Saturday, May 11, 2013

seremoni raddio

Es i'r seremoni raddio yn Ysgol Optometreg y brifysgol leol ddoe. Yn anffodus doedd y gŵr ddim yn medru bod yno achos ei fod o ar ei ffordd adref o Seattle ar y pryd. Yn ei le es i mewn ffordd er fy mod i ddim yn gwneud dim ond gweld y seremoni. Roeddwn i eisiau llongyfarch yn bersonol y ddau a chwaraeodd pêl-droed yn y tîm optometreg. Bydd un yn gweithio yn California a'r llall yn Efrog Newydd. Roedd yn seremoni dda iawn (er bod tair araith yn ormod!) ac roeddwn i'n falch o weld 30 doctor newydd hapus sydd wedi cyflawni camp fawr.

No comments: