hyn o bryd.

Tuesday, July 16, 2019

peony

Paentiodd fy merch furlun bach cyflym ar wal yr ysgol ar gyfer plant gydag anableddau. Cafodd y wal ar y dde difrod gan rocedi Hamas. Dewisodd fy merch flodyn peony sydd yn golygu "dewrder mewn brwydr," wrth obeithio y bydd yr Arglwydd yn amddiffyn pawb sydd yn ceisio lloches tu mewn y wal honno.

Monday, July 15, 2019

y murlun cyntaf

Mae fy merch newydd orffen y murlun cyntaf wedi cael hoe fach yn Jerwsalem a'r Môr Marw dros y penwythnos. Dyma fo! Mae hi wrthi'n creu un arall yn Sderot. 

Saturday, July 13, 2019

rhybudd coch

Cafodd heddwch y Saboth ei rwygo gan rocedi Hamas. Aeth rhybudd coch ymlaen yn Ne Israel. Yn ffodus, gafodd neb ei anafu. Ymosododd mwy na 6 mil o Balestiniaid yn dreisgar ar y ffin fel gweithgaredd wythnosol hefyd. Dyma ran o fywyd beunyddiol yn Israel.

Friday, July 12, 2019

gadael am y saboth

Er gwaethaf y gwres llethol, mae'r artistiaid yn Sderot yn fwrw ymlaen. Dyma agwedd diweddaraf murlun fy merch. Mae hi bron â gorffen! Roedd rhaid iddi a'r lleill adael y gwaith am 12:45 fodd bynnag, ar gyfer y Saboth. Byddan nhw'n ail gychwyn nos Sadwrn. Shabbat Shalom.

Thursday, July 11, 2019

llwyd

Dechreuodd fy merch baentio murlun ar loches bom yn Sderot. Yn gyntaf roedd rhaid paentio lliw llwyd ar yr hen lun. Mae hi a'r artistiaid eraill yn dal i ddisgwyl mwy o baent gan y siop yn y dref. Dwedodd un ohonyn nhw ei bod hi'n ofnadwy o boeth fel ei fod wedi blino'n lân dim ond yn cerdded o gwmpas.

Wednesday, July 10, 2019

eisiau dŵr

Mae'n hydrangea ni'n bwrw ymlaen yn braf. Maen nhw eisiau cymaint o ddŵr bob dydd. Pan dan ni'n methu eu dyfrhau, byddan nhw'n edrych yn hynod o drist, ond byddan nhw'n sefyll yn syth eto hanner awr wedi cael dŵr. Edrych ymlaen at eu gweld nhw'n blodeuo cyn hir.

Tuesday, July 9, 2019

etifeddu beibl

Cyrhaeddodd becyn oddi wrth frawd y gŵr. Gyrrodd bentwr o hen luniau ei rieni wrth drefnu eu heiddo. Yn eu mysg, roedd Feibl ei dad - Fersiwn ESV. Roeddwn i eisiau'r fersiwn hwn ers dechrau gwrando ar y Gweinidog LeBoutillier. (Mae'r llythrennau'n ddigon mawr i fy llygaid.) Penderfynais ar yr unwaith y bydda i'w eisiau. Ac felly y bydd. Bydda i'n ei drysori gweddill fy oes.

Monday, July 8, 2019

i sderot

Mae fy merch hynaf ynghyd â dau artist arall yn gadael am Israel eto heddiw, er mwyn paentio murluniau ar y llochesau bom yno. I Sderot ger Gaza byddan nhw'n mynd y tro hwn lle mae rocedi Hamas yn disgyn yn aml iawn. A dweud y gwir, mae yna gymaint o weddillion y rocedi fel dechreuodd un artist eu troi yn bethau hardd. Cewch chi weld un ohonyn nhw yn y llun ar y dde - Tlws Crog Sderot. Mae'r garreg fach yn dangos lle mae'r dref.

Saturday, July 6, 2019

enw newydd

Penderfynais newid enw'r wiwer (a'i chriw.) Dw i ddim eisiau gweiddi "Yoni!" mwyach. Wedi'r cwbl, enw anrhydeddus ydy Yoni, diweddar frawd Prif Weinidog Israel a gafodd ei ladd yn ystod y cyrch Entebbe 43 mlynedd yn ôl. Rissy ydy'r enw newydd. Mae o'n dod o risw sydd yn golygu gwiwer yn Japaneg. Trechodd Rissy'r rwystr diweddaraf gyda llaw! Dyma un newydd.

Friday, July 5, 2019

pen-blwydd arall

Pen-blwydd fy mhlentyn ifancaf ydy hi heddiw. Mae o'n 20 oed. Ces i o yn y tŷ yma, yn fy ystafell wely, rhwng y gwely a'r dreser i fod yn fanwl gyda chymorth bydwraig. Mae o wedi tyfu'n ddyn ifanc dymunol gyda chalon dda (er mai ei fam sydd yn dweud.) Mae o'n dal i weithio mewn gwersyll fel staff cynnal a chadw. Dw i'n mynd i grasu cacen (heb glwtyn a llefrith) heddiw, a bydd ei dad yn mynd â hi at ein mab yfory i ddathlu ei ben-blwydd. 

Thursday, July 4, 2019

243 oed

Bydded i America ddychwelyd at Dduw o dano ef sefydlwyd, a thrwyddo ef bendithir.

Pen-blwydd hapus!

Wednesday, July 3, 2019

noson agoriadol

Roedd noson agoriadol Gun, y tŷ bwyta sydd yn arbenigo ar fwyd stryd Japaneaidd yn Okolahoma City. Cafodd nifer o bobl eu gwahodd gan gynnwys fy merch hynaf a baentiodd y murlun. Dwedodd fod popeth yn flasus dros ben. Aeth y perchennog i Japan am gyfnod i ddysgu'r sgil er mwyn darparu blas Japaneaidd dilys. Gobeithio y bydd Gun yn nhŷ bwyta poblogaidd. Mae'r murlun yn edrych yn hyfryd.

Tuesday, July 2, 2019

at ddeintydd

Roedd rhaid i mi fynd at ddeintydd ar frys ddoe; collais ran o'r llenwadau ar gilddant. Ffrind i mi a'r gŵr ydy'r deintydd. Mae o'n fedrus a chlên dros ben. Wedi triniaeth lwyddiannus dilynwyd gyda glanhau, mae fy nannedd mewn cyflwr gwych rŵan, diolch i John a'i gynorthwyydd.