Saturday, April 5, 2025

yr awen wedi dychwelyd

Roedd fy merch hynaf wedi blino'n lan cyn y siwrnai fel byddai'n barod i roi'r gorau i gelf yn gyfan gwbl. Roedd hi wrth ei modd i gael hoe rhag celf, a mwyhau ei gwyliau i'r eithaf yn Japan. Wedi treulio mis mewn llefydd a blodau hardd, bwyta bwyd Japaneaidd blasus, gweld ei theulu yno, fodd bynnag, mae'r awen wedi dychwelyd. Dyma ei pheintiad newydd sbon a wnaed ar gyfer Clwb Americanaidd Tokyo. Mae blodau ceirios yn edrych fel pe baen nhw'n tyfu o'r cynfas.

Thursday, April 3, 2025

dihareb

"Fe fydd drygioni yn ffynnu pan na fydd pobl dda yn gwneud dim."

Mae'r ddihareb hon yn profi'n wir bob amser, yn enwedig heddiw.

Wednesday, April 2, 2025

mwy o ffynnonnau poeth

Trodd y tywydd yn oer yn Tokyo yn sydyn. Dim ffiars - mae nifer o sento (baddonau cyhoeddus) ac onsen (ffynnonnau poeth) lle mae fy merch a'i gŵr yn aros. Dyma nhw'n cael eu cynhesu'n braf ddiwedd y diwrnod. Hoffwn pe gallwn i ymuno â nhw!

Tuesday, April 1, 2025

hanami

Aeth fy nheulu yn Japan i ardal enwog i wneud hanami, sef edmygu blodau ceirios. Fel arfer mae hanami yn cynnwys picnic dan goeden geirios flodeuog. Dyma nhw, hyd yn oed fy wyres fach, ynghyd â'u ffrindiau, yn mwynhau'r blodau a bwyd yn nhywydd braf.