Friday, November 3, 2023

cyflenwadau ac offer meddygol


Aeth nifer mawr o Iddewon ifanc sydd yn byw tu allan i Israel yn ôl at eu gwlad nhw er mwyn ymuno ag IDF yn yr argyfwng cenedlaethol. 

Daniel ydy un ohonyn nhw. Mae o'n ffrind i fy merch hynaf. Ar ôl gwasanaethu fel meddyg yn IDF am dair blynedd, roedd yn byw yn yr Unol Daleithiau nes dydd erchylltra'r Hydref 7. Yn ôl yn Israel rŵan, mae o a'i dîm yn ceisio codi arian ar gyfer cyflenwadau ac offer meddygol yn ôl y rhestr a luniwyd gan y meddygon a'r nyrsys ar ffiniau Israel. Eu nod nhw ydy 60,000 o ddoleri. Dyma'r linc.

No comments: