Des i ar draws fideo am sut i wneud iogwrt cartref. Roedd yn syml dros ben. Y peth anosaf oedd cadw'r tymheredd yn gyson. Er dwedodd y dyn am beidio, roedd yn rhy oer yn y popty, ac felly roeddwn i'n ei dwymo bob hyn a hyn. Unwaith anghofiais ei ddiffodd, ac aeth y popty'n rhy boeth! Peth arall - llosgais y sosban tra oeddwn i'n twymo'r llefrith. Bydda i'n defnyddio microdon y tro nesaf. Dyma'r canlyniad beth bynnag. Mae ganddo flas ysgafn heb fod yn sur. Llwyddiant mawr!
Wednesday, March 30, 2022
Tuesday, March 29, 2022
achub y goeden
Pan es i'n ôl at y goeden geirios i weld sut roedd hi'n mynd ymlaen, ces i sioc i ddarganfod bod gwinwydden barasitig wedi cael gafael ynddi'n dynn! Roedd tentaclau tenau fel gwifrau metel wedi torchi o gwmpas nifer o'r canghennau ifanc. Dyma'r gŵr yn torri'r dihiryn i lawr agos at y gwraidd i achub y goeden druan. Efallai ei bod hi'n ddiolchgar.
Saturday, March 26, 2022
blodau ceirios cyntaf
Er bod y tywydd yn dal yn oeraidd, mae'r planhigion yn awyddus i fwrw ymlaen. Tra fy mod i'n cerdded y bore 'ma, gwelais y blodau ceirios cyntaf yn y gymdogaeth. Coeden ddinod fach wrth ochr stryd ydy hi, ond bydda i'n edrych ymlaen at ei gweld hi bob gwanwyn. Efallai mai ond fi sydd yn rhoi unrhyw sylw iddi.
Friday, March 25, 2022
y gweddill o'r henner lleuad
Oherwydd fy mod i'n deffro'n gynnar bob dydd, bydda i'n cael gweld y lleuad yn goleuo'r awyr tywyll cyn y wawr. Yr hanner lleuad oedd heddiw. Pan es i am dro yn y bore, roedd dyma'r gweddill ohoni yn yr awyr las ysgafn.
Wednesday, March 23, 2022
ddim yn ildio
Tuesday, March 22, 2022
geiriau doeth
"Na cheith America byth ei dinistrio o'r tu allan. Os byddwn yn petruso ac yn colli ein rhyddid, canlyniad dinistrio ein hunain y bydd."
Saturday, March 19, 2022
dewis anturus
Ces i a'r gŵr swper yn El Zarape neithiwr. Penderfynon ni fod yn anturus a dewis saig anarferol, sef chimichanga berdys i'r gŵr, a quesadilla cyw iâr i fi. Doedden ni ddim yn gwybod beth ydy chimiganga a dweud y gwir; math o burrito wedi'i ffrio'n ddwfn ydy o. Roedden nhw ddau'n flasus. Roedd fy un i yn ddigon bach fel fy mod i'n medru gorffen popeth.
Friday, March 18, 2022
y salmau 37
na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg.
Oherwydd fe wywant yn sydyn fel glaswellt,
a chrino fel glesni gwanwyn.
Ymddiried yn yr Arglwydd a gwna ddaioni....
Disgwyl yn dawel am yr Arglwydd,
aros yn amyneddgar amdano.
Tuesday, March 15, 2022
confoi - jerico 7
Monday, March 14, 2022
y wenynen
Wedi i'r eira ddodi, mae'r Confoi yn ail-gychwyn gyrru o gwmpas y D.C. Tra fy mod i'n postio amdano bob dydd, roedd y Wenynen yn prysur fwrw ymlaen gyda'i herthyglau dychanol llym. Hon ydy gorau'r wythnos yn fy nhyb i.
"Wrth i'r rhyfel rhwng Rwsia a'r Wcráin ddwysau, mae bwytai ledled America bellach yn gofyn am brawf o gefnogaeth Wcráin i'r cwsmeriaid. Pan ofynnwyd a fyddai angen cardiau brechlyn hefyd, syllu'n wag a wnaeth y perchennog, a dweud, 'beth? dw i ddim yn siŵr am beth dych chi'n sôn amdano.' "
Saturday, March 12, 2022
confoi - jerico 6
Wrth eira Canolbarth wedi symud i'r Dwyrain, mae'r Confoi yn gorfod cael hoe arall heddiw. Dal ati bawb! Mae pobl America gyda chi!
Friday, March 11, 2022
confoi - jerico 5
Tra bod y llywodraeth a'r prif gyfryngau'n dal i anwybyddu Confoi'r Bobl yn llwyr, ceir teithwyr a oedd yn arwain Ymgyrch Jerico o flaen RVs, ceir gwersylla a thryciau ar Beltway heddiw. Cynhaliwyd cyfarfod ar risiau’r Capitol gyda Seneddwr arall ac arweinydd y confoi bach o Alaska yn y prinhawn.
Shabbat Shalom
Thursday, March 10, 2022
confoi - jerico 4
Cyhoeddodd y Seneddwr Ted Cruz ei farn i'r wasg, wedi reidio gyda'r Confoi ar Beltway heddiw. Mae o'n eu cefnogi nhw, sydd yn cynrychioli pobl America, yn gyfan gwbl. Gobeithio y bydd mwy a mwy o wleidyddion yn ymuno â fo. Na fydd y Confoi yn stopio Ymgyrch Jerico nes i'r llywodraeth gydymffurfio.
Wednesday, March 9, 2022
confoi - hoe fach
Ceith y Confoi hoe fach heddiw er diogelwch y gyrwyr oherwydd y tywydd drwg. Ond na all hynny ei rwystro.
Mae'n annog yr Americanwyr gwladgarol i ffonio eu Cynrychiolwyr Tŷ, a gofyn iddyn nhw am bleidleisio i ddod â’r pwerau brys i ben, neu fe gollan nhw eu pleidleisiau!
Tuesday, March 8, 2022
confoi - jerico 3
Ffrwyth cyntaf y Confoi - bydd yr arweinwyr yn cyfarfod â dau Seneddwr Gweriniaethol heddiw tra bydd y Confoi yn cylchu un tro ar Beltway mewn dwy res.
Y llun: "gwersyll" y Confoi
Monday, March 7, 2022
confoi - jerico 2
Cylchodd y Confoi o gwmpas D.C. eto yn chwythu cyrn, unwaith heddiw heb fynd i mewn i ganol y ddinas. Aeth yn ôl i Hagerstown i noswylio.
Sunday, March 6, 2022
confoi - jerico
Wedi cynnal rali andros o fawr a llwyddiannus neithiwr, mae'r Confoi yn cylchu'r DC Beltway yn araf ddwywaith heddiw. Yna, bydd yn mynd yn ôl i Hagerstown heno. Mae'n bwriadu gwneud yr un fath bob dydd nes i'w ofynion yn cael eu bodloni, hynny ydy diddymu Mesurau Argyfwng COVID-19 ar unwaith; parchu ein Cyfansoddiad annwyl.
Amser Jerico! Mae'r tryciau eisoes yn chwythu cyrn!
Saturday, March 5, 2022
confoi - ar drothwy dc
Wedi teithio dros America am ddyddiau, mae Confoi'r Bobl wedi cyrraedd Hagerstown, Maryland. Cynhalier rali heno. Llu o gerbydau yn rhuo ar ffyrdd, gyda baneri gwladgarol yn chwifio; cefnogwyr brwdfrydedd wrth ochr y ffyrdd yn bloeddio'n angerddol - fe wnaeth hyn i gyd i mi grio.
Friday, March 4, 2022
confoi - 10fed dydd
Mae'r Confoi yn rhuo drwy Ohio a Maryland heddiw wrth gasglu nifer anhygoel fawr o gefnogwyr. Bydd confois llai yn ymuno â nhw heno yn Hagerstown, Maryland. Yfory, i Washington DC!
Thursday, March 3, 2022
confoi - 9fed dydd
Roedd y rali yn llwyddiannus dros ben. Cafodd cerbydau eraill gyfle i ymuno â nhw hefyd. Maen nhw wrthi'n gyrru drwy Ohaio heddiw. Dyma fideo byr ardderchog a saethwyd ar orffordd yn Springfield, Missouri.
Wednesday, March 2, 2022
hoe fach
Mae'r Confoi'n cael hoe fach heddiw. Bydd yn aros yn Monrovia, Indiana; bydd yna rali yn y nos.
Ddydd Llun crasodd rhai plant o Cuba, Missouri 500 cinammon roll ar gyfer gyrwyr y Confoi. Dyma eu neges: "Dyma ein ffordd ni i ddweud diolch! Dan ni'n brwydro yn erbyn y mandad hwn o’r dechrau. Dan ni mor ddiolchgar am y cyfle i wneud rhywbeth i’r rhai ohonoch sydd yn mynd â'n brwydr ni at y Genedl ac at y llywodraeth!"