Tuesday, December 31, 2024

pan gyrhaeddwn ni'r nefoedd

"Y mae arnaf awydd ymadael a bod gyda Christ, gan fod hynny'n llawer iawn gwell," meddai Paul. Dw i'n cytuno â fo'n llwyr. Ac eto, dyma fi, diwedd blwyddyn arall, yn dal ar y ddaear. Mae'n ymddangos bod fy Nuw eisiau i mi aros tipyn mwy. 

Dyma fy hoff gân ar hyn o bryd:
Pan welwn ni Iesu,
canwn ni a gweiddi'r fuddugoliaeth!

Monday, December 30, 2024

y tŷ drws nesaf

Prynwyd y tŷ drws nesaf a oedd mewn cyflwr ofnadwy gan ryw ddatblygwr er mwyn iddo ei ailwerthu. Mae criw gweithgar wrthi ers dyddiau yn gwneud gwaith cyflym. O'r diwedd cafodd y to gyda thwll mawr ei drwsio; mae'r iard gefn yn edrych yn daclus hefyd. Mae'r tŷ wedi bod yn hyllbeth am amser hir, heb sôn am fod yn fagwrfa ar gyfer plâu. 

Sunday, December 29, 2024

molwch yr Arglwydd!

"Sanct, Sanct, Sanct
yw'r Arglwydd Dduw hollalluog,
yr hwn oedd a'r hwn sydd a'r hwn sydd i ddod!”

"Teilwng wyt ti, ein Harglwydd a'n Duw,
i dderbyn y gogoniant a'r anrhydedd a'r gallu,
oherwydd tydi a greodd bob peth,
a thrwy dy ewyllys y daethant i fod ac y crewyd hwy.”

Datguddiad 4:8,11

Saturday, December 28, 2024

botwm diet coke


Bydd botwm Diet Coke ar ddesg yr Arlywydd Trump unwaith eto pan fydd o'n cychwyn yn swyddogol yn Nhŷ Gwyn. Hwnnw oedd y botwm a fyddai fo'n gwthio pan oedd syched arno fo am Diet Coke yn ystod ei dymor arlywyddol cyntaf. Yna byddai staff yn dod â'i hoff ddiod ar hambwrdd arian ato fo. Hanesyn bach hwyl ydy hwn yn bendant, ond gobeithio na fydd yr Arlywydd newydd yn yfed gormod o'r ddiod afiach honno.

Friday, December 27, 2024

y goleuni yn y tywyllwch


"Y mae'r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw'r tywyllwch wedi ei drechu ef." Ioan 1:5

Mae eglwysi a sefydliadau Meseianaidd ledled Israel yn gwirfoddoli’n galed i helpu'r bobl sydd yn brifo'n erchyll ers yr Hydref 7fed - darparu prydau bwyd, agor eu cartrefi, codi degau o filiynau o ddoleri drwy'r byd ar gyfer y dioddefwyr a mwy, i gyd yn enw Iesu, er mwyn iddyn nhw fod yn y goleuni yn y tywyllwch.

Thursday, December 26, 2024

hanukkah - noson gyntaf

Dechreuodd Gŵyl Hanukkah neithiwr. Dyma "gynnau" y gannwyll gyntaf. Er mai canhwyllbren trydan mae o, mae'r golau'n disgleirio yn y tywyllwch yn llachar. Mae'n rhyfeddol bod yr ŵyl wedi cychwyn ar yr un ddiwrnod â'r Nadolig eleni. 

Wednesday, December 25, 2024

nadolig llawen

"Carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol." Ioan 3:16

Dyma sylwedd y Nadolig.

Tuesday, December 24, 2024

pa blentyn yw hwn?


Pwy yn wir - y babi bach a aned ym Methlehem dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl? Gobeithio y cewch chi ddarganfod yr ateb y Nadolig hwn.

Monday, December 23, 2024

y goleuni mewn tywyllwch

"Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr..."

"Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, 
a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd.
Fe'i gelwir, 
Cynghorwr rhyfeddol, 
Duw cadarn,
Tad bythol, 
Tywysog heddychlon."

Eseia 9

Saturday, December 21, 2024

ein llawenydd a gobaith

"Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau; pe na byddai felly, a fyddwn i wedi dweud wrthych fy mod yn mynd i baratoi lle i chwi? Ac os af a pharatoi lle i chwi, fe ddof yn ôl, a'ch cymryd chwi ataf fy hun, er mwyn i chwithau fod lle'r wyf fi. Fe wyddoch y ffordd i'r lle'r wyf fi'n mynd.” 

Meddai Thomas wrtho, “Arglwydd, ni wyddom i ble'r wyt yn mynd. Sut y gallwn wybod y ffordd?” Dywedodd Iesu wrtho, “Myfi yw'r ffordd a'r gwirionedd a'r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi."

Ioan 14:1-6

Thursday, December 19, 2024

troli siopa


Cafodd troli siopa ei ddyfeisio gan ddyn Iddewig yn Oklahoma yn 1937! Yn ôl Cymdeithas Hanes Oklahoma, wrth weld cwsmeriaid yn cael trafferth siopa gyda basged ar eu breichiau mewn archfarchnad, peth newydd sbon ar yr adeg, dyfeisiodd Sylvan Goldman droli siopa gan gyfuno cerbyd gyda basged weiren. 

Tuesday, December 17, 2024

sut i gael y tangnefedd sydd goruwch pob deall

"Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch. A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu." 
Philipiaid 4:6,7

Monday, December 16, 2024

dronau dirgel


"Cafodd y broblem dronau dirgel ei datrys ar yr unwaith wrth iddyn nhw geisio hofran dros Texas," yn ôl y Wenynen! Protestiodd y gŵr yn dweud, "beth am Oklahoma? Pam na chawn ni ein cynnwys yn yr erthygl?"

Thursday, December 12, 2024

person y flwyddyn


Dewiswyd Donald Trump yn Berson y Flwyddyn yr ail dro gan Gylchgrawn Time. Fo ydy'r "troseddwr" cyntaf a gafwyd yn euog i gael ei ethol yn Arlywydd. Pennaeth yr Ysbwriel (ei gefnogwyr) hefyd ydy o. Hwrê!

Tuesday, December 10, 2024

ateb syml

Mae yna fodd syml a hollol resymol i ddatrys problemau benthyciadau myfyrwyr. Talwch nhw yn ôl, fel pawb arall sydd yn benthyg pres.

Saturday, December 7, 2024

pluen eira


Hardd dros ben ydy pluen eira. Faint o eira a ddisgynnodd ar y ddaear ers amser Dilyw Noa? Mae'n syfrdanol meddwl nid ydy'r un ohonyn nhw'n union yr un fath. Creadigol ydy Duw, ac artist gorau ydy O.

Thursday, December 5, 2024

y gobaith go iawn


Cynyddwyd gwerthiant Beiblau 22 y cant yn America eleni o'i gymharu â'r llynedd. Mae'r bobl yn troi at yr Ysgrythur oherwydd eu bod nhw'n newynog am y gwirionedd. Mae nifer ohonyn nhw eisiau Beibl argraffedig hefyd. Mae'r byd yn mynd yn wallgof fwyfwy bob dydd; cewch y gwirionedd, y bywyd, y gobaith go iawn ond yng Ngair Duw.

Wednesday, December 4, 2024

ail-gylchu baner trump

Dw i'n hoff iawn o heulwen yn mynd i mewn yn y tŷ ac yn cynhesu'r ystafell, ond weithiau mae'n rhy lachar. Dyma ail-gylchu baner Trump. Mae'n gweithio'n ardderchog.

Tuesday, December 3, 2024

ysbrydoli i weithredu


Os na cheith y gwystlon eu rhyddhau cyn Ionawr 20, 2025, bydd uffern i'w dalu yn y Dwyrain Canol, ac i'r rhai cyfrifol sydd wedi cyflawni'r erchyllterau hyn yn erbyn dynoliaeth. Bydd y rhai sy'n gyfrifol yn cael eu taro'n galetach na neb yn hanes hir a dirdynnol Unol Daleithiau America. Rhyddhewch y gwystlon rŵan!

Erbyn heddiw mae pawb wedi clywed y neges ofnadwy o nerthol hon gan yr Arlywydd Trump. Gobeithio bod "y rhai cyfrifol" yn gwybod y bydd o'n cyflawni ei addewidion heb fethu. Gobeithio iddyn nhw gael eu hysbrydoli i weithredu ar unwaith.