Monday, January 29, 2024

babi newydd



Cafodd fy merch yn Japan ei babi ddoe, merch fach annwyl dros ben! Gyda chymorth ei gŵr, ei chwaer a dwy fydwraig, aeth popeth yn iawn. Dim ond rhyw ddeg awr a gymerodd o'r dechrau i'r diwedd. Mae'n anhygoel gweld bywyd newydd a greodd Duw.

No comments: