Wednesday, May 19, 2010

ar fin cychwyn am gymru

Os eith popeth yn iawn, cychwynna i am Gymru ddydd Gwener. Bydda i ym Mhorthaethwy, cyffiniau Caernarfon, Llanberis a'r Bala yn aros gyda ffrindiau ac mewn gwely a brecwast. Amcan y daith ydy trio cymryd rhan naturiol yn y pethau bob dydd yn y byd Cymraeg cymaint â bo modd. I'r perwyl hwnnw bydda i'n helpu fy ffrindiau gyda'u gwaith tŷ, mynd ar deithiau cerdded yn ogystal â gwneud y gwaith gwirfoddol yn y cymunedau. Bydda i'n cadw dyddiadur a thynnu lluniau er mwyn cael sgrifennu fy mlog ar ôl dod yn ôl ar 10 Mehefin. Felly, i ffwrdd â fi drwy ludw'r llosgfynydd. Tan y tro nesa, bawb!

3 comments:

Linda said...

Pob hwyl i ti ! Wedi mwynhau ein sgwrs ar skype bore 'ma , ac edrychaf ymlaen yn eiddgar at ddarllen hanes dy wyliau yng Nghymru fach.
Cofia fi at Gymru.....:)

Emma Reese said...

Diolch i ti Linda! Bydda i'n meddwl amdanat ti pan wna i groesi Pont Y Borth!

neil wyn said...

Dwi'n edrych ymlaen at ddarllen hanes dy daith, mwynheua dy hun!