Saturday, May 30, 2020
i napoli's
Roedd gan y gŵr chwant bwyd Eidalaidd prin, ac felly aethon ni i Napoli's neithiwr, am y tro cyntaf ers amser hir iawn. Roedd y tŷ bwyta newydd ail-agor wedi i'r cyfyngiadau cymdeithasol orffen. Daeth bwrdd ei lenwi bob yn ail wrth i ni fwyta gyda chwsmeriaid siriol. Dyma'r seigiau a ddewison ni.
Friday, May 29, 2020
arogl o ffrainc
Wednesday, May 27, 2020
bee hoon
Maen nhw wedi'u gwneud o reis, ac felly yn berffaith i'r mab sydd gan alergedd i glwtin. Roedd fy mam yn arfer eu defnyddio nhw a'u troi'n ddysgl hynod o flasus. Er na fedra i ddod yn agos at ei safon, llwyddais baratoi swper braidd yn flasus rhywsut neu'i gilydd. Y cynhwysion: cig eidion, bresych, nionyn, moron, garlleg, sinsir, saws soi, stoc cyw iâr, halen, pupur
Tuesday, May 26, 2020
blodyn y drindod
Des i hyd i enw'r blodyn hardd roeddwn i'n blogio amdano o'r blaen - Spiderwort. Enw braidd yn hyll ar gyfer y blodyn bach rhaid i mi ddweud! Chwyn neu beidio, mae o mor brydferth. Fy hoff flodyn ydy o bellach. Enwais o yn bersonol yn Flodyn y Drindod. Dyma lun a dynnodd y gŵr.
Monday, May 25, 2020
mwy o bobl
Saturday, May 23, 2020
Does dim amheuaeth bod yr amser yn hedfan heibio. Dw i a'r gŵr yn dathlu'n penblwydd priodas ni yn 38 oed heddiw. Dechreuon ni'n bywyd gyda'n gilydd yn Japan; cawson ni dri o blant; symudon ni i America; cawson ni dri arall. mae gynnon ni nyth wag bellach. Diolch i fy Nuw sydd wedi bod yn tywallt ei fendith arnon ni drwy'r blynyddoedd.
Friday, May 22, 2020
cwblhau cwrs
Mae'r mab ifancaf newydd gwblhau cwrs yn llwyddiannus. Cwrs a ddysgwyd gan ei dad ydy o, sef cwrs consealed carry yn nhalaith Oklahoma. Er bod Oklahoma wedi pasio constitutional carry yn ddiweddar, mae'n syniad da i ddysgu'r pethau sylfaenol ynglŷn gynnau er mwyn eu defnyddio nhw yn ddiogel fel dinasyddion cyfrifol.
Wednesday, May 20, 2020
crempogau hyfryd
Hynod o flasus oedd y crempogau 'ma! Dyma'r rysáit a greais. Cewch chi dri:
Stwnshwch1 wy a hanner banana go aeddfed
Cymysgwch nhw gyda blawd a cheirch, 2 lwyaid yr un
1/4 powdr pobi
Ffriwch nhw ar badell ffrio gyda thipyn o olew
Rhowch yr hanner arall o'r fanana, cnau, mango wedi'r stwnshio neu jam neu fêl ar eu pen os liciwch chi.
Stwnshwch1 wy a hanner banana go aeddfed
Cymysgwch nhw gyda blawd a cheirch, 2 lwyaid yr un
1/4 powdr pobi
Ffriwch nhw ar badell ffrio gyda thipyn o olew
Rhowch yr hanner arall o'r fanana, cnau, mango wedi'r stwnshio neu jam neu fêl ar eu pen os liciwch chi.
Tuesday, May 19, 2020
byrgyrs tiwna
Trodd byrgyrs tiwna a ffa allan yn dda iawn y tro 'ma. Ffeindiais dun o ffa yn y cwpwrdd, a phenderfynu ei ddefnyddio yn hytrach na thaten. (Dw i'n rhyw gofio gweld y rysáit mewn cylchgrawn yng ngwely a brecwast Olwen yn Frongoch, Bala dros ddeg mlynedd yn ôl!) Roedd torrwr sgon a brynais yn ddiweddar yn help mawr i ffurfio'r byrgyrs. Roedden nhw'n feddal tu mewn, a chrensiog tu allan. Canmolodd y gŵr hyd yn oed sydd ddim yn rhy hoff ohonyn nhw fel arfer.
Monday, May 18, 2020
rhodd duw
Mae yna iard hollol wyllt sydd yn perthyn i dŷ gwag yn y gymdogaeth, ac mae pob math o flodau gwyllt yn tyfu arno. Yn eu mysg mae yna flodyn hardd dw i'n edmygu wrth fynd heibio bob bore. Hoffwn i dynnu un gan y gwreiddiau, a'i blannu yn fy iard os medra' i gael caniatâd. Ces i fy synnu felly pan ffeindiais y blodyn hwn ar y palmant ar fy ffordd adref. Mae'n fel pe bai angel wedi ei adael yn rhodd i mi. Mae fy Nhad yn y nefoedd yn gwybod pa mor hoff ydw i ohono fo.
Saturday, May 16, 2020
bwyta allan eto
Es i gyda'r gŵr a'r mab i Chili's, tŷ bwyta poblogaidd yn y dref am swper neithiwr. Roedd y lle yn llawn dop, hynny ydy cyn llawned a bo modd dan y sefyllfa gyfredol. Mae'n amlwg bod y trigolion yn cael digon o'r cyfyngiadau, ac yn awyddus i fwyta allan. Roedd y gweithiwyr i gyd yn gwisgo mwgwd lliwgar, a sefyll ymhell oddi wrth y cwsmeriaid wrth gymryd eu harchebion. Roedd y bwyd yn dda, llawer mwy blasus na "take out" wrth reswm.
Friday, May 15, 2020
egin bambŵ
Wednesday, May 13, 2020
rysáit newydd
Des i ar draws rysáit unigryw ar gyfer uwd, a dyma ei brofi i frecwast heddiw. Dewisais afal yn hytrach na banana. Defnyddir gwynnwy er mwyn creu effaith hufennog; na chlywch flas wy. Roedd braidd yn dda, ond dweud y gwir mae'n llawer gwell gen i fy rysáit arferol. Profais beth newydd o leiaf.
Tuesday, May 12, 2020
cerdyn
Monday, May 11, 2020
y cam nesaf
Ail agorwyd drysau'r eglwysi yn y dref am y tro cyntaf ers wyth wythnos. Casglodd rhyw drideg o bobl yn fy eglwys i, rhai yn gwisgo mwgwd yn edrych tipyn bach yn betrusgar, rhai yn dangos eu llawenydd yn glir. Er bod awyrgylch braidd yn lletchwith ar y cyfan oherwydd canllawiau'r llywodraeth, roedd yn wych i gamu ymlaen tuag at y bywyd normal.
Saturday, May 9, 2020
bwyta allan!
Ail agorodd tai bwyta yn y dref ddoe i gwsmeriaid sydd eisiau bwyta tu mewn. Roedden nhw'n darparu take out cyn hyn, ond y diwrnod cyntaf "gwasanaeth llawn" oedd hi. Dyma fynd gyda'r gŵr a'r mab i dŷ bwyta Mecsicanaidd i gael swper. Roedd y lle yn llawn dop, hynny ydy roedd yr hanner o'r byrddau wedi cael eu llenwi yn unol â chanllawiau swyddogol. Roedd awyrgylch siriol ymysg y cwsmeriaid. Dw i'n siŵr eu bod nhw fel ninnau yn hapus gweld y gymdeithas yn mynd yn ôl i normal o'r diwedd.
Friday, May 8, 2020
nyth wag
Wednesday, May 6, 2020
rosyn
Tuesday, May 5, 2020
diwrnod bechgyn
Diwrnod Bechgyn ydy hi heddiw yn Japan. Diwrnod Plant bellach, ond yn wreiddiol, roedd yn ddiwrnod i ddymuno i'r bechgyn dyfu'n iach ac yn gryf. Mae gen i ddoliau Diwrnod Merched oherwydd fy mod i wedi eu cael nhw'n anrheg pan ges i fy ngeni. Dw i'n edifaru nad ydw i erioed wedi prynu dol Diwrnod Bechgyn ar gyfer fy meibion. Dyma blygu koinobori (carp) yn sydyn i ddymuno Diwrnod Bechgyn hapus i fy nau fab.
Monday, May 4, 2020
arwydd
Mae'r arwydd hwn newydd gyrraedd! Dyma fy ngŵr ei osod yn ein hiard blaen ni i ddangos ein cefnogaeth i'r Arlywydd Trump. Mae'r Arlywydd yn gweithio'n anhygoel o galed dros bobl America ers iddo gychwyn ei swydd, ac wedi dwyn canlyniadau aruthrol. Rŵan mae o'n brwydro yn erbyn yr anghenfil enfawr rhyngwladol. Dan ni'n dal i weddïo drosto fo beunyddiol.
Saturday, May 2, 2020
gwanwyn
Friday, May 1, 2020
coed mawr
Subscribe to:
Posts (Atom)