Saturday, February 22, 2025

meddwl

Mae'r pregethwyr heddiw yn tueddu i beidio â sôn am bynciau anghyfforddus. Na chlywir pregethau yn aml yn annog pobl i edifarhau eu pechodau nhw. Maen nhw'n sôn am ras, cariad, tosturi Duw (er eu bod nhw i gyd yn wir.) Maen nhw'n ein gwneud ni'n meddwl bod popeth yn iawn, a bydd Duw yn ein derbyn ni fel ydyn ni, heb i ni newid ein ffyrdd ni.Y neges glir drwy'r Ysgrythur, fodd bynnag, ydy dylen ni edifarhau'n pechodau ni, troi at Iesu Grist, a byw drosto fo gyda'n holl galon, enaid, meddwl a nerth.


Thursday, February 20, 2025

peth "gwarthus"

Gwarthus! Creulon! Disgwylir i DOGE ddileu enwau'r bobl hŷn na 120 oed oddi ar restr bensiwn er mwyn cael gwared ar wastraff y llywodraeth. Sut byddan nhw'n mynd i ymdopi? Dyma nifer yr hen bobl hynny druan.

Wednesday, February 19, 2025

gwahardd rasio milgwn

Falch o glywed y bydd Cymru'n gwahardd rasio milgwn cyn gynted ag sydd yn bosib. Wrth i fy merch hynaf ddechrau eu maethu dros dro, dw i wedi dod i ymwybodol o'u triniaeth greulon. Mae rasio milgwn yn dal yn gyfreithiol mewn sawl talaith yn America (nid yn Oklahoma!) Gobeithio y bydd yn cael ei gwahardd yn gyfan gwbl yn fuan.

Tuesday, February 18, 2025

ysbrydoliaeth

Dyma'n Ysgrifennydd Amddiffyn newydd ni, Pete Hegseth. Mae o'n cyflawni ei swydd yn egnïol bob dydd, ac yn hyfforddi gyda'r milwyr hefyd. Mae'n sicr mai o ydy yn un o'r rhesymau bod nifer uchaf erioed o bobl ifanc yn cofrestru i ymuno â'r lluoedd arfog ers mis Rhagfyr.

Monday, February 17, 2025

cwestiwn ac ateb

Byddwn ni'n gofyn yn aml wrth weld beth sydd yn digwydd yn y byd; 
"am ba hyd, Arglwydd, y gwaeddaf am gymorth, a thithau heb wrando, ac y llefaf arnat, 'trais!' a thithau heb waredu?" Habacuc 1:2

Ateb Duw;
"oherwydd fe ddaw eto weledigaeth yn ei hamser - daw ar frys i'w chyflawni, a heb ball. Yn wir nid oeda; disgwyl amdani, oherwydd yn sicr fe ddaw, a heb fethu." Habacuc 1:3

Gadewch i ni gofio;
"oherwydd nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i,” medd yr Arglwydd. “Fel y mae'r nefoedd yn uwch na'r ddaear, y mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chwi, a'm meddyliau i na'ch meddyliau chwi." Eseia 55:8,9

Saturday, February 15, 2025

ruby

Mae fy merch hynaf yn gofalu am gi arall. Greyhound ydy hi o'r enw Ruby. Wedi pasio anterth ei gyrfa fel ci rasio yn Awstralia, byddai hi wedi cael ei lladd (fel Levi) oni bai am y bobl sydd yn helpu'r cŵn tebyg. Clywais nad oes digon o sefydliadau sydd yn achub hen gŵn rasio yn Awstralia, ac felly cafodd ei gyrru i Oklahoma City dros y môr. Truan o Ruby. Mae hi'n caru fy merch a byth yn gadael ei hochor hi. Gobeithio y bydd hi'n ffeindio cartref cariadus.

Thursday, February 13, 2025

hoff feddyg

Dr. Suneel Dhand ydy'n hoff feddyg ni. Cafodd ei eni yn Llundain, a mynd i Brifysgol Caerdydd. Mae o'n byw yn UDA bellach. Mae o'n adnabyddus am ei angerdd dros les pobl heb feddyginiaethau presgripsiwn. Mae ganddo ddi-ri o elynion hefyd sydd yn casáu ei farn feiddgar yn erbyn y sefydliad meddygol. Dyna pam dw i a'r gŵr yn hoff iawn ohono fo! Mae'r hyn mae o'n ei ddweud yn gwneud synnwyr yn llwyr. Hoffwn i pe bai'n ein meddyg teulu ni!