Mae'r tywydd hynod o boeth yn parhau, ond dw i'n cael aros mewn tŷ gydag awyrydd. Ddiolchgar ydw i wrth y bobl sydd yn cynhyrchu trydan a dŵr clên, y criw cynnal a chadw, heb sôn am y bobl a ddyfeisiodd y cyfleustra modern. Dw i'n ddiolchgar wrth gwrs fy mod i'n cael byw yn Unol Daleithiau America.
Monday, August 31, 2026
Saturday, August 29, 2026
hydref ar drothwy
Mae'n haf hynod o boeth eleni, ond mae'r hydref yn yr awyr yn bendant.
"Ef (Duw) sy'n newid amserau a thymhorau, yn diorseddu brenhinoedd a'u hadfer, yn rhoi doethineb i'r doeth a gwybodaeth i'r deallus," meddai Daniel.
Friday, August 28, 2026
y dasg olaf
Mae fy mam newydd ddychwelyd at y cartref henoed. Rhaid iddi fwyta bwyd hylif bellach, ond mae'n anhygoel ei bod hi wedi gwella digon iddi gael gadael yr ysbyty. Dw i'n credu'n sicr bod gan Dduw dasg iddi, y dasg olaf efallai cyn iddo ei galw hi'n adref.
Monday, August 24, 2026
fy mam anhygoel
Saturday, August 22, 2026
ewch ato
"Y mae'r ARGLWYDD yn agos at bawb sy'n galw arno, at bawb sy'n galw arno mewn gwirionedd," meddai Dafydd.
"Nesewch at Dduw, ac fe nesâ ef atoch chwi," meddai Iago.
Galwch ar Dduw; ewch ato heb oedi tra bod y porth ar agor. Mae o eisiau i bawb ddod ato (drwy Iesu.)
Friday, August 21, 2026
ni allwch fynd â fo gyda chi
"A'r ffaith yw, na ddaethom â dim i'r byd, ac felly hefyd na allwn fynd â dim allan ohono," dwedodd Paul wrth Timotheus.
Clywais hyn hefyd (nid yn y Beibl) : "ni chewch chi dynnu U-Haul tu ôl eich elorgerbyd."
Wednesday, August 19, 2026
mae'r nefoedd yn adrodd
Ces i fy nharo gan yr olwg hon y bore 'ma. Mae'n amhosib gwadu Duw pan welir ei greadigaeth ogoneddus. Mae o'n haeddu gogoniant, addoli ac anrhydedd.
Tuesday, August 18, 2026
cynllun gwahanol
Fu farw mab ffrind teulu yn sydyn. 20 oed oedd. Roedd o a'i deulu newydd ddychwelyd o wyliau. Cafodd pawb sioc erchyll wrth gwrs. Yn ei alar dwedodd y tad, fodd bynnag, "rhaid i mi ymddiried yn Nuw; roedd ganddo gynllun gwahanol dros fy mab rhag yr hyn roedden ni'n ei ddisgwyl."
Monday, August 17, 2026
o ble y daw cymorth i mi?
Ei gasgliad: "daw fy nghymorth oddi wrth yr ARGLWYDD, creawdwr nefoedd a daear."
Dwedodd yr Arglwydd: "paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi; paid â dychryn, myfi yw dy Dduw. Cryfhaf di a'th nerthu, cynhaliaf di â llaw dde orchfygol."
Diolch i ti, fy Arglwydd Duw am dy addewid.
Saturday, August 15, 2026
gair Duw
"Felly creodd Duw ddyn ar ei ddelw ei hun; ar ddelw Duw y creodd ef; yn wryw ac yn fenyw y creodd hwy." - Genesis
Ni all dim cliriach na hyn: Duw a greodd bopeth; yn wryw ac yn fenyw y creodd hwy.
Friday, August 14, 2026
enaid anniddig
Os ydych chi'n teimlo fel y Salmydd hwn, clywch beth ddwedodd Iesu:
"yn y byd fe gewch orthrymder, ond codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu'r byd.”
hefyd:
"...yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser."
Wednesday, August 12, 2026
yn nydd cyfyngder
Does angen petruso; mae Duw eisiau i ni alw arno yn nydd cyfyngder. A sut dylen ni ei anrhydeddu?
Dyma ei ateb: "y sawl sy'n cyflwyno offrymau diolch sy'n fy anrhydeddu."
Ac felly, gadewch i ni alw arno yn nydd cyfyngder yn hyderus, a chyflwyno offrymau diolch iddo.
Tuesday, August 11, 2026
dechrau doethineb
Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau doethineb, ac adnabod y Sanctaidd yw deall. (Diarhebion 9:10)
Bydded ichwi gael bendith gan yr ARGLWYDD a wnaeth nefoedd a daear. (Y Salmau 115:15)
Wednesday, August 5, 2026
Tuesday, August 4, 2026
blinedig?
amser i eni, ac amser i farw....," meddai'r Pregethwr yn y Beibl.
Os ydych chi'n teimlo'n anobeithiol, blinedig yn wynebu'r dirwedd lom hon, clywch beth ddwedodd Iesu:
"Dewch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi."
Monday, August 3, 2026
coed yn canmol Duw
oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o faw...
Llawenyched y maes a phopeth sydd ynddo. Yna bydd holl brennau'r goedwig yn canu'n llawen." (y Salmau 96)
Cynlluniwyd yr holl greadigaeth i ogoneddu Duw, gan gynnwys coed!
Saturday, August 1, 2026
cyfrif ein dyddiau
"Cyn geni'r mynyddoedd, a chyn esgor ar y ddaear a'r byd, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ti sydd Dduw."
Hefyd:
"y mae mil o flynyddoedd yn dy olwg fel doe sydd wedi mynd heibio..."
Ni waeth pa mor hir bod ni'n cael byw, byddwn ni i gyd yn hedfan i ffwrdd fel gwellt yn y diwedd.
y casgliad:
Thursday, July 30, 2026
Dydd yr Arglwydd
"Fe ddaw Dydd yr Arglwydd fel lleidr, a'r Dydd hwnnw bydd y nefoedd yn diflannu â thrwst, a'r elfennau yn ymddatod gan wres, a'r ddaear a phopeth sydd ynddi yn peidio â bod."
"Gan fod yr holl bethau yma ar gael eu datod fel hyn, ystyriwch pa mor sanctaidd a duwiol y dylai eich ymarweddiad fod," medd Pedr yn ei lythyr.
A dim ond drwy Iesu Grist gall ni fod yn sanctaidd a duwiol.
Tuesday, July 28, 2026
un drws
"Mae dilyw Noa yn ein hatgoffa ni bod Duw yn barnu pechod. Mae'r arch yn ein hatgoffa ni bod Duw wedi darparu ffordd achub. Yr union fel roedd ond un drws i'r arch, mae ond un drws i iachawdwriaeth dragwyddol. Iesu Grist, yr Arglwydd ydy'r drws." Ken Ham
Cytuno'n llwyr.
Monday, July 27, 2026
fy nghryfder
"Er i'm calon a'm cnawd ballu, eto y mae Duw yn gryfder i'm calon ac yn rhan imi am byth," meddai un o'r Salmyddion.
Cytuno'n llwyr. Dw i'n teimlo'n wan yn gorfforol mwyfwy yn ddiweddar, ond mae Iesu, fy Nuw sydd yn rhoi nerth i mi fwrw ymlaen un dydd ar y tro.
Saturday, July 25, 2026
y fendith
bydded i'r ARGLWYDD lewyrchu ei wyneb arnat, a bod yn drugarog wrthyt;
bydded i'r ARGLWYDD edrych arnat, a rhoi iti heddwch."
Wednesday, July 22, 2026
lle mae o bellach?
Bydd "viewing" nos Wener ar gyfer teulu'r dyn a fu farw'n ddiweddar, gan ddilynir angladd ddydd Sadwrn. Dw i ddim yn bwriadu barnu'r traddodiad. Ond wir i chi; nad ydy o yn y corff mewn arch ond gydag Iesu yn y nef bellach. Dim ond cragen wag ydy hwnnw. Bydd o, ynghyd â phawb a oedd yn credu yn Iesu Grist, yn byw gyda'r Arglwydd am byth a bythoedd yn yr heddwch perffaith.
Tuesday, July 21, 2026
peth pwysicaf
Beth ydy'r peth pwysicaf yn eich bywyd chi?
Meddai Iesu, "Beth ydy'r pwynt o gael popeth sydd gan y byd i'w gynnig, a cholli'r enaid?" (Beibl.net)
Monday, July 20, 2026
croeso cynnes
Aeth hen ddyn annwyl arall at Iesu ddoe. Un o aelodau ffyddlon ein heglwys ni oedd, ac roedd o wrthi gyda'i wraig dros Dduw yn Ne Affrica ers blynyddoedd cyn ymddeol yn y dref hon. Dw i'n credu'n sicr iddo gael croeso cynnes gan yr Arglwydd, a chlywed, "Ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon."
Saturday, July 18, 2026
bwrw dy faich
“Bwrw dy faich ar yr ARGLWYDD, ac fe'th gynnal di; ni ad i'r cyfiawn gael ei ysgwyd byth," meddai Duw.
Mae adnod debyg yn un o lythyrau Peder; efallai ei fod wedi meddwl am yr adnod hon pan ysgrifennodd ei lythyr. Mae hi'n rhoi nerth i mi bob tro.
Wednesday, July 15, 2026
ni chymer ddim
oherwydd ni chymer ddim pan fo'n marw, ac nid â ei gyfoeth i lawr i'w ganlyn.
Er iddo yn ei fywyd ei ystyried ei hun yn ddedwydd, a bod pobl yn ei ganmol am iddo wneud yn dda, fe â at genhedlaeth ei hynafiaid, ac ni wêl oleuni byth mwy," meddai'r Beibl.
Monday, July 13, 2026
hyd yn oed Solomon
Saturday, July 11, 2026
chwa o wynt
"Gwyn ei fyd y sawl sy'n rhoi ei ymddiriedaeth yn yr ARGLWYDD," meddai hefyd.
Amen.
Friday, July 10, 2026
enw hebreig
Mae un o fy merched yn gweithio'n rhan amser mewn tŷ bwyta poblogaidd yn Sydney. Mae hi newydd ddarganfod mai dyn o Israel ydy un o'r cwsmeriaid rheolaidd. Pan glywodd ei henw hi, gofynnodd ydy hi'n gwybod ei ystyr yn ei iaith. Wrth gwrs! Y fi a ddewisodd yr enw oddi wrth lyfr enwau babis Hebreig. Cafodd y cwsmer ei synnu'n fawr pan glywodd ei hanes (yn naturiol,) ac roedd o'n edrych yn hynod o falch.
Wednesday, July 8, 2026
pryder
Mae fy merch hynaf yn bwriadu dod i America gyda'i gŵr a'u babi mewn pythefnos, ac yn aros tan ddiwedd mis Awst. Mae ganddi ofn o bob math. Un ohonyn nhw ydy byddai ei babi'n crio'n angysuradwy yn yr awyren. Gofynnodd i'w theulu am weddïo. Atgoffais i hi'r adnod gyfarwydd hon:
"Bwriwch eich holl bryder arno ef, oherwydd y mae gofal ganddo amdanoch."
Ydy, mae!
Monday, July 6, 2026
torri gwallt
Cafodd fy ŵyr pedwar mis oed dorri ei wallt am y tro cyntaf yn broffesiynol, gan driniwr wallt gwych, sef ei fodryb. Roedd yn aros heb gwyno tra oedd hi'n gweithio. Mae o'n edrych yn reit daclus rŵan.
Sunday, July 5, 2026
250 oed (ddoe)
Saturday, July 4, 2026
bendith babi
Ymwelodd fy merch hynaf, gyda'i theulu, â'i nain yn ei chartref henoed. Roedd ei nain wrth ei bodd yn gweld ei gor-ŵyr 4 mis oed. Roedd o'n gwenu a chwerthin ati drwy'r amser. Dwedodd fy merch bod ei nain yn ymddangos yn ei iawn bwyll bron yn sydyn.
Wednesday, July 1, 2026
sut i fod yn fam
Dwedodd fy merch hynaf nad ydy hi'n gwybod sut i fod yn fam oherwydd mai ond plentyn ydy hi ei hun; er ei bod hi'n gwybod bod gan Dduw dasgau dros ei babi ac i hithau, mae hi'n reslo yn erbyn dymuniad i ffoi o'i bywyd presennol.
Dw i'n deall ei theimladau'n dda iawn. Dyna sut oeddwn i'n meddwl tra oeddwn i'n magu fy mhlant. Drwy Ei drugaredd, fodd bynnag, maen nhw i gyd wedi tyfu'n weision ffyddlon Duw.
Monday, June 29, 2026
croesi'r afon
ac yn ymladd rhyfel olaf yn erbyn poen.
Wrth i farwolaeth ildio i fuddugoliaeth,
bydda i'n gweld goleuadau gogoniant,
ac yn gwybod Ei fod yn fyw."
Dw i'n hoff iawn o drydydd pennill yr emyn hwn.
Saturday, June 27, 2026
mellt a tharanau
Cawson ni gymaint o law yn y misoedd diwethaf, a bydd glaw yn dod gyda mellt a tharanau bob tro. Dychrynllyd ydy'r taranau yn yr ardaloedd 'ma.
ac yr oedd y ffurfafen yn taranu;
fflachiodd dy saethau ar bob llaw.
Yr oedd sŵn dy daranau yn y corwynt,
goleuodd dy fellt y byd;
ysgydwodd y ddaear a chrynu."
Friday, June 26, 2026
ydych chi'n barod?
Gofynnodd disgyblion i Iesu, "beth fydd yr arwydd o'th ddyfodiad ac o ddiwedd amser?"
Atefodd, "bydd daeargrynfâu dirfawr, a newyn a phlâu mewn mannau....."
Fe ddaw yn ôl yn fuan, fel brenin buddugol i farnu'r byd y tro hwn, nid fel oen di-nam i fod yn aberth er pechodau'r byd. Ydych chi'n barod?
Wednesday, June 24, 2026
yn lle edrych ar y ffôn
Mae'n ymddangos bod yn hynod o anodd i nifer o bobl fodern aros munud hyd yn oed heb edrych ar eu ffôn. Es i at ddeintydd y bore 'ma. Fel mae'n digwydd, roedd o mor brysur fel roedd rhaid i mi aros yn hir iawn er bod gen i apwyntiad. Yn lle edrych ar fy ffôn, penderfynais wneud dim. Roeddwn i'n ceisio "ymlonyddu a deall mai O sydd Dduw."
Monday, June 22, 2026
mae tymor i bob peth
"Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef," meddai'r Pregethwr yn y Beibl.
Saturday, June 20, 2026
cwpan y byd
Daeth breuddwyd fy mab hynaf yn wir ddoe, hynny ydy gweld gêm tîm UDA yng Nghwpan y Byd. Mae o a'i deulu yn Seattle am wyliau rŵan, ac aeth (ar ben ei hun) i'r stadiwm i weld y gêm rhwng UDA ac Awstralia. Roedd yn brofiad byth cofiadwy, meddai!
Cyn y gêm, cannodd y tîm a chefnogwyr UDA'r anthem gyda'u holl galonnau, a'u llais yn atseinio'r stadiwm enfawr.
Friday, June 19, 2026
synnu'n bleserus
Wednesday, June 17, 2026
rysáit bara
Monday, June 15, 2026
hwyl am y tro
Cafodd y nef aelod newydd eto. Ces i sgwrs sydyn gyda fo ond pythefnos yn ôl. Yna, clywais fod fy hen ffrind annwyl wedi mynd at Iesu'n barod. Dwedodd ei wraig nad oedd yn dioddef wrth iddo fynd. Dim ond dweud a wnaeth, "dw i'n mynd adref" cyn tynnu ei anadl olaf. Hwyl am y tro, fy ffrind.
Sunday, June 14, 2026
80 oed
Penblwydd hapus i'r Arlywydd Trump annwyl!
Saturday, June 13, 2026
cân y brenin Dafydd
trwy fy Nuw gallaf neidio dros fur.
Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd,
ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur;
y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo.
Byw yw'r ARGLWYDD, bendigedig yw fy nghraig,
dyrchafedig fyddo'r Duw sy'n fy ngwaredu," canodd Dafydd.
Amen!
Friday, June 12, 2026
criw nos
Roedd yn stormus neithiwr. Pan ddeffrais yn ystod y nos, roeddwn i'n sylweddoli nad oedd trydan. Es i'r tŷ bach gyda fflach lamp. Methais fynd yn ôl i gysgu. Wedi hanner awr, fodd bynnag, clywais y ficrodon yn gwneud sŵn gwan tu ôl y mur. Roeddwn i'n gwybod bod y trydan wedi dychwelyd, diolch i'r criw a ddatrysodd y broblem yng nghanol nos.
Wednesday, June 10, 2026
un newydd yn y nef
Fu farw nain wraig fy mab hynaf o gancro yn Taiwan neithiwr. Hedfanodd ei mab o Texas pan glywodd ei bod hi ar fin marw wythnosau'n ôl. Doedd ganddi ddiddordeb yn Nuw yn ystod ei bywyd, ond wrth iddi nesáu at farwolaeth, meddalodd ei chalon. Gyda chymorth ei mab a gweinidog yr ysbyty, rhoddodd ffydd yn Iesu Grist. Gadawodd y byd hwn yn y tangnefedd perffaith. Mae hi gydag Iesu bellach. Haleliwia!
Monday, June 8, 2026
Itai y Gethiad
Roedd y Brenin Dafydd yn ceisio ffoi o'i fab, Absalom, a gadael Jerwsalem. Yn ymysg y rhai a'i dilynodd oedd Itai y Gethiad, a'i 600 o ddynion gyda'u teuluoedd. Er bod y Brenin yn annog i Itai i fynd at y brenin newydd (Absalom,) gwrthod a wnaeth Itai gan fynnu, "ple bynnag yr â f'arglwydd frenin, i farw neu i fyw, yno'n sicr y bydd dy was hefyd.”
Dyn ffyddlon a chryf - un o fy hoff gymeriadau ydy o.
Saturday, June 6, 2026
dŵr bywiol
Oes syched arnoch chi? Hynny ydy, syched yr ysbryd. Dyma fo, y dŵr bywiol:
“Pwy bynnag sy'n sychedig, deued ataf fi ac yfed. Allan o'r sawl sy'n credu ynof fi, fel y dywedodd yr Ysgrythur, y bydd ffrydiau o ddŵr bywiol yn llifo,” meddai Iesu
Wednesday, June 3, 2026
bro fy mebyd
Mae fy ail ferch yn Japan newydd bostio'r lluniau a dynnodd yn ystod ymweliad ei thad y mis diwethaf. Hwn ydy un ohonyn nhw, glan Afon Tama ym mro fy mebyd. Mae'n rhyfeddol bod fy merch yn byw mewn ardal digon agos at y lle a ges i fy magu.
Tuesday, June 2, 2026
doethineb babi
Gofynnodd fy wyres, ddwy a hanner oed, i'w mam wrth weld llun o'i rhieni cyn iddi gael ei geni, "lle ydw i?"
Atebodd ei mam, "doeddet ti ddim yna. Dw i ddim yn gwybod lle oeddet ti cyn i ti ddod tu mewn i fy stumog. Lle oeddet ti? Oeddet ti gyda Duw? Oeddet ti'n arnofio rhywle?"
"Ar y dŵr," meddai.
Monday, June 1, 2026
llythyr at fy mam
Dw i newydd anfon llythyr at fy mam sydd yn byw mewn cartref henoed yn Tokyo. Dw i'n ysgrifennu llythyr ati ar y cyntaf o bob mis ers blynyddoedd. Yn ddiweddar mae ei chof wedi gwaethygu'n arw fel nad ydy hi'n cofio ei theulu'n dda hyd yn oed. Dw i ddim yn sicr ydy hi'n fy nghofio i chwaith. Dw i'n dal i ysgrifennu ati hi, fodd bynnag wrth obeithio adfywio ei hymennydd. Bydda i'n cynnwys adnod neu ddwy bob tro. Dewisais hon (eto) y tro 'ma, sydd yn addas i mi hefyd:
"Am hynny, nid ydym yn digalonni. Er ein bod yn allanol yn dadfeilio, yn fewnol fe'n hadnewyddir ddydd ar ôl dydd." 2 Corinthiaid 4:16
Saturday, May 30, 2026
o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb
y mae'n blodeuo fel blodeuyn y maes—
pan â'r gwynt drosto fe ddiflanna,
ac nid yw ei le'n ei adnabod mwyach," meddai Dafydd.
Ond....
"Cyn geni'r mynyddoedd,
a chyn esgor ar y ddaear a'r byd,
o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ti sydd Dduw," meddai Moses.
Friday, May 29, 2026
yn fewnol
Fydda i wedi blino'n llwyr yn ddiweddar, dim ond ar ôl cerdded chwarter awr yn y gymdogaeth. Anodd credu i mi gerdded am oriau bob dydd yng Nghymru ac yn yr Eidal rhyw ugain mlynedd yn ôl. Dringais i at ben Cwpola Brunelleschi hyd yn oed. Dw i ddim yn digalonni fodd bynnag. Mae'r adnod hon yn iawn:
"Am hynny, nid ydym yn digalonni. Er ein bod yn allanol yn dadfeilio, yn fewnol fe'n hadnewyddir ddydd ar ôl dydd."
Wednesday, May 27, 2026
hanes ceidwad y carchar
Gofynnodd ceidwad y carchar i Paul a Silas, “Foneddigion, beth sy raid imi ei wneud i gael fy achub?” Dywedasant hwythau, “Cred yn yr Arglwydd Iesu, ac fe gei dy achub, ti a'th deulu.”
A dyna beth wnaeth y ceidwad a'i deulu. Mae stori gynhyrfus ynglŷn â'r hanes hwnnw. Darllenwch Actau 16:19 - 34.
Tuesday, May 26, 2026
yr unig ateb
Mae'r byd yn dal i fynd o ddrwg i waeth. Does dim angen chwilio am ddatrysiad, fodd bynnag. Mae'r unig ateb yng Ngair Duw:
"Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab (Iesu,) er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. Oherwydd nid i gondemnio'r byd yr anfonodd Duw ei Fab i'r byd, ond er mwyn i'r byd gael ei achub trwyddo ef," meddai'r Beibl.
Monday, May 25, 2026
oherwydd eu dewrder
"Ar Ddiwrnod i Gofio, dyn ni'n anrhydeddu'r arwyr America a oedd wedi colli eu bywydau yn anhunanol er mwyn amddiffyn ein rhyddid," meddai'r Arlywydd Trump.
Saturday, May 23, 2026
44fed
Dw i a'r gŵr yn dathlu ein 44fed penblwydd priodas heddiw. Trwy drugaredd Duw, dan ni'n dal gyda'n gilydd, wedi cael a magu 6 o blant. Y peth gorau i ni fel rhieni ydy gweld ein plant i gyd yn rhodio'n ffyddlon gydag Iesu Grist, ein Harglwydd ni.
"Iddo ef y bo'r gogoniant am byth!" - Llythyr at y Rhufeiniaid
Wednesday, May 20, 2026
well ufuddhau
Dw i ddim eisiau dy bres di ond dy fywyd di.
Clywaist ti'n dweud y do' i'n ôl yn fuan.
Ond ti'n ymddwyn fel bydda i byth yn dychwelyd.
Dw i eisiau mwy na Suliau a nosweithiau Mercher.
Oherwydd os na all di ddod ata i bob dydd,
yna, paid â thrafferthu dod o gwbl."
Mae hen gân Keith Green yn dal i alw ar Gristnogion i ddilyn Iesu o ddifri.
Tuesday, May 19, 2026
byw ein ffydd ni
Mae ein gweinidog dros dro yn pregethu ar bwnc penodol ers wythnosau, sef byw ein ffydd ni, nid dim ond dweud bod gannon ni ffydd. Mewn geiriau eraill, dylen ni fyw fel dilynwyr Iesu bob munud gan adlewyrchu ei gymeriadau.
Monday, May 18, 2026
anrheg sul y mamau
Ces i bres gan un o fy mhlant ar gyfer Sul y Mamau. Mae'n anodd penderfynu beth i'w gael bob tro. Does dim llawer angen arna i wrth i mi heneiddio. Ces i syniad da - prynais flodau a gwin o Israel. Dw i byth yn prynu blodau i fi fy hun, ac felly dewis perffaith oedd. Gwin o Israel - does dim eisiau esbonio; hyfryd cael mwynhau gwin da, a chefnogi economi Israel ar yr un pryd.
Saturday, May 16, 2026
heddwch perffaith
"Yr wyt (Duw) yn cadw mewn heddwch perffaith
y sawl sydd â'i feddylfryd arnat,
am ei fod yn ymddiried ynot.
Ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD o hyd,
canys craig dragwyddol yw'r ARGLWYDD Dduw," meddai Eseia.
Wednesday, May 13, 2026
pan fydd ofn
"Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi;
paid â dychryn, myfi yw dy Dduw.
Cryfhaf di a'th nerthu,
cynhaliaf di â llaw dde orchfygol," meddai Duw.
Saturday, May 9, 2026
erchylltra yn y Beibl
Mae rhannau o'r Beibl yn anodd darllen oherwydd yr erchylltra a ddisgrifiwyd. Mae Pennod 19 o'r Barnwyr ydy un ohonyn nhw. Roedd gan Dduw amcan, fodd bynnag, ar gyfer y rhain. Maen nhw'n dangos pa mor erchyll gall y byd fod pan fydd pobl yn troi eu cefnau ar Dduw, ac yn anwybyddu ei Air. Cewch chi weld yr un canlyniadau yn glir o'n cwmpas ni heddiw. Yr unig ddatrysiad ydy troi at Dduw, a byw drosto fo.
Thursday, May 7, 2026
heb olygu
Roedd gan yr arweinwyr yn y Beibl yn llawn o namau. Yn aml iawn methon nhw gyflawni'r tasgau a roddodd Duw. Hefyd, mae hanes Israel yn yr Hen Destament yn hanes eu hanffyddlondeb i Dduw, tra bod Duw'n dal i'w caru nhw gan alw arnyn nhw i ddychwelyd ato fo. Dw i'n cael fy synnu'n aml fod yr Iddewon wedi gwarchod yr Ysgrythur heb geisio ei "olygu" drwy'r canrifoedd. Mae hyn yn profi mai gwir ydy o.
Wednesday, May 6, 2026
dim ond un ffordd
Mae cynifer o "grefyddau" yn y byd. Cwestiwn cyffredin ydy, "fydd yr holl ffyrdd yn arwain at Dduw?" Mae rhai pobl yn bendant y bydd. Tra bod Duw'n caru pawb, ac eisiau i bawb ddod ato fo, mae dim ond un ffordd.
"Myfi yw'r ffordd a'r gwirionedd a'r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi," meddai Iesu.
"Nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i'r ddynolryw, y mae'n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo." - y Beibl
Tuesday, May 5, 2026
gorffwys go iawn
Mae nifer o bobl yn y byd wedi blino a dan bwysau heddiw er bod y bywyd yn galetach yn yr hen ddyddiau. Newyddion da - mae ateb, sef yr unig fodd i gael gorffwys go iawn:
"Dewch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi," meddai Iesu.
Monday, May 4, 2026
tra bod amser
"Mae dydd yr Arglwydd yn dod. Ond bydd yn dod yn gwbl ddirybudd, fel lleidr. Bydd popeth yn yr awyr yn diflannu gyda sŵn rhuthr mawr. Bydd yr elfennau yn cael eu dinistrio gan dân, a phopeth ddigwyddodd ar y ddaear yn dod i’r golwg i gael ei farnu." (Beibl.net)
Mae'r byd yn ymddangos yn para fel mae o, meddech chi. Dydy Duw ddim yn hwyr yn cyflawni ei addewidion, fodd bynnag:
"Bod yn amyneddgar gyda chi mae e. Does ganddo ddim eisiau i unrhyw un fynd i ddistryw. Mae e am roi cyfle i bawb newid eu ffyrdd." (Beibl.net)
Ac felly, ewch ato fo heddiw tra bod amser.
Friday, May 1, 2026
adar gwyllt
Dw i'n hoff iawn o'r adar gwyllt yn y gymdogaeth. Mae'n braf clywed eu cân felys o gwmpas y tŷ, ac wrth i mi fynd am dro bob bore. Un peth ofnadwy amdanyn nhw ydy hwn fel gweler yn y llun. Dw i'n credu'n siŵr eu bod nhw'n anelu at ein blwch post ni, (ac unrhyw gar wedi'r barcio tu allan.)
Thursday, April 30, 2026
addewid
"Os byddwch chi’n chwilio amdana i o ddifri, â’ch holl galon, byddwch chi’n fy ffeindio i." Beibl.net
Un o addewidion Duw ydy hwn. Mae o'n ffyddlon yn ei holl eiriau. Fe fedrwch chi ymddiried arno fo yn gyfan gwbl.
Wednesday, April 29, 2026
dim byd cuddiedig
"Nid oes dim a grewyd yn guddiedig o'i olwg, ond y mae pob peth yn agored ac wedi ei ddinoethi o flaen llygaid yr Un yr ydym ni i roi cyfrif iddo." - y Beibl
Mae'n amhosibl cuddio dim byd o olwg Duw. Mae o'n gweld a gwybod popeth.
Tuesday, April 28, 2026
ffyddlon hyd y diwedd
"Rhaid i ni ddewis Duw neu "dduwiau" eraill, sydd mewn gwirionedd yn rymoedd cythreulaidd. Does dim tir niwtral ysbrydol. Mae pawb yn gwasanaethu rhywun," meddai Tony.
Mae Josua yn un o fy hoff gymeriadau yn y Beibl nawr. Arhosodd yn ffyddlon i Dduw hyd y diwedd, gan ufuddhau iddo ar unwaith, a rhoi gogoniant iddo, byth iddo'i hun.
"Byddaf fi a'm teulu yn gwasanaethu'r ARGLWYDD." - Josua 24:15
(Fy hoff gymeriadau eraill ydy Nehemeia, Benaia, Phinees, Jael.)
Monday, April 27, 2026
gwyn fel yr eira
"Os ydy’ch pechodau chi’n goch llachar,
gallan nhw droi’n wyn fel yr eira;
os ydyn nhw’n goch tywyll,
gallan nhw fod yn wyn fel gwlân," meddai'r Arglwydd Duw. (Beibl.net)
"Carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab (Iesu,) er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol."
Ewch at Iesu, Duw mewn cnawd, sydd yn medru maddau eich pechodau i gyd. Ewch, tra bod y drws ar agor; bydd yn cau un diwrnod.
Saturday, April 25, 2026
104 oed
Penblwydd hapus i fy mam yn Japan sydd yn troi'n 104 oed heddiw. Mae hi'n dal yn iach er gwaethaf ei dementia, ac yn dweud wrth ei hymwelwyr pa mor hapus mae hi bob dydd. Yn ei bywyd hir a chaled, rhaid y peth gorau a ddigwyddodd oedd iddi gredu yn Iesu. Mae hi'n gwybod ei fod o wedi maddau ei phechodau i gyd, a bydd hi'n mynd ato fo i fyw gyda fo am byth.
Friday, April 24, 2026
Wednesday, April 22, 2026
78 oed
Mae cynifer o adnodau'r Beibl a broffwydodd y byddai Duw'n dod â'i bobl yn ôl at y tir a roddodd i Abraham. Fe'i cyflawnwyd yn 1948. Does modd i atal ewyllys Duw.
Penblwydd Hapus i Israel!
Tuesday, April 21, 2026
addewid
Wir, mae'n amhosib osgoi gorthrymder yn y byd, ond does dim rhaid colli eich calonnau os ydych chi'n credu yn Iesu, oherwydd ei fod o wedi addo:
Hefyd:
"Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi;
paid â dychryn, myfi yw dy Dduw.
Cryfhaf di a'th nerthu,
cynhaliaf di â llaw dde orchfygol."
Monday, April 20, 2026
dychweliad at Air Duw
"Gwyn ei byd y genedl y mae'r Arglwydd yn Dduw iddi." - Beibl
Friday, April 17, 2026
paid ag arswydo
"Paid ag arswydo na dychryn, oherwydd yr wyf fi, yr Arglwydd dy Dduw, gyda thi ple bynnag yr ei," meddai'r Arglwydd wrth Johsua.
Mae ei eiriau hyn yn rhoi nerth i mi pan oes ofn arna i oherwydd mai â ni hefyd mae o'n siarad.
Wednesday, April 15, 2026
un sydd yn cadw yfory
Dw i ddim yn pryderu am yfory oherwydd fy mod i'n gwybod beth ddwedodd Iesu.
Dw i ddim yn deall llawer o bethau,
ond dw i'n gwybod pwy sydd yn cadw yfory, a phwy sydd yn cadw fy llaw.
Tuesday, April 14, 2026
gobaith cadarn
Fu farw mam gŵr fy merch hynaf neithiwr o ganser. Er bod yn drist i'r teulu ffarwelio â hi (am y tro) wrth gwrs, maen nhw'n cael eu cysuro gan wybod ei bod hi gydag Iesu bellach, wedi cael ei rhyddhau o ddioddefaint corfforol. Dyma'n gobaith cadarn ni sydd yn credu yn Iesu a'i addewidion sicr.
Monday, April 13, 2026
tra pery'r ddaear
“Tra pery'r ddaear,
ni pheidia pryd hau a medi, oerni a gwres,
haf a gaeaf, dydd a nos," meddai'r Arglwydd.
Saturday, April 11, 2026
y genedl ddedwydd
a difetha gynlluniau pobloedd.
Ond saif cyngor yr Arglwydd am byth,
Gwyn ei byd y genedl y mae'r Arglwydd yn Dduw iddi."
Friday, April 10, 2026
lili'r dyffryn
Mewn galar, Ef yw fy nghysur.
Wednesday, April 8, 2026
mae'n amlwg
"Y mae'r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw,
a'r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo."
"Ond yn awr gofyn i'r anifeiliaid dy ddysgu,
ac i adar y nefoedd fynegi i ti,
neu i blanhigion y tir dy hyfforddi,
ac i bysgod y môr dy gyfarwyddo.
Pwy na ddealla oddi wrth hyn i gyd
mai llaw'r Arglwydd a'u gwnaeth?"
Tuesday, April 7, 2026
da yw
"Da yw Duw."
Hyn ydy'r geiriau cyntaf a ddaeth oddi wrth geg yr awyrennwr a achubwyd o Iran yn y cynllun achub beiddgar.
Ydy, mae o!
Monday, April 6, 2026
gwanwyn
amser i eni, ac amser i farw,
amser i garu, ac amser i gasáu,
amser i ryfel, ac amser i heddwch."
A dyna sut fydd y byd yn bwrw ymlaen, nes i Iesu ddod yn ôl un diwrnod.
Sunday, April 5, 2026
hanes Tomos
Doedd Tomos ddim yno pan wnaeth Iesu ymddangos. Dyma’r lleill yn dweud wrtho, “Dŷn ni wedi gweld yr Arglwydd!”
Ond ei ymateb oedd, “Nes i mi gael gweld ôl yr hoelion yn ei arddyrnau, a rhoi fy mys yn y briwiau hynny a rhoi fy llaw i mewn yn ei ochr, wna i byth gredu’r peth!”
Wythnos yn ddiweddarach roedd y disgyblion yn y tŷ eto, a’r tro hwn roedd Tomos yno gyda nhw. Er bod y drysau wedi’u cloi, daeth Iesu i mewn a sefyll yn y canol a dweud, “Shalôm!” Trodd at Tomos a dweud, “Edrych ar fy arddyrnau; rho dy fys i mewn ynddyn nhw. Estyn dy law i’w rhoi yn fy ochr i. Stopia amau! Creda!”
A dyma Tomos yn dweud, “Fy Arglwydd a’m Duw!” - Beibl.net
Saturday, April 4, 2026
dal i fyw
Syrthiodd coeden ar y cae cyfagos yn ystod storm gref y llynedd. Cafodd hi ei thynnu allan wrth y gwreiddiau. Roedd yn edrych yn farw yn ystod y gaeaf, ond dyma hi! Mae hi'n egino dail newydd sbon! Rhaid bod rhan o'r gwreiddiau'n dal i fyw.
Friday, April 3, 2026
good friday?
Wednesday, April 1, 2026
pesach
Monday, March 30, 2026
wythnos sanctaidd
bloeddia'n uchel, ferch Jerwsalem.
Wele dy frenin yn dod atat
â buddugoliaeth a gwaredigaeth,
yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn,
ar ebol, llwdn asen." Sechareia 9:9
Cyflawnwyd y broffwydoliaeth 2,000 o flynyddoedd yn ôl; daeth Iddew o'r enw Iesu i Jerwsalem ar ebol asen, tra bod tyrfa gweiddi "Hosanna" a thaflu canghennau palmwydd ar y ffordd.
Friday, March 27, 2026
peidiwch â phryderu am yfory
"Peidiwch felly â phryderu am yfory, oherwydd bydd gan yfory ei bryder ei hun. Digon i'r diwrnod ei drafferth ei hun," meddai Iesu.
Wir, mae gan heddiw ddigonedd o drafferth. Does angen ychwanegu mwy drwy bryderu am yfory. Digon i mi ei ras o.
Wednesday, March 25, 2026
ni bydd eisiau arnaf
Gwna imi orwedd mewn porfeydd breision,
oherwydd yr wyt ti gyda mi.
- y Brenin Dafydd
Tuesday, March 24, 2026
casgliad
Cyflogodd y brenin Balac o Foab Balam i felltithio pobl Israel o gwmpas 1400 C.C. Methodd Balam bedair gwaith, fodd bynnag. Daeth fendith o'i geg yn lle melltith bob tro. Daeth i’r casgliad yn y diwedd, ac ailadrodd addewid Duw i Abraham:
"Bydded bendith ar bawb a'th (Israel) fendithia, a melltith ar bawb a'th felltithia."
Dyna fo.
Monday, March 23, 2026
aros i glywed
Drueni nad oedd Pilat wedi aros i glywed ateb gan Iesu i'w gwestiwn. Roedd o'n siarad gyda Gwirionedd ei hun, sef Duw mewn cnawd.
Saturday, March 21, 2026
chuck norris
"Mae'n bwysig gwneud eich heddwch â Christ tra bo cyfle. Mae bywyd mor fregus fel nad ydych chi byth yn gwybod pryd bydd yn gorffen." - Chuck Norris
Cytuno'n llwyr.
Friday, March 20, 2026
doniol
Mae o'n wych!
Wednesday, March 18, 2026
tymor i bob peth
amser i ryfel, ac amser i heddwch."
ef sy'n dysgu i'm dwylo ymladd, ac i'm bysedd ryfela."
Tuesday, March 17, 2026
wele fe'n dod
"Pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o'r nef; bydd y meirw yng Nghrist yn atgyfodi yn gyntaf, ac yna byddwn ni, y rhai byw a fydd wedi eu gadael, yn cael ein cipio i fyny gyda hwy yn y cymylau, i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr; ac felly byddwn gyda'r Arglwydd yn barhaus." - 1 Thesaloniaid 4
Dyma ein gobaith ni sydd yn credu yn Iesu ac yn byw drosto fo.
Monday, March 16, 2026
bendith Duw
bydded i'r Arglwydd lewyrchu ei wyneb arnat, a bod yn drugarog wrthyt;
bydded i'r Arglwydd edrych arnat, a rhoi iti heddwch." - Numeri 6
Mae Duw wrth ei fodd yn bendithio ei bobl. Cewch heddwch go iawn ganddo.
Saturday, March 14, 2026
Friday, March 13, 2026
addewid Duw
“Yr Arglwydd yw fy nghynorthwywr, ac nid ofnaf; beth a wna pobl i mi?”
- Hebreaid 13
Diolch i ti, yr Arglwydd am dy addewid.
Wednesday, March 11, 2026
dynes haearn japaneaidd
Gwelais fod IEA wedi penderfynu gwneud yr un peth.
Tuesday, March 10, 2026
er mwyn i genedl dderbyn bendith
Ond saif cyngor yr Arglwydd am byth, a'i gynlluniau dros yr holl genedlaethau.
Gwyn ei byd y genedl y mae'r Arglwydd yn Dduw iddi,
y bobl a ddewisodd yn eiddo iddo'i hun." Salm 33:10 - 12
Monday, March 9, 2026
addewid sicr
"Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fy nhangnefedd i fy hun. Nid fel y mae'r byd yn rhoi yr wyf fi'n rhoi i chwi. Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu'ch calon, a pheidiwch ag ofni," meddai Iesu.
Beth bynnag fydd yn digwydd yn y byd, mae gannon ni dangnefedd Iesu. Addewid sicr i bawb sydd yn credu ynddo fo.
Saturday, March 7, 2026
mynd trwy'r dyfroedd
Roedd fy merch eisiau genedigaeth holl naturiol. Roedd hi'n bwriadu cael ei babi mewn clinig bydwraig. Ond yn aml iawn na eith pethau fel gobeithiwn ni. Ac eto, peidiwch â digalonni oherwydd bod Duw wedi addo:
"Pan fyddi'n mynd trwy'r dyfroedd, byddaf gyda thi."
Roedd o gyda fy merch drwy gydol y frwydr. Mae hi'n gwellhau, ac mae ei babi yn berffaith ddel.
Friday, March 6, 2026
gwyrth
Cafodd fy merch hynaf yn Tokyo ei babi cyntaf ddoe. Er bod rhaid iddi fynd drwy doriad Cesaraidd brys, wedi dioddef 30 awr o boen eithafol, mae hi a'r babi'n iawn bellach. Gwyrth ydy babi; campwaith Duw.
Wednesday, March 4, 2026
dewis call
"Bydd y rhai sy’n ymladd yn dy erbyn di yn diflannu ac yn marw.
Byddi’n edrych am y rhai sy’n ymosod arnat ti ac yn methu dod o hyd iddyn nhw.
Fi, yr Arglwydd, ydy dy Dduw di, yn rhoi cryfder i dy law dde di, ac yn dweud wrthot ti: paid bod ag ofn. Bydda i’n dy helpu di.”
(Beibl.net)
Rhaid dewis eich cynghreiriaid yn gall. Dim syniad da i ymuno â gelynion Israel.
Tuesday, March 3, 2026
dwy ŵyl
Mae dwy ŵyl bwysig yn syrthio ar yr un diwrnod eleni, sef Pwrim a Hinamatsuri - Pwrim i gofio ffyddlondeb Duw yn achub yr Iddewon; Hinamatsuri i ddymuno iechyd a hapusrwydd i ferched ifanc (a hen.)
Monday, March 2, 2026
cyd-ddigwyddiad?
Addawodd Duw fyddai fo'n bendithio'r rhai sydd yn bendithio disgynyddion Abraham, ac yn melltithio'r rhai sydd yn eu melltithio. Mae hanes y byd yn tystio dros ei addewidion. Fel i Haman a oedd yn ceisio dinistrio'r Iddewon i gyd yn Ymerodraeth Persia, rhoddodd Duw'r un ddedfryd i Oruchaf Arweinydd Iran. Ces i fy nharo i weld bod ei enw yn cynnwys Haman! Cyd-ddigwyddiad? Nid fydd Duw yn gweithio trwy gyd-ddigwyddiad.
Sunday, March 1, 2026
pethau bychain
Dydd Ŵyl Dewi Sant hapus.
Saturday, February 28, 2026
rhu'r llew
Friday, February 27, 2026
beth bynnag
"Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, gweithiwch â'ch holl galon, fel i'r Arglwydd, ac nid i neb arall," dwedodd Paul yn ei lythyr.
Mae beth bynnag yn golygu beth bynnag - coginio, golchi llestri, glanhau tŷ bach, gwrando yn amyneddgar ar adrodd hir diflas cymydog, a mwy. Gwnewch bopeth â'ch holl galon, fel i'r Arglwydd.
Thursday, February 26, 2026
adnod heddiw
Achub hyd yr eithaf ..... ond trwyddo ef
Tuesday, February 24, 2026
coffi gwych
Dyma goffi gwych o Honduras. Job, ein ffrind ni a'i griw sydd yn ei gynhyrchu ar eu fferm flaengar yno. Maen nhw'n ceisio helpu'r ffermwyr lleol drwy ddangos modd effeithiol i ffermio, a dwyn Efengyl Iesu Grist ar yr un pryd.
Saturday, February 21, 2026
dal i weddïo
Ymwelodd fy ail ferch ei nain yn ddiweddar. Cafodd ei synnu gan ba mor fywiog oedd hi. Er fy mam wedi colli llawer o'i chof, mae hi'n iach yn ei chorf, ac yn siriol. Dwedodd ei bod hi'n dal i weddïo dros ei theulu bob dydd. Roedd ei bywyd yn ofnadwy o galed. Dw i 'n hynod o ddiolchgar bod Duw wedi ei hachub hi drwy Iesu Grist, a rhoi iddi lawenydd ym mhennod olaf ei bywyd.
Wednesday, February 18, 2026
amser i eni
Ond....
"Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef:
amser i eni, ac amser i farw," meddai'r Beibl.
Tuesday, February 17, 2026
hollol ddyn, hollol Dduw
Pan aeth Iesu i fro ei febyd a dechrau dysgu yn y synagog, cafodd nifer o'r trigolion eu synnu wrth wrando arno fo.
Dwedon nhw, “ble gafodd e’r holl ddoethineb, a’r gallu i wneud gwyrthiau? Saer ydy e. Mab Mair. Brawd Iago, Joseff, Jwdas a Simon! Mae ei chwiorydd yn dal i fyw yn y pentref ma.” (Beibl.net)
Hollol ddyn oedd Iesu, er ei fod yn hollol Dduw. Cysyniad anodd deall, ond cawn ni ei dderbyn drwy'r ffydd.
Monday, February 16, 2026
peidiwch â gohirio
Heddiw os clywch chi ei lais, peidiwch â gohirio. Wyddoch chi ddim beth fydd yn digwydd fory. Ewch ato fo, sydd yn galw arnoch chi.
"Dewch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi," meddai Iesu.
Saturday, February 14, 2026
oherwydd ei fod yn byw
Oherwydd ei fod yn fyw, medra i wynebu yfory
Oherwydd ei fod yn fyw, mae pob ofn wedi diflannu
Oherwydd fy mod yn gwybod ei fod yn dal y dyfodol, mae bywyd yn werth chweil byw
Oherwydd ei fod yn byw
Friday, February 13, 2026
o ble y daw cymorth i mi?
o ble y daw cymorth i mi?
Daw fy nghymorth oddi wrth yr Arglwydd,
creawdwr nefoedd a daear."
Y Salmau 121:1,2
Wednesday, February 11, 2026
diystyr
neu efallai bedwar ugain trwy gryfder,
ond y mae eu hyd yn faich ac yn flinder;
ânt heibio yn fuan, ac ehedwn ymaith,"
meddai Moses.
"Gwagedd llwyr yw'r cyfan.
Pa elw sydd i neb yn ei holl lafur,
wrth iddo ymlafnio dan yr haul?"
gofynodd Solomon, y dyn doethaf.
Heb Iesu Grist, mae popeth yn ddiystyr.
Tuesday, February 10, 2026
llew jwda
A oes neb yn gallu torri'r sêl ac agor y sgrôl?"
Yr ateb:
"Oes!"
"Llew Jwda a gorchfygodd y bedd.
Ef oedd gwreiddyn Dafydd a'r Oen a fu farw i brynu'r caethwas."
Dyma fersiwn gan One for Israel, mewn tair iaith - y Saesneg, yr Hebraeg a'r Arabeg.
Monday, February 9, 2026
y diben
"Felly os yw'r Mab (Iesu) yn eich rhyddhau chwi, byddwch yn rhydd mewn gwirionedd," meddai Iesu.
Nid er mwyn i ni gael gwneud beth bynnag byddwn ni ei eisiau, fodd bynnag, ond er mwyn i ni addoli Duw, a gwasanaethu o.
Saturday, February 7, 2026
arglwydd y saboth
Shabbat Shalom
Friday, February 6, 2026
ailgysegru america
Dim ond un ffordd i unrhyw genedl i lwyddo a ffynnu - ofni'r Duw go iawn ac ufudd iddo.
Wednesday, February 4, 2026
llyfr job
1. Mae Duw ydy Duw. Crëwr popeth, sanct, mawreddog mae o.
2. Mae Satan yn wir, ac mae o'n weithgar.
3. Dyn ni ddim yn deall popeth mae Duw yn wneud.
4. Dylen ni ofyn i Dduw "beth wyt ti eisiau i mi ddysgu/wneud?", yn lle "pam wyt ti'n gwneud hyn a'r llall?"
Tuesday, February 3, 2026
gŵyl ddechrau gwanwyn
Dathlwyd Setsubun, sef gŵyl ddechrau gwanwyn yn Japan ddoe. Taflu ffa soi gan yr offeiriaid at y bobl wedi casglu ydy un o'r defodau. Aeth fy merch hynaf a'i gŵr at y cysegr gerllaw, ond roedd cynifer o bobl a oedd yn ceisio dal y bagiau o ffa, ayyb. Penderfynon nhw gamu allan er mwyn osgoi damweiniau. (Call iawn!)
Saturday, January 31, 2026
datmer
Roeddwn i'n gaeth yn y tŷ a'r iard gefn am wythnos oherwydd yr eira. Gan fod yr eira ar y ffyrdd wedi toddi, es i am dro yn y gymdogaeth er bod yn dal yn oer (23F/-5C.) Roedd yn hynod o braf cerdded ar ffyrdd cyfarwydd dan yr haul llachar yn yr awyr ffres.
Thursday, January 29, 2026
lle cawn ni ddoethineb?
"Ni ellir rhoi aur yn dâl amdani, na phwyso'i gwerth mewn arian."
"Duw sy'n deall ei ffordd; y mae ef yn gwybod ei lle;
ofn yr Arglwydd yw doethineb, a chilio oddi wrth ddrwg yw deall.” - Llyfr Job
Wednesday, January 28, 2026
ynni'r haul
Dyn ni'n cadw'n gynnes gydag ynni'r haul. Mae coed yn dal ynni'r haul ac yn ei storio mewn pren a all ddal yr ynni am flynyddoedd. Pryd bynnag bydd angen arnon ni (hyd yn oed os nad yw'r haul yn tywynnu), byddwn ni'n taflu'r tanwydd solar solet yn y stôf am wres glân sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, organig, naturiol, effeithlon ac ailgylchadwy. Gallwch hefyd ei ddefnyddio i goginio ar ei ben.
Tuesday, January 27, 2026
gobaith go iawn
"gwn fod fy amddiffynnwr yn fyw,
ac wedi i'm croen ddifa fel hyn,
eto o'm cnawd caf weld Duw." Job 19:25
Monday, January 26, 2026
parti adar
Mae'r haul yn disgleirio wrth ddechrau toddi'r eira. Dan ni heb golli trydan, diolch i'r criw sydd yn gweithio'n galed drwy'r amser. Mae'r tir yn dal ei orchuddio gan eira fodd bynnag. Daeth cynifer o adar gwyllt at ein bwydwr yn yr iard.
Sunday, January 25, 2026
eglwys gartref
Gan fod gwasanaeth yr eglwys ei ganslo oherwydd yr eira, cynnal un gartref wnes gyda'r gŵr. Wedi gweddïo a chanu emyn, gwrandon ni bregeth gan ein hoff weinidog, sef Garry Hamrick o Calvary Chapel, Leesburg, Virginia. Mae'r haul wedi dod allan bellach, ond dal yn ofnadwy o oer. (Dan ni'n gynnes braf, fodd bynnag, diolch i'r llosgwr logiau.)
Saturday, January 24, 2026
gwynder eira
Wedi tywydd mwyn, daeth gaeaf go iawn yn nerthol. Deffrais y bore 'ma yn y byd gwyn. Efallai ein bod ni wedi cael dwy fodfedd o eira, ac mae o'n dal i ddisgyn. Mae gwynder eira'n atgoffa i o'r adnod hon:
“Pe bai eich pechodau fel ysgarlad, fe fyddant cyn wynned â'r eira," medd yr Arglwydd.
Wednesday, January 21, 2026
addewid
Nid oherwydd eu bod nhw'n well neu gryfach na'r lleill, ond oherwydd mai ffyddlon ydy Duw. Mae digonedd o anffyddlondeb wrth Dduw a methiant ymysg Israel yn y gorffennol a heddiw. Ac eto na fydd ei ddewis byth yn newid. Mae popeth yn dibynnu arno fo, nid ar y bobl.
"Gwnaf di yn genedl fawr a bendithiaf di; mawrygaf dy enw a byddi'n fendith. Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau'r ddaear," meddai'r Arglwydd wrth Abraham.