Fy hoff eglwys yn Fenis ydy San Simeon Piccolo sydd o flaen yr orsaf trên. Mae San Simeon ar ben y tŵr yn eich cyfarch pan dach chi'n camu allan yr orsaf. (Gweler y llun ar y dde.) Dydy hi ddim yn fach er gwaetha'r enw ac mae ei tho mawr yn fy atgoffa i o helmed heddlu Prydain. Dw i'n teimlo'n agos ati hi oherwydd bod fy llety dafliad carreg i ffwrdd; pasiais o'i blaen hi sawl tro bob dydd.
Felly ces i sioc i glywed y newyddion heddiw - mae crwydriaid wedi bod yn defnyddio'r pronaos fel eu llety a hyd yn oed eu toiled (!) yn ystod y nos. (Doeddwn i ddim yn gwybod.) Wedi cael digon, gosododd y swyddog ffens metel o gwmpas y pronaos yn ystod y nos. Doedd y crwydriad ddim yn hapus efo'r penderfyniad; dinistrion nhw'r ffens, yna taflon nhw'r sbwriel a oedd yn y biniau cyfagos. Gobeithio y cân nhw eu dal a'u cosbi'n llym; dylen nhw gael eu gorfodi i lanhau'r dref i gyd.
No comments:
Post a Comment