Monday, September 30, 2013
drama radio
Pan oeddwn i'n astudio'r Saesneg flynyddoedd yn ôl yn Tokyo (cyn amser cyfrifiaduron,) roeddwn i'n arfer gwrando ar Radio FEN, sef Far East Network a oedd yn darparu gwasanaeth i Luoedd Arfog America yn y Dwyrain Pell. Roedd o'n ffynhonnell hyfryd i ddysgwyr y Saesneg, a ches i fantais arno fo i'r eithaf. Yn ogystal â'r newyddion, roedd yna amrywiaeth o ddramâu radio. Fy ffefryn oedd Life of Riely, cyfres boblogaeth iawn yn y 40au. Recordiais y rhaglen yn fy recordydd tâp (cyn amser Walkman) a gwrando arni hi ar y trên bob dydd. Mae hi ar gael ar y we. Mae lleisiau annwyl y cymeriadau'n fy atgoffa i o'r dyddiau cynt. Cafodd hi ei throi'n rhaglen deledu hefyd ond dw i'n meddwl bod y fersiwn radio'n llawer mwy doniol.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment