Monday, July 20, 2020

traeth

Wrth i ddinas Tokyo newydd gyfyngu teithio'r trigolion eto, roedd rhaid i fy nhair merch newid eu cynllun. Roedden nhw'n bwriadu mynd i draeth pell, ond aethon nhw i Draeth Odaiba sydd ar hyd Bae Tokyo yn ei le. Un bach bach ydy o ymysg adeiladau mawr. Gwaharddir nofio. Er gwaethaf popeth, cawson nhw ddiwrnod braf yn cerdded a gorwedd ar y traeth, mwynhau'r golygfeydd sydd yn cynnwys Pont Enfys a cherflun bach Dynes Rhyddid hyd yn oed, a chael cinio cyfagos. 

No comments: