"Dyn ni'n gweddïo," meddai Nayib Bukele, Arlywydd El Salvador pan ofynnwyd sut aeth y wlad fwyaf peryglus yn y byd yn un o'r rhai mwyaf diogel. "Mae'r cabinet diogelwch i gyd yn credu yn Nuw, a dyn ni'n gweddïo gyda'n gilydd. Dyn ni'n ceisio doethineb Duw er mwyn brwydro'r frwydr ysbrydol."
Wednesday, December 10, 2025
Tuesday, December 9, 2025
pob gogoniant i Dduw!
"Pob gogoniant i Dduw!" gweiddodd y Quarterback Fernando Mendoza chwap ar ôl i'w dîm ennill Pencampwriaeth y 10 Mawr. Doedd neb yn breuddwydio i Brifysgol Indiana ennill yn y gemau pêl-droed Americanaidd erioed. Hyfryd gweld arwr y tîm yn rhoi gogoniant i Dduw a oedd eu bendithio nhw.
Monday, December 8, 2025
bydded i mi yn ôl dy air di
Pan glywodd Mair gan yr angel y neges anhygoel, dywedodd, “dyma lawforwyn yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di.” Luc 1:38
Roedd Mair yn gwybod beth fyddai'n digwydd i ferch ddi-briod â phlentyn, ond roedd hi'n barod i wneud popeth dros ei Duw. Ddylen ni byth ei haeddol wrth gwrs (neb ond Duw,) ond mae hi'n haeddu parch. Cafodd hi ei dewis oherwydd ei chalon ddiffuant a'i ffydd gadarn yn Nuw.
Saturday, December 6, 2025
microdon
Torrodd y ficrodon (eto.) Archebais un newydd, ond fe fydd wythnos cyn iddo gyrraedd. Dyma ni'n byw fel hen ddyddiau. Y peth mwyaf anghyfleus ydy methu twymo bwyd a diodydd yn hawdd. Dw i'n ddiolchgar i Percy Spencer a ddyfeisiodd microdon.
Wednesday, December 3, 2025
pam Israel?
"Ddylai Cristion gefnogi Israel?" gofynnir mwy aml yn ddiweddar.
Wrth gwrs. Mae Duw yn eu caru nhw. Dylai Cristnogion garu pawb a phopeth mae o'n ei garu.
Yna, efallai byddech chi'n dweud mai gwlad seciwlar ydy Israel bellach; dydy'r rhan fwyaf o'r Iddewon ddim yn credu yn eu Duw; mae digonedd o bechodau yn y gymdeithas.
Cywir. Nid ar eu ffyddlondeb a daioni mae cariad Duw yn dibynnu, fodd bynnag, ond ar ei ffyddlondeb ei hun. Mae ei gariad tuag at Israel yn dystiolaeth ei ffyddlondeb.
Tuesday, December 2, 2025
bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio
"Mae angen cefnogi Israel ar ein gwlad ni oherwydd bod eu cefnogi nhw yn golygu cefnogi'r egwyddorion oedd yn ein gwneud ni'n rhagorol" - yr Arlywydd Ariannin Javier Milei
Monday, December 1, 2025
digon oer o'r diwedd
Roedd y tywydd wedi bod yn hynod o fwyn. Tynnon ni dân yn y stôf llosgi coed heddiw am y tro cyntaf eleni. Un o hoff bethau'r gŵr yn ystod gaeaf ydy weithio at y cyfrifiadur o flaen y tân. Dyma fo wrthi yn hapus.