Roedd seremoni raddio yn yr ysgol neithiwr. Graddiodd fy mab ifancaf efo'r chwe disgybl eraill. Dysgodd tri o fy mhlant iau yn yr ysgol fach honno, a ddoe oedd y diwrnod olaf i ni i gyd. Ysgol Gristnogol hyfryd gyda safon uchel ac athrawon ymroddedig - dw i a'r teulu'n ddiolchgar dros ben iddyn nhw. Wedi'r seremoni, roedd yna ddrama gan holl blant yr ysgol.
Yfory mi adawa' i am Fenis. Bydda i'n dysgu Eidaleg ar gwrs am bythefnos, a cheisio nabod y lle cymaint â phosib. Sgrifenna' i am yr hanes wedi'r siwrnai. Felly hwyl am y tro.
Friday, May 17, 2013
Thursday, May 16, 2013
dwy nofel
Mae'n anodd ffeindio pethau i'w gwneud ar awyren. (Does gen i iPhone na iPad.) Gan fod prin byddai'n medru cysgu ar sedd gul awyren, a dw i ddim yn hoffi gweld ffilmiau, mae siwrnai'n teimlo'n ofnadwy o hir. Efallai bydd darllen llyfrau diddorol yn helpu, ond bydd yn drafferthus eu cadw nhw yn ystod y siwrnai (does gen i Kindle chwaith.) Yna roeddwn i'n sylwi ar ryw nofelau Japaneg ar y silff a adawodd y myfyrwyr Japaneaidd cyn iddyn nhw ddychwelyd i Japan. Mae dau'n swnio'n ddiddorol (un ditectif a'r llall ffuglen wyddonol.) Gwych! Dw i'n bwriadu eu gadael nhw ar ôl eu gorffen i bwy bynnag fydd eisiau darllen arnyn nhw.
Wednesday, May 15, 2013
cyllell finiog
Ces i gyllell yn anrheg Diwrnod Mamau (dipyn yn hwyr) gan fy mab hynaf. Mae hi newydd gyrraedd, a dyma dorri llysiau i swper. Mae hi'n anhygoel o finiog! Roedd torri nionyn fel torri menyn efo cyllell boeth. Rhaid cyfaddef bod gen i hen gyllell bŵl a dw i'n gorfod "llifio" llysiau bob tro. Gwnaed yn Swistir ydy'r gyllell newydd; dwedodd y mab ei bod ganddi fil o adolygiadau cadarnhaol ar wefan Amazon! Dw i'n hynod o ddiolchgar. Rŵan dylwn i fod yn ofalus peidio torri fy mysedd!
Tuesday, May 14, 2013
mae yna dri
Dw i newydd weld tri aderyn bach yn y nyth ger y drws blaen! Doedd eu rhieni ddim yn ymddangos yn ffyddlon ond rhaid bod nhw'n gweithio'n galed wedi'r cwbl. Bach bach ydy'r nyth. Gobeithio na fydd y bychan yn syrthio. Rhaid gosod clustog o dani hi cyn hir.
y llun: mae'r rhieni'n hoff iawn o'r cangen 'na sydd o blaen y ffenestr.
y llun: mae'r rhieni'n hoff iawn o'r cangen 'na sydd o blaen y ffenestr.
Monday, May 13, 2013
adolygiad - wy aur
Mae'n ymddangos bod yna ddwy farn eithafol o ran y nofel hon - mae rhai'n gwirioni arni tra bod y lleill eisiau ei thaflu yn y bin. Mae gan Donna Leon farn bendant am bopeth ac mae hi'n ei mynegi drwy'r cymeriadau. Ei barn hi ydy o wedi'r cwbl. Dw i'n hoffi'r gyfres oherwydd y prif gymeriad, sef y Commissario Brunetti a'r disgrifiad o Ddinas Fenis. Mae un peth yn sicr; mae Leon yn nabod y lle'n dda iawn. Fyddwn i ddim eisiau i Brunetti ymddeol fel awgrymwyd gan un adolygydd. Gobeithio bydd y commissario'n ffeindio rhywbeth i godi ei galon yn y stori nesaf.
Sunday, May 12, 2013
diwrnod mamau
Dw i newydd ddod yn ôl o Muskogee, tref gyfagos i wneud y siopa (ceisio gwneud a dweud y gwir) a chael swper efo'r teulu. Er nad oeddwn i'n medru ffeindio beth roeddwn i eisiau, ces i bryd o fwyd da mewn tŷ bwyta newydd (i ni.) Roedd y lle'n llawn dop efo'r bobl eraill a oedden nhw'n dathlu Diwrnod Mamau. Roedd yn ddiwrnod braf cyn iddi fynd yn ofnadwy o boeth. Derbyniais gardiau/galwadau ffôn gan y plant. Diolchgar a hapus iawn ydw i.
Saturday, May 11, 2013
seremoni raddio
Es i'r seremoni raddio yn Ysgol Optometreg y brifysgol leol ddoe. Yn anffodus doedd y gŵr ddim yn medru bod yno achos ei fod o ar ei ffordd adref o Seattle ar y pryd. Yn ei le es i mewn ffordd er fy mod i ddim yn gwneud dim ond gweld y seremoni. Roeddwn i eisiau llongyfarch yn bersonol y ddau a chwaraeodd pêl-droed yn y tîm optometreg. Bydd un yn gweithio yn California a'r llall yn Efrog Newydd. Roedd yn seremoni dda iawn (er bod tair araith yn ormod!) ac roeddwn i'n falch o weld 30 doctor newydd hapus sydd wedi cyflawni camp fawr.
Friday, May 10, 2013
yr ellysgen gyntaf
Mae'n gellysgen gyntaf ni newydd flodeuo. Wedi gweithio'n galed i gael gwared ar yr eiddew ystyfnig ar y gwely flodau ddiwrnodau cynt, dw i mor falch o'i gweld hi. Dan ni wedi "etifeddu" y blodau gan gyn perchennog y tŷ hwn, ac maen nhw'n blodeuo'n ffyddlon bob gwanwyn er gwaethaf y pridd anffrwythlon. Wrth weld y llun, dw i newydd sylwi'r chwyn! Rhaid i mi gael gwared arno fo ar unwaith!
Thursday, May 9, 2013
wy aur yma
Mae'r nofel newydd gyrraedd y llyfrgell leol a dyma gychwyn ar unwaith. Gorffennais y llyfr olaf yn y gyfres fisoedd yn ôl ac felly mae'n braf "gweld" y Commissario Brunetti wrthi'n cerdded o gwmpas Fenis eto. Fel nofelau eraill gan Donna Leon, mae yna gymaint o fanylion sydd ddim yn gysylltiedig yn uniongyrchol â'r plot. Rhaid bod nhw, fodd bynnag, yn fodd i wneud y cymeriadau'n fyw a chredadwy. Dw i'n gyffro i gyd i weld bod Campo Stin yn fan pwysig yn y stori hon.
Wednesday, May 8, 2013
bocsys wedi'u hanghofio
Dw i newydd sylwi fy mod i wedi anghofio gosod y bocsys i AMVETS y bore 'ma. Roedden nhw'n barod ers amser a roeddwn i fod i'w gosod tu allan erbyn 8 o'r gloch. Rhaid bod y lori wedi dod (a mynd) yn barod. Mae'n fodd cyfleus i gael gwared ar bethau diangen (i ni) a helpu'r elusen ar yr un pryd. Rhaid cadw'r bocsys am fisoedd eraill ar gyfer eu casgliad nesaf.
Tuesday, May 7, 2013
o seattle
Monday, May 6, 2013
basgedi sbwriel
Faint o fasgedi sbwriel sydd gan gartrefi eraill tybed? Efallai bod yna un o dan y sinc ac un arall yn y tŷ bach ac un ym mhob ystafell wely. Mae fy merch hynaf yn gwneud sbort am ein pennau ni'n aml oherwydd y nifer o fasgedi sbwriel yn ein tŷ ni. Mi wnes i eu cyfri nhw'r bore 'ma wrth eu gwagio - mae yna 14, mawr a bach er mwyn cadw'r tŷ'n daclus. Ond y faith ydy bod y plant yn dal i adael Kleenex wedi'u defnyddio ayyb ar y desgiau, ar y byrddau, hyd yn oed "ger" y basgedi sbwriel!
Sunday, May 5, 2013
gwanwyn yn corea
Wedi gaeaf caled a hir, mae'r gwanwyn wedi dyfod yn Corea o'r diwedd. Gyrrodd fy ail ferch luniau o flodau hardd yn y mynydd. Aeth efo ffrindiau ddiwrnod cynt a mwynhau'r golygfeydd hyfryd. Mae'n azalea ni druan yn crynu yn yr oerni sydyn annisgwyl.
Saturday, May 4, 2013
oer eto
Roeddwn i'n defnyddio'r air-conditioner ddechrau'r wythnos hon, ond trodd y tywydd yn oer unwaith yn rhagor. Cawson ni fymryn o eira hyd yn oed a hithau'n fis Mai. Welais erioed y fath tywydd yn Oklahoma ers i mi a'r teulu symud yma 16 mlynedd yn ôl. (Chawson ni mo'r eira go iawn am ddwy flynedd yn olynol chwaith.) Dw i ddim yn meindio fodd bynnag gan nad ydw i'n hoff o dywydd poeth.
Friday, May 3, 2013
rhostryfan i fenis
Clywais fod Bedwyr Williams, artist a fydd yn dangos ei waith yn Biennale yn Fenis, yn byw yn Rhostryfan. Pasiais y pentref bach sawl tro ar y bws ar fy ffordd i fynd i amgueddfa Kate Roberts yn Rosgadfan flynyddoedd yn ôl. Rhaid cyfaddef nad ydw i'n deall celf fodern, ond mae ei waith o gwmpas arsyllfa'n swnio'n ddiddorol. Doeddwn i ddim yn sylweddoli byddai Biennale'n cychwyn Mehefin 1, dyddiau cyn i mi adael Fenis. Efallai ceisia' i fynd heibio i arddangosfa Cymru a hefyd dweud helo wrtho fo os bydd o'n digwydd bod.
Thursday, May 2, 2013
stori fer wedi'i gorffen
Gorffennodd fy merch ei stori ddyddiau'n ôl, dipyn yn hwyrach na'r deadline wedi dal ati heb ddigon o gwsg. Ces i fy synnu'n darllen canlyniad ei hymdrech. Mae'n dda iawn er bod y cymeriadau braidd yn niferus ac yn anodd cofio pwy ydy pwy. Stori ffuglen am dywysoges ddewr ydy hi. Ces i fy synnu at y plot cymhleth a'r ymadroddion byw. Yr unig gŵyn sydd gen i ydy bod y stori'n gorffen yn drist!
Wednesday, May 1, 2013
summertime
Gwelais y ffilm gyfan ar You Tube o'r blaen ond dydy hi ddim ar gael ond yn rhan bellach. Roeddwn i eisiau ei gweld yn fanwl, felly prynais DVD gan Amazon ac mae o newydd gyrraedd. Mae'n llawer gwell na You Tube. Mae'r stori braidd yn ystrydebol ond mae golygfeydd Fenis a welwyd drwy lygaid y prif gymeriad yn hyfryd. Mae Mrs. Mcllhenny yn edrych yn debyg iawn i brif athrawes yr ysgol yma!
Subscribe to:
Posts (Atom)