Mae fy mrawd yn ymweld â'n mam ni (101 oed) yn ei chartref henoed bob mis, ac yn gyrru neges sydyn ata i'n dweud sut mae hi. "Mae hi'n cadw'n anhygoel o dda; mae ganddi ffrind da, ac mae hi'n cael hwyl bob dydd," meddai ddoe. Wir, mae hi'n edrych fel actores!
Wednesday, June 28, 2023
Saturday, June 24, 2023
yr un bwyd
Es i a'r gŵr i Katfish Kitchen eto neithiwr. Wedi cael pryd o fwyd da, postiais lun i'r teulu. Yna, roeddwn i'n sylwi ein bod ni'n bwyta'r union un bwyd y tro diwethaf! Gweler y llun.
Wednesday, June 21, 2023
15 mlynedd
Penblwydd priodas fy merch hynaf ydy hi heddiw. Priododd hi â dyn hyfryd a pherffaith iddi 15 mlynedd yn ôl. Dw i'n hynod o ddiolchgar gweld nhw'n rhodio'n ffyddlon i Iesu Grist a'i gilydd. Mae ei gŵr ydy'r cynorthwyydd medrus pan fydd hi'n paentio murluniau. Maen nhw'n ymdrechu i redeg busnes rentu tai gyda'i gilydd. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw.
Tuesday, June 20, 2023
morwynion teml
Mae murlun finyl fy merch hynaf newydd gael ei osod ar bared neuadd hyfforddi crefft ymladd yn Tulsa. Roedd y perchennog eisiau rhywbeth gwahanol i'r delweddau arferol, a gadael iddi ddarlunio merched nadroedd o stori Kabuki. Mae'n gyfaniad perffaith o harddwch a ffyrnigrwydd, wrth i'r merched droi'n nadroedd cythreulig ar ôl dawnsio'n hir a hardd.
Monday, June 19, 2023
sul y tadau gwych
Aeth y gŵr ddoe i OKC am ryw neges, ac aros â'n merch ni a'i gŵr yno neithiwr. Croesawon nhw eu tad gyda barbeciw arbennig yn eu hiard nhw i ddathlu Sul y Tadau. Dwedodd mai dyna oedd hambyrgyr gorau a gafodd erioed!
Saturday, June 17, 2023
murlun newydd
Mae fy merch hynaf newydd gychwyn murlun arall, ar gyfer Heddlu Norman y tro hwn. Cafodd y murlun a baentiodd flynyddoedd yn ôl ei ddinistrio gan y corwynt diweddar. Gofynnwyd hi i ail-greu un newydd ar yr un wal. Trosglwyddodd hi ddyluniad drwy daflunydd neithiwr (y modd arferol.) Mae cysgod ei gŵr ar y chwith yn edrych fel rhan o'r dyluniad!
Monday, June 12, 2023
golwg brin
Rhoddodd ffrind nionod ffres i'r gŵr y bore 'ma. Maen nhw'n anhygoel o dda gydag arogl hyfryd. Fedra i ddim eu torri nhw gwaetha'r modd oherwydd yr anafiad ar fy ysgwyd. Dyma'r gŵr wneud y gwaith - golwg brin dros ben yn ein cartref ni; mae o'n casáu coginio. Efallai na fydd o byth yn derbyn nionod gan ei ffrind!
Saturday, June 10, 2023
molcajete
El Molcajete oedd y tŷ bwyta es i a'r gŵr ato fo neithiwr. Cawson ni'r bwyd arferol. Mae gynnon ni chwaeth syml! Dysgais mai'r bowlen gyda thair coes (yn y llun) ydy molcajete.
Friday, June 9, 2023
newydd orffen
Gorffennodd fy merch ei murlun neithiwr. Mae'i chleient wrth ei bodd. Gan ei fod o wrth ochr ffordd brysur heb unrhyw rwystrau gweledol, mae o'n cael ei weld gan nifer mawr o yrwyr. Cafodd y clinig (y cleient) lawer o ganmoliaeth yn barod.
Wednesday, June 7, 2023
y murlun
Mae'r murlun yn nesau at y gorffen. Mae'n cymryd tipyn yn hirach nag arfer oherwydd y tywydd, ayyb. Dyma fy merch wrthi. Mae'n anodd paentio ar friciau, meddai. Mae'n edrych yn drawiadol!
Tuesday, June 6, 2023
dim diolch
Dw i'n gwrando ar Radio Cymru dros flynyddoedd. Modd cyfleus i glywed Cymraeg ydy o, ond heddiw yn hollol sydyn, mae o'n gofyn i'w wrandawyr gofrestru. Oni bai eich bod chi'n rhoi'ch manylion personol chi, na chewch wrando ar ei raglenni. Dim diolch. Mi fydda i'n bwrw ymlaen hebddo.
Monday, June 5, 2023
lliwio llygaid
Er gwaethaf y gwres, storm sydyn a phryfaid cas, mae fy merch yn dal i baentio'r murlun. Mae hi newydd liwio llygaid y ferch. Roedd y wyneb yn edrych braidd yn od heb lygaid hyd yma. Bydd hi'n paentio llygaid mor hwyr â phosib er mwyn osgoi gweiddi gan ddieithriaid. Am ryw reswm, bydd nifer o bobl yn gweiddi arni cyn gynted ag y bydd hi'n paentio llygaid!
Saturday, June 3, 2023
whataburger
Es i a'r gŵr i Whataburger, cadwyn bwytai bwyd cyflym poblogaidd. Aeth llu o gwsmeriaid pan agorodd yn y dref hon fisoedd yn ôl fel roedd rhaid i'r heddlu reoli'r traffig! Mae o'n dal yn boblogaidd, ond does ddim angen yr heddlu bellach. Roedd dyma'r tro cyntaf i mi fynd yno. Dw i ddim yn hoffi byrgyrs, ac felly ces i salad gyda chyw iâr. Roed braidd yn dda. Cafodd y gŵr eu byrgyr enwog, sglodion ac ysgwyd llaeth. (Dydy o byth yn ennill pwysau!)
Friday, June 2, 2023
bwrw ymlaen
Mae fy merch yn bwrw ymlaen gyda chymorth ei gŵr. Does gen i ddim syniad sut mae hi'n paentio drwy'r dull hwnnw. Dwedodd ei fod o'n hynod o anodd mewn gwirionedd, ac na fydd hi'n ei ddefnyddio byth eto. Roedd rhaid iddyn nhw stopio cyn storm sydyn ddoe. Ail ddechreuon nhw heddiw.
Subscribe to:
Posts (Atom)