Rhoddodd yr Arlywydd Trump siawns i'r Palestiniaid i wneud heddwch ag Israel sawl tro; na symudodd o Lysgenhadaeth America i Jerwsalem mis Mehefin eleni, ond gwrthod maen nhw. Dw i'n gobeithio'n daer ei fod o wedi sylweddoli erbyn hyn nad ydyn nhw'n bwriadu gwneud hynny beth bynnag mae o'n rhoi iddyn nhw. Yfory (1 Rhagfyr) ydy'r diwrnod iddo arwyddo'r Weiber neu beidio. Gobeithio y bydd o'n cyflawni un o'i addewidion pwysicaf.
Cywiriad: 4 Rhagfyr, nid 1
Penblwydd Reuben oedd hi ddoe. Mae o'n ddeg oed. Ci fy merch hynaf ydy Reuben, a gan nad oes ganddi blant, mae o fel plentyn iddi a'i gŵr. Mae o'n byw bywyd hynod o braf fel mae'n debyg bod y cŵn eraill yn genfigennus ohono fo. Ar gyfer yr achlysur arbennig ddoe, roedd o'n cael bwyta'r un bwyd â'i "rieni." (Cafodd ferdys yn lle llysiau.) Ffodus iawn mae o.
Prynodd fy merch hynaf hanukiah hefyd, ac mae o newydd gyrraedd! Un modern ydy o, a hyd yn oed ail-law o Israel. Mae o'n ymdoddi'n wych yn ei chartref. Mae hi'n mynd i gynnau'r canhwyllau ar gyfer Hanukkah, ond roedd hi'n methu peidio addurno coeden Nadolig hefyd!
Cafodd fy mam ei chludo i'r ysbyty unwaith eto ddyddiau'n ôl. Mae ganddi bum toriad esgyrn yn y cefn oherwydd osteoporosis. Roedd hi'n methu symud o gwbl ar y pryd, ond pan ymwelodd fy nwy ferch ddoe â hi, roedd hi'n eistedd mewn cadair olwyn yn gwylio'r teledu yn y neuadd! Dwedon nhw ei bod hi'n hynod o siriol a disgleirio dan y goleuadau fel angel! Dynes anhygoel ydy hi. Cawson nhw amser gwych efo hi yn dangos iddi luniau ei gorwyres newydd sbon.
Wedi i fy merch a'i gŵr gyrraedd (efo pastai afal a tiramisu,) cawson ni Ginio Diolchgarwch neithiwr. Ar wahân i'r cyw iâr wedi'i rostio gan Reasor's, coginiais datws, moron, brocoli rhost a phastai pwmpen. Coginiodd fy merch reis llugaeron. Dw i newydd dderbyn cwpan Kiddush o Jerwsalem yn anrheg, a dyma yfed gwin coch ynddo fo.
Dw i a'r teulu'n mynd i gael cinio Diolchgarwch heddiw; mae fy merch a'i gŵr yn mynd at ei deulu ar ddydd Iau a dod aton ni ar ddydd Gwener bob blwyddyn. Mae fy nau blentyn ifancaf adref hefyd fel bydd yn fywiog. Penderfynais beidio coginio twrci eleni (ac efallai o hyn ymlaen.) Yn ei le, byddwn ni'n prynu cyw iâr wedi'i rostio yn y siop. Dw i'n mynd yn rhy hen i goginio cinio twrci! Dim ond pastai pwmpen a llysiau rhost a fydda i'n eu paratoi. Fe ddeith fy merch â tiramisu. Mae hi a'i gŵr ar fin cyrraedd.
Dw i'n diolch i fy Nuw bob dydd am gynifer o bethau. Ar wahân i'r pethau amlwg fel maddeuant drwy Iesu Grist, y teulu ffyddlon, darpariaeth o bob math, dw i'n ddiolch iddo am ein Harlywydd Trump sydd yn ofni Duw a charu ei wlad a bwrw ymlaen er gwaethaf pawb a phopeth. Dyma neges ganddo.
Ces i fy ysbrydoli i wneud mwy o Seren Dafydd i addurno'r tŷ mewn ffyrdd amrywiol - Roeddwn i'n defnyddio chopsticks i un, a phapur lapio Nadolig i'r llall. Mae gen i ddau set o ddoliau'r geni - un a brynais yn Japan amser maith yn ôl, a'r llall wedi'i wau gan Judy o Loegr wyth mlynedd yn ôl. Bydd y ddwy seren yn disgleirio fel Seren Bethlehem uwchben y ddau set.
Dw i newydd wneud addurno i'r drws blaen wedi gweld un a wnaeth fy merch hynaf ddoe. Roedd digon o ganghennau wedi'u syrthio yn yr iard. Y peth anoddaf oedd trefnu pob triongl yn gyfartal. Dw i'n hollol fodlon efo fy ngwaith llaw!
Daeth fy mab ifancaf adref am wyliau, am y tro cyntaf ers tri mis. Roedd o'n astudio a gweithio'n hynod o galed yn y brifysgol sydd gan lysenw Prifysgol Gweithio'n Galed. Mae hi'n seiliedig ar yr egwyddor Cristnogaeth, gwladgarwch a gwaith caled. Dw i ac mae o'n ddiolchgar dros ben ei fod o'n cael mynd yno. Mae o'n cael ymlacio am wythnos (er bod ganddo waith cartref) dros Ŵyl Ddiolchgarwch, a bwyta bwyd ei fam.
Newid dŵr i win. Pryd bynnag roeddwn i'n darllen am y wyrth honno, roeddwn i'n meddwl mai cymedrol braidd oedd fel gwyrth gyntaf Iesu, nes darllen erthygl gan One for Israel y bore 'ma. I'r gwrthwyneb, roedd hi'n dangos mai'r crëwr a greodd y byd mewn chwe diwrnod ydy Iesu. Darllenwch yr erthygl yma i ddarganfod yr arwyddocâd.
Gorffennodd fy merch hynaf baentiad arall ar gyfer y cyd-fenter efo ei ffrind. Draig Un Llygad, sef Masamune Date a oedd yr arweinwr rhanbarthol yn Japan yn y 17eg ganrif. Pan ofynnodd fy merch i mi bwy ydy dyn hynod o wrywaidd yn hanes Japan, Masamune a ddaeth i fy meddwl ar yr unwaith. Dyma fo efo draig ar ei lygad. (Mae o'n edrych yn debyg iawn i'w gŵr a dweud y gwir!)
Mae gen i syniad gwych ar gyfer anrheg Nadolig i fy merch ifancaf eleni - tlws crog wedi'i wneud yn arbennig gan grefftwr yn Israel. Bydd ei henw arno fo. Y peth rhyfeddol ydy mai enw Hebraeg ydy ei henw hi; dewisais o oddi ar lyfr enwau Hebraeg i fabanod cyn iddi gael ei geni - Rina sydd yn golygu cân neu lawenydd. (Da iawn fi!) Mae'r archeb newydd gael ei anfon. Edrycha' i ymlaen!
Roedd ffair yn y brifysgol mae fy merch a fy mab ifancaf yn ei mynychu. Roedd yna nifer o stondinau i godi arian. Un gan y dosbarth theatr oedd hyn. (Gweler y llun.) Roedd rhai aelodau'n sefyll yn hollol lonydd nes i daflir pres yn y basgedi. Yna dechreuan nhw adrodd y llinellau o'r sioe am funudau. Dwedodd fy merch fod yn anodd iawn cadw'n llonydd; ceisiodd rhai pobl wneud nhw'n chwerthin! Casglon nhw dros 60 doler yn y diwedd.
Oherwydd bod Elinor a Marianne yn hoffi darllen, roedd y Foneddiges Middleton yn meddwl eu bod nhw'n ddychanol, heb wybod beth sydd yn golygu i fod yn ddychanol. Dim ots am hynny oherwydd beirniadaeth gyffredin ydy'r gair, ac yn hawdd ei roi. - Sense & Sensibility
Dydy rhai pethau byth yn newid.
Diolch yn fawr i'r holl gyn-filwyr a frwydrodd dros eu gwlad a'u teuluoedd yn ogystal â rhydded y cynghreiriaid.
y llun: fy nhad-yng-nghyfraith
Cafodd fy wyres ei geni'r bore 'ma! Yr ail blentyn i fy mab hynaf ydy hi. Roedd y meddyg yn bwriadu ysgogi'r esgoriad neithiwr gan fod y babi'n wythnos yn hwyr, ond dechreuodd popeth yn naturiol cyn iddo gael siawns. Mae'r babi'n fawr iawn - 8 pwys 10 owns (dros 3.900 gram,) ac yn edrych yn debyg i'w brawd. Mae hi a'i mam yn holl iach, dim ond wedi blino. Does ryfedd!
Fy mhenblwydd oedd hi ddoe. Dw i ddim yn hoffi parti swnllyd ac felly ces i swper mewn tŷ bwyta Eidalaidd efo'r gŵr yn llonydd. Dewisais spaghetti primavera efo cyw iâr. Er bod o'n flasus, roedd yna nam annerbyniol gyda'r lle - does dim gwin ar y fwydlen. Dw i ddim yn bwriadu mynd yno eto. Aethon ni adref a bwyta'r frechdan hufen iâ a brynodd y gŵr wrth wylio You Tube (I Met Messiah, Pat Condell, ayyb) i orffen y diwrnod.
Blwyddyn yn ôl heddiw, gwireddwyd yr amhosibl. Curodd Donald Trump Hillary Clinton er gwaethaf pawb a phopeth. Dw i'n cofio'n iawn y noson honno. Roeddwn i ynghyd â'r teulu'n gweddïo ac ymbil yn daer ar Dduw am drugaredd ar America. Doedd yr Arlywydd Trump ddim yn bradychu'r bobl - mae o wedi cyflawni cymaint o'i addewidion. Mae America'n gryfach, mwy diogel ac mae'r bobl yn fwy cadarnhaol a gwladgarol er gwaethaf rhai dihirod treisgar.
Tri pheth dw i'n dal i ddisgwyl amdanyn nhw:
1 Symud Llysgenhadaeth America yn Israel i Jerwsalem
2 Adeiladu'r wal
3 Gyrru Hillary a'i chriw i'r carchar
Dw i'n gyfarwydd â'r ddawns yn dda. Roeddwn i'n arfer dawnsio ar yr alawon hynny wrth ganu yn yr ysgol fel pawb arall dan ryw 70 oed yn Japan, heb wybod ystyr y geiriau. Dw i newydd ddarganfod mai dawns Iddewig ydy hon a gafodd ei chreu yn y 30au yn Israel (cyn geni fel gwladwriaeth) pan ddarganfuwyd dŵr ar y tir sychedig. Roedd y bobl yn hapus dros ben fel bod nhw'n dawnsio i ddathlu gan ddefnyddio geiriau proffwyd Eseia (12:3.) Sut yn y byd bod pobl Japan wedi mabwysiadu'r ddawns Iddewig? Yn ôl Google, cyflwynwyd hi fel ymarfer corff i'r plant gan Luoedd America ar ôl yr Ail Ryfel Byd!
Treuliodd yr Arlywydd Trump a'i wraig tri diwrnod yn Japan yn cyflawni cynifer o weithgareddau'n llwyddiannus. Tra oedd ei gŵr wrthi'n chwarae golff efo'r Prif Weinidog Abe, roedd Mrs. Trump yn ymweld ag ysgol gynradd efo Mrs. Abe. Cafodd hi groeso cynnes gan y plant. Yn niwedd yr ymweliad, dangosodd hi lythyren a sgrifennodd. Darllenir y ddwy lythren o'r chwith - heddwch.
Mae fy merch hynaf newydd orffen paentiad arall. Bydd o ar gael gan wefan ei ffrind yn fuan. "Dydy gobeithio ddim yn gynllun call" ydy'r teitl. Cafodd hi ei sbarduno i baentio hwnnw gan y gyflafan erchyll yn Las Vegas. Mae'r wyth triongl melyn yn cynrychioli Gwesty Mandalay Bay.
Mae paratoi ffurflen trethi incwm yn gur pen enfawr i bawb bob gwanwyn. Mae'r system mor gymhleth ac yn cymryd andros o amser fel bod nifer o bobl yn mynd at gyfrifyddion arbennig. Felly newyddion hynod o groesawgar ydy cynllun yr Arlywydd Trump - nid dim ond lleihau trethi, ond symleiddio’r ffurflen i ddarn o bapur. (Gweler y llun.) Pasiwyd gan y Gyngres; rŵan dalai'r Senedd roi eu cymeradwyaeth cyn i'r cynllun gael ei wireddu.
Maen nhw newydd gyrraedd - canhwyllau ar gyfer Hanukkah! Wedi eu gwneud o gwyr gwenyn, maen nhw i fod i lanhau'r awyr yn yr ystafell. Mae angen 44 yn ystod yr wyth diwrnod, ac mae yna 45 (un sbâr!) Edrycha' i ymlaen!
Gwyliais Sense and Sensibility efo'r gŵr. Fy hoff fersiwn ydy hon, un a serennwyd gan Emma Thompson. Er bod y ffilm wedi cael ei gwneud dros ugain mlynedd yn ôl, rhaid dweud bod hi'n ardderchog. Dw i'n sicr bod nifer o edmygwyr Jane Austen yn cytuno â fi. Rhoddodd y ffilm awydd i mi ddarllen y nofel unwaith yn rhagor. Ces i fy nghyfareddu o newydd gan ysgrifennu Jane Austen. Dim ond 21 oed oedd hi pan ysgrifennodd y nofel honno. Mae yna ddigon o dudalennau i lenwi fy amser sbâr am sbel.