Dyma ddarluniad gan fy merch hynaf, wedi iddi glywed y ddihareb a bostiais Ddydd Llun! Ces i fy synnu ei bod hi wedi ei throi hi yn gelf, ac ar unwaith hefyd. Rhaid bod y ddihareb danio ei dychymyg.
Wednesday, May 15, 2024
Tuesday, May 14, 2024
76 a 3,000 oed
Mae ffyddlondeb Duw Israel yn para am byth. Bydd o'n cyflawni ei addewidion heb fethu nac oedi.
"Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: O fy mhobl, yr wyf am agor eich beddau a'ch codi ohonynt, ac fe af â chwi'n ôl i dir Israel. Yna, byddwch chwi fy mhobl yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd...." Eseciel 37:12, 13
Monday, May 13, 2024
Saturday, May 11, 2024
blodau coffi
Doeddwn i ddim yn gwybod pa mor hardd ydy blodau coffi nes gweld y fideo hwn gan Job yn Honduras. Mae o a'i deulu'n rhedeg fferm er mwyn dangos i'r ffermwyr lleol ffordd llawer gwell i ffermio. Mae hyn yn agor drws iddo rannu'r Efengyl gyda nhw hefyd. Cafodd help gan griw o Iowa'n ddiweddar.
Friday, May 10, 2024
gor-wyres
Cafodd fy mam ymwelydd arbennig, sef ei gor-wyres. Aeth fy merch â'i babi i weld ei nain am y tro cyntaf ers cael y babi dri mis yn ôl. Roedd fy mam wrth ei bodd wrth gwrs, ac yn mynnu y byddai ei gor-wyres yn tyfu'n ferch hardd!
Wednesday, May 8, 2024
datrysiad
Mae gen i syniad gwych i ddatrys problem gyfredol yn Gaza: dylai'r Aifft agor y porth ar groesfan Rafah, a gadael i bobl Gaza lochesi yn eu gwlad. Wedi'r cwbl, mae cyd Mwslemiaid mae pobl Gaza, heb sôn am ba mor enfawr ydy Penrhyn Sinai. Mae yna fwy na digon o le i groesawi ffoaduriaid. Os nad ydy'r Aifft eisiau ei wneud o, dylai'r Cenhedloedd Unedig, neu'r Unol Daleithiau orchymyn i'r Aifft ei wneud o, fel maen nhw'n bob amser orchymyn i Israel wneud hyn a'r llall. Yna, gall yr IDF ddinistrio Hamas yn llwr heb boeni am y bobl.
Monday, May 6, 2024
diwrnod yr holocost
Mae Israel yn cofio heddiw'r 6 miliwn a gafodd eu llofruddio. Mae'r byd yn condemnio beth wnaeth y Natsiaidd bryd hynny, ond mae'n anwybyddu’r peth ofnadwy o waeth yn digwydd ers 7 Hydref. Mae Byth Eto yn golygu Rŵan.
Saturday, May 4, 2024
ieir iâr yn honduras
Friday, May 3, 2024
tipyn bach o erledigaeth
Thursday, May 2, 2024
blodeuyn yn gwywo
Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo;
ond y mae gair ein Duw ni yn sefyll hyd byth. (Eseia 40:8)
Subscribe to:
Posts (Atom)